2. Pennod 2. Datblygu’r Uwchgynllun.

2.1.

Ymgynghori ac Ymgysylltu.

Mae ymgynghori â thrigolion a chynnwys trigolion wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu’r uwchgynllun ac fe ymgymerwyd â phroses o ymgysylltu ar draws rhannau amrywiol o’r dref gan ddefnyddio nifer o ddulliau cyfathrebu. Mae’n bwysig cydnabod bod gwaith cynllunio cymdogaeth fanylach, barhaus yn dal i fynd rhagddo o fewn yr ardal adnewyddu tai bwysig yn Greenfield Road a Lawson Road. Bydd y gwaith datblygu cymunedol dwys hwn yn cynorthwyo trigolion i chwarae rhan go iawn yn y broses o adnabod blaenoriaethau ar gyfer gweithredu. Mae’r tîm ymgynghorol wedi sicrhau bod materion lleol yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth i gynlluniau a syniadau ddod i’r amlwg. Ceir crynodeb o’r gweithgarwch isod.

2.2.

Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori â’r gymuned ym mis Mawrth 2010 i roi cyfle i rannu syniadau cynnar a chofnodi’r sylwadau cyntaf a’u bwydo i mewn i’r broses uwchgynllunio. Cynhaliwyd y digwyddiad drwy’r dydd ar ddydd Gwener Mawrth 26 a dydd Sadwrn Mawrth 27 yng Nghanolfan Siopa Bay View. Canolbwynt y digwyddiad oedd cyfres o fyrddau cysyniad a oedd yn darlunio delweddau cyfredol o Fae Colwyn, gan ddangos asedau niferus y dref, yn ogystal â darparu syniadau am brosiectau posib i’w harchwilio a’u trafod. Roedd pobl yn gallu bwydo’n ôl trwy gerdyn post a sylwadau ar bapur gludiog. Cafwyd 443 o ymatebion.

2.3.

Datblygwyd arolwg ar-lein hefyd fel bod pobl yn gallu gweld y cynlluniau a bwydo’u safbwyntiau yn ôl o bell ochr yn ochr ag unrhyw ymatebion ar gardiau post.  Fe fwriwyd golwg ar www.colwynbaymasterplan.info 46 o weithiau gyda 10 o bobl yn cymryd rhan yn yr arolwg.

2.4.

Cynhaliwyd gweithdy tai a brecwast busnes hefyd ym mis Mawrth a mis Ebrill gyda rhanddeiliaid yn cael y cyfle i fwydo’u pryderon a’u blaenoriaethau yn ôl. Daeth 70 o randdeiliaid i’r digwyddiadau gan roi atborth gwerthfawr. 

2.5.

Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal yn ardal breswyl Canol Bae Colwyn i fwydo i mewn i gynllun cymdogaeth manylach fel a ganlyn:

2.6.

Diwrnod Agored Ebrill 2010

Cynhaliwyd diwrnod agored i adnabod materion lleol a blaenoriaethau ar gyfer yr ardal. Daeth tua 30 o bobl i’r digwyddiad hwn yn ystod y dydd.    

Y 5 prif faes blaenoriaethol a adnabuwyd yn nhrefn pwysigrwydd:

  • Materion sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol
  • Tai gwael – tai amlfeddiannaeth
  • Diffyg cyfleoedd cyflogaeth
  • Enw drwg yr ardal
  • Diffyg cyfleusterau/gweithgareddau i bobl ifanc 

Cryfderau:

  • Ymdeimlad cryf o gymuned
  • Dwy ysgol leol dda
  • Agosrwydd at Ganol y Dref
  • Unedau mawr o eiddo â llawer o botensial ar gyfer eu datblygu
2.7.

Grwpiau Ffocws Mehefin 2010

Cynhaliwyd pum grŵp ffocws, pob un ohonynt yn ymdrin â thema benodol, sef:
  • Cynnwys y gymuned a chyfalaf cymdeithasol
  • Pobl ifanc
  • Troseddau. anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Sgiliau dysgu a chyflogaeth (fe’i canslwyd yn ddiweddarach gan nad oedd          digon wedi cofrestru)
  • Yr Amgylchedd a Thai
2.8.

