7. Cyfleusterau Addysg

7.1.

Cyd-destun

Mae isadeiledd addysg yn rhan annatod o ddatblygiadau preswyl newydd ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni a chynnal cymunedau cynaliadwy.  Gofynnir am gyfraniad tuag at ddiweddaru a/neu ymestyn cyfleusterau addysg presennol os bydd gweithredu datblygiad yn arwain at gynhyrchu niferoedd disgyblion ychwanegol sy’n fwy na’r capasiti presennol neu fwriedig mewn ysgolion lleol.  

7.2.

Gellir defnyddio’r cyfraniadau i:- 

  1. Ddarparu ystafelloedd dosbarth newydd;
  2. Disodli a/neu wella mannau gwag presennol neu gyfleusterau i’w codi i safon dderbyniol ar gyfer y plant ychwanegol o’r datblygiad bwriedig;
  3. Prynu tir ar gyfer ysgol neu ystafell dosbarth newydd neu adeilad arall yn ôl yr angen ac yn amodol ar raddfa’r datblygiad;
  4. Adeilad dros dro neu fesurau eraill i hwyluso gwaith adeiladu o ganlyniad i ddatblygiad; a,
  5. Darparu cyfleusterau ychwanegol sydd eu hangen oherwydd y galw cynyddol.
7.3.

Cyfiawnhad

Mae’r polisi manwl a’r cyfiawnhad ar gyfer ceisio darpariaeth neu gyfraniadau mewn perthynas â chyfleusterau addysg wedi ei nodi yn:- 
  1. Canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol:-
  1.  Polisi Cynllunio Cymru (2010)

  1. Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd
  2. Cylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 09/2006 ‘Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru’
7.4.

Trothwy ar gyfer Darparu

Gofyniad Addysg 

Gofynnir am gyfraniadau gan ddatblygiadau bwriedig sy’n cynnwys 10 neu fwy o anheddau newydd sydd â’r potensial i gynyddu’r galw ar ysgolion lleol.
7.5.

Efallai y bydd angen adeiladu ysgol newydd ar gyfer cynigion tai sylweddol.

7.6.

Methodoleg ar gyfer Cyfrifo Cyfraniadau

Bydd Cyngor Conwy yn defnyddio’r fethodoleg ganlynol er mwyn cyfrifo’r cyfraniad addysg gofynnol ar gyfer datblygiadau cymwys:- 
  1. Penderfynu ar nifer y tai.  Os yw cynlluniau manwl yn bodoli bydd hyn yn absoliwt; lle nad oes manylion penodol dylid cyfrifo rhagamcan gan ddefnyddio’r dwysedd fesul hectar e.e. 30 annedd yr hectar ar gyfer cymysgedd o dai teras, tai pâr, ac ar wahân.
  2. Penderfynu ar nifer yr ystafelloedd.  Os yw’r manylion yn bodoli bydd hyn yn absoliwt; mewn enghreifftiau eraill bydd angen defnyddio asesiad e.e. teras 2 ystafell wely, gyda 4 ystafell gan gynnwys lolfa, ystafell fwyta, cegin a dwy ystafell wely.
  3. Cymhwyso cyfraddau preswyl Cyfrifiad 2001 i’r nifer i gael rhagamcan nifer y preswylwyr.
  4. Defnyddio gwybodaeth Cyfrifiad 2001 ar strwythur poblogaeth fesul oed i gyfanswm nifer y preswylwyr.

Nodwch Pan fydd niferoedd disgyblion yn cael eu cyfrifo, bydd y rhif cyfartalog (h.y. y ffigwr wedi ei rannu gan nifer y grwpiau oedran – 15 os ydych yn cyfrif y 6ed dosbarth) yn cael ei ychwanegu at bob grŵp blwyddyn. 

