8. Atodiadau

8.1.

Atodiad 1 – Polisi a Fframwaith Gyfreithiol

8.1.1.

Cyflwyniad

Mae llawer o anifeiliaid gwyllt a chynefinoedd yn cael eu gwarchod gan ddeddfwriaeth genedlaethol a deddfwriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys: 
  • Cyfarwyddeb CE ar Gadwraeth Adar Gwyllt (Cyfarwyddeb Adar, 79/409/EEC)
  • Cyfarwyddeb CE ar Gadwraeth Cynefinoedd Naturiol a Fflora a Ffawna Gwyllt (Cyfarwyddeb Cynefinoedd, 92/43/EEC)
  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
  • Rheoliadau Gwrychoedd 1997
  • Deddf Diogelu Moch Daear 1992
  • Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006
  • Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) 2009.
8.1.2.

Cyfraith Ewrop

Mae Cyfarwyddeb CE ar Gadwraeth Adar Gwyllt (Cyfarwyddeb Adar, 79/409/EEC) a Chyfarwyddeb CE ar Gadwraeth Cynefinoedd Naturiol a Fflora a Ffawna Gwyllt (Cyfarwyddeb Cynefinoedd, 92/43/EEC) yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwarchod a chadw bywyd gwyllt a chynefinoedd Ewrop.
8.1.3.

Mae’r cyfarwyddebau yn gweithredu trwy gyfreithiau cymunedol, ofynion Cytundeb  Bonn ar Gadwraeth Rhywogaethau Mudol a Chytundeb Bern ar Gadwraeth Bywyd Gwyllt a Chynefinoedd Naturiol Ewrop. Trosglwyddodd Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (Rheoliadau Cynefinoedd) ofynion y Cyfarwyddebau hyn i gyfraith genedlaethol Prydain Fawr.  Mae Rheoliadau 2010 yn rheoliadau cydgrynhoi ac maent yn disodli fersiynau cynharach y Rheoliadau.

8.1.4.
Canolbwynt y polisi ydi creu rhwydwaith ecolegol glir o ardaloedd sy’n cael eu gwarchod ledled yr UE, o’r enw NATURA 2000, ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau y credir fod iddynt bwysigrwydd rhyngwladol arbennig, ac felly eu bod yn bwysig i gynnal bioamrywiaeth yn yr Undeb Ewropeaidd. Ei bwrpas ydi cynnal neu adfer y cynefinoedd a’r rhywogaethau i statws cadwraeth ffafriol yn eu hardaloedd naturiol. Bydd y rhwydwaith yn cynnwys:
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA): i ddiogelu’r adar a restrwyd yn Atodiad 1 y Gyfarwyddeb Adar yn ogystal ag adar mudol
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA): i ddiogelu’r mathau o gynefinoedd a’r rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion a restrwyd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
8.1.5.

Gofynnir i wledydd yr Undeb fabwysiadu safleoedd cymwys fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.  Argymhellir safleoedd ACA ac AGA i’r llywodraeth gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) a chan asiantaethau cadwraeth natur y wlad.  Byddwn yn ymgynghori â’r cyhoedd cyn cyflwyno safleoedd i’r Comisiwn Ewropeaidd.

8.1.6.

Yn unol â Nodiadau Cynghori Technegol (TAN) 5, cynhaliwyd Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd lleol o effeithiau posibl polisïau’r CDLl ar Safleoedd a Warchodir gan Ewrop, a’i gynnwys fel Papur Cefndir 11, fel rhan o’r broses CDLl. Mae’r ddogfen hon ar gael ar wefan Conwy: www.conwy.gov.uk/CDLl  

Mae rhagor o wybodaeth am ACA ar gael yn: http://www.jncc.gov.uk/protectedsites/sacselection/SAC_list.asp?Country=W

Mae rhagor o wybodaeth am Ardaloedd Diogelu Arbennig ar gael yn  http://www.jncc.gov.uk/page-1403

8.1.7.

Cyfraith y Deyrnas Unedig

Hysbysir Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (fel y’i diwygiwyd) i ddiogelu’r asedau pwysig hyn er budd y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.  Adeg cyhoeddi’r CCA mae dros 1,000 o safleoedd yng Nghymru, sy’n gorchuddio bron i 11% o arwynebedd y tir.

8.1.8.
Hysbysir safleoedd SoDdGA gan y Cyngor Cefn Gwlad, sy’n dewis safleoedd i’w dynodi ar sail meini prawf gwyddonol sydd wedi eu hen sefydlu (a gyhoeddwyd gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur).  Mae ambell i SoDdGA hefyd wedi’u diogelu ar lefel Ewrop. Gweler 8.1.4 uchod.
8.1.9.
Diwygiwyd Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, i gryfhau diogelu a rheoli SoDdGA. Mae’r darpariaethau allweddol yn cynnwys:
  • Hawl gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru i wrthod caniatâd ar gyfer gweithgareddau ar SoDdGA
  • Hawl gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru i lunio cynlluniau rheoli ar gyfer SoDdGA trwy ymgynghori â rheolwyr tir, a gorfodi’r cynlluniau hyn dan amgylchiadau penodol
  • Hawl i apelio i’r Cynulliad yn erbyn camau penodol gan CCGC mewn perthynas â SoDdGA
  • Dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i hybu cadwraeth a gwella SoDdGA, ac i ymgynghori â CCGC cyn ymgymryd â gweithrediadau sy’n debygol o ddifrodi SoDdGA, neu  gymeradwyo gweithgareddau fel hyn.
  • Camau  i ddelio â gweithgareddau niweidiol gan drydydd partïon ar SoDdGA gan gynnwys cosbau uwch am droseddau sy’n ymwneud â SoDdGA.
8.1.10.

Daeth rheoliadau sy’n llywodraethu’r trefnau sut mae’r Cynulliad yn delio ag apeliadau mewn perthynas â SoDdGA i rym  31 Gorffennaf 2002.

8.1.11.

Mae Adrannau 9 ac 13 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (WCA) (fel y’i diwygiwyd) yn cynnwys deddfwriaeth i ddiogelu rhai planhigion ac anifeiliaid gwyllt a restrwyd yn atodlenni 5 ac 8 y Ddeddf uchod.

8.1.12.

Canllawiau Cenedlaethol

Yn ei ganllawiau polisi cynllunio, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydnabod swyddogaeth bwysig y system gynllunio i gynnal bioamrywiaeth.

8.1.13.

Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) (2010) yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Fe’i ategir gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol (NCT).  Cyflwynir cyngor trefniadol yng nghylchlythyrau Llywodraeth Cynulliad Cymru / Swyddfa Cymru.  Mae PCC, NCT a’r cylchlythyrau gyda'i gilydd yn ffurfio polisi cynllunio cenedlaethol y mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru ei ystyried wrth baratoi cynlluniau datblygu. Efallai byddant yn bwysig ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio unigol a byddant yn cael eu hystyried gan Lywodraeth y Cynulliad ac Arolygwyr Cynllunio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio sydd wedi ei galw i mewn a phenderfynu ar apeliadau.

8.1.14.

Mae paragraff 5.2.8 Polisi Cynllunio Cymru (2010) yn nodi: Mae rhan bwysig i’r system gynllunio o ran bodloni amcanion bioamrywiaeth trwy hybu dulliau datblygu sy’n creu cyfleoedd newydd i wella bioamrywiaeth, rhwystro colli bioamrywiaeth, neu ddigolledu lle na ellir osgoi difrod. Rhaid i awdurdodau lleol fynd i’r afael â materion bioamrywiaeth, cyhyd ag y maent yn ymwneud â chynllunio defnydd tir, mewn cynlluniau datblygu unedol yn ogystal â phenderfyniadau rheoli datblygu.

8.1.15.

Hefyd ym mharagraff 5.1.4 mae’n nodi: “Mae’n bwysig ystyried bioamrywiaeth a thirwedd yn gynnar wrth baratoi cynlluniau datblygu ac wrth reoli datblygu.

8.1.16.

Cefnogir PCC gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol. Mae NCT 5 ‘Cadwraeth Natur a Chynllunio, 2009’ yn cyflwyno cyngor manwl ynglŷn â phwysigrwydd y system gynllunio wrth gynnal amrywiaeth fiolegol.

Ewch i: http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/ppw2010/?skip=1&lang=cy
8.1.17.

Mae Adran 40(1) Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (NERC) yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod cyhoeddus, wrth weithredu ei swyddogaethau, i “ystyried, cyn belled ag y bo’n cyd-fynd ag ymarfer y swyddogaethau hynny’n iawn, i’r pwrpas o gynnal bioamrywiaeth”. Mae NCT 5 yn nodi sut dylai awdurdodau cynllunio gydymffurfio â’r ddyletswydd hon.