Arolwg o ddrws i ddrws Gorffennaf 2010

Cynhaliwyd arolwg o ddrws i ddrws er mwyn casglu safbwyntiau trigolion nad oeddent wedi cyfranogi yn y diwrnod agored na’r grwpiau ffocws. Cafwyd 22 o ymatebion pellach trwy’r ymchwil hon. Roedd y blaenoriaethau a adnabuwyd yr un fath â’r blaenoriaethau a ddeilliodd o’r diwrnod agored a’r grwpiau ffocws.

2.9.

Cyfarfod Cyhoeddus Gorffennaf 2010

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar 15 Gorffennaf yn Ysgol Pendorlan i drafod y broses Cynllunio Cymdogaeth a’r camau nesaf.  

2.10.

Gweithdai

Mae cyfres o weithdai wedi cael eu cynnal a’r rheiny’n archwilio themâu allweddol sy’n berthnasol i ddyfodol y dref. Mae’r rhain wedi nodi dechrau proses fwy hirdymor o ymgysylltu â ffyrdd newydd o weithio gyda’r bobl leol. Roedd y gweithdai’n cynnwys ystod o gynrychiolwyr a grwpiau lleol ac maent wedi helpu i bennu blaenoriaethau ar gyfer yr uwchgynllun strategol hwn. Roedd y gweithdai’n cynnwys:
  • Maw 17eg Awst -      Tai
  • Maw 24ain Awst -     Diogelwch Cymunedol ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Maw 7fed Medi -       Pobl Ifanc
  • Maw 14eg Medi -      Adborth gan y gymuned
2.11.

Crynodeb o’r Wybodaeth Gychwynnol.

Fe gyhoeddodd y tîm o ymgynghorwyr yr adroddiad cyntaf, “Bae Colwyn. Gwybodaeth Gychwynnol a’r Uwchgynllun sydd wrthi’n Datblygu” ym mis Mai 2010. Roedd y ddogfen hon yn bennaf yn ddadansoddiad cychwynnol o gyd-destun hanesyddol, cefndir economaidd-gymdeithasol a chyd-destun polisi’r gwaith yma. Roedd yr adroddiad cyntaf yn amlygu nifer o gyfleoedd ar gyfer buddsoddi gan gynnwys nifer o gynlluniau a chynigion presennol. Roedd yr adroddiad cychwynnol hwn yn nodi’r cymhellion allweddol sy’n ysgogi newid ac egwyddorion ar gyfer gwaith pellach i ddatblygu cynllun strategol mwy integredig ar gyfer y dref. Isod ceir crynodeb byr o’r prif faterion cychwynnol.

2.12.

Deall Bae Colwyn.

Caiff yr uwchgynllun ei danategu gan fframwaith dylunio trefol a dull cynllunio gofodol sy’n creu ffocws daearyddol eglur ar ganol y dref, y promenâd, y traeth, Parc Eirias, a’r ardal adnewyddu tai yn Greenfield Road a Lawson Road. Mae hyn yn creu’r fframwaith cyffredinol y cafodd cynigion eu datblygu a’u profi oddi mewn iddo. Mae’r dull hwn yn cyfuno’r nodau ac amcanion trosfwaol a ddisgrifiwyd ar ddechrau’r ddogfen hon â strategaeth ofodol glir. Mae deall y lle a sut y mae’n gweithio, ei gryfderau a’i wendidau, wedi bod yn allweddol yn y broses uwchgynllunio.

2.13.

Mae’r canfyddiadau cychwynnol yn debyg i’r heriau a nodir ym Menter Bywyd y Bae. Mae’n amlwg bod gan y dref ddelwedd a hunaniaeth wael er gwaethaf ei lleoliad ehangach. Caiff y sefyllfa hon ei dwysau gan y ffaith bod craidd adwerthu’r dref yn edrych yn aflêr ac yn dreuliedig gydag ystod o unedau gwag ac arlwy gwerth isel ar y cyfan. Er bod gan Ffordd yr Orsaf gasgliad trawiadol o adeiladau presennol, mae creu ardal i gerddwyr yn unig wedi effeithio ar fywiogrwydd a gweithgarwch ar y stryd hon. Mae Canolfan Siopa Bay View hefyd yn effeithio ar y dref gan dynnu pobl i ffwrdd oddi wrth ganol y dref ac i mewn i’r ganolfan siopa gaeedig. Mae’i natur drwchus a swmpus sy’n anghydnaws o ran cynllun a ffurf hefyd yn cyfleu delwedd dlawd, werth isel i ymwelwyr. 

