4. Meini Prawf Dewis

4.1.

Diddordeb Pensaernïol

Yr ystyriaeth gyntaf a phwysicaf wrth lunio’r rhestr o adeiladau i’w cynnwys ar y rhestr leol, fydd eu nodweddion pensaernïol ffisegol.  Mae canllawiau manylach yn Atodiad C.

MAEN PRAWF 1:

DIDDORDEB PENSAERNÏOL

Bydd diddordeb pensaernïol adeilad neu grŵp o adeiladau yn cael ei ystyried yn unol â’r meini prawf â ganlyn: 

  1. Safon
  1. defnyddio defnyddiau a chrefftwaith o safon;
  2. enghreifftiau eithriadol o waith pensaer lleol neu ranbarthol enwog, adeiladwyr neu ddatblygwyr.
  1. Dilysrwydd neu Arwahanrwydd Pensaernïaeth
  1. enghreifftiau da o arddulliau pensaernïol lleol neu gymeriad unigryw;
  2. defnydd lleol cynnar o ddefnyddiau newydd neu dulliau adeiladu newydd (er enghraifft, defnyddio concrit yn y 19eg Ganrif)
  3. eu gwerth pensaernïol fel y cydnabuwyd hynny gan wobrau lleol neu genedlaethol.
  1. Cyfrannu at gymeriad yr ardal
  1. Adeiladau unigol sy’n cyfrannu’n gadarnhaol tuag at gymeriad yr ardal leol oherwydd eu harddull, dyluniad, addurniadau, y defnydd o ddeunyddiau a chrefftwaith, gan gynnwys adeiladau tirnod sy’n ganolbwynt diddordeb cymdeithasol a gweledol.
  2. Grwpiau o adeiladau sydd gyda’i gilydd yn creu gwerth pensaernïol unedig i’r ardal leol er enghraifft, terasau, sgwariau, buarthau, ffermdai neu rhesi unffurf.
4.2.

Diddordeb a Chysylltiadau Hanesyddol

Efallai na fydd adeiladau sy’n cael eu hystyried oherwydd eu diddordeb neu gysylltiad hanesyddol yn gymwys i’w cynnwys ar y rhestr, os nad ydynt yn ddilys oherwydd eu safon neu arwahanrwydd pensaernïol i gyfiawnhau eu cynnwys fel adeiladau lleol hanfodol.  Mae canllawiau manylach yn Atodiad C.

MAEN PRAWF 2A:

DIDDORDEB HANESYDDOL

Bydd diddordeb hanesyddol adeilad neu grŵp o adeiladau’n cael eu hystyried yn unol â hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, diwydiannol neu filwrol yr ardal.

Yn aml, effeithiodd adeilad unigol ar ddatblygiad ardal, gan chwarae rhan hanfodol efallai wrth lunio cymeriad yr ardal, neu’r amgylchfyd cymdeithasol leol.

Efallai bydd adeiladau fel hyn yn cynnwys eglwysi, capeli, ysgolion, neuaddau pentref a thref, tafarnau, cofgolofnau, gweithleoedd a Wyrcws, a oedd yn ffurfio man canolog neu swyddogaeth gymdeithasol bwysig yn hanes yr ardal neu’n gymdeithasol.

MAEN PRAWF 2B:

CYSYLLTIAD HANESYDDOL

Bydd cysylltiad hanesyddol adeilad neu grŵp adeiladau yn cael ei ystyried yn unol â’r meini prawf â ganlyn:Cysylltiad hanesyddol gyda thystiolaeth o hynny, â rhywun, neu â digwyddiad enwog;

  1. pobl neu ddigwyddiadau o diddordeb cenedlaethol gyda chysylltiad uniongyrchol â nhw;
  2. pobl neu ddigwyddiadau o ddiddordeb lleol gyda chysylltiad hir ac uniongyrchol;
  3. cyfraniad yr unigolyn neu ddigwyddiad i’r ardal;
  4. pwysigrwydd yr adeilad o ran gwaith/dylanwad ar yr unigolyn neu ddigwyddiad dan sylw;
  5. cysylltiad pwysig â rhywun neu ddigwyddiad enwog, yn enwedig os yw’r unigolyn neu ddigwyddiad wedi dylanwadu ar ddigwyddiadau lleol neu genedlaethol yn ystod eu cysylltiad â’r adeilad dan sylw.

« Back to contents page | Back to top