Rhagair a’r Cefndir.

0.1.

Mae’r uwchgynllun hwn yn benllanw ar gomisiwn ymgynghorol dan arweiniad DPP Shape, a fu’n gweithio gydag Arc 4, Keppie Massie a Martin Stockley Associates. Mae’r uwchgynllun, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Conwy, yn rhoi arweiniad ac eglurhad ar gyfer creu dyfodol newydd i dref Bae Colwyn. Fe’i datblygwyd trwy gydweithio mewn grŵp llywio wedi’i neilltuo i’r pwrpas, ymgynghori lleol a gweithdai i randdeiliaid gydag ystod eang o swyddogion, asiantaethau, perchenogion eiddo, busnesau a thrigolion.

Yr her oedd ailddyfeisio Bae Colwyn fel tref yn yr 21ain ganrif gyda ffocws newydd ar ei rôl fel tref lan-môr a lle deniadol i fyw ynddo, ymweld ag ef a buddsoddi ynddo.

Ein man cychwyn fu ffawd economaidd Bae Colwyn sydd wedi dioddef dros sawl degawd. Mae nifer o gyrchfannau glan-môr Cymru wedi wynebu heriau wrth ymateb i newidiadau mewn amgylchiadau economaidd a newidiadau yn chwaeth y cwsmeriaid. Mae Bae Colwyn wedi wynebu anawsterau arbennig a oedd yn gysylltiedig ag adeiladu’r A55, gwahanu’r traeth yn ffisegol oddi wrth ganol y dref, a diffyg bywiogrwydd canol y dref o ganlyniad i hynny, a arweiniodd at beidio â defnyddio digon ar nifer o nodweddion twristaidd allweddol a nodweddion unigryw’r dref gan gynnwys y traeth, y craidd adwerthu, y promenâd, y parc a’r pier. Mae Bae Colwyn wedi methu â sefydlu rôl economaidd unigryw yn hierarchaeth trefi Gogledd Cymru ac mae’r problemau yn y dref o ran tai, adwerthu a buddsoddi yn deillio o hyn. Fe gydnabuwyd hyn, ac fe arweiniodd hynny at sefydlu menter Bywyd y Bae a chanolbwyntio cronfeydd adfywio o fewn Ardal Adfywio Strategol Gogledd Cymru.

Yn awr mae gan Fae Colwyn gyfle unigryw i fanteisio ar y buddsoddiadau sy’n gysylltiedig â nifer o brosiectau sy'n wirioneddol gyffrous, megis y traeth newydd yn y dref, y buddsoddiadau mewn mesurau i amddiffyn yr arfordir, buddsoddiad mewn Academi Rygbi a chyfleuster digwyddiadau a ffocws ar y materion adnewyddu tai yn yr ardal. Mae’r rhain yn darparu nifer o’r elfennau ar gyfer Bae Colwyn newydd. Mae’r uwchgynllun yn dod â’r holl syniadau a mentrau ynghyd mewn un strategaeth integredig ar gyfer newid.

Mae amrywiaeth o brosiectau a syniadau yn yr uwchgynllun. Mae rhai’n radical ac yn hirdymor megis ailfodelu Canolfan Siopa Bay View a’r cyswllt ar ffurf pont dros yr A55 tra all eraill gael eu gweithredu’n rhwydd fel prosiectau sbarduno a fydd yn dwyn enillion cynnar megis sgwâr newydd y dref, gan mai dim ond ychydig o gaffaeliadau a gwaith paratoadol sydd eu hangen. Bydd yr holl brosiectau, ni waeth beth fo’u maint, yn cael yr effaith y mae’i hangen i helpu i drawsnewid ac ail-leoli Bae Colwyn fel lle dymunol i fuddsoddi ynddo, ymweld ag ef, gweithio a byw. Yr allwedd fu sicrhau bod yr holl brosiectau’n cydgysylltu ac yn integreiddio â’i gilydd ac uchelgeisiau economaidd a diwylliannol ehangach y dref. Caiff y cynigion eu cyflwyno o fewn fframwaith gofodol cydlynol.

« Back to contents page | Back to top