6. Mannau Agored Cyhoeddus

6.1.

Cyd-destun

Gall fannau agored cyhoeddus ffurfiol ac anffurfiol fod â gwerth amwynder a hamdden sylweddol, gan gyfrannu at ansawdd bywyd, bioamrywiaeth a’r amgylchedd yn gyffredinol.
6.2.

Bydd y Cyngor, lle bo’n briodol, yn ceisio rhwymedigaethau cynllunio i ddarparu mannau agored a chyfleusterau hamdden mewn cysylltiad â datblygiadau newydd.

6.3.

Cyfiawnhad

Mae’r polisi manwl a’r cyfiawnhad ar gyfer ceisio darpariaeth neu gyfraniadau gan y datblygwr mewn perthynas â mannau agored cyhoeddus wedi eu nodi yn:- 
  1. Canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol:-
  1. Polisi Cynllunio Cymru (2010)
  2. TAN 16 – Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored
 
  1. Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Polisi CFS/11 – Datblygu a Mannau Agored a CFS/10 – Lotments Newydd
  2. Papur Cefndir CDLl 19: Asesiad Mannau Agored (2010)
  3. Papur Cefndir CDLl 25: Adroddiad Galw a Chyflenwad Lotment (2010)
  4. Caeau mewn Ymddiriedolaeth ‘Cynllunio a Dylunio ar gyfer Chwaraeon a Chwarae Awyr Agored’ (2008)
6.4.

Cynhaliwyd asesiad o addasrwydd darpariaeth mannau agored ym mhrif setliadau Conwy wrth baratoi’r dystiolaeth cefndir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn 2008.  Roedd canlyniadau’r arolwg hwn, a ailgynhyrchwyd ym Mhapur Cefndir CDLl 19, yn nodi diffyg yn y ddarpariaeth bresennol o fannau agored yn y Fwrdeistref.

6.5.

Er bod yr asesiad yn seiliedig ar yr NPFA ‘safon chwe erw’ (2001), roedd y safon mannau agored hwn yn is na’r safonau meincnodi diwygiedig a gyflwynwyd gan FIT (2008).  O ganlyniad, erbyn hyn mae diffyg helaeth o ddarpariaeth mannau agored yng Nghonwy dan y safonau FIT 2008 newydd nag a gofnodwyd yn flaenorol.

6.6.

Trothwy ar gyfer darparu

Gofyniad Mannau Agored 

Oherwydd fod diffyg mewn mannau agored cyhoeddus yn y Fwrdeistref, bydd y diffyg hwn yn cael ei gynyddu trwy ychwanegu unrhyw uned breswyl newydd.  Felly bydd angen i bob datblygiad tai o un annedd ac uwch gyfrannu at fannau agored
6.7.

Mae Cyngor Conwy yn cynnig mabwysiadu safonau meincnodi FIT 2008 ar gyfer chwaraeon a chwarae awyr agored yn unol â TAN 16, sy’n cydnabod y cyfraniad y bydd y safonau FIT yn eu gwneud i’r Awdurdodau Cynllunio Lleol wrth ffurfio eu safonau darparu eu hunain.  Y bwriad yw y bydd archwiliad ac asesiad mannau agored yn cael ei gynnal gan Gonwy i asesu darpariaeth leol o ran maint ac ansawdd er mwyn canfod anghenion lleol.  Pan fydd wedi ei gwblhau, bydd archwiliad ac asesiad yn rhan o’r dystiolaeth CDLl a bydd y safonau meincnodi a nodwyd yn yr SPG hwn yn cael eu hadolygu yn unol â hyn.

6.8.

Mae’r safonau meincnodi FIT a nodwyd yn Nhabl 2 yn nodi’r gofynion mannau agored o ran lleiniau chwarae, chwaraeon awyr agored a mannau chwarae plant.

 

6.9.

Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar gyfartaledd oherwydd fod y safonau FIT yn cynnwys elfen o hyblygrwydd mewn perthynas â lleoliadau trefol a gwledig.  Mae’r canllawiau FIT yn nodi fod angen ystyried pob setliad newydd yn unol â’i amgylchiadau a’i leoliad ei hun.

6.10.