Gweler http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan5/?lang=en

8.1.18.

Asesiad Effaith Amgylcheddol

Dylai datblygwyr wirio os oes angen asesiad o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999, ar gyfer eu datblygiad.  Mae AEA yn orfodol ar gyfer prosiectau a restrwyd yn Atodlen 1 y Rheoliadau.  Mae Atodlen 2 yn rhestru’r prosiectau (gan gynnwys y rheiny fyddai fel arall wedi elwa o hawliau datblygu a ganiateir) sydd angen eu bwrw golwg arnynt gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn sefydlu a ydynt yn cynnwys “datblygiad AEA” ai peidio.
8.1.19.

Os yw gofynion y cais yn uwch na’r trothwyon a nodwyd, neu  fod y cais yn gysylltiedig ag ardal sensitif, bydd angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy benderfynu a fyddai’n debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd yn sgil ffactorau fel ei faint, ei natur a’i leoliad.

8.1.20.

Petai unrhyw amheuaeth ynglŷn ag oes angen AEA ar ddatblygiad, dylai ymgeiswyr gysylltu  â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddechrau, neu wneud cais am “ddewis sgrinio”.

8.1.21.

Asesiad Priodol

Lle mae cais datblygu yn debygol o gael effaith sylweddol ar Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) neu safle RAMSAR, Mae angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gynnal asesiad priodol o dan reol 48 Rheoliadau Cynefinoedd (Cadwraeth Cynefinoedd Naturiol ac ati) 1994. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno asesiad i’r Awdurdod Cynllunio sy’n cynnwys gwybodaeth am holl agweddau’r datblygiad a’i effeithiau posibl, er mwyn cwblhau asesiad priodol. Dylai’r Asesiad fod ar ffurf adroddiad ecolegol a dylid ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio.  Mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddarparu hynny o wybodaeth sydd ei angen ar yr awdurdod.  Mae’n rhaid i’r ymgeisydd dalu am unrhyw arolygon sydd eu hangen ac am ysgrifennu’r adroddiad.  Mae’n rhaid i’r Awdurdod ymgynghori a Chyngor Cefn Gwlad Cymru fel rhan o’r broses hon.
8.1.22.

Ni ellir rhoi caniatâd cynllunio nes cwblhau’r asesiad, a hyd yn oed pryd hynny,  dim ond os yw canlyniadau’r asesiad yn dangos na fydd y cais yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle.

8.2.

Atodiad 2 – Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol a’r DU (CGBLl)

8.2.1.

Fel ymateb i’r Cytundeb Bioamrywiaeth lluniodd Llywodraeth y DU adroddiad, ‘Bioamrywiaeth: Cynllun Gweithredu’r DU’ (1994), a’i brif amcan oedd: "Cadw a gwella amrywiaeth biolegol yn y DU, a chyfrannau at gadwraeth Bioamrywiaeth byd eang trwy’r holl ddulliau priodol." Mae hyn yn cynnwys nod o beidio â cholli unrhyw fioamrywiaeth net, ac adfer rhai rhywogaethau a chynefinoedd i liniaru colledion yn y gorffennol. Nodwyd yr UKBAP nifer o Gynefinoedd a Rhywogaethau Blaenoriaeth a nodi Cynlluniau Gweithredu Cynefinoedd y DU (CGC) a Chynlluniau Gweithredu Rhywogaethau (CGRh) i’w cynnal.  Nodwyd  Partneriaid Allweddol ar gyfer pob CGC a CGRh y DU ac roedd yn cynnwys cyrff llywodraethu fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ogystal â sefydliadau heb fod yn gysylltiedig â’r llywodraeth fel ymddiriedolaethau bywyd gwyllt. O ganlyniad i Gynllun Gweithredu’r DU, sefydlwyd Grŵp Llywio Bioamrywiaeth y DU a lluniwyd ‘Bioamrywiaeth: Adroddiad Grŵp Llywio’r DU’ (1995), rhaglen weithredu fanwl i gyflawni amcanion Cynllun Gweithredu’r DU. Roedd yn argymell nifer o amcanion gan gynnwys creu Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) fel modd o weithredu Cynllun Gweithredu’r DU.

8.2.2.

Yng Nghymru, mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn rhoi arweiniad arbenigol am flaenoriaethau gweithredu ar gyfer Bioamrywiaeth gan ddod â chyfranogwyr y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i hyrwyddo a monitro gweithgarwch bioamrywiaeth Cymru.

8.2.3.
Mae’r Bartneriaeth yn gyfrifol am y rhestr Adran 42 sy’n rhestru’r rhywogaethau a chynefinoedd hynny y mae gweithredu fwyaf ynglŷn â nhw yng Nghymru os yw am gyflawni ymrwymiad Prydain dan y cytundeb i atal colledion bioamrywiaeth.
8.2.4.

Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Conwy yn cynnwys pob un o’r rhywogaethau a chynefinoedd sydd i’w cael yn ardal Awdurdod Cynllunio Conwy ac sydd ar y rhestr Adran 42, ynghyd â rhai eraill sy’n bwysig yn lleol.  Nodwyd y gweithgarwch y mae Conwy’n bartner pwysig ynddo.  Efallai bydd gweithgarwch fel hyn yn canolbwyntio ar rywogaethau fel llygoden y dŵr, cynefinoedd fel glaswelltir calchaidd neu bynciau mwy cyffredinol fel mannau gwyrdd trefol Conwy (ardaloedd bioamrywiaeth).

I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Conwy ewch i: http://www.conwy.gov.uk/biodiversity
8.2.5.

Dylid ystyried pob rhywogaeth a chynefin yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Conwy fel rhywogaethau neu gynefinoedd blaenoriaeth, os oes ganddynt gynllun neu gamau gweithredu ai peidio o ran y Canllawiau Cynllunio Atodol hyn (gweler adran 5.2).

8.2.6.

Dylid cofio nad oes unrhyw beth yn y ddogfen hon yn cyflwyno deddfwriaeth newydd ar unrhyw sefydliad partneriaeth na thirfeddiannwr ac mae cydymffurfio â’r ddogfen hon yn hollol wirfoddol (er bod rhai sefydliadau partneriaeth eraill yn cael eu cyfarwyddo gan ddogfennau eraill i gydymffurfio â’r Cynllun Gweithredu hwn).

8.2.7.

Diffiniwyd 6 math gwahanol o Weithredu Bioamrywiaeth. Mae’r UKBAP wedi pennu targedau ar gyfer pob cynefin a rhywogaeth o ran math. Gellir cysylltu’r camau lliniaru a gwella a ddarperir trwy ddatblygiadau â’r targedau gan ddefnyddio’r mathau tebyg o dargedau hyn.  Nodwyd eu diffiniadau isod;

8.2.8.

Mathau Gweithredu Cynefinoedd a Rhywogaethau

Cynnal Ehangder: Mae’r targed hwn yn diffinio sut byddwn yn mesur maint ffisegol y cynefin. O gofio bod ardaloedd helaeth o gynefinoedd naturiol a rhannol naturiol wedi cael eu colli yn y gorffennol, mae’n amcan allweddol i sicrhau nad oes rhagor o gynefinoedd blaenoriaeth yn cael eu colli, h.y. mae’r CGBLl yn ceisio cynnal maint yr adnodd cyfredol.  Bydd unrhyw ddatblygiad sy’n arwain at golli cynefin blaenoriaeth yn groes i amcanion yr UKBAP a Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Conwy.  Ond mewn rhai achosion gellir edrych ar y math hwn o darged fel dim colled net o gynefinoedd.  Mae hyn yn berthnasol i’r achosion hynny lle mae’n bosibl ail-greu cynefin yn unig, e.e. gallai datblygiad sy’n arwain at golli coetir eilaidd (heb fod yn hynafol) gynnwys cynlluniau i ailblannu ardal debyg o goetir.

8.2.9.

