1. Cyflwyniad

1.1.

Pwrpas yr SPG

Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol (SPG) Rhwymedigaethau Cynllunio hwn wedi ei baratoi ar gyfer pwrpasau ymgynghori cyhoeddus, ochr yn ochr â Chynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig Conwy i’w archwilio gan y cyhoedd.  Pan fydd sylwadau wedi eu hystyried, y bwriad yw y bydd yr SPG yn cael ei fabwysiadu ar gyfer defnydd rheoli datblygu wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau cynllunio.
1.2.

Mae Canllawiau Cynllunio Atodol wedi eu paratoi i roi arweiniad pellach ynglŷn â sut y bydd polisïau a chynigion yn y Cynllun Datblygu presennol yn cael eu gweithredu.  Mae’r SPG hwn yn ategu polisïau DP/4 a DP/5 Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w archwilio gan y cyhoedd ac yn rhoi arweiniad ynglŷn ag amgylchiadau lle bydd angen i ddatblygwr ymrwymo i rwymedigaeth cynllunio ac agwedd y Cyngor mewn perthynas â thrafod, drafftio, gweithredu ac yna monitro rhwymedigaethau cynllunio. 

1.3.

Bwriad rhoi’r cyngor hwn yw sicrhau fod y broses o drafod, cytuno a monitro rhwymedigaeth cynllunio yn deg ac yn amlwg i unigolion sy’n cymryd rhan yn y system gynllunio.

1.4.

Statws a Pharatoi’r SPG

Nid yw’r SPG hwn yn rhan o’r Cynllun Datblygu mabwysiedig.  Ond, pan fydd wedi ei fabwysiadu, bydd yr SPG yn ystyriaeth bwysig wrth wneud penderfyniadau am geisiadau ac apeliadau cynllunio

1.5.

Bydd y ddogfen drafft yn destun ymarfer ymgynghori 6 wythnos fydd yn cynnwys pob unigolyn â diddordeb.  Bydd y sylwadau yn cael eu hystyried gan yr Awdurdod Cynllunio a, lle bo’n briodol, bydd newidiadau yn cael eu gwneud yn unol â’r sylwadau a gafwyd.  Bydd fersiwn derfynol yr SPG yn amodol ar benderfyniad gan y Cyngor.

1.6.
Mae’r SPG hwn wedi ei baratoi yn unol â’r polisïau a’r canllawiau a nodwyd yn:- 
  1. Cylchlythyr Swyddfa Gymreig 13/97: Rhwymedigaethau Cynllunio
  2. Rheoliadau Ardoll Isadeiledd Cymunedol 2010
  3. Polisi Cynllunio Cymru (2010) 
  4. Cynlluniau Datblygu Lleol Cymru (2005)
  5. Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd
  6. Prif Gynllun Bae Colwyn
1.7.

Bydd yr SPG yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru fel sy’n briodol, bob dwy flynedd

1.8.

Mathau a Defnydd y Rhwymedigaethau Cynllunio

Mae gan rwymedigaethau cynllunio swyddogaeth bwysig yn y system gynllunio.  Gallant helpu i ddatrys problemau cynllunio gwirioneddol a gwella ansawdd datblygiad a’i gyfraniad i ardal benodol.
1.9.

Mae dau fath o rwymedigaeth cynllunio:- 

  1. Cytundeb Adran 106 – y bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’r datblygwr yn ymrwymo iddo.
  2. Ymrwymiad unochrog – ymrwymiad gan y datblygwr yn unig.
1.10.
Mae rhwymedigaeth cynllunio yn gytundeb cyfreithiol sydd fel arfer yn berthnasol i deitl y tir yn hytrach na’r unigolyn sy’n ymrwymo i’r cytundeb.  Mae rhwymedigaethau cynllunio felly yn cael eu gorfodi yn erbyn perchnogion dilynol y tir, yn ogystal â’r unigolyn gwreiddiol.  Fel arfer bydd rhwymedigaethau yn cael eu trafod yng nghyd-destun rhoi caniatâd cynllunio a byddant yn cael eu defnyddio i sicrhau darpariaethau i alluogi datblygu tir sydd ddim yn addas ar gyfer rhoi amod ar y caniatâd cynllunio.
1.11.

