3. Ystyriaethau Trefniadol

3.1.

Mathau o Rwymedigaethau Cynllunio

Gall rhwymedigaeth cynllunio fod ar ffurf Cytundeb Adran 106 (neu ddwyochrog) neu Ymrwymiad Unochrog.  Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y bydd y Cyngor yn ceisio cwblhau rhwymedigaethau cynllunio trwy gytundeb (Adran 106).  Ond, cydnabyddir y bydd amgylchiadau lle mai dim ond y datblygwr sydd angen ymrwymo i’r cytundeb, heb ymrwymiad gan yr awdurdod cynllunio lleol.  Mewn achosion o’r fath, byddai’n well gan y Cyngor i’r datblygwr gynnig Ymrwymiad Unochrog. 

3.2.

Sbardunau Rhwymedigaeth Cynllunio

Er y gall bob cynnig datblygu gynhyrchu’r angen am isadeiledd a chyfleusterau ychwanegol, efallai na fydd cyfraniad i fynd i’r afael â’r effaith posibl yn cael ei ystyried oherwydd graddfa’r datblygiad a’r effaith tebygol ar gapasiti.

3.3.

Wrth asesu’r angen am rwymedigaeth cynllunio, mae angen rheoli graddfa a chwmpas unrhyw gyfraniad i wneud yn siŵr nad yw’n atal datblygiad priodol.

3.4.

Bydd trothwyon yn cael eu defnyddio yn aml ac yn effeithiol fel sbardun i drafod rhwymedigaethau cynllunio.  Er enghraifft, gall gynigion sy’n fwy na maint penodol (nifer o anheddau neu arwynebedd) gynhyrchu’r angen am rwymedigaeth cynllunio a byddai’r Cyngor yn ceisio trafod cyfraniadau angenrheidiol gyda’r ymgeiswyr.  Dylai trothwyon o’r fath adlewyrchu amgylchiadau lleol a dylid eu defnyddio i reoli blaenoriaethau’r Cyngor mewn perthynas â’r ystod materion rhwymedigaethau cynllunio posibl.

3.5.

Mae defnyddio trothwyon ffurfiol i sbarduno rhwymedigaethau cynllunio yn sicrhau gwell eglurder ac yn caniatáu asesu cyfraniadau posibl ymlaen llaw, a rhoi gwell sicrwydd i ddatblygwyr.

3.6.

Proses ar gyfer Trafod Rhwymedigaethau Cynllunio

Bydd pob ymgeisydd a’u hasiantau yn cael eu hannog i drafod eu cynigion datblygu gyda’r awdurdod cynllunio lleol cyn iddynt gyflwyno cais cynllunio ffurfiol.  Gall trafodaeth cyn cais dynnu sylw at effaith tebygol y datblygiad, ac awgrymu ffyrdd o’i liniaru.  Bydd ymgeiswyr hefyd yn cael eu hannog i drafod a chytuno ar benawdau telerau adran 106 drafft yn y cam cyn cais lle bynnag y bo’n bosibl, er mwyn drafftio rhwymedigaeth pan fyddant yn cyflwyno eu cais.  Ni fydd unrhyw drafodaeth neu gytundeb drafft yn dylanwadu ar benderfyniad terfynol y Cyngor ar unrhyw gais.  Fel arall, bydd y gofynion isadeiledd yn cael eu nodi pan fydd ceisiadau yn cael eu cyflwyno.  Gellir cael ffurflen cyngor cyn cais ar lein yn:

www.conwy.gov.uk/taifforddiadwy.
3.7.

Y swyddog achos Awdurdod Cynllunio Lleol fydd y prif gyswllt ar gyfer trafodaethau ac fel arfer byddant yn cynnal pob trafodaeth os na fydd angen cyfraniad gan arbenigwyr (e.e. cynrychiolwyr cyfreithiol).  Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i ymgeiswyr sut y bydd yn cael yr isadeiledd angenrheidiol (trwy Ymrwymiad Unochrog neu gytundeb Adran 106) a phwy fydd yn rhan o hyn.  Argymhellir y dylid cael cyngor cyfreithiol cyn ymrwymo i rwymedigaeth cynllunio.

3.8.

Mae’n rhaid darparu tystiolaeth o’r teitl a manylion cyfreithiwr yr ymgeisydd mewn perthynas â’r cytundeb i’r Cyngor cyn gynted â phosibl yn y broses.  Bydd angen i bob unigolyn sydd â chysylltiad yn y tir fod yn rhan o unrhyw gytundeb Adran 106 perthnasol, ac mae’n rhaid i’r ymgeisydd hefyd roi gwybod a chynnwys landlordiaid ac unrhyw un â chysylltiad yn y tir, fel banc sy’n gyfrifol am forgais, yn fuan yn y broses. Bydd rhaid i’r Cyngor gael manylion llawn bob parti sydd yn rhan o’r cytundeb.

3.9.

Bydd y swyddog achos yn gyfrifol am gydlynu trafodaethau gyda phartïon â chysylltiad fel tai, priffyrdd, addysg ayb i osgoi sefyllfa lle bydd un adran yn ymuno â’r trafodaethau yn ddiweddarach.  Bydd agwedd partneriaeth at gyfraniadau yn cael ei geisio o’r broses drafod.

3.10.
Os yw’n bosibl, bydd y Cyngor yn defnyddio’r cymalau model safonol a baratowyd gan Bwyllgor Cyfraith Cynllunio ac Amgylcheddol Cymdeithas y Gyfraith yn unrhyw gytundeb cyfreithiol drafft (Atodiad 2).
3.11.