Cyflawni Cyflyrau: Mae’r targed hwn yn diffinio ansawdd cynefin. Pan fo’r cynefin yn cael ei asesu yn erbyn nifer o nodweddion mesuradwy, gellir penderfynu a yw’r cynefin mewn Cyflwr Ffafriol neu Anffafriol.  Os cynhaliwyd asesiad cyflwr yn y gorffennol mae’n bosibl ychwanegu’r cyflwr hwn i’r datganiad cyflwr fel tueddiad. Caiff tueddiad cadarnhaol ei ddiffinio fel ‘Yn adfer’ a thueddiad negyddol fel ‘Yn dirywio’ a diffiniwyd dim tueddiad canfyddadwy’n fel ‘Dim newid’. Mae’r UKBAP yn nodi dylai cyfrannau o helaethder cynefinoedd blaenoriaeth fod un ai yn Ffafriol neu’n Anffafriol - Gwella erbyn 2015. Mae unrhyw ddatblygiad sy’n arwain at golli ansawdd presennol neu a fydd yn atal gwelliant posibl i gynefin yn groes i amcanion yr UKBAP. Mae llawer o’r gwelliannau a restrwyd yn Adran 3b y ddogfen hon yn cyfeirio at y targed Cyflawni Cyflyrau.

8.2.10.
Adfer: Mae’r targed hwn yn diffinio’r prif welliannau i gynefin crair, cynefin hynod ddiraddedig neu gynefin wedi’i ddinistrio’n ddiweddar. Mae’r hyn sy’n cael ei ystyried fel Adferiad o’i gymharu  â Chyflawni Cyflwr neu Ehangu wedi’i ddiffinio ar gyfer pob cynefin blaenoriaeth UKBAP. Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar y math hwn o darged gan ei fod yn ei hanfod yn cyfeirio at ddadwneud dirywiad sydd eisoes wedi digwydd. Fodd bynnag, mae’n debygol bydd gwneud iawn neu gamau lliniaru am golli maint neu ansawdd cynefin yn golygu bod angen adfer cynefin tebyg neu gyfagos.
8.2.11.

Ehangu: Mae’r targed hwn yn diffinio creu ardaloedd cynefin newydd , fel cloddio pwll newydd neu blannu coetiroedd a gwrychoedd newydd. Fel gydag Adferiad, mae’n debyg bydd gwneud iawn neu gamau lliniaru am golledion yn golygu bod angen i ddatblygiad greu cynefin newydd lle bo’n briodol gwneud hynny.

8.2.12.

Amrediad: Mae’r targed hwn yn diffinio ardal ffisegol y mae’r rhywogaeth yn bresennol ynddi. Fel gwaelodlin, mae’r UKBAP yn ceisio sicrhau bod pob rhywogaeth yn cadw ei amrediad cyfredol. Er mwyn dadwneud colledion yn y gorffennol, mae gan bob rhywogaeth darged i gynyddu ei amrediad trwy symud i safleoedd newydd neu ddychwelyd i safleoedd roedd yn arfer byw ynddynt. Mae unrhyw ddatblygiad sy’n sy’n achosi gostyngiad mewn amrediad rhywogaethau’n groes i’r UKBAP. Effeithir ar lawer o ddatblygiadau gan yr angen i gynnal yr amrediad o rywogaethau, yn enwedig ar gyfer rhywogaethau fel ystlumod. Yn aml, bydd yn amod caniatâd cynllunio fod datblygiad yn cynnwys modd i’r rhywogaeth barhau ar y safle, fel cynnwys darpariaeth i ystlumod barhau i ddefnyddio adeilad. Gall Cyflawni Cyflwr, Adfer ac Ehangu cynefinoedd hefyd gynyddu’r ystod o rywogaethau penodol ac felly efallai bydd darpariaeth ar gyfer rhywogaethau yn cael ei gynnwys mewn camau gweithredu rheoli cynefinoedd.

8.2.13.

Poblogaeth: Mae’r targed hwn yn diffinio gwir ansawdd rhywogaeth, un ai mewn gwerthoedd absoliwt (e.e. nifer yr unigolion) neu ddefnyddio benthyciad addas (e.e. nifer y parau bridio). Bydd unrhyw ddatblygiad sy’n arwain at ddirywiad mewn niferoedd poblogaeth yn groes i’r UKBAP. Gall y dirywiad hwn ddigwydd mewn sawl ffordd; colli ardal neu ansawdd cynefin; colli nodweddion penodol fel hen goed; aflonyddu neu eithrio sy’n atal mynediad at loches, gorchudd neu fwyd; anaf corfforol neu farwolaeth unigolyn yn ystod y gwaith adeiladu, un ai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mewn sawl achos gall dull a chyfnod y datblygiad sicrhau nad yw unigolion yn cael eu niweidio, ond mae colli ansawdd ac ehangder cynefin yn effeithiau tymor hirach, y bydd angen eu lliniaru neu wneud iawn amdanynt.

8.3.

Atodiad 3 – Rhestr Wirio Datblygu

Os yw unrhyw rywogaeth a chynefin a restrwyd yng ngholofn 2 yn bresennol, neu’n agos at safle datblygu, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r Datganiad Bioamrywiaeth i esbonio sut fyddwch yn osgoi pob effaith, neu dylid cynnal arolwg ac asesiad priodol er mwyn asesu unrhyw effaith.

 
8.4.

Atodiad 4 – Arolygon Bioamrywiaeth

8.4.1.

Dyma ganllawiau ychwanegol petai angen cynnal arolwg: 

Mae’n bwysig cofio, yn ogystal â’r arolwg ei hun, fod angen cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio asesiad o’r effeithiau, ac argymhellion sut i osgoi’r effeithiau hynny, neu os methir â gwneud hynny, pa gamau lliniaru a gynigir. Fel arfer bydd y rhain wedi’u cynnwys yn yr adroddiad arolwg, yn dilyn trafodaethau rhwng y syrfëwr a’r ymgeisydd.  Efallai byddai’n ddefnyddiol cynnwys yr Awdurdod Cynllunio Lleol mewn trafodaethau ynglŷn â’r camau lliniaru posibl, i sicrhau eu bod yn briodol a digonol.  Gall y rhan hwn o’r adroddiad ddisodli’r Datganiad Bioamrywiaeth os yw’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen.

8.4.2.

Adeg cyhoeddi’r CCA hwn, mae templed cyffredin ar gyfer cyflwyno canlyniadau arolygon yn cael ei lunio ar gyfer Gogledd Cymru, a phan gytunir arno, disgwylir y bydd adroddiadau arolygon yn cael eu cyflwyno yn y fformat hwn

. Gweler: www.conwy.gov.uk/biodiversitysurveys

8.4.3.

Trwy gyflwyno canlyniadau arolygon i gyd-fynd â cheisiadau cynllunio, mae’r ymgeiswyr yn rhoi eu caniatâd hwy a’u syrfewyr, i’w hanfon ymlaen at Cofnod, sef Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru a’u defnyddio er mwyn ehangu’r yr wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â bioamrywiaeth yng Ngogledd Cymru, oni bai bod y Cyngor yn cael rhybudd fod caniatâd fel hyn yn cael ei dynnu nôl.

8.4.4.

Arolygon

  • Rhaid eu cynnal gan unigolion cymwys a phrofiadol; os nad yw’r syrfëwr yn aelod o’r IEEM, neu os nad yw’r syrfëwr yn hysbys i’r ACLl, yna bydd angen CV a geirda.
  • Rhaid eu cynnal ar amser a mis priodol o’r flwyddyn, mewn tywydd addas gan ddefnyddio technegau arolygu cydnabyddedig;
  • Rhaid iddynt fod ar lefel addas a chydnabyddedig o ran eu cwmpas a’u manylion ac mae’n rhaid iddynt gofnodi a mapio’r ystod o gynefinoedd a rhywogaethau fflora a ffawna sydd ar y safle;
  • Rhaid iddynt gynnwys canlyniadau’r chwiliad o ddata ecolegol o Cofnod, Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru (nid yw chwiliadau o’r porth NBN fel arfer yn ddigon da)
8.4.5.

Gwerthuso

  • Rhaid iddynt gynnwys asesiad o effeithiau tebygol y datblygiad ar gynefinoedd a rhywogaethau sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn lleol ar y safle neu’r ardal;
8.4.6.

Lliniaru

  • Dylid nodi’r camau i’w gweithredu i osgoi effeithio ar fioamrywiaeth y safle a’r ardal, un ai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, wrth adeiladu ac wedi hynny;
8.4.7.

Bydd angen rhagor o arolygon ar y Cyngor os yw’n credu nad yw’r manylion a ddarparwyd yn ddigonol.  Efallai bydd y Cyngor yn cynnig camau lliniaru trwy osod amodau cynllunio, un ai i sicrhau bod y camau a gynigir gan yr ymgeisydd wedi’u gweithredu, neu i sicrhau bod y cynigion lliniaru sy'n briodol ym marn y Cyngor, yn cael eu gweithredu fel rhan o’r datblygiad.

8.4.8.

