8. Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig
Cyd-destun
- Treftadaeth Adeiledig (gan gynnwys adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth, adeiladau mewn risg ac archaeoleg)
- Ecoleg, cadwraeth natur a rheoli cefn gwlad (bioamrywiaeth)
- Rheoli Risg Llifogydd
Cyfiawnhad
- Canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol:-
- Polisi Cynllunio Cymru (2010)
- TAN 5 – Cadwraeth Natur a Chynllunio
- TAN 15 – Datblygu a Risg Llifogydd
- Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn enwedig Polisïau NTE/1 – Yr Amgylchedd Naturiol; NTE/4 – Bioamrywiaeth; CTH/2 – Datblygiad sy’n Effeithio Asedau Treftadaeth; a Pholisi CTH/3 – Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol.
Bydd materion posibl sy’n effeithio ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig yn cael eu nodi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol trwy’r gofynion dilysu ceisiadau e.e. yr angen am asesiad risg llifogydd, gwerthusiad ardal gadwraeth, arolwg ecoleg ayb. Mae Datganiadau Cynllunio yn dod gyda chais cynllunio ac felly dylid nodi effeithiau posibl y datblygiad bwriedig a’r gwaith lliniaru neu reoli sydd ei angen.
Trothwy ar gyfer Darparu
Bydd angen rhwymedigaethau a chyfraniadau mewn perthynas â’r amgylchedd naturiol neu adeiledig lle mae angen gwella, cynnal, diogelu neu wella lles amgylcheddol. Nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud â maint y safle ac felly nid yw’n briodol i ddefnyddio trothwy penodol ar gyfer trafod rhwymedigaethau cynllunio yn yr achos hwn. Bydd costau yn cael eu cyfrifo fesul safle yn dibynnu ar y materion perthnasol a lliniaru neu reoli’r mesurau angenrheidiol.
Sbardun Darparu
Bydd angen cyfraniadau naill ai cyn i unigolion symud i’r adeilad cyntaf ar y safle neu cyn i unigolion symud i 30% o’r adeiladau ar y safle, yn dibynnu ar natur y datblygiad a’r math o gyfraniad sydd ei angen.