11. Atodiad C

11.1.

Nodiadau esboniadol i gyd-fynd â Maen Prawf A – Diddordeb Pensaernïol

  • Oherwydd bod adeiladau ar y rhestr leol i’w cynnwys oherwydd eu nodweddion pensaernïol ffisegol yn bennaf, dyma’r ystyriaeth gyntaf a’r brif ystyriaeth wrth lunio’r rhestr.
  • Ystyrir y diddordeb pensaernïol ac estheteg trwy asesu pwysigrwydd yr adeilad i’r amgylchfyd lleol yn rhinwedd eu harddull, dyluniad, addurniadau, y defnydd o ddefnyddiau a’u crefftwaith.  Efallai bydd eu cynlluniau arbenigol hanesyddol hefyd yn bwysig.  Efallai eu bod yn enghreifftiau pwysig o ddulliau adeiladu lleol neu’n enghreifftiau unigryw o waith penseiri/dylunwyr rhanbarthol.
  • Adeiladau sydd wedi goroesi yn eu cyflwr gwreiddiol mwy neu lai, ac yn cael blaenoriaeth wrth eu dewis.
  • Yn annhebyg i adeiladau rhestredig, gellir dewis adeiladau sy’n bwysig yn lleol oherwydd gyda’i gilydd maent yn enghreifftiau da o’r arddull leol.  Lle mae’n anorfod bod adeiladau rhestredig yn esiamplau gorau o’u dull pensaernïol, gellir dewis adeiladau lleol fel grŵp o adeiladau o safon uchel ac unigryw sy’n haeddu eu diogelu oherwydd eu cymeriad, ei arwahanrwydd, a’u pwysigrwydd i ardal leol neu’r Fwrdeistref Sirol drwyddi draw.
  • Enghreifftiau da fyddai mathau penodol o adeiladau, fel adeiladau amaethyddol, ystadau gwledig, tai trefol, cludiant diwydiannol, addysgiadol, eglwysig a chyfnod y rhyfel.  Efallai eu bod yn adlewyrchu tueddiadau technolegol pwysig a chredoau. O archwilio dyluniad a chynllun yr adeiladau, gellir canfod dylanwadau cymdeithasol, economaidd, milwrol neu ddiwylliannol lleol.
  • Mae unrhyw adeilad cyn 1840 sydd wedi goroesi’n gyflawn yn debygol o gael ei restru.  Rhagwelir felly y bydd y rhan fwyaf o adeiladau ac adeileddau sy’n bwysig yn lleol yn cynnwys adeileddau ôl 1840.  Ond, efallai bod adeiladau eraill ar gael, sydd wedi cael eu hystyried ar gyfer eu cynnwys ar y rhestr ond sydd wedi methu o drwch blewyn i gyrraedd y safonau manwl sydd eu hangen.  Gellir ystyried adeiladau rhestredig Gradd 3 nad ydynt bellach wedi eu dynodi, ar gyfer eu dewis.
  • Efallai na fydd adeiladau sy’n cael eu hystyried oherwydd eu diddordeb neu gysylltiad hanesyddol, yn addas i’w cynnwys os nad ydynt yn ddilys, o safon uchel neu fod eu pensaernïaeth yn unigryw fel y prif adeiladau lleol.
  • Bydd cysylltiadau hanesyddol hir gyda dogfennau i brofi hynny’n cryfhau eu hachos i’w cynnwys ar y rhestr.  Efallai mai dyma fydd y ffactor a fydd yn penderfynu hynny yn y pendraw, ond mewn achosion fel hyn mae rhaid mai’r cysylltiad hanesyddol yw’r prif ddiddordeb mawr.  Ond, byddai o fantais petai nodweddion allanol/mewnol pensaernïol yr adeiladau yn cyd-fynd â chysylltiad â phobl neu â digwyddiadau mewn rhyw fodd.
  • Bydd edrychiad allanol adeilad, o ran ei ddiddordeb pensaernïol unigol a’i werth fel grŵp ehangach, fel arfer yn holl bwysig wrth ei ddewis ai peidio.  Ond, efallai bydd achosion anaml lle byddai diddordeb mewnol yr adeiladau, yn enwedig y rhai hynny sy’n caniatáu mynediad cyfyngedig i’r cyhoedd neu fynediad ehangach, yn haeddu cael eu cynnwys.  Efallai bod yr adeiladau hyn yn dangos nodweddion penodol y gymdeithas leol neu hanes economaidd.  Bydd angen elfen o ddiddordeb allanol o hyd er mwyn iddynt fod yn gymwys i fod ar y rhestr.  Os yw adeilad yn cael ei ddewis, y gobaith ar gyfer y tymor hir yw gwella edrychiad allanol yr adeilad trwy drafodaethau.  Gellir gwella adeiladau hefyd gyda chymorthdaliadau, os ydynt i’w cael.

« Back to contents page | Back to top