2. Cyd-destun Polisi

2.1.

Polisi Cynllunio Cymru (Gorffennaf 2010)

Mae polisi cynllunio ar ddefnydd tir presennol wedi ei gynnwys ym Mholisi Cynllunio Cymru sy’n rhoi’r fframwaith polisi strategol ar gyfer paratoi cynlluniau datblygu awdurdodau cynllunio lleol yn effeithiol.  Mae Polisi Cynllunio Cymru wedi ei ategu gan 21 o Nodiadau Cyngor Technegol sy’n seiliedig ar destunau.

2.2.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cynnwys cyfeiriad penodol at rwymedigaethau cynllunio ond, yn bennaf, mae hyn yn adlewyrchu materion cyfreithiol yng Nghylchlythyr 13/97, fel y nodwyd yn Adran 3.

2.3.

Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi polisïau a chynigion y Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir tan 2022.
2.4.

Mae gofyniad y Cyngor am gytundebau cynllunio wedi ei amlinelli ym Mholisïau CDLl DP/4 – Meini Prawf Datblygu a DP/5 – Isadeiledd a Datblygiadau Newydd.  Mae’r polisïau hyn yn cefnogi Amcan Gofodol CDLl SO13:-

Gwella mynediad at wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, gan gynnwys mannau agored, iechyd, addysg a hamdden. 

2.5.

Mae Polisi CDLl DP/4 yn ei gwneud yn ofynnol i gynigion datblygu ddarparu, lle bo’n briodol, yn unol â pholisïau’r Cynllun a Safonau’r Cyngor: tai fforddiadwy, mannau parcio ceir, mannau agored, mynediad diogel i gerbydau, beicwyr a cherddwyr.  Hefyd wedi ei nodi mae’r angen am gyfraniadau ariannol tuag at ddarparu a chynnal isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau sydd eu hangen gan y datblygiad.

2.6.

Mae Polisi CDLl DP/5 yn nodi y bydd disgwyl i bob datblygiad newydd, lle bo’n briodol, wneud cyfraniad digonol tuag at isadeiledd newydd i ddiwallu’r gofynion isadeiledd cymdeithasol, economaidd, ffisegol a/neu amgylcheddol ychwanegol sy’n deillio o’r datblygiad neu waith cynnal a chadw'r cyfleusterau yn y dyfodol.  Gofynnir am gyfraniadau yn unol â blaenoriaethau’r Cyngor a nodwyd yn y Canllawiau Cynllunio Atodol Rhwymedigaethau Cynllunio.

2.7.
Gall gynigion ar gyfer datblygu yng Nghonwy sydd wedi gwneud trefniadau addas ar gyfer gwella neu ddarparu isadeiledd gwasanaethau a chyfleusterau ar y safle ac oddi ar y safle, sydd eu hangen gan y datblygiad ac ar gyfer eu cynnal yn y dyfodol, gynnwys y canlynol ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr: 
  1. Tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol;
  2. Deunydd adeiladu/wyneb;
  3. Tirweddu;
  4. Parcio ceir a beiciau;
  5. Mynediad diogel a chyfleus ar gyfer cerddwyr, beicwyr a cherbydau;
  6. Gwasanaethau a chyfleusterau cludiant cyhoeddus;
  7. Rheoli trafnidiaeth a lleihau tagfeydd;
  8. Draeniad dŵr wyneb a dŵr budr a chyrsiau dŵr;
  9. Systemau draeniad trefol cynaliadwy;
  10. Risg llifogydd;
  11. Llygredd sŵn, goleuadau, dirgrynu, arogl, gollyngiadau a llwch;
  12. Storio ac ailgylchu gwastraff;
  13. Llygru a chyflwr tir;
  14. Adeiladu cynaliadwy;
  15. Defnyddio ynni adnewyddadwy;
  16. Lleihau cyfleoedd troseddu;
  17. Cynllun a dyluniad (gan gynnwys Celf Cyhoeddus);
  18. Cyfleusterau addysg (gan gynnwys darpariaeth llyfrgell a chynnal ysgolion presennol);
  19. Mannau agored gan gynnwys mannau chwarae;
  20. Cyfleusterau cymunedol a hamdden (gan gynnwys cynnal lotment);
  21. Gwasanaeth Tân
  22. Hawliau Tramwy Cyhoeddus
  23. Bioamrywiaeth (gan gynnwys Cytundebau Rheoli)
2.8.

Mae Polisi DP/5 yn nodi na ddylid datblygu cyn sefydlu’r isadeiledd sydd ei angen gan breswylwyr ac yn pwysleisio y bydd datblygiad yn cael ei ganiatáu dim ond pan fydd cytundeb wedi ei sefydlu rhwng y partïon perthnasol ynglŷn ag ariannu a gweithredu darpariaeth angenrheidiol ar y safle ac oddi ar y safle fel y nodwyd ym Mholisïau DP/4 a DP/5.

2.9.
Mae meysydd polisi ychwanegol yn y CDLl sy’n darparu cyd-destun mwy cyffredinol ar gyfer rhwymedigaethau cynllunio cefnogol, gan gynnwys:-
  1. Polisi HOU/2 – Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol;
  2. CFS/1 – Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol;
  3. CFS/10 – Lotments Newydd;
  4. Polisi CFS/11 – Datblygiad a Mannau Agored;
  5. Polisi STR/1 – Cludiant Cynaliadwy, Datblygu a Mynediad;
  6. Polisi STR/3 – Lliniaru Effaith Teithio;
  7. Polisi NTE/1 – Yr Amgylchedd Naturiol;
  8. NTE/4 – Bioamrywiaeth;
  9. CTH/2 – Datblygiad sy’n Effeithio Asedau Treftadaeth;
  10. CTH/3 – Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol;
  11. DP/3 – Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd; a,
  12. DP/9 – Prif Gynllun Bae Colwyn.
2.10.

Mae detholiadau perthnasol CDLl Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd wedi eu nodi yn Atodiad 1.

« Back to contents page | Back to top