Mae’r tair enghraifft a ganlyn yn nodi'r math o gynnwys i’w ddisgwyl ar gyfer datblygiadau gwahanol.  Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr ac efallai bydd angen rhagor o waith ac ymgynghori ychwanegol ar rai datblygiadau: 

Enghraifft 1 – datganiad bioamrywiaeth i gyd-fynd â chais 

Cyfeirif y cais.

0/44444 

Cynnig Estyn anheddiad i greu ystafell wely ychwanegol ac ystafell ymolchi. 

Lleoliad o ran cynefinoedd sy’n werthfawr i fioamrywiaeth

Ar gyrion y pentref, gyda choed, gwrychoedd, porfa a nant o fewn 100 metr. 

Yr effaith ar fioamrywiaeth

Bydd yr estyniad yn 4m x 5m a bydd yn cael ei adeiladu ar dir sy’n rhannol yn lawnt ac yn rhannol fel patio ar hyn o bryd.  Bydd angen torri un ddraenen wen ifanc hefyd. Nid oes gan y goeden hon unrhyw dyllau y byddai adar nythu neu ystlumod yn gallu eu defnyddio.  Bydd to’r estyniad yn cael ei gysylltu â’r wal dalcen ac ni aflonyddir ar y to presennol  

Asesu’r effaith ar fioamrywiaeth

Nid yw’r lawnt na’r patio yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth.  Bydd effaith torri’r goeden yn ddibwys oherwydd y coed a’r gwrychoedd cyfagos.  Ni aflonyddir ar y to presennol ac felly ni fydd y gwaith yn gallu effeithio ar ystlumod. 

Camau gwella i’w cynnwys yn y datblygiad

Bydd ddraenen wen newydd yn cael ei phlannu ar ôl cwblhau’r estyniad . Bydd blwch nythu addas ar gyfer titwod tomos las yn cael ei osod ar wal yr estyniad gorffenedig.

Enghraifft 2 – datganiad bioamrywiaeth i gyd-fynd â chais 

Cyfeirif y cais .

0/55555 

Y Cynnig

Adnewyddu ac addasu hen adeilad allanol nad yw’n cael ei ddefnyddio i greu annedd newydd 

Lleoliad o ran cynefinoedd sy’n werthfawr i fioamrywiaeth

Ar gyrion y pentref, gyda choed, gwrychoedd, porfa a nant i gyd o fewn 100 metr. 

Gwybodaeth Bioamrywiaeth

Roedd Canllawiau Cynllunio Atodol 5 y Cynllun Datblygu Lleol – Bioamrywiaeth yn nodi bod angen arolwg rhywogaethau a warchodir gyda’r cais hwn.  Cynhaliwyd yr arolwg gan  Ymgynghorwyr Ecolegol Cyf. ac mae ynghlwm gyda’r datganiad hwn.  Nodwyd yn adroddiad yr arolwg fod clwydfa ystlumod lleiaf dan  fondo pen gorllewinol yr adeilad allanol  a chofnodwyd nifer o nythod wenoliaid yno hefyd yn ddiweddar. 

Asesu’r effaith ar fioamrywiaeth

Oherwydd bod adnewyddu’r adeilad yn cynnwys Ail-doi a newidiadau i ofod y groglofft, bydd clwydi presennol yr ystlumod yn cael ei ddinistrio.  Yn yr un modd ni fydd yn bosibl cadw safleoedd nythu’r gwenoliaid lle maent ar hyn o bryd oherwydd maent yn nythu ble fydd prif fan byw'r annedd newydd. 

Cynigion ar gyfer lliniaru’r effaith ar fioamrywiaeth

I gydymffurfio ag adroddiad yr ymgynghorwyr, newidiwyd y dyluniadau gwreiddiol i sicrhau y bydd yr ystlumod yn gallu clwydo o hyd yn yr annedd newydd a dangosir y newidiadau hyn ar y cynlluniau a gyflwynir gyda’r cais.  Byddwn yn cyflwyno cynllun manwl i ddangos sut fyddwn yn gweithredu argymhellion eraill yr adroddiad, i’r Awdurdod Cynllunio i’w cymeradwyo cyn dechrau’r gwaith.  Bydd y cynllun hwn yn ymdrin â materion fel amser y gwaith, goleuadau allanol a mynediad i’r glwydfa newydd, ac yn y blaen.  Byddwn hefyd yn cyflwyno manylion cynllun i gadw a neu greu safleoedd nythu addas ar gyfer wenoliaid, gan gynnwys amser y gwaith bwriedig, i’r Awdurdod Cynllunio i’w cymeradwyo cyn dechrau’r gwaith.

Camau gwella i’w cynnwys yn y datblygiad

Cafodd y camau lliniaru a ganlyn eu cynnwys yn y datblygiad yn ychwanegol at y cam lliniaru uniongyrchol a nodwyd uchod: 

  • Gosod dau flwch ‘Schwegler’ i ystlumod ar ddwy wal wahanol yr adeiladau allanol sydd i’w cadw, i ddarparu cyfle ychwanegol i’r ystlumod glwydo.
  • Gosod nifer o nythod artiffisial gwennol y bondo dan fondo’r adeilad newydd gan obeithio y byddant yn annog y rhywogaeth hon i nythu yno.

Enghraifft 3 – datganiad bioamrywiaethi gyd-fynd â chais 

Cyfeirif y cais .

0/66666 

Y cais

Adeiladu 20 annedd newydd ar safle a ddynodwyd yn y CDLl. 

Lleoliad o ran cynefinoedd sy’n werthfawr i fioamrywiaeth

Ar gyrion  y pentref gyda choed, gwrychoedd a phorfa ar safle’r cais.  Mae nant yn ffurfio terfyn y safle gyda llain gul o goetir – tua 15m – rhwng y nant a’r cae,  y mae’r rhan fwyaf ohono ar lethr serth . 

Gwybodaeth bioamrywiaeth

Roedd Canllawiau Cynllunio Atodol 5 y Cynllun Datblygu Lleol - Bioamrywiaeth yn nodi bod angen cyflwyno arolwg rhywogaethau a warchodir gyda’r cais hwn. Cynhaliwyd yr arolwg gan Ymgynghorwyr Ecolegol Cyf. ac mae ynghlwm gyda’r datganiad hwn. Nododd adroddiad yr arolwg: 
  1. Nad oedd unrhyw ddynodiadau cadwraeth ar y safle hwn
  2. Mae’r coetir ger y nant yn cadw nodweddion coetir hynafol, ond mae wedi dioddef tipio anghyfreithlon a rhywogaethau ymledol.
  3. Mae dyfrgwn yn teithio’n aml ar hyn y nant, ond nid oes unrhyw olion o’u gwâl wrth ymyl safle ‘r cais .
  4. Mae gan rai o goed y safle nodweddion y gellir eu defnyddio gan ystlumod, hynny yw, tyllau neu holltau, ond ni chanfuodd arolygon gweithgarwch ystlumod unrhyw glwydfeydd.  Cofnodwyd nifer o ystlumod yn hela uwch ben y safle.
  5. Ni chofnodwyd unrhyw rywogaeth blaenoriaeth arall yr effeithir arnynt gan y datblygiad
  6. Mae gwrych sy’n croesi’r safle yn cynnwys llu o rywogaethau ac mae’n debygol ei fod yn hynafol.  Ond nid yw’r gwrych hwn wedi’i gysylltu â gwrychoedd oherwydd ei fod yn gorffen wrth ymyl ffordd, ac felly nid oes gwerth uchel iddo fel coridor bywyd gwyllt.
  7. Mae’r glaswelltir wedi’i wella’n amaethyddol ac nid yw’n bwysig i fioamrywiaeth.

Disgrifiad o’r effaith ar fioamrywiaeth a sut i osgoi’r effaith honno

Dyluniwyd y datblygiad i gadw’r coetir wth lannau’r nant a chymaint o nodweddion bioamrywiaeth a bo modd.   Ni ellir cadw’r gwrych yn ei safle presennol, ond bydd yn cael ei drawsblannu i greu terfyn newydd rhwng y coetir a’r datblygiad, a bydd y ddwy dderwen llawn dwf yn cael eu cadw ar eu safle presennol.   Ni ellir cadw trydedd dderwen a bydd rhaid ei thorri. 

