3. Y Broses Ddewis
Bydd y broses o ddewis adeiladau penodol o ddiddordeb lleol ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn gyson, yn gynhwysfawr, yn glir a dylai ymateb i argymhellion y gymuned leol ar gyfer cynnwys adeiladau. Rhagwelir y byddwn yn cynnal arolwg o adeiladau pwysig yn lleol, ledled y Sir, trwy ymarferion arolwg fesul ardal cynghorau cymuned lleol a chynghorau tref.
Yn ystod y cam hwn, bydd y perchnogion a’r rhai sydd â chysylltiad sylweddol â’r eiddo sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr, yn cael eu hysbysu a bydd goblygiadau cynnwys yr eiddo yn cael ei esbonio iddynt. Bydd cyfnod ymgynghori cyn cymeradwyo’r rhestr yn derfynol, i sicrhau fod cymaint a bo modd yn deall ac yn gwerthfawrogi’r ymarfer adeiladau o ddiddordeb lleol arbennig. Byddwn yn ymgynghori yn benodol â chynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a chynghorau cymuned a chynghorau tref a grwpiau diddordeb a gwasanaethau eraill. Bydd manylion y rhestr ar gael ar gofrestr gyhoeddus. Mae enghraifft o’r math o wybodaeth a fydd ar gael ar y rhestr wedi ei chynnwys yn Atodiad B. Mae cael cefnogaeth perchnogion a’r cyhoedd yn gyffredinol ar gyfer y dynodiad lleol, yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y polisi.
Cydnabyddir efallai bydd rhai adeiladau, nad ydynt yn rhestredig mewn ardaloedd cadwraeth, wedi’u nodi fel adeiladau sy’n bwysig yn lleol, ond rheoliadau statudol adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth fydd yn diogelu’r rhain yn hytrach na statws rhestru lleol. Bydd yr ardaloedd y tu allan i’r 25 ardal a ddynodwyd ar hyn o bryd felly’n cael eu harchwilio gyntaf.