6. Datganiad Bioamrywiaeth

6.1.
Dylai bob cais gynnwys Datganiad Bioamrywiaeth y gellir ei gyflwyno fel rhan o’r dull ‘Un Cais’ neu fel dogfen ar wahân. Bydd lefel y manylion yn dibynnu ar y cais a maint yr effaith ar fioamrywiaeth. Dylai’r asesiad effaith hwn ffurfio’r rhesymeg sy’n gefndir i’r Datganiad Bioamrywiaeth. Bydd hyn hefyd yn darparu fframwaith ar gyfer cyflawni enillion bioamrywiaeth net trwy nodi’r hyn sydd i’w gyflawni a’r camau sydd angen eu cymryd i’w gyflawni. Ond yn bwysicach na hynny, sut i gynyddu a gwella bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad a’i fod yn cyd-fynd â’r datblygiad yn hytrach nag ar ddiwedd y broses ddatblygu. 
6.2.

Dylai ceisiadau mwy gynnwys targedau mesuradwy penodol ar gyfer enillion bioamrywiaeth net, gan gyd-fynd â blaenoriaethau bioamrywiaeth leol (a chyfrannu at dargedau Cenedlaethol fel bo’n briodol). Dylai hefyd ystyried her newid hinsawdd.

6.3.

Mae Atodiad 5 yn cynnwys enghreifftiau syml o beth i'w ddisgwyl mewn Datganiad Bioamrywiaeth o ran maint a chwmpas y datblygiad.  Mae’r Cyngor yn annog datblygwyr i gynnal trafodaethau cyn gwneud cais am ddatblygiadau mawr.

6.4.

Mae’r siart llif a ganlyn  yn darparu canllawiau ynglŷn â phryd mae angen arolwg (arolygon) a Datganiadau Bioamrywiaeth. Mae’r Awdurdod Cynllunio yn gallu’r egluro’r sefyllfa’n fanylach petaech yn dymuno hynny.

Ffigwr 1. Methodoleg Arolwg Bioamrywiaeth 

 
6.5.
Prif amcanion y Datganiad Bioamrywiaeth yw dangos sut fydd y pwyntiau a ganlyn yn cael eu cyflawni o fewn cais y datblygiad:
  • Diogelu a gwella nodweddion gorau’r fioamrywiaeth bresennol: dylid cadw cynefinoedd allweddol o ansawdd a maint digonol i gefnogi’r rhywogaethau nodweddiadol ac anghyffredin. Mae’r cynefinoedd hyn yn cynnwys safleoedd cadwraeth dynodedig, a chynefinoedd sy’n bwysig yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol, lle mai’r brif flaenoriaeth yw cadwraeth amgylcheddol. Bydd angen dulliau ac adnoddau ar gyfer rheoli’r cynefinoedd hyn yn y tymor hir, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw golled net o ganlyniad i’r datblygiad.
  • Lliniaru effaith datblygiad a sicrhau enillion bioamrywiaeth net: lle nad yw cadwraeth natur yn flaenoriaeth, bydd cynefinoedd ‘atodol’ neu ‘ryngbarthol’ (yn ogystal â chynefinoedd allweddol) yn bwysig o ran cynnal rhywogaethau mwy cyffredin, yn ogystal â darparu llain ragod ar gyfer cynefinoedd allweddol.
  • Integreiddio bioamrywiaeth a’r amgylchedd adeiledig: dylai safleoedd mawr ymgorffori graddfa fawr o athreiddedd ar gyfer bywyd gwyllt o fewn yr amgylchedd adeiledig, gan helpu i gynyddu a chynnal bioamrywiaeth. Mae cynllunio a dylunio ar gyfer hyn yn hynod bwysig o ganlyniad i newidiadau diweddar mewn rheoliadau adeiladu sydd wedi gadael ychydig iawn o gyfleoedd i rywogaeth benodol glwydo neu nythu mewn adeiladau newydd.
6.6.
Elfennau allweddol Datganiad Bioamrywiaeth:
  • Gosodiad, lleoliad a chyd-destun: Dylid lliniaru effeithiau niweidiol datblygiad a chymryd camau gwneud iawn er mwyn sicrhau enillion cyffredinol o ran bioamrywiaeth. Bydd angen i gynigion safleoedd strategol gynnwys Asesiad Effaith Amgylcheddol, astudiaethau cyd-destun ac ystyried lleoliad y datblygiad yn ofalus.
  • Dyluniad: Dylai dyluniadau manwl adeiladau a strwythurau eraill gynnwys mesurau penodol ar gyfer bioamrywiaeth, gan gynnwys coed mewn tirwedd galed, toeau byw (‘gwyrdd’), safleoedd nythu a chlwydo.
  • Rheolaeth: Gall rheolaeth bositif sicrhau cynaladwyedd hir dymor. Os caiff cynefinoedd a mannau gwyrdd eu gadael heb eu rheoli, gall esgeulustra ac effaith y datblygiad gael effaith niweidiol arnynt . Dylid cynllunio ac ariannu rheolaeth yn iawn, a dylai gynnwys cymunedau lleol.
  • Nawdd: Dylai dyrannu nawdd ar gyfer rheolaeth hir dymor fod yn rhan annatod o drefniadau ariannu isadeiledd gwyrdd, gan gynnwys darparu arian wrth gefn.

« Back to contents page | Back to top