10. Prif Gynllun Bae Colwyn

10.1.

Cyd-destun

Yn 2008, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) y Cynllun Ardal Adfywio Strategol (SRA) i adfywio cymunedau arfordirol yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â LlCC i hyrwyddo adfywiad cynhwysfawr mewn cymunedau arfordirol sydd mewn angen i ehangu gweithgareddau economaidd, mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadedd.  Fel rhan o’r cynllun adfywio, penodwyd tîm amlddisgyblaeth o ymgynghorwyr i baratoi Prif Gynllun ar gyfer Bae Colwyn i hyrwyddo adfywiad cynaliadwy o’r ardal hyd at 2025

10.2.

Mae’r Cynllun wedi’i gynllunio dros gyfnod o 7 mlynedd a bydd yn canfod ardaloedd adfywio yn y lleoliadau hyn ar sail y potensial i ailddatblygu tir a ddatblygwyd eisoes, anghenion economaidd a chymdeithasol, ac agosrwydd at gysylltiadau cludiant cynaliadwy.   

10.3.

Cyfiawnhad

Mae’r polisi manwl a’r cyfiawnhad ar gyfer ceisio cael darpariaeth neu gyfraniadau gan ddatblygwyr mewn perthynas â Phrif Gynllun Bae Colwyn wedi’u nodi yn:-

  1. Cynllun Gofodol Cymru (cyfeiriad at Ardaloedd Adfywio Strategol)
  2. Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd, sef Polisi DP/8 – Prif Gynllun Bae Colwyn
  3. Cynllun Datblygu Cynllun Bywyd y Bae 2007 – 2014
  4. Prif Gynllun sydd i ddod ar gyfer Bae Colwyn
10.4.

Trothwy ar gyfer Darparu

Bydd y Cyngor yn trafod, os yw’n ymarferol, cyfraniad ariannol tuag at adfywio Bae Colwyn o’r mathau canlynol o ddatblygiad:- 
  1. Pob datblygiad preswyl o 5 neu fwy o anheddau, gan gynnwys trawsnewidiadau a newid defnydd.
  2. Pob defnydd adwerthu, masnachol, hamdden, swyddfa a chyflogaeth gan gynnwys ailddatblygu neu ymestyn cyfleusterau presennol.
10.5.

Yn unol â Pholisi DP/9 Cynllun Datblygu Lleol i’w Archwilio gan y Cyhoedd, bydd pob cynnig datblygu perthnasol a gyflwynir oddi mewn i, neu ger Terfyn Prif Gynllun Bae Colwyn yn gorfod cyfrannu at ddarparu cynlluniau cludiant a mannau cyhoeddus yn ardal y Prif Gynllun.

10.6.

Bydd cyfraniadau gan ddatblygwyr yn cael eu cyfuno i sicrhau fod cynigion y Prif Gynllun a’r gwelliannau i’r ardal, y bydd preswylwyr y datblygiad newydd yn eu mwynhau, yn cael eu darparu.

10.7.

Sbardun Darparu

Bydd graddfeydd amser darparu’r gwaith bwriedig mewn perthynas â Phrif Gynllun Bae Colwyn yn dibynnu ar union natur y cyfraniadau sydd eu hangen.  Ond, mae’n debygol y bydd angen talu unrhyw swm naill ai cyn i unigolion symud i’r adeilad cyntaf ar y safle datblygu neu cyn i unigolion symud i mewn i 30% o’r adeiladau ar y safle, yn dibynnu ar natur y datblygiad a lefel y cyfraniad sydd ei angen.

« Back to contents page | Back to top