10. Atodiad B
Enghraifft o gofnod ar gofrestr Adeiladau ac Adeileddau sy’n Bwysig yn Lleol
Cymuned | Llangolwyn | Cyfeirnod Grid | 9960359213 |
Dyddiad Dynodi | 6th Mawrth 2011 | Cyferif | 056 |
Dyddiad yr adolygiad diwethaf | |||
Dyddiad yr adolygiad nesaf | 6th Mawrth2016 | ||
Enw | Sefydliad Lleol Bryn | ||
Rhif Stryd/enw'r stryd | Y Stryd fawr | ||
Anheddiad | Bryn | ||
Cod Post | LL58 000 |
Lleoliad
Adeilad ar ei ben ei hun mewn man amlwg yng nghanol y pentref i’r gorllewin o’r gofgolofn.
Hanes a Chysylltiadau Hanesyddol
Cyflwynwyd y Sefydliad, sy’n cynnwys llyfrgell ac ystafelloedd cyfarfod, i’r gymuned gan William Horace Striker, Vesta House yn 1905. Adeiladwyd y sefydliad rhwng 1908-1910. Fred Burns o Gaer oedd y pensaer.
Dywedir fod adeilad y sefydliad wedi’i adeiladu ar safle ysgubor degwm oesoedd canol plas Haulfryn, ac mae ychydig o ddarnau ohoni wedi goroesi yn y cefn.
Mae’r Sefydliad wedi bod yn rhan ganolog o hanes y pentref a’i fywyd ers ei adeiladu. Defnyddiwyd y Sefydliad i letya byddin y tir yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y pla Traed a’r Genau defnyddiwyd y Sefydliad fel Canolfan Gweithredu Gogledd Cymru DEFRA.
Disgrifiad
Adeiladwyd y llawr cyntaf gyda briciau coch Rhiwabon gydag wynebau wedi’u cywasgu gyda llin-gyrsiau wedi’u mowldio mewn teracota melyn cyferbyniol. Deulawr gyda thoeau llechi a theils crib glaslwyd ag uniad bôn. Simneiau addurnedig bric a manylion teracota gyda bandiau amlwg yn sefyll allan mewn dull Tuduraidd hanesyddol gyda chyrn simneiau coch crwn byr. Gosodwyd dwy yn anghymesur ar bennau crib y prif do talcennog. Cwpola canolog gyda chloc Fictoraidd cain Barmfords of Bryn (nad yw’n gweithio) yn y tu blaen.
Mae’r drychiadau blaen yn gymesur gyda dau fae bob ochr i’r brif fynedfa, sy’n agoriad gyda bwa â phedwar canol a chanopi cwfl plwm uwch ei ben. Drysau dwbl estyllod derw llydan trwm gyda stydiau yn y fynedfa . Mae’r arysgrif a ganlyn mewn teracota uwchben yr agoriad bwa - ond o dan y canopi: “Built by subscription in 1910 by William Horace Striker and the Workers of the Bryn Matchstick Factory for the spiritual and cultural benefit of the Residents of Bryn”
Dau fae bric tebyg i’w gilydd mewn arddull Tuduraidd gyda physt ffenestri a thrawslathau bric a ffenestri plwm â phatrwm petryal iddynt. Y balconi gwreiddiol uwch ben y fynedfa ar goll ac wedi ei ddisodli gan ffenestr pren meddal plaen y 1960au . Llin-gyrsiau’r baeau yn cyd-fynd â’r waliau gan orffen mewn bandiau melyn allweddol a disg teracota ar y talcen. Addurn ar goll o dalcen y bae gogleddol. Gosodwyd ffenestri Upvc yn y bae gogleddol a thair ffenestr Upvc arall ar y llawr cyntaf. Dim ffenestri i’r drychiadau ochr bric sy’n cyd-fynd â bandiau’r tu blaen. Mae estyniad deulawr to fflat yn yr ochr ogleddol gyda ffenestri pictiwr metel. Rendrad modern patrwm gwead ar waliau’r estyniad sy’n dod yn rhydd ar y drychiadau blaen ac ochr.
