4. Tai Fforddiadwy
Cyd-destun
Mae angen brys am dai fforddiadwy yng Nghonwy. Mae’r Cyngor wedi cynnal Asesiad Marchnad Tai sy’n dangos bod angen am dai fforddiadwy.
Mae’r angen am dai fforddiadwy yn ystyriaeth cynllunio faterol ac yn elfen hanfodol o gyfrannu at adfywio cymunedol a chynhwysiad cymdeithasol. Bydd pob datblygiad preswyl newydd, gan gynnwys trawsnewidiadau a chynlluniau defnydd cymysg yn cael eu hystyried ar gyfer darpariaeth neu gyfraniadau datblygwyr.
Cyfiawnhad
Canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol:-
- Polisi Cynllunio Cymru (2010)
- TAN 2 – Cynllunio a Thai Fforddiadwy
Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd, yn benodol Polisi HOU/2 – Tai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol
Asesiad Marchnad Tai Lleol Conwy Cam 1 (2007)
Datganiad Darparu Tai Fforddiadwy Conwy (2007-2011)
CDLl Papur Cefndir 9: Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy Conwy (2010)
CDLl Papur Cefndir 23: Cyfrifiad Anghenion Tai Fforddiadwy (2010)
Trothwy ar gyfer Darparu
Angen Tai Fforddiadwy
Mae Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd (Polisi HOU2) yn amlinellu’r angen am dai fforddiadwy ac yn nodi bydd y Cyngor yn gofyn am ddarpariaeth tai fforddiadwy ar bob datblygiad preswyl (h.y. 1 annedd a mwy).
Y disgwyliad yw bydd y tai fforddiadwy yn cael eu darparu ar safle fel rhan o’r datblygiad. Ond, bydd darpariaeth oddi ar safle neu daliadau wedi’u cymudo yn dderbyniol ar gyfer ceisiadau datblygu sy’n cynnwys 3 annedd neu lai ac efallai byddent yn dderbyniol ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys 3 annedd neu fwy dan amgylchiadau eithriadol os oes digon o gyfiawnhad.
Mae’r tabl isod yn darparu trosolwg o Bolisi HOU/2, gan ddangos mewn cipolwg pa fath o dai (mewn perthynas â fforddiadwyedd a’r farchnad) sy’n dderbyniol mewn lleoliadau o fewn ardal y Cynllun:
Nodiadau:- Bydd lefelau isaf ac uchaf yn amodol ar brofi hyfywdra.
- Bydd symiau wedi’u cymudo oddi ar safle yn dderbyniol ar 3 annedd neu lai ar gyfer cynlluniau yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol, Llanrwst a phrif bentrefi Haen 1 neu gynlluniau sy’n fwy na 3 annedd dan amgylchiadau sydd wedi’u cyfiawnhau.
Mae’r Cyngor yn cefnogi creu cymunedau cynaliadwy, cymysg a chytbwys. Er mwyn osgoi goblygiadau negyddol dieithrio cymdeithasol, dylid dosbarthu tai fforddiadwy o fewn datblygiadau tai yn gyfartal ar draws y safle ac nid eu dyrannu yn anghyfartal i’r ymylon neu mewn un ardal benodol. Bydd y Cyngor angen grwpio tai fforddiadwy mewn clystyrau o ddim mwy na 5 a 10 eiddo.
Hyfywdra
Y rhagdybiaeth gyffredinol yw bydd cost darparu tai fforddiadwy yn cael ei fantoli wrth drafod y pryniant tir neu’r pris dewisol. Pan fo ymgeisydd yn cynnig dangos bod costau neilltuol (e.e. costau annormal, gofyniadau am isadeiledd cludiant, cyfleusterau cymunedol, lle agored neu adeiladu cynaliadwy) na ellir eu mantoli trwy ostwng gwerth y tir neu le na ellir eu hadennill gyda phris gwerthu tai newydd ar y farchnad agored, bydd angen cyflwyno gwerthusiad ariannol.
Mae’r Cyngor yn derbyn bod rhaid cynnal darpariaeth tai ac os, ar ôl cwblhau gwerthusiad ariannol, mae datblygwr yn gallu dangos problemau hyfywdra go iawn, gellir cytuno ar adolygiad naill ai o raddfa gyffredinol y ddarpariaeth tai fforddiadwy, neu o’r detholiad eiddo a/neu’r math o ddaliadaeth.
- Trefn Drafod Tai Fforddiadwy
- Ffurflen Gynghori Cyn Cais Tai Fforddiadwy
- Cam 1: Ffurflen Asesu Hyfywdra a Chanllawiau Tai Fforddiadwy
- Cam 2: Ffurflen a chanllawiau Darpariaeth Oddi ar Safle
- Enghreifftiau gweithiedig o’r DAT
- Prisio’r datblygiad heb unrhyw dai fforddiadwy (gwerth gweddillol uchaf)
- Prisio’r datblygiad gyda 30% o dai fforddiadwy (gwerth gweddillol lleiaf)
- Prisio’r datblygiad gyda’r nifer mwyaf (ond cyfran lai) o dai fforddiadwy (hyd nes bod y prisiad gweddillol yn cynhyrchu ffigwr positif).
Darpariaeth oddi ar Safle
Ar safleoedd o 3 annedd neu lai ac o dan amgylchiadau eithriadol, ar safleoedd o fwy na 3 annedd, lle gellir cyfiawnhau hynny’n gadarn, gall y Cyngor dderbyn darpariaeth oddi ar safle.
Dan yr amgylchiadau hyn, y dewis cyntaf fydd darparu’r unedau gan y datblygwr ar safle arall. Mae gan y Cyngor ddisgresiwn llwyr ynglŷn â lleoliad y safle arall. Bydd yn rhaid i ddatblygwyr ddarparu mwy o unedau tai fforddiadwy ar y tir oddi ar safle nac a gynigiwyd yn wreiddiol ar safle’r cais. Mae hyn oherwydd bydd cynnydd yn y nifer o unedau marchnad sy’n cael eu datblygu rŵan ar y safle gwreiddiol a bydd y cyfraniad wedi’i seilio ar y cyfanswm o unedau tai sydd i’w codi ar safle’r cais.
Y dewis olaf yw gwneud cyfraniad ariannol. Lle mae cyfraniad ariannol yn dderbyniol i’r Cyngor, cyfrifir y swm gan ddefnyddio’r DAT. Wrth gyflawni’r amcan â blaenoriaeth i gynyddu darpariaeth tai fforddiadwy, bydd y Cyngor yn gweithredu ‘Protocol Symiau Cymudol Conwy’ ac yn gofyn am ddefnyddio cyfraniadau ariannol tai fforddiadwy ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Dechrau Darparu
Lle gwneir y ddarpariaeth o dai fforddiadwy ar safle, bydd y Cytundeb S106 yn gofyn bod y datblygwr yn cwblhau’r unedau tai fforddiadwy (yn unol â’r safonau a manylion a gytunwyd arnynt) ac yn trosglwyddo’r unedau i’r RSL cyn bod 30% o’r unedau marchnad agored ar y safle yn cael eu meddiannu. Lle mae datblygiadau fesul cam, dylid darparu’r gyfran a gytunwyd arni o dai fforddiadwy ar gyfer y cam hwnnw (fel uchod) cyn bod 30% o’r unedau marchnad agored yn cael eu meddiannu yn ystod y cam hwnnw.