5. Trafnidiaeth, Cludiant a Chynlluniau Priffordd

5.1.

Cyd-destun

Yn aml, gall ddatblygiadau newydd newid a/neu gynyddu’r patrymau teithio o safle.  Gall hyn gynnwys teithiau gan gerddwyr a beicwyr, yn ogystal â gan gludiant cyhoeddus, ceir a cherbydau danfon.  I fynd i’r afael â’r cynnydd hwn mewn galw a hwyluso newid i ddulliau mwy cynaliadwy o gludiant, bydd angen isadeiledd ychwanegol.  Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd angen i’r datblygwr gynnal gwaith priffordd i sicrhau mynediad a mynd i’r afael ag effeithiau tymor byr a/neu ddarparu cyfraniadau ariannol i liniaru effaith tymor hir y datblygiad.
5.2.

Ar gyfer datblygiadau mawr, bydd unrhyw gyfleusterau y bydd eu hangen i sicrhau gweithrediad diogel ac effeithlon y datblygiad a’r rhwydwaith priffyrdd lleol yn cael ei benderfynu gan yr Asesiad Trafnidiaeth (TA) y cytunwyd arno, a ddylai ddod gyda’r cais. 

5.3.

Ar gyfer datblygiadau llai a rhai sydd heb eu lleoli mewn ardaloedd sensitif yn lleol, lle na fydd angen Asesiad Trafnidiaeth, bydd yr awdurdod priffyrdd lleol yn penderfynu ar y gwaith neu’r cyfraniad sydd ei angen, yn seiliedig ar lefel effaith y datblygiad newydd.  Bydd angen gwelliannau i’r briffordd dim ond pan maent yn hanfodol ar gyfer gweithrediad y datblygiad ac yn ardal y rhwydwaith priffyrdd.

5.4.

Cyfiawnhad

Mae’r sail polisi a’r cyfiawnhad ar gyfer cael darpariaeth neu gyfraniadau gan ddatblygwr mewn perthynas â thrafnidiaeth, cludiant a chynlluniau priffordd wedi ei nodi yn:- 
  1. Canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol:-
  1. Polisi Cynllunio Cymru (2010)
  2. TAN 18 – Cludiant
  1.  Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd, ym Mholisïau STR/1 – Datblygu Cynaliadwy, Mynediad a Datblygu ac STR/3 – Lliniaru Effaith Teithio
  2. Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru (2009)
 
5.5.

Trothwy ar gyfer Darparu

Nid oes angen trothwy penodol oherwydd bydd angen cyfraniadau i liniaru’r effeithiau datblygu a nodwyd beth bynnag yw’r math neu faint y datblygiad.

5.6.

Lliniaru Datblygiad

Bydd ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr fel arfer yn cael eu cyflwyno gyda TA a ddylai nodi effeithiau posibl y datblygiad bwriedig ar drafnidiaeth a symudiadau cludiant ar y rhwydwaith priffordd presennol.  Yn unol â PPW a TAN 18 - Cludiant, canlyniad y TA fydd Strategaeth Gweithredu Cludiant (TIS) sy’n mynd i’r afael â’r amcanion cludiant perthnasol ar gyfer y safle, ac yn cael ei arwain gan gynllun datblygu a’r materion a nodwyd wrth ddadansoddi symudiadau unigolion.

5.7.

Mae PPW yn nodi’r trothwy ar gyfer datblygu sy’n gofyn am gyflwyno TA.  Mae hyn yn cynnwys:-

5.8.

Bydd y TA felly yn sail i unrhyw gyfraniad sydd ei angen mewn perthynas â thrafnidiaeth, cludiant a chynlluniau priffyrdd. 

5.9.