Asesu a lliniaru’r effaith ar fioamrywiaeth

  1. Coetir
Mae’r coetir wedi’i gysylltu’n dda â choetir eraill y naill ben a’r llall iddo ac felly mae gwerth uchel fel coridor bywyd gwyllt.  Ni ragwelir y bydd y datblygiad yn cael unrhyw effaith ar ddyfrgwn oherwydd bydd y coetir yn cael ei gadw. Bydd y coetir yn cael ei reoli gan grŵp cadwraeth lleol am swm gohiriedig, er budd y gymuned. (Bydd cynyddu mynediad i’r cyhoedd yn arwain at ragor o aflonyddu ar ran o’r coetir yn ystod y dydd, ond oherwydd bod dyfrgwn yn teithio liw nos, byddant yn osgoi unrhyw wrthdaro).  Cyflwynir cynllun rheoli’r coetir i’r Awdurdod Cynllunio i’w gymeradwyo cyn bod unrhyw un yn byw yn yr aneddiadau. 
  1. Y gwrych

Bydd y gwrych yn cael ei drawsblannu pan na fydd yn tyfu, yn unol ag arfer gorau.  Ni chofnododd arolygon ystlumod niferoedd mawr o ystlumod yn defnyddio’r gwrych fel coridor teithio, ac felly dylai adleoli’r gwrych sicrhau cadw ei werth bioamrywiaeth bresennol. 

  1. Coed

Bydd cadw’r ddwy goeden llawn dwf yn y datblygiad yn osgoi effeithiau eu torri. Byddwn yn ail archwilio’r dderwen llawn dwf arall i weld a oes ystlumod yn clwydo ynddi cyn ei thorri a byddai hynny y tu allan i’r tymor nythu hefyd.  I wneud iawn am golli cyfleoedd clwydo / nythu, bydd dau flwch ‘Schwegler’ ar gyfer ystlumod a 5 blwch nythu yn cael eu gosod yn y coetir.

Camau gwella sydd wedi’u cynnwys yn y datblygiad

Bydd y coetir ger y nant yn cael ei reoli i gael y budd gorau ohono ar gyfer bioamrywiaeth.  Bydd cynllun rheoli’n cael ei lunio  ( a’i gyflwyno i’w gymeradwyo) i sicrhau’r lefel rheoli angenrheidiol i gyflawni hynny. Mae enghreifftiau o’r gwaith i’w gyflawni’n cynnwys cael gwared ar rywogaethau estron (jac y neidiwr ) a chael gwared ar gryn swp o sbwriel sydd wedi ei dipio yno . Bydd blwch nythu ar dalcen pob tŷ. Mae’r cynllun tirlunio a fydd yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo’n cynnwys  plannu rhagor o goed, gan ddefnyddio rhywogaethau a fydd yn denu bywyd gwyllt.

8.5.

Atodiad 5 – Amseroedd Arolygu a Argymhellir

8.6.

Atodiad 6 – Canllaw Rhywogaethau a Chynefinoedd

8.6.1.

Mae’r adran hon yn darparu canllawiau ar gyfer y rhywogaethau hynny y mae’n debygol yr effeithir arnynt fwyaf, fel y rhestrwyd yn Atodiad 3.

8.6.2.

Effeithir ar rai rhywogaethau yn fwy nag eraill gan bwysau datblygu ac felly, gall y system gynllunio fod â mwy o ddylanwad ar eu cadwraeth. Efallai bydd dylanwadau y tu allan i reolaeth cynllunio yn effeithio ar rywogaethau eraill, fel dwysau amaethyddiaeth. Mae rhywogaethau y gall cynllunio a datblygu yng Nghonwy fod â dylanwad penodol arnynt yn cynnwys ystlumod, tylluanod gwyn, adar sy’n bridio, moch daear, a rhywogaethau torlannol a dyfrol, yn enwedig dyfrgwn, llygod y dŵr a rhywogaethau pysgod.  Mae pob un o’r 17 rhywogaethau o ystlumod yn y DU wedi eu cofnodi mewn adeiladau, ac mae’r amgylchedd adeiledig yn darparu mannau hanfodol ar gyfer sawl rhywogaeth i glwydo, gan gynnwys yr ystlum adain lydan, ystlum pedol mwyaf a’r ystlum pedol lleiaf, ystlum Natterer, yr ystlum lleiaf a’r ystlum hirglust.

8.6.3.
Bydd newid digynsail yn y diwydiant adeiladu, o ran rheoliadau, technegau, deunyddiau ac arddulliau adeiladu newydd, yn helpu i leihau ôl troed carbon stoc tai’r dyfodol. Fodd bynnag, mae defnyddio safonau newydd yn golygu am y tro cyntaf erioed mai ychydig o gyfleoedd clwydo a nythu newydd fydd ar gael ar gyfer rhai rhywogaethau sy’n ddibynnol ar adeiladau. Fodd bynnag, gall newidiadau bach o ran dyluniad wneud adeiladau newydd yn addas ar gyfer ystlumod ac adar fel ei gilydd, a hynny wrth elwa o’r safonau newydd gwell.
8.6.4.

Mae adroddiad Grŵp Tasg Bioamrywiaeth y Green Building Council (GBC) UK, Biodiversity and the Built Environment 5 yn nodi sut i gael y budd gorau o werth ecolegol safle, trwy ddylunio adeiladau ac adeileddau yn fanwl .

8.6.5.

Mae porth ar-lein yr UK GBC yn http://www.ukgbc.org/site/info-centre/display-category?id=111 yn darparu canllawiau manwl  sut i wella bioamrywiaeth yn yr amgylchedd adeiledig. Gwellir gweld yr adroddiad llawn, canllawiau penodol fesul sector ac astudiaethau achos sy’n gysylltiedig â’r adroddiad yn: http://www.ukgbc.org/site/taskgroups/info?id=2.

8.6.6.

Lle bynnag bo cyfleoedd clwydo neu nythu pwrpasol wedi eu cynnwys mewn anheddau, dylai’r datblygwr roi gwybod amdanynt i’r preswylwyr. Mae hyn yn helpu i wella ymwybyddiaeth a lliniaru unrhyw bryderon, yn ogystal â hybu diddordeb mewn bywyd gwyllt ar ddatblygiadau safleoedd mwy, a pham fod hynny’n bwysig. Ar gyfer y bobl hynny sy’n dymuno helpu gyda chofnodi bywyd gwyllt maent yn rhannu eu cartrefi a’u gerddi â nhw, mae cynlluniau cofnodi ar gael ar gyfer bobl lefel sgiliau. Mae’r rhain yn cynnwys arolwg y British Trust for Ornithology’s Garden BirdWatch survey, gweler http://www.bto.org/gbw/ a’r Rhaglen Monitro Ystlumod Cenedlaethol y Bat Conservation Trust, gweler: http://www.bats.org.uk/pages/nbmp.html).

8.6.7.

Ystlumod

Mae’r holl ystlumod wedi eu diogelu gan Ddeddfwriaethau’r DU ac Ewrop, ac mae’r ffaith eu bod yn defnyddio ac yn ffafrio adeileddau a godwyd gan bobl yn golygu mai dyma’r’ achosion mwyaf cyffredin o faterion rhywogaethau a warchodir sy’n wynebu datblygwyr yng Nghonwy.  Mae’n anghyfreithlon lladd, anafu neu gymryd ystlumod yn fwriadol neu ddifrodi neu ddinistrio yn fwriadol neu ar hap eu mannau clwydo neu aflonyddu arnynt.  Gan fod ystlumod yn tueddu i ddychwelyd i’r un mannau clwydo bob blwyddyn, mae’r safleoedd hyn wedi eu gwarchod boed ystlumod yn bresennol ai peidio.

8.6.8.
Mae Conwy yn gadarnle ar gyfer yr ystlum pedol lleiaf ac mae  sawl man clwydo ystlumod pedol lleiaf trwy’r sir.  Mae ACA a sawl SoDdGA wedi cael eu dynodi yng Nghonwy a Pharc Cenedlaethol Eryri o ganlyniad i bresenoldeb mannau clwydo’r ystlum pedol lleiaf.
8.6.9.
Mae’r ffactorau sy’n effeithio ar ystlumod pedol lleiaf yng Nghonwy yn cynnwys:
  • Dinistrio neu adnewyddu hen adeiladau a sguboriau ac adeiladau allanol neu eu bod yn dadfeilio, gan arwain at golli mannau clwydo a safleoedd gaeafgysgu.
  • Colli safleoedd gaeafgysgu o dan y ddaear fel mae eu mynedfeydd yn cael eu cau oherwydd rhesymau diogelwch.
  • Colli cynefinoedd sy’n gyfoeth o bryfed, yn enwedig nodweddion llinol gan gynnwys gwrychoedd, llinellau coed a llystyfiant coediog wrth afonydd, yn ogystal â choetiroedd, gwlyptiroedd a hen borfeydd.
  • Darnio cynefinoedd a cholli llwybrau hedfan rhwng darnau yn enwedig gwrychoedd.
  • Credir bod defnyddio cadwolion coed tocsig a chemegau eraill mewn croglofftydd a hen adeiladau yn cael effaith negyddol ar boblogaethau ystlumod – trwy wenwyno’r ystlumod yn uniongyrchol a thrwy ostwng faint o ysglyfaeth sydd ar gael iddynt.
  • Credir bod y rhywogaeth yn agored iawn i niwed yn ystod gaeafau caled.
8.6.10.