Mathau o Ddarpariaeth Awyr Agored

Lleiniau Chwarae 

Mae’r FIT yn darparu safonau meincnodi ar gyfer darparu lleiniau glaswellt naturiol ac ystod o leiniau glaswellt artiffisial.

6.11.

Mae nifer o ofynion allweddol i’w hystyried i sicrhau fod wyneb chwarae o ansawdd yn cael ei ddarparu, gan gynnwys yr angen am systemau draenio a dyfrhad digonol (ar gyfer glaswellt naturiol) yn ogystal â materion eraill fel llifoleuadau a mannau newid.

6.12.

Yn unol â safonau meincnodi FIT, dylai lleiniau chwarae fod ar gael o fewn 1.2km i bob annedd mewn ardaloedd preswyl mawr.

6.13.

Chwaraeon Awyr Agored

Gall darpariaeth chwaraeon awyr agored gynnwys cyflenwad o ystod o gyfleusterau ar gyfer gwahanol fathau o chwaraeon.  Mae gan wahanol fathau o chwaraeon wahanol ofynion ar gyfer chwaraewyr a’u hoffer.  Mae’r FIT yn nodi’r safonau meincnodi ar gyfer tenis, bowlio ac athletau.

6.14.

Dylai dyluniad cyfleusterau chwaraeon awyr agored gynnwys ystyried lleoliad y cyfleusterau.  Bydd darpariaethau atodol fel mannau newid, llif oleuadau a mannau parcio ceir hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o ddarpariaeth cyfleusterau chwaraeon awyr agored.

6.15.

Mae’r FIT yn nodi meincnodau mynediad ar gyfer mannau awyr agored y gellir eu crynhoi fel a ganlyn:- 

  1. Athletau – un trac synthetig gyda llif oleuadau ar gyfer bob 250,000 o bobl sy’n byw o fewn cyrraedd 30 munud mewn car (45 munud mewn ardaloedd gwledig) o’r lleoliad bwriedig.
  2. Tenis – cyrtiau tenis cymunedol o fewn cyrraedd teithio 20 munud (cerdded mewn ardaloedd trefol, a char mewn ardaloedd gwledig).
  3. Bowls – un lawnt o fewn amser teithio 20 munud (cerdded mewn ardaloedd trefol, a char mewn ardaloedd gwledig).
6.16.

Mannau Chwarae Plant

Mae angen ystod o gyfleusterau gwahanol ar gyfer ieuenctid a phlant o wahanol grwpiau oedran.  Mae safonau FIT yn nodi prif ffurfiau ardaloedd chwarae plant ac mae crynodeb yn Ffigur 6.1.

6.17.

Yn ogystal â’r prif fathau o offer chwarae plant fel y nodwyd yn Ffigur 6.1, mae mathau gwahanol o gyfleusterau hamdden ar gyfer plant a phobl ifanc yn cynnwys Ardaloedd Gemau Aml Ddefnydd (MUGA), parciau sglefrio, traciau BMX a lleoliadau ieuenctid.

6.18.

Lefel Cyfraniad

Bydd cyfraniadau ariannol yn cael eu derbyn ar gyfer datblygiadau preswyl o 30 annedd neu lai.  Ar gyfer datblygiad preswyl o 30 annedd neu fwy, bydd y Cyngor yn ceisio darparu cyfleusterau chwarae plant ar y safle a chyfraniad ariannol ar gyfer mannau chwaraeon awyr agored oddi ar y safle.  Bydd datblygiadau o 200 neu fwy o anheddau preswyl fel arfer yn gorfod darparu pob man chwarae plant a chwaraeon awyr agored ar y safle. 

6.19.
Mae’r cyfraniadau ariannol sydd eu hangen yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r costau presennol fesul metr sgwâr ar gyfer darparu mannau chwarae awyr agored gofynnol.

6.20.

Bydd symiau cymudo yn cynnwys costau sefydlu, prynu offer a chynnal y safle.  Mae’r costau yn seiliedig ar wir gostau darparu cyfleusterau newydd a gwaith cysylltiol.  Bydd costau yn cael eu hadolygu yn flynyddol a’u sefydlogi am gyfnod o 12 mis.  Mae’r costau presennol wedi eu nodi yn Atodiad 3.

6.21.

