9. Atodiad A

9.1.

Cymeriad a Phensaernïaeth yr Ardal

9.1.1.
Mae ardal ogledd-orllewin Gogledd Cymru sydd yn Sir Conwy dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol iawn. Mae hyn yn amrywio o anheddau ac amddiffynfeydd yr amseroedd cynharaf hyd at waith peirianegol yr 20 ganrif ar dwneli dan Foryd Conwy.
9.1.2.

Mae tirluniau’r Sir hefyd yn amrywiol iawn. Mae’r arfordir yn cynnwys prif drefi – Bae Colwyn, Llandudno, Conwy, Abergele, Penmaenmawr a Llanfairfechan. I’r de o’r trefi hyn mae ardal wledig helaeth, sy’n cynnwys Nant Conwy a bryniau a mynyddoedd Eryri i’r gorllewin a’r ucheldir eang Mynydd Hiraethog i’r dwyrain.

9.1.3.
Nid yw’n rhyfedd felly fod cymaint o amrywiaeth o adeiladau diddorol ac anarferol yn y Sir, sy’n cyfrannu’n sylweddol at ei chymeriad a’i hedrychiad. Mae’r adeileddau hyn hefyd yn ein helpu i ddeall a gwerthfawrogi sut mae’r Sir wedi datblygu a thyfu o’r amseroedd cynharaf hyd at heddiw.
9.1.4.

Mae gwahaniaethau mawr rhwng rhannau gorllewinol a dwyreiniol y Sir. Mae Nant Conwy yn ffin naturiol, sy’n rhannu’r gorllewin mynyddig oddi wrth y rhostiroedd ucheldir mwynach i’r dwyrain.  Mae’r gwahaniaethau hyn yn cael ei hamlygu nid yn unig gan y dirwedd, ond hefyd gan y defnyddiau gwahanol sydd ar gael i adeiladu. Felly, mae gennym lechi a gwenithfaen yn agos at ei gilydd yn y gorllewin, a siâl a’r calchfaen carbonifferaidd yn y dwyrain ar hyd yr arfordir.

9.1.5.
Rhestrwyd adeiladau o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol arbennig gan CADW, yn unol â’r meini prawf a sefydlwyd. Mae’r Sir wedi bod yn ail arolygu’r rhain yn ddiweddar ac mae sawl adeilad wedi eu cynnwys ar y rhestr.
9.1.6.

Ond mae nifer o adeileddau o bob math, er nad ydynt yn ateb pob un o’r meini prawf er mwyn eu cynnwys ar y rhestr, o ddiddordeb lleol sylweddol ac maent yn ymgeiswyr addas i’w cynnwys ar ‘Restr o Adeiladau ac Adeileddau sy’n Bwysig yn Lleol’.  Mae rhestr o’r categorïau eang hyn isod, a gellir gweld yno fod gan y Sir dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol. Ond ni chyfyngwyd treftadaeth y Sir i ystod gyfyngedig o fathau penodol o adeiladau. Dylid gwerthfawrogi a chydnabod y dreftadaeth hon.

9.1.7.

Yn ychwanegol at y categorïau eang a restrwyd isod, mae enghreifftiau da o waith penseiri lleol a rhanbarthol enwog fel Sidney Colwyn Foulkes, Herbert North a John Douglas.

9.2.

Defnyddiau a Dulliau Lleol

9.2.1.

Mae hanes datblygiad pensaernïol yr ardal yn adlewyrchu’r defnyddiau a thraddodiadau adeiladu lleol. Mae dylanwad Eryri yn gryf iawn ar bensaernïaeth y wlad o’r arfordir ac ardaloedd Nant Conwy, lle'r oedd cerrig, coed a llechi ar gael yn rhwydd.

9.2.2.

Mae adeiladau fframiau pren hanesyddol bellach yn gymharol brin, gyda’r rhan fwyaf y bensaernïaeth frodorol cyn y ddeunawfed ganrif yn adeiladau rwbel cerrig.  Cyflwynwyd bric yn fwy cyffredinol i’r Sir yn y ddeunawfed ganrif ond, o’i gymharu â dwyrain Gogledd Cymru, mae adeiladau bric y ddeunawfed ganrif yn gymharol brin ac ni ddaeth bric yn boblogaidd nes ei fod yn cael ei gynhyrchu ar raddfa fawr. Gwella cludiant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ganiataodd i ddefnyddio briciau’n eang i adeiladu.  Parhaodd cerrig i fod yn hoff ddeunydd ar gyfer nifer o adeiladau dinesig a masnachol fel banciau, a oedd am osod naws statws uchel neu bwysig iddynt eu hunain.

9.2.3.

Disodlodd yr adeiladau bric a llechi adeiladau cerrig yn gyflym wrth i ganolfannau masnachol, trefi glan môr, a hyd yn oed bentrefi, ehangu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. I gyd-fynd â defnyddio briciau fel defnydd unlliw neu amryliw, defnyddiwyd teracota a manylion gwaith haearn. Ehangwyd llawer ar aneddiadau arfordirol Bae Colwyn a rhannau o Landudno a Phenmaenmawr gydag adeiladu mewn gwaith bric wedi ei gywasgu a’i gynhyrchu’n lleol. Creodd penseiri nodweddion fel tyrau i dynnu sylw at bwysigrwydd safleoedd fel corneli yn y cynlluniau ehangu trefol hyn.

