7. Newidiadau ac Estyniadau
Ac eithrio rhai newidiadau ac estyniadau i anheddau, bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer sawl math o estyniad a newidiadau allanol. Dylid dylunio’r rhain gan ystyried diddordeb pensaernïol a hanesyddol yr adeilad yn ofalus.
Ac eithrio unrhyw ystyriaethau cynlluniau eraill, mewn egwyddor, bydd estyniadau yn dderbyniol ond mae’n rhaid bod yn ofalus ynglŷn â màs, graddfa a safle unrhyw waith newydd yn gysylltiedig â nodweddion penodol yr adeilad neu adeiledd sy’n bwysig yn lleol. Bydd angen ystyried pob agwedd sydd wedi cyfrannu at ddyluniad yr adeilad yn ofalus i sicrhau fod y gwaith newydd neu estyniadau yn cyd-fynd â gweddill yr adeilad neu adeiledd sy’n bwysig yn lleol a’i gyd-destun. Nodwyd hyn yn fras yn y manylion dynodi (gweler Atodiad B). Os oes gennych unrhyw amheuaeth a oes angen unrhyw ganiatâd cynllunio ai peidio, neu unrhyw ganiatâd arall, ar gyfer y gwaith rydych yn dymuno ei wneud, cysylltwch ag Ymholiadau Rheolaeth Ddatblygu (Adran 8 ar y dudalen nesaf), a byddant yn gallu eich cyfeirio’n briodol.