Tylluanod gwyn

Efallai bydd tylluanod gwyn yn gadael olion gwyn eu carthion (white wash) i lawr coed toeau a waliau, ac yn aml yn gadael plu a phelenni (gweddillion llwyd ysglyfaeth wedi ei chwydu) tua  5cm o hyd.  Mae ei nyth yn cynnwys haen o belenni ar fan amgaeedig gwastad fel rhwng bêls gwellt, neu ar danc dŵr sych ar lawr croglofft neu atig neu du fewn i’r simnai.  Gellir gosod blychau nythu i annog pâr i sefydlu tiriogaeth a bridio.  Byddai disgwyl i unrhyw ddatblygiad sydd yn arwain at golli safle nythu, ddarparu safle addas arall a bod hynny wedi’i nodi yn y cais.  Dylai unrhyw adeiladau amaethyddol ychwanegol ddarparu cyfleoedd nythu newydd i gynyddu elw bioamrywiaeth y datblygiad.  Gellir darparu manylion ar gyfer blychau nythu gan yr awdurdod lleol neu ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Tylluanod Gwyn yn: http://www.barnowltrust.org.uk/infopage.html?Id=42  ac oddi ar wefan BTO yn http://www.bto.org/notices/nestbox.pdf.

8.6.11.

Gwenoliaid du, gwenoliaid a gwenoliaid y bondo

O dan Adran 1 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 mae’n drosedd i ladd, anafu, neu gymryd (gadael neu gael gwared ar) aderyn gwyllt yn fwriadol, (ac eithrio ychydig o rywogaethau pla y gellir eu rheoli o dan drwydded), cymryd neu niweidio nyth os yw’n cael ei ddefnyddio neu ei greu, neu i gymryd wyau neu eu dinistrio.

8.6.12.
Yn ychwanegol at y gwaharddiadau uchod, mae nifer o rywogaethau adar sydd wedi’u cynnwys yn y rhestr yn Atodlen 1 y Ddeddf yn cael eu diogelu ymhellach, oherwydd mae’n drosedd ychwanegol aflonyddu’n fwriadol ar yr adar hyn wrth iddynt nythu neu fagu cywion, neu aflonyddu ar gywion sy’n dibynnu ar eu rhieni.  Bydd angen i ddatblygwyr osgoi aflonyddu ar adar sy’n nythu yn ystod y tymor bridio, a bydd y caniatâd cynllunio yn adlewyrchu hynny, yn ogystal â chynnwys amod o ran darpariaeth nythu lle bydd safleoedd nythu yn cael eu dinistrio fel rhan o’r datblygiad.
8.6.13.

Mae gwenoliaid du, gwenoliaid a gwenoliaid y bondo’n defnyddio adeiladau’n aml ar gyfer nythu ynddynt. Mae gwenoliaid yn adeiladu eu nythod mewn mannau agored dan do fel o dan drawstiau a silffoedd gan fynd i’r adeilad a dod ohono mewn twll yn y bargod neu dan y bondo, trwy lechi wedi’u torri neu trwy ddrysau a ffenestri agored.  Mae gwennol y bondo’n tueddu i nythu y tu allan, dan y bondo, tra bo’r wennol ddu yn gallu defnyddio’r naill le neu’r llall.  Hyd yn oed os nad oes modd cyrraedd y nythod, gellir gweld yr adar yn amlwg pan maent yn hedfan i mewn ac allan o'r nythod. 

8.6.14.
Gellir creu mannau nythu ar gyfer gwenoliaid du yn rhwydd ac yn rhad mewn adeiladau presennol a rhai newydd.  Bydd y gwenoliaid du yn dod o hyd i’r mannau hyn yn hwy neu’n hwyrach, ond bydd y siawns o lwyddo’n llawer uwch petai’r gwenoliaid du sy’n hedfan yn isel ac yn swnllyd eisoes yn yr ardal.  Gellir creu cartref ar gyfer gwenoliaid du heb unrhyw anhawster.  Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn disgwyl i ddatblygwyr ystyried y canllawiau a ganlyn: 
  • Ni ddylai unrhyw waith gael ei wneud ar y to tra bo’r gwenoliaid du’n nythu (Mai i Awst)
  • Ni fydd unrhyw waith yn aflonyddu ar safleoedd nythu’r gwenoliaid du
  • Bod tyllau mynediad y gwenoliaid du’n cael eu cadw neu fod tyllau newydd yn cael eu creu i gyd-fynd yn union â’r hen rhai.
8.6.15.
Lle gallai’r gwenoliaid du fod yn nythu: 
  • Bondo - mewn bondo “agored” o dan res isaf y teils, uwchlaw’r lander, yn union y tu fewn i ofod y to.
  • Tyllau – mewn tyllau mewn waliau lle mae’r peipiau wedi cael eu tynnu
  • Sêl blwm - ar ben briciau neu mewn tyllau o dan ‘sêl blwm rhydd neu ar simneiau a ffenestri to.
  • Talcenni – tu ôl i’r estyll tywydd a thalcenni, ar ymylon briciau
  • Teils - o dan deils rhydd neu wedi symud, ar ddistiau’r to neu ffelt
  • ‘Pwyntio’ - mewn tyllau rhwng y bylchau mewn cerrig neu friciau lle mae’r pwyntio’n rhydd neu wedi dod oddi yno.
8.6.16.

Sut i ddiogelu nythod a galluogi gwenoliaid du i fridio’n ddiogel:

  • Peidiwch byth ag ail-doi pan fo gwenoliaid du yn nythu (diwedd Ebrill i ddechrau Awst fel arfer)
  • Nythod bondo - gadael y bondo yn agored ydi’r ateb symlaf a gorau.  Fel arall, torrwch slotiau yn y soffit neu’r byrddau wynebu i gyd-fynd a’r hen fynedfeydd
  • Petai angen hynny, gosodwch raniad pren haenog awyrog o leiaf 30cm i mewn i’r groglofft i amgáu mannau nythu gwenoliaid fel eu bod yn gallu defnyddio’r ardal hon.
  • Nythod mewn tyllau - lle na fyddant yn creu problem, gadewch hen dyllau fel y maent.  Gallwch ffitio teil i mewn i’r ‘pwyntio’ uwchlaw i ffurfio llethr i gadw’r glaw allan neu fel arall, gosodwch fric gwennol ddu  greu man nythu arall.
  • Tu ôl i sêl blwm - estyn neu ailosod y sêl blwm ar y grib / teils pen i alluogi’r gwenoliaid du i ddod yn ôl i mewn heb effeithio ar y system gwrth-dywydd
  • Tu mewn i’r talcenni - unai gadwch lonydd iddynt, neu fel arall gosodwch leoedd nythu pren syml y tu ôl yr estyll tywydd
  • O dan y teils - ailosodwch y teils gan gadw’r hen fylchau lle'r oedd y gwenoliaid yn cael mynediad yn union ble roeddynt.
  • Tu mewn i’r bylchau, tu ôl i bwyntio diffygiol – gadewch y fynedfa i ble mae’r gwenoliaid du yn nythu, heb ei phwyntio .
  • Peidiwch â thrin y mannau y mae’r gwenoliaid du yn eu defnyddio gyda phlaladdwyr na bioladdwyr

Os nad oes modd cyflawni’r uchod – dylech ystyried gosod blychau nythu.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: http://www.swift-conservation.org/

8.6.17.

Llygod y Dwr

O 12 Awst 2008 mae Llygod y Dŵr yng Nghymru wedi cael ei ddiogelu’n llawn dan Adran 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

8.6.18.

