9. Datblygu Cymunedol a Hamdden
Cyd-destun
I bwrpasau’r SPG hwn, nid yw cyfleusterau cymunedol yn cynnwys cyfleusterau preifat, gan gynnwys clybiau aelodau yn unig nac ysgolion, adeiladau crefyddol, gorsafoedd heddlu a mannau chwarae plant.
Cyfiawnhad
Mae’r polisi manwl a’r cyfiawnhad ar gyfer ceisio darpariaeth neu gyfraniadau gan ddatblygwr mewn perthynas â’r amgylchedd naturiol ac adeiledig wedi ei nodi yn:-
- Canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol:-
- Polisi Cynllunio Cymru (2010)
- Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd, yn enwedig Polisi CFS/1 – Cyfleusterau Cymunedol a Gwasanaethau
Os yw datblygiad preswyl yn debygol o gynyddu’r angen am gyfleusterau cymunedol, bydd yn gyfiawn i’r Cyngor geisio cyfraniad ar gyfer adeiladu rhagor o gyfleusterau neu wella’r cyfleusterau presennol.
Trothwy ar gyfer Darparu
Lefel y Cyfraniad
Bydd lefel y cyfraniad yn dibynnu ar y math o gyfleuster sydd ei angen, fydd yn ei dro yn dibynnu ar y math a’r maint o ddatblygiad a gynigir. Er enghraifft, bydd yr effaith ar wasanaethau iechyd lleol yn cael ei effeithio gan ddibyniaeth y boblogaeth newydd ar ofal iechyd a’r capasiti gwag mewn meddygfeydd lleol a chyfleusterau iechyd eraill, os o gwbl. Ond, bydd trothwy cyffredinol o 25 annedd cyn y bydd angen rhwymedigaeth cynllunio neu gyfraniadau ar gyfer darparu neu wella cyfleusterau cymunedol.
Gellir defnyddio cyfraniadau ariannol i wella cyfleusterau cymunedol presennol neu wella cyfleusterau newydd, lle bydd angen yn cael ei gynhyrchu gan y datblygiad bwriedig. Mewn amgylchiadau o’r fath, lle bydd cyfleusterau cymunedol presennol yn addas ar gyfer lefel capasiti ychwanegol fydd wedi ei greu gan y datblygiad, efallai na fydd angen cyfraniad. Efallai y bydd angen darpariaeth ar y safle ar gyfer datblygiadau mawr e.e. 200 annedd neu fwy.
Methodoleg ar gyfer Cyfrifo Cyfraniadau
Os gofynnir am gyfraniad tuag at gyfleusterau cymunedol, bydd y cyfanswm yn cael ei gyfrifo o’r costau adeiladu cyfartalog a nodwyd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Costau Adeiladu (BCIS).
I bwrpasau cytuno ar gytundebau cynllunio, tybir y bydd annedd yn cynhyrchu’r angen am 0.5 metr sgwâr ychwanegol o arwynebedd cymunedol. Mae hyn o fewn y safonau darpariaeth a argymhellir gan Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru. Felly mae’r cyfrifiad am gyfraniadau cyfleusterau cymunedol yn seiliedig ar y fformwla ganlynol:
Cynnal
Mewn sefyllfaoedd lle mae’r datblygwr wedi darparu cyfleuster canolfan cymuned newydd, bydd y Cyngor yn ceisio swm i gynnal a chadw’r cyfleuster am gyfnod penodol. Mewn amgylchiadau arferol bydd hyn am gyfnod o 25 mlynedd, ond efallai y bydd sefyllfaoedd lle bydd angen cyfnod cynnal gwahanol.
Sbardun Darparu
Bydd graddfeydd amser ar gyfer darparu rhwymedigaethau a chyfraniadau yn cael eu trafod gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ond maent yn debygol o fod yn angenrheidiol naill ai cyn i unigolion symud i’r adeilad cyntaf ar y safle neu cyn i unigolion symud i mewn i 30% o’r adeiladau ar y safle, yn dibynnu ar natur y datblygiad a’r math o gyfraniad fydd ei angen.