2. Cyd-destun Polisi Cynllunio
Mae paragraff 48 Cylchlythyr Cymru 61/96 “Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth” yn nodi:
“….caiff yr enghreifftiau gorau o fathau o adeiladau brodorol eu rhestru fel rheol. Ond ni fydd llawer o adeiladau sy’n werthfawr a gwneud cyfraniad at yr olygfa leol, neu am eu cysylltiadau hanesyddol lleol, yn haeddu cael eu rhestru. Yn aml, diogelir adeiladau o’r fath trwy ddynodi ardal cadwraeth. Mae hefyd yn agored i’r awdurdodau cynllunio lunio rhestrau o adeiladau sy’n bwysig yn lleol, a llunio polisïau i ddiogelu’r rhain drwy weithdrefnau rheoli datblygu. Dylai’r polisïau ei wneud yn glir nad yw’r adeiladau hyn yn dod o dan ddiogelwch cyflawn yn sgil eu rhestru’n statudol”.
Mae’r polisi cynllunio lleol perthnasol yng Nghynllun Datblygu Lleol Conwy fel a ganlyn:
POLICY CTH/3 - Adeiladau ac Adeileddau sy’n Bwysig yn Lleol
Mae nifer sylweddol o adeiladau, sydd oherwydd eu dyluniad, defnyddiau a’u cysylltiadau cymdeithasol a hanesyddol, yn bwysig o ran sefydlu cymeriad a hunaniaeth eu hardal. Er nad yw’r adeiladau hyn ar hyn o bryd yn cael eu hystyried yn ddigon pwysig i’w rhestru’n statudol, nid oes unrhyw amheuaeth eu bod yn ychwanegu at gyfoeth yr amgylchfyd adeiledig lleol. Dylid cadw’r adeiladau hyn a cheisio cael defnydd priodol iddynt er mwyn cadw eu cymeriad hanfodol.
Bydd y Cyngor yn annog datblygwyr a pherchnogion i ddiogelu adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol, ac nid eu gweld fel cyfle ar gyfer datblygiad newydd yn unig. Bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech posibl drwy’r broses gynllunio i sicrhau bod adeiladau fel hyn yn cael eu diogelu yn y Sir.