11. Gwelliannau Eraill
Cyflwyniad
- Cyflogaeth a hyfforddiant
- Diogelwch cymunedol
- Rheoli gwastraff ac ailgylchu
- Celf gyhoeddus
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac efallai y bydd angen rhwymedigaethau cynllunio ar gyfer materion eraill. Bydd perthnasedd y materion hyn yn dibynnu ar y safle penodol a’r datblygiad bwriedig dan sylw. Anogir datblygwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau cyn cyflwyno cais cyn gynted â phosibl er mwyn canfod pa gyfraniadau fydd y Cyngor yn gofyn amdanynt.
Cyflogaeth a Hyfforddiant
Cyd-destun
Gall ddatblygiadau newydd wneud cyfraniad helaeth i les economaidd y gymuned leol trwy ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth lleol. Bydd rhoi pwyslais ar sicrhau fod y gweithlu lleol a busnesau ynghlwm â datblygiad yr ardal yn sicrhau fod manteision datblygiad yn cael eu gwireddu ar gyfer y gymuned leol yn y dyfodol.
- Hyfforddiant Adeiladu Lleol
- Cyflogaeth Cyffredinol a Chyfraniadau Hyfforddiant
- Ffeiriau Swyddi
- Cyfleusterau hyfforddiant newydd ac isadeiledd perthnasol
- Cynlluniau cyflenwad lleol.
Cyfiawnhad
- Canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol:-
- Polisi Cynllunio Cymru (2010)
- Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd
- Strategaeth Adfywio Conwy 2005-2015
Oherwydd fod datblygiad newydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar y sgiliau sydd ar gael, credir y gellir cyfiawnhau rhoi cyfraniadau pellach i hyfforddiant cyflogaeth.
Trothwy ar gyfer Darparu
Egwyddor allweddol wrth ystyried a cheisio cyfraniadau gan ddatblygwyr yw a oes cyswllt ymarferol a/neu ddaearyddol/gofodol rhwng y datblygiad a’r mesur, prosiect neu raglen y bydd y ddarpariaeth neu’r cyfraniadau yn eu cefnogi.
Sbardun Darparu
Mae’n debygol y bydd angen rhwymedigaethau a chyfraniadau mewn perthynas â chyflogaeth a hyfforddiant cyn dechrau’r datblygiad a gallant barhau drwy gydol y cyfnod datblygu.
Diogelwch Cymunedol
Hyrwyddo dyluniad da i leihau cyfleoedd trosedd yw’r prif ddull o fynd i’r afael â diogelwch cymunedol yn y system gynllunio. Ond, bydd enghreifftiau lle bydd natur y datblygiad yn creu gofyniad ar gyfer sefydlu mesurau rheoli ychwanegol i fynd i’r afael â risgiau mynediad a diogelwch yn yr ardal ddatblygu.
- gwell goleuadau stryd
- gosod camerâu TCC, yr ardal sy’n cael ei gwylio, a threfniadau monitro
- Gwelliannau cerddwyr angenrheidiol i fynd i’r afael â diogelwch cymunedol
- Mannau heddlu
- Arwyddion yn ymwneud â diogelwch a diogelwch cymunedol.
Bydd cyfraniadau yn cael eu pennu mewn ymgynghoriad â Swyddog Cyswllt yr Heddlu
Cyfiawnhad
- Canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol:-
- Polisi Cynllunio Cymru (2010)
- TAN 12 – Dylunio
- Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd, yn enwedig Polisi DP/3 – Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Troseddau
Trothwy ar gyfer Darparu
Bydd lefel y cyfraniad yn cael ei ystyried fesul achos. Mae cyfraniadau yn fwyaf tebygol o gael eu ceisio gan ddatblygiadau sydd mewn ardaloedd cyhoeddus proffil uchel, fel canol trefi, neu mewn ardal lle bydd cyfradd uchel o droseddau, neu sydd ar gyfer defnydd risg uchel.
Bydd y cyfraniadau yn berthnasol i ddatblygiadau newydd a newid defnydd, estyniadau, ceisiadau ar gyfer defnyddio blaengwrt ac ar gyfer ymestyn oriau agor.
Efallai y bydd rhaid i gynlluniau datblygu sy’n cael effaith fawr ar wasanaethau brys a heddlu gyfrannu at ddarpariaeth ychwanegol o’r gwasanaethau hyn yn ardal y cynllun neu’r ardal gyfagos.