Mae’n drosedd:

  • Lladd, anafu neu gymryd (dal) llygoden y dŵr yn fwriadol;
  • Meddu ar neu reoli llygoden y dŵr, yn fyw neu’n farw neu unrhyw ran o lygoden y dŵr neu unrhyw beth sydd wedi ei gymryd oddi wrth lygoden y dŵr;
  • Difrodi, dinistrio neu atal mynedfa, boed hynny ar hap neu’n fwriadol, unrhyw adeiledd sy’n cael ei ddefnyddio gan lygoden y dŵr fel; lloches neu ar gyfer diogelwch;
  • Aflonyddu ar lygoden y dŵr yn fwriadol neu ar hap, sy'n byw mewn adeiledd neu le y mae’n ei ddefnyddio fel lloches neu ar gyfer diogelwch;
  • Gwerthu, cynnig, neu arddangos i’w gwerthu, neu fod mewn meddiant neu gludo i’r pwrpas o werthu, unrhyw lygoden y dŵr, yn fyw neu’n farw, neu unrhyw ran o lygoden y dŵr neu unrhyw beth a gymerwyd oddi wrth lygoden y dŵr;
  • Cyhoeddi unrhyw hysbyseb, neu achosi i unrhyw hysbyseb gael ei gyhoeddi, sy’n debygol o gael ei ddeall fel bod unigolyn yn prynu neu yn gwerthu, neu yn bwriadu prynu neu werthu unrhyw un o’r pethau uchod.
8.6.19.

Mae uchafswm cosb troseddau o dan Adran 9 yn ddirwy hyd at £5,000, carchar am hyd at chwe mis, neu’r ddau ar gyfer pob anifail mewn perthynas â’r drosedd a gyflawnir.  Ni fydd unrhyw drosedd yn cael ei chyflawni pe bai’r gweithgaredd a fyddai fel arall yn arwain at gyflawni trosedd yn cael ei gwneud o dan (ac yn unol â) drwydded a roddwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru neu Lywodraeth Cynulliad Cymru o dan adran 16 (3) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

8.6.20.

Mae trwyddedau ar gael oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan adran 16(3) ar gyfer y canlynol:

  • Pwrpas gwyddonol neu addysgol;
  • Modrwyo neu farcio, neu archwilio unrhyw fodrwyo neu farc ar anifail gwyllt;
  • Cadwraeth anifail gwyllt neu blanhigion gwyllt neu eu cyflwyno i ardal benodol;
  • Diogelu unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol;
  • Ffotograffiaeth
8.6.21.

Mae trwyddedau ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru o dan adran 16(3) ar gyfer y pwrpas a ganlyn:

  • diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd ;
  • Atal afiechyd rhag ymledu;
  • Atal difrod difrifol i wartheg, bwydydd ar gyfer gwartheg, cnydau, llysiau, ffrwythau, coed sy’n tyfu neu unrhyw fath o eiddo neu i bysgodfeydd.
8.6.22.

Nid oes darpariaeth dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i roi trwyddedau ar gyfer datblygu, cynnal a chadw na rheoli tir, oni bai fod gweithgareddau fel hyn yn cael eu cyflawni ar gyfer un o’r rhesymau a nodwyd yn adran 16(3) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.  Felly, dim ond ar ôl cytuno ar Gamau Osgoi Rhesymol gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Awdurdod Cynllunio y dylid caniatáu datblygiadau.

8.6.23.

Gwaith Datblygu yn effeithio ar Lygod y Dwr

Pan gynigir gwaith datblygu neu gynnal a chadw mewn ardal gyda llygod y dŵr yn byw yno , neu sy’n debygol o fod yn byw yno, argymhellir gweithredu’r camau a ganlyn: 
  • Sefydlu a oes llygod y dŵr yn yr ardal neu’n agos ati, trwy gyfuniad o arolygon maes ac ymgynghori â Chofnod.  Mae canllawiau pellach ar gynnal arolwg llygod y dŵr ar gael yn Llawlyfr Cadwraeth Llygod y Dŵr (2il  rifyn).
  • Petai llygod y dŵr yn yr ardal, yna dylid ystyried a ellir newid y cynigion er mwyn sicrhau na fydd y gwaith yn cyflawni trosedd, e.e. ni fydd yn aflonyddu ar lygod y dŵr neu golli tyllau llygod y dŵr, ac yn y blaen.  Os nad yw hyn yn bosibl, yna dylid ystyried sut y gellir lliniaru’r effeithiau ar lygod y dŵr ac a ellid cymryd camau i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol.  Os nodwyd camau posibl, yna dylid eu gweithredu. 
8.6.24.

Os penderfynir bwrw ymlaen gyda’r datblygiad neu’r gwaith cynnal a chadw dan amgylchiadau fel hyn, gallai’r ffaith bod unigolyn wedi gweithredu’r camau uchod, ein helpu i sefydlu petai’n cael ei erlyn, bod unrhyw weithred a gyflawnwyd, a oedd yn anghyfreithlon o dan adran 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, yn ganlyniad damweiniol i weithgarwch cyfreithlon na ellid ei osgoi’n rhesymol.  Petai’n gallu sefydlu hyn, a boddhau llys, ni fydd yn euog o unrhyw drosedd o dan yr adran honno.

8.6.25.

Bydd angen i unrhyw unigolyn sy’n bwriadu gwneud gwaith datblygu neu gynnal a chadw dan yr amgylchiadau hyn, ddefnyddio eu doethineb eu hunain ynglŷn ag yw’r camau maent wedi’u cymryd yn debygol o fod yn ddigonol i’w galluogi i sefydlu - petaent yn cael eu herlyn- bod eu gweithredoedd o ganlyniad damweiniol i weithgarwch cyfreithlon na ellid fod wedi’u hosgoi yn rhesymol.  Yn y pen draw, fodd bynnag, bydd hwn yn fater i lys benderfynu arno ar sail y ffeithiau penodol, ac oherwydd hynny, nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru na Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn gallu darparu cyngor cyfreithiol ar y mater hwn.

8.6.26.

Moch Daear

Mae moch daear wedi eu gwarchod o dan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992. Nid ydynt yn rhywogaeth mewn perygl, ond mae hen hanes o’u herlyn.  Dim ond canllawiau i brif ddarpariaethau’r gyfraith yw’r rhain.   Nid yw awdurdodau cynllunio lleol yn darparu cyngor cyfreithiol i ddatblygwyr. Dylid ymgynghori â thestun y ddeddf a gofyn am gyngor cyfreithiol proffesiynol ar gyfer union ddehongliad troseddau ac amddiffynfeydd.  Mae’r Ddeddf yn seiliedig ar yr angen yn bennaf i atal cam-drin moch daear ac i atal eu niweidio a’u hanafu’n fwriadol.  Mae hefyd yn cynnwys cyfyngiadau perthnasol ehangach, ac mae’n bwysig fod  datblygwyr yn gwybod sut gallai hyn effeithio ar eu gwaith.  Mae’r canlynol yn droseddau:

  • Lladd, anafu, cymryd, meddiannu, neu gam-drin mochyn daear o’ch gwirfodd;
  • Ceisio ymyrryd â daear; neu wneud hynny boed yn fwriadol neu’n ddi-hid.
8.6.27.

Mae ymyrryd â daearau yn cynnwys difrodi neu ddinistrio daear, rhwystro mynediad i ddaear ac aflonyddu ar fochyn daear pan fydd yn byw mewn daear.  Nid yw’n anghyfreithlon, ac felly nid oes angen trwydded i ymgymryd â gweithgareddau aflonyddu yn yr ardal y ddaear, os nad yw’n aflonyddu ar  foch daear, ac nid yw’r ddaear yn cael ei difrodi na’i rhwystro.  Lle na ellir osgoi ymyrryd â daear, sydd ag arwyddion i ddangos ei bod yn cael ei defnyddio wrth ddatblygu safle, dylid gofyn am drwydded oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru neu Lywodraeth Cynulliad Cymru i awdurdodi gweithgarwch a fyddai fel arall yn cael ei ystyried yn drosedd?

8.6.28.

Mae rhagor o ganllawiau ar gael i ddatblygwyr ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru: www.ccw.gov.uk

8.6.29.

Gwlyptiroedd a Chyrsiau Dwr

Mae pyllau, llynnoedd, afonydd, ffrydiau, a gwlyptiroedd i gyd yn bwysig ar gyfer symudiadau rhywogaethau ar gyfer bioamrywiaeth.  Dylai datblygiad arwain at gynnydd mewn ardaloedd dŵr agored neu ardaloedd corslyd o gwmpas dŵr a chyrsiau dŵr, neu mewn gwelyau cyrs neu dylai greu ardaloedd gwlyb dros dro neu dymhorol.  Mae hen hanes o ddraenio amaethyddol a threfol wedi arwain at golli llawer o byllau, draenio tir a sythu neu gwlfertio cyrsiau dŵr.  Dylai datblygiadau newydd gyfrannau at adfer yr hyn a gollwyd yn y gorffennol, adfer ystum afonydd a chael gwared ar gylfertiau, er enghraifft, a dylent warchod cyfanrwydd coridorau’r afonydd a ffrydiau. 
8.6.30.