2.14.

Yn yr un modd, mae Menter Bywyd y Bae’n pwysleisio’r diffyg man neu ganolbwynt canolog lle gall busnesau adwerthu, cludiant a phobl gydgyfarfod i greu calon y dref. Nid yw cylchrediad cerddwyr yn eglur, yn enwedig i ymwelwyr sy’n dymuno archwilio a darganfod asedau unigryw’r dref tra bo cysylltiadau â’r glannau a’r parc yn wael iawn ac yn anneniadol.

2.15.

Mae’r trefniadau ar gyfer cyrraedd y dref naill ai mewn car neu drên hefyd yn wan. Mae cylchrediad y traffig yn groes i’r hyn sy’n reddfol ac mae gorsaf drenau Colwyn yn siomedig ar ôl profi’r daith ar y trên arfordirol. Yn ogystal â hynny, mae’r sgwâr nad yw’n llawer mwy na maes parcio ar gyfer yr orsaf yn dreuliedig, yn cael ei gynnal a’i gadw’n wael, wedi’i ddylunio’n wael ac yn annymunol. Mae’n amlwg nad oes ymdeimlad o gyrraedd nac ymdeimlad gwirioneddol o ddisgwylgarwch a dengarwch ym Mae Colwyn.

2.16.

Mae byw mewn rhannau o Fae Colwyn hefyd yn dwyn heriau. Eto yn unol â Menter Bywyd y Bae gwyddom fod stoc dai anghytbwys i’w chael, gyda nifer o’r tai Fictoraidd ac Edwardaidd wedi’u troi’n dai amlfeddiannaeth. Ychydig o dai fforddiadwy i deuluoedd sydd yng nghanol y dref er gwaethaf y ffaith y byddai byw’n agos at y môr, at barc da ac at ganol tref yn ddelfrydol i nifer o deuluoedd ifainc.  

2.17.

Glan y môr yw’r ased gorau ond mwyaf anghofiedig o bosib. Mae cysylltiadau da ar draws yr A55 a’r rheilffordd yn sylfaenol i hunaniaeth lan-môr y dref yn enwedig i ymwelwyr â’r dref. Mae hyn yn mynd law yn llaw â datblygu cyrchfannau newydd ar gyfer y dref gan gynyddu niferoedd yr ymwelwyr a chryfhau’r economi leol.   

2.18.
Fel y disgrifir yn y dadansoddiad cychwynnol mae llu o rwystrau ffisegol a gofodol heriol y mae’r uwchgynllun wedi mynd i’r afael â hwy ac sydd wedi cael effaith elfennol niweidiol ar y modd y defnyddir y dref a’r profiad a geir ynddi. I grynhoi, dyma fu’r heriau:
  • Y rhwystr a’r diffyg cyswllt rhwng y dref a glan y môr a achoswyd yn gyntaf           gan y rheilffordd ac yna gan Ffordd Gyflym yr A55.
  • Y berthynas dopograffig rhwng y dref a glan y môr.
  • Dyluniad Canolfan Siopa Bay View a’i pherthynas â chanol y dref.
  • Y rhan y mae angen i Ffordd Abergele ei chwarae fel Stryd Fawr benodol.
  • Yr angen i gysylltu’r dref tua’r dwyrain â’r Ganolfan Ddigwyddiadau a’r      Academi Rygbi newydd a Pharc Eirias ar draws Nant Eirias.
  • Manteisio ar asedau arwyddocaol glannau a mannau gwyrdd y dref.
2.19.

Treftadaeth a Chadwraeth.

