1. Cefndir
Dyma un o gyfres o ddogfenni Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) sy’n cynnig rhagor o gyngor ar bolisïau'r cynllun datblygu. Pwrpas y CCA yw rhoi cyngor i ymgeiswyr cynllunio, a byddant yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
Ni ddylai’r rhestr leol ddyblygu’r rhestr o Adeiladau Pensaernïol Arbennig na’r rhestr o Adeiladau o Ddiddordeb Hanesyddol (yr enw ar y rhain yw ‘adeiladau rhestredig’). Eu pwysigrwydd cenedlaethol yw’r pwyslais wrth ddynodi adeiladau rhestredig fel hyn. Mae ardaloedd lleol o ymddangosiad hanesyddol a chymeriad arbennig yn cael eu diogelu trwy eu dynodi’n ardaloedd cadwraeth. Rheolir dymchwel a gwneud newidiadau sylweddol i adeiladau heb eu cofrestru yn yr ardaloedd hyn. Mae estyniadau i adeiladau heb eu rhestru mewn ardaloedd cadwraeth hefyd yn cael eu hystyried yn fanylach a’u rheoli o ganlyniad i weithredu’r polisïau lleol sydd wedi eu hanelu at gadw neu wella’r ardaloedd hyn.