Gall nodweddion draenio cynaliadwy ddarparu gwasanaethau hanfodol fel rheoli risg llifogydd / gwahanu, cael gwared â llygredd trwy ei wasgaru, tynnu carbon o’r awyr a’i gadw mewn dŵr, hamdden a manteision i fywyd gwyllt, gwella ansawdd bywyd, a gwella gwerthoedd eiddo.  Mae gorlifdiroedd hefyd yn darparu cyfle unigryw yn y dirwedd ar gyfer creu coetiroedd gwlyb a chorstir pori, y mae’r ddau ohonynt yn gynefinoedd blaenoriaeth. 

8.6.31.

Efallai byddai angen lleiniau rhagod wedi eu rheoli, neu estyn nodweddion wedi eu rheoli ar gyfer lleiniau rhagod wedi eu rheoli, rhwng datblygiadau a nodweddion o’r fath.  Maent yn nodweddion pwysig ar gyfer rhywogaethau blaenoriaeth fel ystlumod, dyfrgwn a llygod y dŵr.

8.7.

Atodiad 7- Monitro a Rheoli

8.7.1.

Dulliau Cynllunio i Helpu Bioamrywiaeth – Amodau ac Ymrwymiadau Cynllunio

Amodau cynllunio ac ymrwymiadau cynllunio adran 106 ydi’r prif ddulliau a ddefnyddir i reoli datblygu ar gyfer cadwraeth a gwella bioamrywiaeth.  Gellir gofyn i ddatblygwyr gynnal neu gyfrannu at y gwaith sydd ei angen i warchod neu wella gwerth cadwraeth natur yr amgylchedd sy’n berthnasol i’r datblygiad.  Gallai hyn gynnwys arolygon, asesiadau effaith, gwaith lliniaru, iawndal neu gynlluniau rheoli (gyda datganiadau dull cysylltiedig) â monitro.  Mae’n bosibl, lle bo hynny’n briodol, y bydd angen mynediad gwell at ardaloedd sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt, fel rhan o nifer o fesurau a fyddai’n gallu gwella ansawdd bywyd ar gyfer cymunedau lleol.   

8.7.2.

Amodau

Gall y mesurau sydd wedi eu cynnwys mewn amodau cynllunio gyfrannu’n sylweddol at gadwraeth bioamrywiaeth, er enghraifft, gallant helpu i osgoi effeithiau niweidiol, neu ddileu’r tebygolrwydd o effeithiau niweidiol, a lliniaru neu leihau effeithiau niweidiol lle na ellir eu hosgoi.  Gall y mesurau hyn hefyd wneud iawn am golledion neu effeithiau na ellir eu hosgoi na’u lliniaru, a gellir eu defnyddio i wella agweddau o’r amgylchedd naturiol a’i fwynhad. 

8.7.3.

Ymrwymiadau Cynllunio

Mae ymrwymiadau cynllunio’n gytundebau rhwng yr awdurdod cynllunio a’r datblygwr.  Gellir hefyd eu creu gan y datblygwr yn unig, lle bydd yr awdurdod cynllunio yn gorfodi’r ymrwymiad dan gytundeb Adran 106.  Dyma enghreifftiau o ymrwymiadau cynllunio:
  • Darparu mynediad a chyfleusterau dehongli ar gyfer cynefin
  • Darparu cynefinoedd newydd
  • Monitro oddi ar y safle ar gyfer unrhyw effeithiau hydrolegol y datblygiad
  • Rheoli nodwedd benodol (er enghraifft cynefin ar safle neu oddi ar safle) am gyfnod penodol
  • Darpariaethau ariannol ar gyfer sefydlu neu reoli.
8.7.4.

Rheoli Datblygiad a Ganiateir

Mae NCT5 yn tynnu sylw at effeithiau posibl datblygiad a ganiateir ar safleoedd o werth cadwraeth natur.  Gallai sawl math o ddatblygiad a ganiateir, yn enwedig y rheiny sy’n ymwneud â hamdden, defnyddio tir dros dro, a rhai gweithgareddau ymgymerwyr statudol, gael effaith sylweddol ar fioamrywiaeth, a gallant effeithio ar rai nodweddion daearegol neu geomorffegol neu brosesau naturiol.  Mewn sawl achos, gellir osgoi niwed trwy reoli’r datblygiad, er enghraifft, trwy gyfyngiadau tymhorol, eithrio ardaloedd sensitif neu gyfyngu ar raddfa neu ddwysedd y datblygiad.  Mae Erthygl 4 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad a Ganiateir yn Gyffredinol) 1995 yn darparu mecanwaith pwysig ar gyfer rheoli datblygiad a ganiateir lle bo angen hynny.  Mae Erthygl 1 (5) o’r gorchymyn hwn yn rhestru AHNE fel un o nifer o ddynodiadau lle mae mwy o gyfyngiad ar ddatblygiad a ganiateir.
8.7.5.

Ni ellir symud ymlaen gyda datblygiad sydd angen asesiad amgylcheddol o dan  Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999, a fyddai fel arfer yn cael ei ganiatáu gan Orchymyn Datblygu, heb wneud cais cynllunio llawn.  Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd 1994 hefyd yn cyfyngu ar ddatblygiad a ganiateir yn debygol o gael effaith sylweddol ar Safle Ewropeaidd, allai fod yn Ardal Arbennig ar gyfer adar gwyllt, neu’n Ardal Gadwraeth Arbennig ar gyfer cynefinoedd anifeiliaid, planhigion neu’n gynefinoedd naturiol.

8.7.6.

Nid yw hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer defnydd dros dro ar dir ar gyfer gemau rhyfel, moduro na saethu colomennod clai, yn berthnasol mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).  Felly mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer defnyddio tir fel hyn mewn AHNE.

8.7.7.

Lle mae’r rheoli bioamrywiaeth wedi cael ei gynnwys mewn caniatâd cynllunio, dylai datblygwr fonitro llwyddiannau unrhyw waith o’r fath.

8.7.8.

Gallai’r gwaith monitro gynnwys:

  • Sefydlu cynefin newydd neu well – gellir gosod meini prawf llwyddiant
  • Effeithlonrwydd mesurau lliniaru a gwneud iawn perthnasol - gellir pennu meini prawf llwyddiant a fyddai’n cydymffurfio â chyfraith bywyd gwyllt ar ôl rhoi caniatâd cynllunio.  Bydd y datblygwr (sy’n sicrhau bod y gwaith wedi cael ei wneud yn unol â’r caniatâd cynllunio a’r cyngor arbenigol), yn gyfrifol ar y cyd am hyn gyda’r  awdurdod cynllunio lleol (sy’n sicrhau y cydymffurfir â’r amodau/ymrwymiadau), Llywodraeth Cynulliad Cymru (sy’n sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw drwydded) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (sy’n cynghori ar rywogaethau a warchodir),
8.7.9.
Lle mae angen rheoli safle (er enghraifft ar gyfer cynefinoedd), bydd angen gwneud hynny am gyfnod amser addas, er mwyn sicrhau bod yr amodau/ymrwymiadau cynllunio yn cael eu gweithredu’n effeithiol.  I gyflawni hyn, efallai bydd angen i ddatblygwyr gyflwyno cynllun rheoli neu ddatganiad dull gyda’r cais cynllunio, neu fel amod yn y caniatâd cynllunio.  Yn ddelfrydol, dylai cynllun rheoli gynnwys:
  • Disgrifiad o’r nodweddion i’w rheoli
  • Amcanion a nodau rheoli
  • Cynllun gwaith manwl pum mlynedd a chynllun tymor hirach os yw hynny’n briodol
  • Trefniadaeth a’r gweithwyr sy’n gyfrifol am weithredu’r cynllun
  • Meini prawf llwyddo a’r camau monitro
8.7.10.

Fel rhan annatod o ddatblygiad llwyddiannus, mae’n rhaid i fioamrywiaeth fod yn thema allweddol mewn dyluniad neu brif gynllun, yn enwedig o ran cadwraeth cynefinoedd sydd eisoes yn bod, a chreu cynefinoedd newydd, a sut y bydd y rhain yn cael eu dylunio a’u rhaglennu ochr yn ochr â’r datblygiad.  Dylai’r datblygwr ddarparu canllawiau sut i reoli safle i berchnogion datblygiadau newydd (a mannau awyr agored eraill fel balconïau, toeau gwyrdd ac yn y blaen) i annog bioamrywiaeth.  Os oes angen cynllun rheoli, neu os oes angen creu cynefinoedd newydd, dylai datblygwyr ddarparu gwybodaeth a chanllaw i annog cyfranogi i ddiogelu asedau bioamrywiaeth y safle.

« Back to contents page | Back to top