Caiff calon fasnachol bresennol Bae Colwyn ei chydnabod yn ardal o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig ac fe’i dynodwyd yn ardal gadwraeth ym 1988. Mae i’r rhan hon o’r dref gynllun a phatrwm stryd pendant ac mae llinell adeiladau gref wedi cael ei sefydlu, gan greu ymdeimlad o le caeedig. Fodd bynnag, mae ymdeimlad o ehangder i gymeriad y rhan hon o’r dref oherwydd lled rhai strydoedd. Mae cyfoeth ac amrywiaeth pensaernïol wedi datblygu trwy ddatblygiad adeiladau unigol a phwrpasol ac mae nifer o’r rhain yn adeiladau rhestredig.

2.20.

Datblygwyd Bae Colwyn yn bennaf yn ystod rhan olaf y 19eg ganrif ac mae felly’n dref gymharol newydd. Serch hynny, mae iddi gymeriad Fictoraidd eglur a phendant iawn, a dirodres hefyd, y gellir defnyddio’r agweddau cadarnhaol arno i lywio a chyfarwyddo ymyrraeth a datblygiad modern yn y dref yn y dyfodol. Caiff ffawd economaidd y dref ei hadlewyrchu yn ei ffabrig. Yn y 1980au fe wnaeth yr A55, Canolfan Siopa Bay View, colli nifer o flaenau siopau a datblygiadau anghydnaws oll effeithio’n negyddol ar gymeriad y dref.

2.21.

Nid yw’r uwchgynllun strategol hwn yn newid unrhyw ddynodiadau statudol sydd wedi’u bwriadu i ddiogelu cymeriad hanesyddol ardaloedd cadwraeth neu adeiladau rhestredig. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar yr agweddau y mae buddsoddi ynddynt yn debygol o ddwyn effaith ar y dref gyfan ac mae’n cynnig dull cydgysylltiedig ac integredig mewn perthynas â buddsoddiadau a fydd yn arwain at gynaliadwyedd economaidd hirdymor. Mae diffiniadau o brosiectau yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn yn rhoi mwy o fanylion am faterion sy’n ymwneud â chyflawni.

2.22.

Adnewyddu Tai.

Mae gan yr ardal adnewyddu tai nifer o nodweddion cadarnhaol sy’n cynnwys unedau o eiddo â chymeriad, ysgol leol a nifer o gyfleusterau cymunedol cadarnhaol. Mae ganddi lefelau o berchentyaeth sy’n gymharol uchel i ardal adnewyddu, a hithau mewn lleoliad canolog mewn tref sy’n derbyn buddsoddiadau a chyfleoedd sylweddol trwy brosiectau adfywio megis y Ganolfan Ddigwyddiadau newydd arfaethedig ym Mharc Eirias. Mae ganddi gyfle mawr i ddod yn ardal breswyl boblogaidd, mewn lleoliad da, sy’n cynnig marchnad dai â chymysgedd gwahanol o dai yn agos at ganol y dref, yr arlwy adwerthu, cyfleusterau hamdden ac agosrwydd at brif lwybrau cludiant.  

2.23.
Fodd bynnag, mae gan yr ardal enw drwg ac mae’n profi diffyg hunaniaeth. Fe’i nodweddir gan stoc dai o ansawdd gwael, sector rhentu preifat a reolir yn wael, aelwydydd ar incwm isel ac ystod o broblemau cymdeithasol ac economaidd. Ond mae’r boblogaeth breswyl yn gymharol fodlon, gan gydnabod manteision y mae byw yn yr ardal yn eu cynnig a deall ble mae angen gwneud gwelliannau. Er nad ydym yn tanamcangyfrif yr adnoddau a’r ymrwymiad y bydd eu hangen, mae gan yr ardal ddyfodol ond mae’n rhaid wrth raglen fuddsoddi wedi’i rheoli’n ofalus sy’n cyfuno adnoddau ffisegol ac adnoddau refeniw er mwyn: 
  • Gwella cartrefi presennol a’r arlwy preswyl cyffredinol.
  • Targedu ardaloedd clirio a chanolbwyntio ar arlwy newydd o dai ar gyfer teuluoedd.
  • Cynnal/gwella’r lefel bresennol o berchenddeiliadaeth ond cynyddu nifer y perchenogion hynny sy’n ifancach ac yn weithgar yn economaidd ac yn gallu buddsoddi yn eu cartrefi a’r gymuned
  • Gweithio gyda phobl a busnesau lleol i wella perfformiad cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr ardal
2.24.
Dylai’r blaenoriaethau a fydd yn dod i’r amlwg yn yr ardal yn y dyfodol fod fel a ganlyn:
  • Cadw a chynyddu eiddo yn y sector perchenddeiliadaeth
  • Gostwng nifer yr unedau o eiddo a reolir gan landlordiaid preifat o ansawdd gwael
  • Gwella dewis ac ansawdd yr arlwy tai
  • Mabwysiadu dull Rheoli Cymdogaeth i sicrhau buddsoddiad hirdymor
  • Datblygu dull y cytunwyd arno’n lleol i lunio cynllun gofodol ar gyfer y gymdogaeth sy’n cynyddu i’r eithaf y cyfleoedd i adeiladu tai newydd ar safleoedd cymharol fach ond mewn mannau lle bydd cynhyrchion tai newydd yn effeithio ar y farchnad dai ar y cyfan.
2.25.

