1. Pennod 1. Gweledigaeth ar gyfer Bae Colwyn.

1.1.

Y Briff.

Y briff a roddwyd i DPP Shape oedd datblygu uwchgynllun graddol ar gyfer tref Bae Colwyn, a hwnnw’n cael ei danategu gan strategaeth gyflawni gref. Mae’r uwchgynllun wedi cael ei ddatblygu â dealltwriaeth am leoliad strategol ehangach Arfordir Gogledd Cymru a’i gymhellion economaidd. Mae perthynas leoliadol Bae Colwyn â Chonwy, Llandudno a marchnadoedd cyflogaeth a phreswyl sy’n cystadlu â’i gilydd oll wedi llywio’r cynllun. Mae’r uwchgynllun hwn yn canolbwyntio ar gynigion penodol o fewn y dref a sut i wneud y gorau o fuddsoddiadau wedi’u cynllunio. Gan gadw hyn mewn cof, mae’r dull yma’n un sy’n seiliedig ar safleoedd a phrosiectau gan sicrhau bod mentrau arfaethedig yn cydblethu â fframwaith strategol ar gyfer caffael tir, a blaenoriaethau presennol y gellir eu cyflawni.
1.2.

Yn fyr, roedd y briff yn ei gwneud yn ofynnol i’r uwchgynllun wneud y canlynol:

  • Cysylltu â dyheadau ac amcanion Menter Bywyd y Bae
  • Adnabod rhagolygon ar gyfer datblygiadau masnachol ac adwerthu.
  • Datblygu strategaeth gaffaeliadau i ategu prosiectau datblygu
  • Adnabod prosiectau a fyddai’n hybu economi gyda’r nos.
  • Archwilio’r posibilrwydd o leoli Swyddfeydd y Cyngor yng nghanol y dref.
  • Cynyddu i’r potensial eithaf y Promenâd a phrosiectau i wella amddiffynfeydd môr.
  • Cynyddu i’r potensial eithaf Parc Eirias a’r Academi Rygbi arfaethedig.
  • Gwella cysylltiadau i gerddwyr a cherbydau ar draws y dref a gwella mynediad at gludiant cyhoeddus.
  • Ystyried yr angen i gynnig prosiectau eiconig i gryfhau hunaniaeth y dref.
  • Adnabod ble a sut y gall ardal breswyl Dwyrain Colwyn a’i marchnad dai gael ei gwella a’i chysylltu’n well ag ardaloedd eraill.
  • Ystyried prosiectau ar gyfer ardaloedd o dir y cyhoedd a chreu mwy o ardaloedd i gerddwyr yn unig.
1.3.

Yn ymhlyg ym mhob un o’r uchod mae’r angen i roi sylw i gymeriad a hunaniaeth Bae Colwyn, ac yn arbennig i ychwanegu dimensiwn gofodol a ffisegol at ddyheadau Menter Bywyd y Bae.

1.4.

Y Weledigaeth

Y weledigaeth ar gyfer Bae Colwyn yw creu ‘Tref ffyniannus, ddeniadol a fywiog sy’n groesawgar, yn ddiogel ac yn gyfeillgar; lle ac iddo gymeriad unigryw y mae pobl yn falch o fyw ynddo’.

1.5.

cyfleoedd busnes a’r buddsoddiadau wedi’u cydgysylltu a lle gall y sector preifat ymgysylltu â chynllun gweithredu eglur. 

1.6.

Mae’n rhaid manteisio ar, a gwella lleoliad unigryw a darluniaidd Bae Colwyn ac mae angen i adeiladau a mannau newydd fod y rhai gorau posib er mwyn helpu i gryfhau a sefydlu hunaniaeth gref i’r dref. Mae tref groesawus yn un lle mae ymwelwyr yn cael y dref yn ddyrchafol, yn gyffrous ac yn hawdd teithio o’i chwmpas gyda digonedd o atyniadau’n annog ymwelwyr i weld mwy, aros yn hwy a gwario.

1.7.

Nodau ac Amcanion.

Fe ddeilliodd y nodau a’r amcanion cyffredinol ar gyfer yr uwchgynllun strategol hwn o gyfarfodydd cynnar gan y grŵp llywio ac i randdeiliaid. Mae’r amcanion strategol canlynol wedi cael sylw trwy’r cynigion yn y cynllun hwn. 
  • Adnabod a manteisio ar y sbardunau allweddol i newid economaidd.
  • Adnabod cyfleoedd ar gyfer datblygiadau masnachol ac adwerthu.
  • Mynd i’r afael â gwendidau’r farchnad dai yng nghymdogaeth Lawson Road a Greenfield Road.
  • Cynyddu i’r eithaf y buddsoddiadau yn yr isadeiledd ar gyfer cerddwyr a cherbydau.
1.8.
Yr allwedd i gyflawni’n llwyddiannus fydd mynd ati’n ofalus i gydgysylltu ac integreiddio buddsoddiadau gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat i fynd i’r afael â gwendidau’r dref a gwneud y gorau o’r llu o asedau ynddi. Er mwyn mynd i’r afael â’r amcanion strategol uchod, mae nodau mwy penodol y cynllun hwn fel a ganlyn: 
  • Creu’r amodau ar gyfer buddsoddiadau a thwf economaidd yn y tymor hirach
  • Gweithio gyda ffabrig hanesyddol da’r dref
  • Cynyddu cysylltedd â’r glannau
  • Integreiddio’r cynigion sydd eisoes ar y gweill megis y gwaith sy’n cael ei wneud i amddiffyn yr arfordir.
  • Cynyddu’r cysylltiadau rhwng y dwyrain a’r gorllewin ar draws canol y dref yn enwedig rhwng canol y dref, Dwyrain Colwyn a Pharc Eirias.
  • Datgloi potensial Nant Eirias.
  • Gwella’r cysylltiadau â Ffordd Abergele. 
  • Gwella’r cyfle a gynigir gan y Ganolfan Ddigwyddiadau a'r Academi Rygbi newydd arfaethedig a gweddill Parc Eirias.
  • Datgloi potensial canolfan siopa Bay View.
  • Creu ffocws newydd i ganol y dref.  
  • Gwella symudiad cerbydau i mewn i’r dref ac o fewn y dref.
  • Gwella mynediad at gludiant cyhoeddus.

« Back to contents page | Back to top