9.2.4.

Dylanwadwyd ar bensaernïaeth fodern diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ddulliau hanesyddol a gwaith penseiri enwog lleol.

9.2.5.
Er enghraifft, defnyddiodd Herbert North arddull ‘Celf a Chrefft’, gwledig lleol gan ddefnyddio llechi cerrig â chymeriad cryf gyda’r waliau wedi eu chwipio â cherrig mân, e.e. Llanfairfechan.
9.2.6.

Mae dylanwad yr arddull Clasurol hefyd yn amlwg mewn ambell i le yn y Fwrdeistref Sirol, er enghraifft, Llandudno a Phenmaenmawr, lle ddefnyddir stwco wedi’i addurno i greu argraff o uchder a cheinder.  Mae pensaernïaeth fodernaidd gan ddefnyddio waliau gwyn trawiadol a ffenestri llorweddol wedi ei masgynhyrchu yn amlwg, ond ychydig sydd wedi goroesi heb eu newid. Mae’r gwaith haearn a oedd yn nodweddu’r cyfnod Fictoraidd yn parhau i fod yn amlwg, ac roedd yn cael ei ddefnyddio fel addurniadau neu i greu nodweddion amlwg yn Llandudno a Bae Colwyn - lle'r oedd y canopïau a ddarparwyd i roi gorchudd/cysgod yn cael croeso mawr. Nid yw adeiladau sinc fel eglwysi cenhadol, eglwysi ac adeiladau amaethyddol wedi goroesi’n dda, ond bellach, mae'r ychydig adeileddau sydd yn weddill yn amlwg fel adeiladau cymharol brin ac unigryw.

9.3.

Y Mathau o Adeiladau

9.3.1.
Mae’r mathau o adeiladau ac adeileddau ar ôl  yr unfed ganrif ar bymtheg y gellir dod o hyd iddynt yn y Sir yn cael eu hasesu fel a ganlyn ac maent yn cynnwys:
  • Eglwysi a chapeli a mannau addoli eraill, yn enwedig y capeli Cymraeg sydd wedi goroesi yn y trefi ac yng nghefn gwlad.
  • Bythynnod, tai bychain a thyddynnod ac adeiladau cysylltiedig.
  • Plasau a’u hystadau cysylltiedig ac adeiladau’r ystadau.
  • Ystadau diweddarach (e.e. y bedwaredd ganrif ar bymtheg ) a ffermydd enghreifftiol wedi eu cynllunio, porthordai ac ati.
  • Adeiladau amaethyddol traddodiadol, naill ai’n unigol neu’n ffurfio grŵp.
  • Priffyrdd ac adeileddau cysylltiedig, yn enwedig ffordd Llundain - Caergybi Telford, gwelliannau yn ystod yr 1930au i ffordd yr arfordir (twnneli a thraphynt) a Thwnnel Conwy yn y 1990au.
  • Rheilffyrdd, yn enwedig rheilffordd Stephenson o Gaer i Gaergybi a rheilffordd Dyffryn Conwy.
  • Adeileddau’n gysylltiedig â’r diwydiant chwareli a chloddio, fel incleins, rheilffyrdd cul, cytiau, glanfeydd a chludwyr.
  • Adeileddau diwydiannol eraill fel y gamlas at gyn waith Dolgarrog.
  • Adeileddau’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau fel gorsafoedd pwmpio.
  • Tai a phlasau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i’w diwedd, yn enwedig yn Llandudno a Bae Colwyn gan ddangos enghreifftiau nodedig o ddatblygiad y trefi, ac ehangu diweddarach yn y cyfnod Edwardaidd a rhwng y rhyfeloedd.
  • Adeiladau cyhoeddus fel ysgolion, llyfrgelloedd, neuaddau trefi, neuaddau pentrefi, theatrau ac yn y blaen.
  • Enghreifftiau o adeiladau Celf a Chrefft a gwaith penseiri lleol nodedig.
  • Adeileddau sydd wedi goroesi o’r Ail Ryfel Byd fel ‘caerau tanddaearol’, lleoliadau gynau, llochesau rhag bomiau, (e.e. Yr Ysgol Saethu ar y Gogarth) a’r adeileddau hynny ar y Gogarth a Thrwyn y Fuwch, a chofgolofnau’n gysylltiedig â hynny.
  • Adeileddau’n gysylltiedig â’r trefi glan mor – safleoedd band, rhesi pileri, llochesau, cabanau ac yn y blaen.
  • Eraill / amrywiol fel coredau (e.e. Llandrillo-yn-Rhos) a hen lanfeydd (e.e. ym Mae Penrhyn).
  • Adeileddau gardd mewn tiroedd tai mawr a sefydliadau, e.e. tai haf, tai gwydr, gasebos ac yn y blaen.
  • Adeileddau unigryw, e.e. yr obelisg.
  • Mannau neu weithleoedd fel enghreifftiau da o adeiladau ffatrïoedd, storfeydd, gofaint, gweithdai, ac yn y blaen.
9.3.2.

Disgwylir y bydd ymgeiswyr eraill addas yn dod i’r amlwg yn ystod yr arolwg.

« Back to contents page | Back to top