Mae rhaglen ymgynghori a phroses cynllunio cymunedol fanwl ar waith a bydd hyn o gymorth i ddatblygu cynllun gweithredu cymdogaeth i’w roi ar waith yn yr ardal a chytuno ar flaenoriaethau gyda phobl leol er mwyn eu cynnwys yn y cyfleoedd ar gyfer y Dref a’u cymdogaeth yn y dyfodol.

2.26.

Hamdden a Thwristiaeth.

Ymddengys fod gan Fae Colwyn, yn wahanol i gyrchfannau cyfagos Llandudno a’r Rhyl, sector hamdden gymharol ddibwys. O ganlyniad, mae’r gyfran o’r lle yng nghanol y dref sydd wedi’i neilltuo ar gyfer difyrion a diwydiannau hamdden gryn dipyn yn llai nag mewn ardaloedd glan-môr cyfagos. Mae’r dref yn elwa o’r cyfleusterau hamdden a ddarperir ym Mharc Eirias, megis y trac athletau/stadiwm pêl-droed, cyrtiau tenis, lawntiau bowlio, pwll nofio a’r ‘ysgol goedwig’ arfaethedig. Mae gan y dref hefyd sw; Sw Mynydd Cymru (Sw Cenedlaethol Cymru) a thu hwnt i hwnnw ceir ystod o deithiau cerdded dros fryniau a choetiroedd gyda golygfeydd ysblennydd dros y dref a’r Bae. Mae chwaraeon dŵr yn boblogaidd oddi ar ben dwyreiniol y promenâd a phentref cyfagos Llandrillo-yn-Rhos, gan gynnwys sgïo, beiciau jet, syrffio barcud a hwylio.

2.27.
Nid yw canol tref Bae Golwyn yn elwa o theatr ganol-tref sylweddol (fel sydd yn Llandudno, er bod Theatr Colwyn yn cyflawni swyddogaeth hollbwysig, gan weithredu mwy fel ‘theatr gymunedol’ lai), na chyfleusterau cynadledda (fel Blackpool neu Brighton), na ffair na phier gweithiol (megis Llandudno neu’r Rhyl) na hyd yn oed sinema un pwrpas.
2.28.

Mae’r traeth wedi dod yn adnodd sy’n cael ei esgeuluso. Mae’r gostyngiad yn lefelau’r traeth o ganlyniad i erydu arfordirol wedi cael effaith niweidiol ar gymeriad ac ymarferoldeb y traeth. Bydd y cynllun arfaethedig i ailfodelu’r Promenâd, ynghyd â phrosiect i ddiogelu’r arfordir ac adfer y traeth yn dwyn effaith ddofn ar Golwyn fel atyniad pwysig i ymwelwyr.  

2.29.

Er mwyn ategu cynigion hamdden, rhoddwyd ystyriaeth i wella’r economi hamdden/hwyr y nos trwy ddarparu mannau gwerthu yn y dull bistro/”cymdeithas gaffi”. Dylai’r ffocws fod ar argaeledd ystod o ddewisiadau ‘bwyta/yfed’ yn hytrach na diwylliant sy’n gwbl seiliedig ar ‘fariau’. Bydd y math yma o arlwy’n hanfodol er mwyn cynyddu i’r eithaf y cyfleoedd i annog y gymuned bresennol, ymwelwyr lleol a thwristiaid i fynd o gwmpas y dref gyda’r nos, gan greu gweithgarwch cadarnhaol.