Gall gyfraniadau gynnwys y canlynol:- 

  1. Cyfraniadau heb fod yn ariannol – Bydd y datblygwr yn gwneud y gwaith yn uniongyrchol.
  2. Cyfraniadau Ar y Safle/Oddi ar y Safle – Bydd y datblygwr yn cyfrannu yn ariannol tuag at ddarparu mesurau fydd yn lliniaru effeithiau niweidiol y datblygiad.
  3. Cyfraniadau Cynnal - Bydd y datblygwr yn cyfrannu’n ariannol tuag at gynnal y cyfleusterau y maent wedi eu hariannu neu ddarparu.
  4. Cyfraniadau ar y Cyd – Gall y Cyngor geisio uno cyfraniadau gan fwy nag un datblygwr yn y Fwrdeistref Sirol, er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau ehangach mewn datblygiadau.
1.12.

Cefndir a Chanllawiau Deddfwriaethol

Y sail ddeddfwriaethol ar gyfer rhwymedigaethau cynlluniau fydd Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (wedi ei ddiwygio gan Adran 12 Deddf Cynllunio ac Iawndal 1991).  Mae Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 13/97 yn rhoi arweiniad ar gyfer defnyddio rhwymedigaeth cynllunio yng Nghymru ac mae rhagor o gyngor cefndir ar gael ym Mholisi Cynllunio Cymru (2010).

1.13.

Mae Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 13/97 yn pwysleisio y bydd rhwymedigaethau cynllunio yn cael eu paratoi a’u gweithredu yn unol â’r egwyddor sylfaenol na all ganiatâd cynllunio gael ei brynu na’i werthu.  Mae’r Cylchlythyr yn nodi fod yr egwyddor fwyaf perthnasol pan fydd trafodaethau yn cael eu cynnal mewn modd teg, agored a rhesymol.  Bwriad yr SPG yw sicrhau y gellir cyflawni’r gofynion pwysig hyn yng Nghonwy.

1.14.
Mae Cylchlythyr 13/97 yn nodi pum prawf sydd rhaid eu bodloni wrth geisio rhwymedigaeth cynllunio.  Mae’r profion hyn, sydd wedi eu hystyried wrth baratoi’r SPG hwn, yn nodi fod rhaid i rwymedigaethau fod yn:- 
  1. angenrheidiol i wneud y datblygiad bwriedig yn dderbyniol o ran cynllunio;
  2. yn ymwneud yn uniongyrchol â’r datblygiad bwriedig;
  3. yn deg ac yn rhesymol o ran graddfa i’r datblygiad bwriedig;
  4. yn berthnasol i gynllunio;
  5. yn rhesymol ym mhob agwedd arall.
1.15.

Ym mis Ebrill 2010, cyhoeddwyd y Rheoliadau Ardoll Isadeiledd Cymunedol gan y Llywodraeth, sy’n rhoi pŵer i awdurdodau lleol godi ffi am gostau isadeiledd ar y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd.  Mae’r Rheoliadau yn cael gwared â phrofion 4 a 5 o’r rhestr uchod, gan roi mwy o bwyslais ar brofion 1 i 3 yn y Cylchlythyr Swyddfa Gymreig.

1.16.
Wrth baratoi’r SPG hwn, mae Cyngor Conwy hefyd wedi adlewyrchu ar, ac ystyried, cyngor y Llywodraeth na ddylai rhwymedigaethau cynllunio ddyblygu amodau cynllunio.  Os oes dewis rhwng defnyddio amod a rhwymedigaeth, bydd ffafriaeth yn cael ei roi i amod cynllunio sy’n rhoi hawl i ddatblygwr apelio ac sy’n manteisio o fod â sail symlach ar gyfer diwygio neu ddiddymu.  Mae hefyd yn rhoi mecanwaith gorfodi cadarnach i’r awdurdod cynllunio lleol os na fydd darpariaethau’r amod yn cael eu bodloni yn llawn.   Os gofynnir am rwymedigaeth cynllunio, mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei wneud yn ofynnol i’r partïon weithio i sicrhau cytundeb buan i osgoi oedi diangen yn y broses cynllunio.
1.17.

Gellir addasu neu ddiddymu rhwymedigaeth cynllunio trwy gytundeb rhwng yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’r unigolyn/unigolion y mae’r rhwymedigaeth yn ymwneud â nhw neu trwy wneud cais i’r awdurdod bum mlynedd wedi dyddiad y rhwymedigaeth.

« Back to contents page | Back to top