12. Monitro a Gweinyddu
Oherwydd pwysigrwydd rhwymedigaethau cynllunio yn y broses rheoli datblygu, mae’n bwysig fod y gwaith o drafod rhwymedigaethau cynllunio a’r broses o wario cyfraniadau gan ddatblygwyr yn cael eu monitro yn ofalus ac yn effeithlon mewn modd cyhoeddus a chyfrifol.
Felly, y bwriad yw cyflwyno ffioedd ar gyfer gweinyddu/monitro rhwymedigaethau cynllunio yn unol â’r cyfraddau isod. Bydd y cyfraniadau sy’n cael eu talu ar gyfer gweinyddu/monitro yn cael eu defnyddio i dalu’r costau sy’n bennaf gysylltiedig, ond nid yn gyfan gwbl, gyda’r meysydd gwaith canlynol:-
- Cyflogi swyddog monitro llawn amser;
- Prosesu taliadau cyfraniadau ariannol;
- Diweddaru cronfa ddata adran 106 y Cyngor;
- Gweinyddu ymrwymiadau unochrog;
- Cynnal gwiriadau monitro safle unigol i asesu a yw’r caniatâd wedi’i weithredu;
- Monitro amodau’r rhwymedigaethau cynllunio;
- Gohebiaeth sy’n gysylltiedig â thalu cyfraniadau ariannol; a,
- Llunio adroddiadau monitro rhwymedigaeth cynllunio blynyddol ynglŷn â derbynebau a gwariant.
Bydd gwahanol fathau o rwymedigaeth cynllunio yn arwain at wahanol lefelau o rwymedigaeth gweinyddu a monitro. Bydd ffioedd yn berthnasol fesul cymal, sy’n daladwy yn y cam cyn datblygu. Bydd y cymalau unigol sy’n ymwneud â darparu cyfraniadau ariannol yn unig yn cynnwys llai o weinyddu a monitro na’r cymalau sy’n ymwneud â darpariaeth isadeiledd penodol ac efallai y bydd cyfres o oblygiadau monitro dilynol. Felly bydd ffi wahanol yn dibynnu ar y math o gymal dan sylw.
Tabl 12.1 Lefelau ffioedd monitro adran 106
- Gwybodaeth ynglŷn â’r rhwymedigaethau perthnasol
- Cyfraniadau ariannol a gafwyd
- Tai fforddiadwy a drafodwyd
- Cwblhau cynlluniau a ariannwyd o gyfraniadau ariannol