2.30.

Crynodeb o Gyd-destun y Farchnad.

Mae’r ffocws o ran y prif fannau adwerthu ym Mae Colwyn yn y blociau sy’n ffinio â Ffordd Abergele/Conway Road, Sea View Road, Rhodfa’r Tywysog a Ffordd Penrhyn, ac sy’n ymgorffori Ffordd yr Orsaf. Mae hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Siopa Bay View, sy’n wynebu Sea View Road. Mae swyddogaethau adwerthu eilaidd wedi'u lleoli’n fwy ffiniol, wedi’u halinio mewn patrwm llinellol ar hyd yr ochr ogleddol yn enwedig ar Ffordd Abergele a Conway Road. Er bod nifer o unedau gwag o fewn y dref wedi cael eu hadnabod, mae hyn wedi digwydd ar lefel facro-economaidd ledled y DU gyfan.

2.31.
Mae Bae Colwyn, yn ôl y farn yn ‘UK Retail in the Regions: Wales Report’ a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2009, wedi gwneud yn well na’i haneddiadau cyfagos, gyda chyfradd unedau gwag o 8.9%, o’i gymharu ag 11.4% yn y Rhyl a 15.9% ym Mangor. Mae Bae Colwyn heb nifer o’r enwau sydd wedi ennill eu plwyf ar y stryd fawr ac, yn arbennig, siop adrannol fwy. Mae Debenhams, Marks and Spencer a Next i gyd yn absennol, fodd bynnag mae nifer o adwerthwyr megis Boots, WH Smith, Thomas Cook, Argos a New Look yn cael eu cynrychioli o fewn yr Ardal Fusnes Ganolog (gan gynnwys Canolfan Siopa Bay View). Mae’n amlwg bod digonedd o siopau elusennol a siopau punt o radd is a siopau bwcïod, hyd yn oed o fewn y ‘craidd’ adwerthu cydnabyddedig.
2.32.

Mae’r gyfran fwyaf o swyddfeydd yng nghanol y dref wedi’u lleoli i’r gorllewin o’r Ardal Fusnes Ganolog (AFG) a’r ardaloedd a adnabuwyd fel prif ardaloedd siopa, ar hyd Wynnstay Road a Rhodfa’r Tywysog. Ymddengys fod clwstwr o wasanaethau proffesiynol yn yr ardal hon, a’r rheiny’n meddiannu’r hen adeiladau preswyl sy’n fwy o faint ac yn fwy sylweddol. Mae swyddfeydd pwrpasol, mwy modern ar gael yn Heritage Gate, sydd wedi’i leoli yn union i’r dwyrain o ganol tref Bae Colwyn ar hyd Ffordd Abergele. Mae swyddfeydd a feddiannir gan y Sector Cyhoeddus, sy’n cynnwys Pencadlys yr Heddlu a’r Ganolfan Ddinesig, yn sefyll ychydig yn ôl, gyferbyn â datblygiad Heritage Gate, ac wedi’u lleoli ar ymyl ddwyreiniol Parc Eirias. Mae swyddfeydd eraill ar gael hwnt ac yma uwchben unedau adwerthu ledled yr ardaloedd a enwir uchod.

2.33.

Symudiad a Chysylltiadau.

Y Rhwydwaith Cerbydau 

Mae’r A55 yn torri trwy ganol y dref mewn hafn ddofn, gan fynd â thraffig rhanbarthol heibio i Fae Colwyn. O’r A55, ychydig o bresenoldeb sydd gan Fae Colwyn i bobl sy’n pasio drwodd, ac wrth gyrraedd, mae’r ymdeimlad o le’n wael iawn.

2.34.

Mae nifer fawr o’r strydoedd ym Mae Colwyn yn rhai unffordd, gan gynnwys nifer o’r strydoedd cefn sy’n arwain o’r A457. Mae systemau unffordd yn creu symudiadau traffig diangen a dylid adolygu’r posibilrwydd o’u troi yn ôl yn strydoedd dwyffordd.

2.35.