Sbardun Darparu
Bydd y graddfeydd amser ar gyfer y cyfraniad angenrheidiol yn cael ei gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn rhan o’r Cytundeb Cyfreithiol. Ar gyfer gwaith sy’n ymwneud yn uniongyrchol â diogelwch datblygiad mae’n debygol y bydd ei angen yn ystod cyfnod cyn dechrau neu gyfnod cyn preswylio'r broses gynllunio.
Rheoli ac Ailgylchu Gwastraff
Cyd-destun
Gofynnir am gyfraniadau gan y Cyngor ar gyfer costau cyfalaf rhoi cynwysyddion gwastraff domestig/ailgylchu ym mhob eiddo preswyl newydd fel sy’n briodol.
Cyfiawnhad
- Canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol:-
- Polisi Cynllunio Cymru (2010)
- Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd, yn enwedig Polisïau MWS/6 – Cynigion ar gyfer Rheoli Gwastraff ac MWS/7 – Lleoliadau ar gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff
- Strategaeth Rheoli Gwastraff Trefol Conwy
Trothwy ar gyfer Darparu
Bydd ffi safonol ar gyfer cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu yn berthnasol i bob annedd newydd dim ots beth yw nifer yr ystafelloedd gwely.
Bydd y ffi safonol yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r gost fesul eitem fel y nodwyd yn Nhablau 6 a 7. Bydd y Cyngor yn asesu fesul achos a fydd anheddau aml-uned yn cael cynwysyddion unigol neu i’w rhannu.
Efallai y bydd rhaid i ddatblygiadau preswyl mawr gyfrannu tuag at ddarpariaeth canolfannau ailgylchu cymunedol os oes eu hangen. Byddwn yn trafod darparu cyfleusterau o’r fath ar gyfer datblygiadau mawr fesul achos.
Sbardun Darparu
Bydd angen gwneud cyfraniad dim hwyrach na’r dyddiad pan fydd yr unigolion cyntaf yn symud i’r datblygiad.
Celf Gyhoeddus
Cyd-destun
Mae celf gyhoeddus yn gwneud cyfraniad pwysig i lwyddiant dyluniad trefol o ansawdd uchel a gall helpu i wella ansawdd y datblygiad. Felly, bydd Cyngor Conwy yn annog cynnwys celf gyhoeddus mewn unrhyw ddatblygiad newydd fydd yn cael effaith sylweddol ar ei amgylchedd a’i leoliad.Gall celf gyhoeddus fod yn amrywiol yn ei ffurf a’i swyddogaeth ac mae’n cynnwys gwaith sydd wedi’i integreiddio â’r datblygiad, fel dodrefn stryd, goleuadau, gwaith brics, rheiliau cerddwyr, rampiau mynediad ac arwyddion, yn ogystal â cherfluniau.
Dylai artistiaid, lle bo’n briodol, weithio mewn ymgynghoriad gyda’r gymuned leol h.y. y bobl fydd wedi’u heffeithio gan y safle a’r gwaith celf.
Cyfiawnhad
- Canllawiau polisi cynllunio cenedlaethol:-
- Polisi Cynllunio Cymru (2010)
- TAN 12 – Dylunio
- Cynllun Datblygu Lleol Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd, sef Polisi DP/3 – Hyrwyddo Ansawdd Dyluniad a Lleihau Trosedd
- Gyfrannu at arbenigedd yr ardal leol;
- Creu amgylchedd cyffrous i fyw, gweithio, buddsoddi neu ymweld;
- Gwella mannau cyhoeddus pwysig;
- Helpu i integreiddio datblygiad newydd i’r ffabrig adeiledig presennol; a,
- Rhoi rhan uniongyrchol i’r gymuned mewn datblygiadau newydd, gan greu synnwyr o falchder a pherchnogaeth leol.
Trothwy ar gyfer Darparu
Bydd y Cyngor yn ceisio defnyddio’r cynllun ‘Canran Celf’, lle bydd dim mwy na 1% o gostau cyfalaf datblygiad newydd yn cael ei ddyrannu i ddarparu celf gyhoeddus.
Bydd y penderfyniad ynglŷn â darparu celf gyhoeddus ar y safle, neu oddi ar y safle, yn cael ei benderfynu fesul achos a bydd yn dibynnu ar faint a natur y datblygiad.
Sbardun Darparu
Bydd y graddfeydd amser ar gyfer darparu cyfraniad ar gyfer celf gyhoeddus ar y safle neu oddi ar y safle yn cael ei gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i nodi yn y Cytundeb Cyfreithiol.