Eithriadau

Ni ofynnir am gyfraniad tuag at wella a datblygu ardaloedd chwarae gan anheddau stiwdio ac un ystafell wely, lletyau gwarchod a thai i’r henoed a ffurfiau arbenigol eraill o ddatblygiad lle na fydd plant rhwng 0 ac 14 oed yn byw.

6.22.

Hefyd, ni ofynnir am gyfraniad ariannol tuag at wella a datblygu caeau chwarae a chyfleusterau hamdden gan dai gwarchod oherwydd fod preswylwyr datblygiadau o’r fath yn annhebygol o ddefnyddio’r caeau chwarae. 

6.23.

Sbardun Darparu

Bydd y graddfeydd amser ar gyfer gwneud y gwaith bwriedig yn cael eu cytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn ffurfio rhan o’r Cytundeb Cyfreithiol.  Ond, mae’n debygol y bydd angen cyfraniadau ariannol naill ai cyn i unigolion symud i’r annedd gyntaf ar y datblygiad neu cyn i unigolion symud i 30% o’r anheddau ar y safle, yn dibynnu ar natur y datblygiad a’r math o gyfraniad sydd ei angen.  Bydd y graddfeydd amser yn cael eu penderfynu fesul achos fel rhan o’r trafodaethau cytundeb Adran 106.

6.24.

Os yw’r datblygiadau yn rhai fesul cam, bydd y gofyniad mannau agored yn cael ei asesu mewn perthynas â’r cynllun cyfan a bydd angen darpariaeth addas o fannau agored a chyfleusterau chwarae mewn graddfeydd amser priodol ar gyfer y datblygiad.

6.25.

Cynnal a Rheoli

Mae’r tri dewis canlynol wedi eu rhestru yn nhrefn ffafriaeth ar gyfer darparu mannau agored mewn perthynas â datblygiadau tai;

  1. Mae’r datblygwr yn darparu ac yn cynnal mannau agored ar safle’r datblygiad.
  2. Mae’r datblygwr yn sicrhau fod tir ar gael ar y safle, ond yn talu swm i’r cyngor brynu offer a chynnal y tir.
  3. Mewn amgylchiadau eithriadol a chyfiawn lle nad yw 1 na 2 yn ymarferol, bydd y Cyngor yn derbyn swm o arian fydd yn caniatáu darpariaeth bresennol yn y gymuned a swm ychwanegol i brynu tir yn seiliedig ar gost cyfartaledd tir preswyl yn y lleoliad hwnnw.
6.26.

Mewn sefyllfaoedd lle bydd angen i’r Cyngor fabwysiadu a chynnal ardal agored, bydd angen swm cymudo ar gyfer costau cynnal am 25 mlynedd.  Efallai y bydd amgylchiadau lle bydd y cyfnod hwn yn hirach.  Ni fydd y Cyngor yn mabwysiadu Ardaloedd Chwarae Lleol (LAP) na mannau achlysurol mewn datblygiadau.  Bydd yn mabwysiadu mannau agored sydd â defnydd ymarferol yn unig, er enghraifft, mannau chwarae neu gaeau chwarae.  Mae’n rhaid i’r ardaloedd hyn fod yn ‘addas ar gyfer eu pwrpas’ a chydymffurfio â’r safonau lleiaf. 

6.27.

Bydd arolygiadau o fannau agored cyhoeddus yn y Fwrdeistref yn cael eu cynnal bob dwy flynedd ac felly bydd cyfraniadau mannau gwag yn cael eu hadolygu fel sy’n briodol, yn unol â’r arolygon diweddaraf.

6.28.

Lotments

Bydd lotments yn cael eu cynnwys yn TAN 16 Teipoleg Mannau Agored.  Mae Papur Cefndir 25 CDLl – Adroddiad Galw a Chyflenwad Lotments yn cydnabod fod diffyg lotments yn y Fwrdeistref ac yn nodi 10 lleoliad lle mae galw am Lotments yng Nghonwy ar hyn o bryd.

6.29.

Lle mae angen am lotments bydd y Cyngor yn gofyn am gyfraniad tuag at wella a datblygu’r lotments fesul annedd. 

6.30.

Rhoddir y dull ar gyfer cyfrifo cyfraniadau lotments isod;

« Back to contents page | Back to top