Gall gwaith i liniaru’r effeithiau o’r datblygiad bwriedig gynnwys:- 

  1. Rheoli/lliniaru trafnidiaeth;
  2. Gwaith peirianneg trafnidiaeth/priffyrdd, dros dro neu barhaol;
  3. Llwybrau beics, rheoli, diogelwch;
  4. Mannau cerddwyr, croesfannau cerddwyr; a,
  5. Darparu/gwella llwybrau troed.
5.10.
Bydd angen i ddatblygwyr ariannu dylunio ac adeiladu gwaith isadeiledd ar y safle ac oddi ar y safle, fel gwelliannau i gyffordd a chysylltu â system cerddwyr/beicwyr lleol a ffurfiau trafnidiaeth cynaliadwy eraill.
5.11.

Efallai y bydd angen cyfraniadau ar y cyd ar gyfer cynlluniau priffyrdd mwy yng Nghonwy a bydd cyfraniadau yn seiliedig ar gynnydd yn symudiadau cerbydau oherwydd y datblygiad newydd.

5.12.

Rheoli Datblygu

Mae TAN 18 - Cludiant yn nodi er mwyn penderfynu a yw Cynllun Teithio yn angenrheidiol ac yn effeithiol, ei fod yn fanteisiol fod Asesiad Trafnidiaeth yn cael ei gynnal a bod Cynllun Teithio yn cael ei ddatblygu fel elfen o’r Strategaeth Gweithredu Cludiant.  Felly, mae’n debygol mai dim ond cynlluniau sy’n cynhyrchu trafnidiaeth helaeth fydd disgwyl iddynt baratoi a gweithredu Cynlluniau Teithio.  Bydd disgwyl i Gynlluniau Teithio hyrwyddo dulliau cynaliadwy o gludiant a lleihau defnydd trafnidiaeth a cheir.  Gall rhwymedigaethau a chyfraniadau Cynllunio Teithio gynnwys:- 

  1. Darparu isadeiledd cludiant cyhoeddus er mwyn gwasanaethu’r datblygiad.
  2. Darparu gwybodaeth a chynlluniau i hyrwyddo beicio, cerdded a rhannu ceir.
  3. Darparu mannau parcio i wasanaethu’r datblygiad.  Bydd darpariaeth parcio yn cael ei asesu yn erbyn y safonau parcio uchaf a fabwysiadwyd fel y nodwyd yn yr SPG Safonau Parcio.
5.13.

Gall gyfraniad oddi ar y safle ar gyfer parcio ceir cyhoeddus fod yn briodol ar gyfer datblygiadau oddi mewn i neu ar ymylon canol trefi neu ar gyfer datblygiadau heb ddarpariaeth parcio ceir digonol ar gyfer eu hanghenion eu hunain. 

5.14.

Bydd lefelau’r cyfraniadau yn cael eu cyfrifo fesul safle i adolygu effaith y datblygiad a’r angen am gyfleusterau cludiant gwell, yn ogystal â’r gofyniad i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw angenrheidiol a digonol yn cael ei ddarparu.

5.15.

Sbardun Darparu

Bydd y graddfeydd amser ar gyfer darparu’r gwaith bwriedig yn cael ei gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn ffurfio rhan o’r Cytundeb Cyfreithiol.  Mae’n debygol y bydd angen cyfraniadau naill ai cyn i bobl symud i mewn i’r adeilad cyntaf ar y safle neu cyn i bobl symud i mewn i 30% o’r adeiladau ar y safle, yn ddibynnol ar natur y datblygiad a’r math o gyfraniad fydd ei angen.  Ond, efallai y bydd angen gwneud peth gwaith cyn dechrau’r datblygiad, yn enwedig os yw’n angenrheidiol oherwydd rhesymau diogelwch.

5.16.
O ran gofynion y Cynllun Teithio, dylid darparu cyfraniadau cludiant cyhoeddus cyn i bobl symud i’r datblygiad.  Gellir cyflwyno mesurau ychwanegol fel darpariaeth parcio a chysylltiadau beicio fesul cam drwy gydol y cyfnod datblygu.

« Back to contents page | Back to top