5. Apeliadau, monitro ac adolygu parhaus

5.1.

Yn ôl unrhyw ddiffiniad ‘adeiladau ac adeileddau sy’n bwysig yn lleol’ yw’r rhai hynny  y tybir eu bod yn werth eu diogelu yn y gymuned.  Ond, oherwydd bod yr adeiladau hyn yn nwylo preifat, ystyrir ei fod yn briodol rhoi digon o rybudd ymlaen llaw am y dynodiad i’r perchnogion ac esbonio’r goblygiadau’r dynodiad hynny.  Lle ystyrir bod yr adeiladau dan fygythiad ar unwaith, ni fydd yn bosibl rhoi gwybod ymlaen llaw iddynt a byddwn yn gweithredu camau diogelu cyn gynted ag y bo modd.

5.2.
Os yw’r perchennog yn anghytuno â’r dynodiad, bydd ganddo ef/ ganddi hi hawl i apelio at y pwyllgor cynllunio lleol, ond bydd y sail dros unrhyw apêl yn cael ei chyfyngu i:
  • Nad yw’r adeilad dan sylw yn ateb meini prawf y polisi gan gyflwyno’r dystiolaeth berthnasol.
  • Bod y caniatâd cynllunio neu ganiatâd arall dilys yn weithredol, sy’n caniatáu dymchwel/newid yr adeilad.
5.3.

Bydd apeliadau yn cael eu cyfeirio at y Panel Cadwraeth Ymgynghorol (PCY) i sicrhau annibyniaeth a chysondeb wrth wneud penderfyniadau.  Bydd barn y PCY a pherchennog yr adeilad neu adeiledd sy’n bwysig yn lleol, yn cael ei ystyried yn ofalus gan yr awdurdod cynllunio lleol cyn penderfynu’n derfynol ynglŷn â’r dynodiad.

5.4.

Unwaith y bydd adeilad wedi ei ddynodi, bydd cofnod ffotograffig allanol llawn ohono yn cael ei greu.  Bydd yr adeilad yn cael ei fonitro yn rheolaidd bod dwy i dair blynedd i ganfod a fu unrhyw newidiadau iddo.  Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cofnodi.  Byddwn yn adolygu’r adeilad neu adeiledd sy’n bwysig yn lleol, bob 5-10 mlynedd a bydd yr adeiladau presennol sydd wedi’u newid, neu eu hestyn heb ganiatâd neu heb hawliau datblygu a ganiateir, yn cael eu hadolygu yn unol â meini prawf y polisi. 

5.5.
Nod y polisi yw bod yn glir ac yn gyson ynglŷn â’r broses ddynodi, ar gyfer perchnogion, datblygwyr ac eraill.  Prif nod y polisi yw bod yn eglur ac yn hyderus wrth sicrhau fod pob rhanddeiliaid yn gallu bod yn hyderus ynglŷn â’r dynodiadau a’u disgwyliadau ar unrhyw adeg benodol.

« Back to contents page | Back to top