Enghraifft ar gynllun o 150 annedd:

(Bydd niferoedd disgyblion yn cael eu cyfrifo trwy ddefnyddio gwybodaeth y cyfrifiad ynglŷn â phoblogaeth fesul oed)

  1. Canfod capasiti disgyblion yn yr ysgolion cyfagos (cynradd ac uwchradd)
  1. Defnyddio Cylchlythyr Llywodraeth Cenedlaethol Cymru a methodoleg ddiwygiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cyfrifo capasiti ysgolion cynradd ac uwchradd (yn seiliedig ar faint yr ystafelloedd/lle fesul disgybl).
 
  1. Penderfynu ar gostau ar gyfer pob disgybl i sefydlu cyfraniad
  1. Oherwydd nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi data costio penodol ar gyfer darparu mannau ysgol ychwanegol, bydd cost darparu mannau ysgol cynradd ac uwchradd yn deillio o luosyddion cost Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF).
  2. Mae’r DCSF yn rhoi gwybod mai’r gost fesul disgybl ar gyfer adeiladu llety i ddarparu mannau disgyblion ychwanegol ar gyfer 2008-2009 yw:
  • Mannau Ysgol Gynradd  - £12,257
  • Mannau Ysgol Uwchradd - £18,469
  • Ar ôl 16 - £20,030
Mae’r ffigyrau hyn wedi eu diwygio ar gyfer costau cyfartaledd Cymru o 97% fel fod y costau yn berthnasol yn lleol.  Felly y gost fesul disgybl ar gyfer adeiladu adeilad i ddarparu ar gyfer mannau disgyblion ychwanegol yng Nghonwy fydd:  
  • Mannau Ysgol Gynradd  - £11,890
  • Mannau Ysgol Uwchradd - £17,915
  • Ar ôl 16 - £19,429
  1. Bydd cost ailwampio lle presennol fel arfer yn seiliedig ar 65% o gost darparu man newydd.
7.7.

Mae’r fformiwla ar gyfer cyfrifo cyfraniad addysg wedi ei nodi isod:

7.8.

Bydd y fformiwla uchod yn cael ei defnyddio ar wahân ar gyfer ysgolion Cymraeg ac ysgolion Saesneg yn seiliedig ar ffactorau'r Cyngor ar gyfer y gyfran o blant sy’n dewis mynd i’r naill fath o ysgol neu’r llall.  Bydd cyfan y plant sy’n dymuno mynd i ysgol Gymraeg yn y fwrdeistref Sirol yn 7% ar gyfer cynradd a 9% ar gyfer plant ysgol uwchradd.

Ffigur 7.4                Enghraifft o gyfraniad addysg

7.9.

Eithriadau

Ni ddisgwylir i’r mathau o adeilad sy’n annhebygol o roi pwysau ar ysgolion lleol gyfrannu at gyfleusterau addysg.  Bydd hyn yn cynnwys anheddau stiwdio ac un ystafell wely, tai myfyrwyr a thai arbenigol ar gyfer yr henoed/tai gwarchod.

7.10.

Sbardun Darparu

Bydd angen cyfraniadau naill ai cyn i bobl symud i’r annedd gyntaf ar safle’r datblygiad neu cyn i bobl symud i 30% o’r anheddau ar y safle, yn dibynnu ar natur y datblygiad a’r math o gyfraniad sydd ei angen.

7.11.

Wrth asesu a yw datblygiad bwriedig neu safle yn gymwys i geisio darpariaeth, neu gyfraniadau tuag at gyfleusterau addysg, bydd nifer yr anheddau yn y canllawiau hyn yn berthnasol i, neu yn ystyried, yr ardal ehangach i’w datblygu ar gyfer tai.  Er enghraifft, os yw datblygiad yn cynnwys dau gam neu fwy, neu yn amodol ar ddau neu fwy o geisiadau cynllunio, bydd cyfanswm nifer yr anheddau yn sail ar gyfer penderfynu a fydd angen darpariaeth.  Felly dylai datblygwyr fod yn ymwybodol os credir fod cyfraniad yn gyfiawn, na ellir osgoi’r gofyniad trwy ymdrin â’r safle mewn mwy nag un cais cynllunio.

« Back to contents page | Back to top