Parcio

Mae’r strydoedd cefn yn darparu mannau parcio di-dâl ar y stryd, gyda chyfyngiad o 1-2 awr. Mae mannau parcio ar y stryd i’w cael ar hyd yr A457 hefyd, a digonedd o le parcio ar hyd y Promenâd. Canfu Astudiaeth Traffig Bae Colwyn (1999) fod lle yn y ddau faes parcio oddi ar y stryd a’r mannau parcio ar y stryd yn ystod oriau brig.

2.36.

Mynediad a Llwybrau ar gyfer Cerddwyr

Mae gan ganol tref Bae Colwyn rwydwaith ffyrdd da sy’n golygu ei bod yn gymharol rwydd symud o gwmpas canol y dref ar droed. Fodd bynnag, mae nifer o gyfyngiadau a rhwystrau sy’n gwneud mynediad ar gyfer cerddwyr yn anodd o ran mynd i ac o rai ardaloedd. Y rhwystrau mwyaf amlwg yw’r A55 a’r rheilffordd, sy’n gwahanu canol y dref oddi wrth y glannau.

2.37.

O ganol y dref dim ond un mynediad uniongyrchol sydd at y glannau a’r Pier; trwy Victoria Avenue a’r Orsaf. Mae cyfle gwirioneddol yma i greu cyswllt gwell rhwng canol y dref a’r glannau, ac i greu lleoedd ar ei hyd, megis sgwâr gwell i ganol y dref y tu allan i’r Orsaf, a fyddai hefyd yn gweithredu fel porth a man cyrraedd i deithwyr sy’n cyrraedd ar y trên.

2.38.

Parc Eirias

Cynigir ailddatblygu cyfleuster hamdden a chwaraeon Parc Eirias i’r dwyrain o ganol y dref o fewn y blynyddoedd nesaf, gyda’r gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan y cynigion ar gyfer Academi Rygbi ac Arena Digwyddiadau. Dylid ystyried llwybrau ar gyfer cerddwyr a sut y bydd ymwelwyr yn cyrraedd ar gludiant cyhoeddus i’r stadiwm newydd.

2.39.

Llwybrau Beicio

Mae Llwybr Rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n dilyn arfordir Gogledd Cymru o Sir y Fflint trwy Wynedd yn rhedeg ar hyd Promenâd Colwyn, mewn lôn wedi’i marcio, oddi ar y ffordd. Mae’r llwybr hwn yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol.

2.40.

Cludiant Cyhoeddus

Bysiau 

Caiff tref Bae Colwyn ei gwasanaethu’n dda gan fysiau ac mae bysiau ar y rhan fwyaf o lwybrau’n stopio ar hyd yr A457 ac mae bysiau ar rai llwybrau (wedi’u contractio gan yr ALl) hefyd yn stopio yn yr orsaf.

Rheilffordd

Caiff tref Bae Colwyn ei gwasanaethu gan y lein drenau o’r gorllewin i’r dwyrain rhwng Caergybi a Chaer ac mae trenau’n rhedeg yn aml, bob 1-2 awr. Ceir trenau uniongyrchol hefyd i Fanceinion (2 awr) a Llundain (dan 3 awr). Gallai ardal yr orsaf fel man cyrraedd gael ei gwella’n arw i gyfarch a chroesawu ymwelwyr i Fae Colwyn. Gallai’r ardal hon fod yn allweddol yn unrhyw waith i wella’r dref yn strategol ac yn amgylcheddol.

2.41.

Crynhoi.

Mae’r ymchwil gychwynnol, yr adolygiad o bolisïau a strategaethau presennol ac ymgynghori critigol gydag ystod amrywiol o randdeiliaid gan gynnwys trigolion oll wedi llywio datblygiad yr uwchgynllun hwn ar gyfer y dref gyfan. Mae lefel uchel o falchder a phryder ynghylch dyfodol Bae Colwyn a chydnabyddiaeth bod angen dulliau newydd o ymdrin ag asedau’r dref. Mae’n rhaid i’r broses o gyflawni gweledigaeth a chynlluniau manwl ar gyfer cyflawni’r weledigaeth honno adeiladu ar y diddordeb a’r momentwm sy’n amlwg yn bodoli.

« Back to contents page | Back to top