Dan amgylchiadau arferol, dylid cael dealltwriaeth mewn egwyddor am y cyfraniad ariannol a’r Telerau cyn cyflwyno’r cais cynllunio i’r Pwyllgor.  Bydd Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Conwy fel arfer yn cael cyfarwyddyd i lunio rhwymedigaeth cynllunio dim ond pan fydd penderfyniad i roi caniatâd cynllunio wedi ei wneud gan Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor.  Ond, bydd rhai penderfyniadau wedi eu dirprwyo hefyd yn amodol ar y gofynion hyn.

3.12.

Blaenoriaethu Rhwymedigaethau

Yn unol â chanllawiau cynllunio cenedlaethol, gofynnir am rwymedigaethau cynllunio i liniaru effeithiau'r datblygiad (h.y. i wneud y datblygiad bwriedig yn dderbyniol mewn amodau cynllunio).  O ganlyniad, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau fod pob gofyniad rhesymol a nodwyd yn yr SPG hwn yn cael eu sicrhau ar gyfer pob datblygiad. 

3.13.
Ond, derbynnir mewn amgylchiadau eithriadol y bydd sefyllfaoedd lle bydd gofynion datblygu rhesymol yn effeithio ar hyfywdra cynllun.  Lle gall ymgeisydd ddangos y bydd rhwymedigaeth cynllunio yn cael effaith niweidiol ar hyfywdra datblygiad, bydd y Cyngor yn trafod rhwymedigaethau yn y drefn flaenoriaeth ganlynol: - 
  1. Gwaith sydd ei angen i sicrhau amgylchedd diogel ar gyfer y gymuned a phreswylwyr y datblygiad bwriedig yn y dyfodol (e.e. trefniadau mynediad boddhaol, gwelliannau priffordd oddi ar y safle, atal risg llifogydd).
  2. Yn achos datblygiadau preswyl, darparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion y gymuned leol.
  3. Mesurau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion preswylwyr y datblygiad bwriedig yn y dyfodol lle bydd methiant i ddarparu’r mesur yn arwain at effeithiau annerbyniol ar y gymuned leol (e.e. darpariaeth mannau agored cyhoeddus, addysg, darpariaeth gofal iechyd). 
  4. Mesurau sydd eu hangen i liniaru effaith y datblygiad bwriedig ar y gymuned leol neu faterion sydd o bwysigrwydd cydnabyddedig (e.e. yr amgylchedd naturiol neu adeiledig).
3.14.

Bydd y dewisiadau yn adlewyrchu amgylchiadau’r safle, y defnydd tir bwriedig, graddfa’r datblygiad bwriedig a materion sy’n wynebu’r gymuned leol

3.15.

Dechrau’r Rhwymedigaethau

Mae rhwymedigaethau cynllunio fel arfer yn amodol ar roi caniatâd cynllunio a dechrau datblygu.  O ganlyniad, mae’n rhaid ymrwymo i rwymedigaeth cynllunio cyn rhoi caniatâd cynllunio. 
3.16.

Os oes angen, bydd y Cyngor yn gwneud penderfyniad i roi caniatâd cynllunio yn amodol ar gwblhau rhwymedigaeth cynllunio.  Mewn amgylchiadau o’r fath, ni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi yn ffurfiol (ac ni all datblygiad ddechrau yn gyfreithiol) nes y bydd y rhwymedigaeth gynllunio wedi ei chwblhau.

3.17.

Darpariaethau Ariannol

Bydd angen i ddatblygwyr dalu costau’r Cyngor wrth drafod, drafftio a chwblhau rhwymedigaethau cynllunio gan gynnwys unrhyw gostau angenrheidiol sy’n deillio o’r angen i gomisiynu ymgynghorwyr i adolygu asesiadau ac astudiaethau technegol a gyflwynwyd fel rhan o unrhyw gais gynllunio.  Byddai hyn yn cynnwys y costau sy’n gysylltiedig â phrisiadau llyfr agored annibynnol.
3.18.

Bydd cyfraniadau yn cael eu talu yn gyffredinol ar ddechrau’r datblygiad os na chytunwyd fod cam datblygu arall yn briodol ac yn dderbyniol.  Ar gyfer cynigion graddfa fwy, bydd y Cyngor (lle bo’n briodol) yn ystyried taliadau fesul cam.  Mewn achosion o’r fath, mae’n rhaid i rwymedigaeth cynllunio nodi camau ac amseru'r taliadau.

3.19.

Bydd taliadau (lle bo’n briodol) yn gysylltiedig â’r ‘All in Tender Price Index’ a gyhoeddwyd gan BCIS, neu’r Indecs Pris Adwerthu os nad yw hwn ar gael, o’r dyddiad cytundeb.  Bydd pob cyfraniad yn cael ei gadw gan y Cyngor mewn cyfrif llog a gellir ei weld yn unigol bob amser.  Bydd unrhyw gyfraniadau sydd heb eu gwario ar ddiwedd y cyfnod a nodwyd yn y rhwymedigaeth cynllunio yn cael eu dychwelyd i’r unigolyn gydag unrhyw log, ar gais yr unigolyn, os na nodwyd fel arall yn ysgrifenedig.

3.20.

Monitro

Bydd y Cyngor yn monitro rhwymedigaethau cynllunio i sicrhau fod y datblygwr a’r Cyngor yn cydymffurfio â nhw.

3.21.
Hefyd, bydd adolygiad o gostau penodol yn cael ei gynnal ar gyfer pob math o rwymedigaeth fel sy’n briodol.  Bydd rhwymedigaethau yn cael eu hadolygu mewn ymateb i ddiweddaru tystiolaeth y Cynllun Datblygu Lleol, fydd yn ei dro yn cael ei fonitro drwy Adroddiad Monitro Blynyddol y Cyngor (AMR) mewn cyfres o ddangosyddion a thargedau priodol.

« Back to contents page | Back to top