Adeiladwyd y drychiad cefn o gerrig llanw ar hap gydag olion hen byst cerrig nadd y ffenestri sydd bellach wedi’u gorchuddio. Dwy ffenestr godi pren corniog wedi’u gosod i’r llawr gwaelod a drychiad deheuol y llawr cyntaf . Drws canolog pren pedwar paen wedi’i baentio gyda ffenest linter.
Cyntedd gwych gyda phaneli derw a nenfwd plaster arddull ‘Tuduraidd’ – ystafell ddarllen y prif lyfrgell yn debyg, placiau i WH Striker a DEFRA a dathliadau’r mileniwm yn y cyntedd.
Nodweddion pwysig
Mae’r arddull cyffredinol y bensaernïaeth yn atgynhyrchiad safon uchel o’r dull Tuduraidd gyda dehongliad Edwardaidd ohono, ac mae’n nodweddiadol ac yn ganolbwynt pwysig yn anheddiad Bryn sydd wedi newid llawer a’i ehangu.
Mae’r to a nodweddion y to, yn enwedig y cloc a’r cwpola yn nodweddion amlwg o ddiddordeb yn y pentref. Mae holl ddefnyddiau’r to yn wreiddiol ond maent mewn cyflwr gwael . Prif nodweddion pwysig y drychiadau blaen yw safon y briciau a’r gwaith briciau, manylion y teracota, y baeau a’r drysau mynediad canopi a’u manylion. Nid yw pensaernïaeth yr estyniad diweddaraf i’r de yn cyd-fynd â safon uchel na safon defnyddiau, manylion a chyfansoddiad pensaernïol cyffredinol yr adeilad Edwardaidd. Mae cyfle i atgyweirio a gwella’r nodwedd hwn ac nid yw’r ffenestri newydd yn cyd-fynd â’r adeilad hŷn. Mae’r cloc a’i gwpola wedi ei difrodi a byddai’n braf petaent yn cael eu trwsio a’u hadfer. Roedd y libart yr adeilad unwaith wedi ei gau a’i osod y gyd-fynd a phwysigrwydd dinesig y cyfleuster.
Rheswm (Rhesymau) dros ei Ddynodi
Wedi ei gynnwys fel adeilad dinesig amlwg a chanolbwynt mewn arddull hanesyddol Edwardaidd. Cysylltiad agos â’r teulu Striker a oedd yn bwysig yn lleol a sefydlodd prif ddiwydiant ar gyfer y pentref a’r ardal gyfagos yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r arddull pensaernïol a nodweddion yr adeilad yn nodweddiadol o adeiladau safon uchel roedd arloeswyr lleol a’u penseiri’n ymgeisio ei gyrraedd yn y cyfnod Edwardaidd.
Goblygiadau Dynodi
Nid yw’r adeilad yn cael budd o’r Hawliau Datblygu a Ganiateir, ac felly bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith bychan a newidiadau sy’n effeithio edrychiad drychiadau allanol yr adeilad yn sylweddol. Mae datblygiadau mwy sylweddol yn cynnwys yr estyniadau, sy’n cael eu rheoli gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref. Bydd dymchwel yr adeilad yn y dyfodol yn cael ei reoli gan Gyfarwyddyd dan y Rheoliadau Cynllunio.
Amcan dynodi’r adeilad yw cadw rhannau Edwardaidd yr adeilad, a phetai cyfle i atgyweirio ac adnewyddu ei ddrychiadau a’i nodweddion. Mae’r prif ystafelloedd mewnol gan gynnwys y cyntedd, yr ystafell ddarllen a’r ystafell gyfarfod ar y llawr cyntaf wedi eu haddurno’n gain ac maent yn ystafelloedd trawiadol y dylid eu cadw ond gan ganiatáu eu haddasu i hwyluso defnyddio’r adeilad yn yr unfed ganrif ar hugain.
Dylid ystyried libart yr adeilad yn ofalus petai cynigion i atgyweirio a buddsoddi yn yr adeilad yn y dyfodol. Mae modd cyflawni llawer trwy adfer y wal derfyn yn y tu blaen.
Dylid cyfeirio at dystiolaeth hanesyddol, e.e. lluniau a dogfennau eraill a cheisiadau cynllunio’r gorffennol, i sicrhau newidiadau sensitif yn y dyfodol.
Cyfeiriadau
“Strike a Light – A History of Bryn and Matchstick Making 1860 – 1930” gan Fred Burns (1939)