3. Pennod 3. Yr Uwchgynllun – Creu Lleoedd.
Mae’r adran hon o’r adroddiad yn disgrifio’r uwchgynllun terfynol o ran fframwaith dylunio trefol, uwchgynllun eglurhaol. ardaloedd ymyrraeth a phrosiectau gweddnewidiol.
Mae’r uwchgynllun wedi’i drefnu ar sail cyfres o brosiectau sy’n amrywio o ran maint a chymhlethdod. Maent hefyd yn sail i’r strategaethau caffaeliadau a datblygu a ddisgrifir yn nes ymlaen. Mae’r bennod hon yn dechrau â’r themâu gofodol trosfwaol y bwriedir rhoi sylw iddynt, mae’n mynd ymlaen i sôn am yr amcanion allweddol ac yna’n nodi cynigion ac ymyriadau gofodol penodol.
Themâu Gofodol.
- Ardaloedd o newid ac ailstrwythuro.
- Ailweirio canol y dref.
- Ailgysylltu â’r môr.
Ardaloedd o newid ac ailstrwythuro.
Mae ardaloedd allweddol i’w cael lle bydd newid ffisegol a chyfleoedd ar gyfer buddsoddi’n cael effaith arwyddocaol. Mae’r Promenâd, canol y dref, Dwyrain Colwyn a Pharc Eirias oll yn cynnwys cynigion a fydd yn golygu ailstrwythuro’r dref yn ofalus trwy gyflawni cynlluniedig, cydgysylltiedig. Nid oes a wnelo’r uwchgynllun hwn ag ailadeiladu sylfaenol ar hyd a lled y dref gyfan. Mae’r mwyafrif llethol o’r dref a’i hadeiladau’n aros yn eu lle. Mae a wnelo’r uwchgynllun hwn â gwneud y gorau o fuddsoddiadau strategol a chreu cyfleoedd ehangach ar gyfer gwella cysyllteddau a chreu effaith gymdeithasol ac economaidd newydd a buddiol.
Ailweirio canol y dref.
Mae’r uwchgynllun yn cynnig patrymau symud gwell ac, mewn rhai achosion, rhai newydd yn y dref gyda phwyslais ar symudiadau tuag at y môr a thua’r dwyrain at y parc. Dan y cynigion yn yr uwchgynllun byddai’n bosib cerdded o’r Ardal Ddinesig yn y dwyrain, dros Nant Eirias, trwy Barc Eirias i mewn i Ddwyrain Colwyn ac yna drwodd i ganol y dref ac at sgwâr y dref. Mae dau gyswllt sylfaenol y mae eu hangen er mwyn ailgysylltu rhannau o’r dref â’i gilydd, sef pont droed ar draws Nant Eirias a’r cyswllt â’r promenâd naill ai dros yr A55 neu o sgwâr newydd y dref.
Ailgysylltu â’r môr
Yng nghalon y dref mae cysylltiadau gweledol a ffisegol â’r môr yn gyfyngedig ac yn gymhleth. Mae symudiad a chysylltiadau greddfol ar gyfer cerddwyr yn eithriadol o gyfyngedig a dryslyd yn enwedig wrth gyrraedd yr orsaf. Mae cysylltiadau gweledol hŷn, hanesyddol hefyd wedi cael eu colli megis Sea View Road a fyddai’n wreiddiol wedi cynnig golygfa fylchog o’r Bae, golygfa sydd bellach yn cael ei chuddio gan yr orsaf. Yn eironig, ni ellir gweld y Bae o Ganolfan Siopa Bay View ac mae’i natur drwchus a swmpus hefyd yn cuddio golygfeydd eraill. Mae’r uwchgynllun yn pwysleisio golygfeydd allweddol o’r dref tuag at y môr a thrwy nifer o brosiectau mae’n sicrhau bod golygfeydd ar draws y Bae’n cael eu gwella a’u dathlu.
Mae’r prosiect i ailfodelu’r orsaf wedi’i fwriadu i agor golygfeydd tuag at y môr o sgwâr newydd y dref a Sea View Road. Mae cyswllt ponti a sgwâr poced yn y ganolfan siopa’n agor cysylltiadau uniongyrchol â’r môr. Mae prosiect datblygu newydd yng nghornel Ogledd Orllewinol Parc Eirias yn agor golygfeydd ar draws y Bae ac i lawr at Nant Eirias.
Fframwaith Trefol yr Uwchgynllun – Yr Amcanion Gofodol Allweddol
- Adeiladu a chryfhau rhwydwaith o gysylltiadau sy’n ailgysylltu’r dref ar ei hyd o’r Ardal Ddinesig yn y dwyrain i Ffordd Penrhyn a thu hwnt yn y gorllewin.
- Darparu cyfres o brosiectau isadeiledd a thir y cyhoedd sy’n hybu’r cysylltedd newydd gan gynnwys cysylltiadau dros Gwm Nant Eirias a’r A55 at y pier a’r promenâd newydd.
- Creu llwybr cylchol o fewn canol y dref sy’n canolbwyntio ar sgwâr cyhoeddus newydd ac sy’n cysylltu elfennau allweddol o’r dref â’i gilydd gan gynnwys pier wedi’i adnewyddu a’i ailfodelu.
- Sicrhau bod prosiectau datblygu wedi’u cysylltu â’i gilydd a bod defnyddiau newydd yn cael eu clystyru i helpu i ddarparu cyfres o ardaloedd penodol yn y dref.
- Dod â mwy o bobl i mewn i ganol y dref trwy gymysgu defnyddiau a chryfhau’r arlwy o ran cludiant cyhoeddus.
Mae’r uwchgynllun yn cydnabod ac yn ceisio cryfhau lleoedd a chymdogaethau gwahanredol y dref. Mae’r promenâd wedi’i rannu ar ei hyd yn draeth teuluol o boptu’r pier adwyog fel rhan o’r gwaith newydd i amddiffyn yr arfordir. Mae ardal chwaraeon dŵr wedi’i lleoli i’r dwyrain o Nant Eirias lle cynigir canolfan chwaraeon dŵr a llithrfeydd newydd.
Mae Parc Eirias wedi’i isrannu ymhellach yn gyrchfannau ac atyniadau penodol. Cynigir pentref chwaraeon wedi’i glystyru o amgylch y Ganolfan Ddigwyddiadau newydd, a fydd yn gartref i Academi Rygbi gan Undeb Rygbi Cymru. Mewn mannau eraill caiff y parc ei ddiffinio gan gyrchfan teuluol newydd, canolfan ddinesig wedi’i chryfhau i’r dwyrain ac ardal addysgol i’r gorllewin o amgylch rhan uchaf Nant Eirias sydd hefyd yn dod yn gyrchfan wedi’i wella drwy ei hawl ei hun.
Caiff ardal Dwyrain Colwyn, a ail-enwir yn ‘Seaville’, ei chryfhau fel ardal breswyl benodol yng nghanol y dref gyda gwell cysylltiadau ac arlwy preswyl. I’r gorllewin caiff canol y dref ei ailadeiladu ar gefn y prosiect i ailfodelu Canolfan Siopa Bay View gyda sgwâr a gorsaf newydd i’r dref. Mae’r ardal fusnes bresennol i’r gorllewin yn aros a chaiff ei chysylltu gan Ffordd Abergele/Conway Road a fydd yn cael eu gwella.
Fframwaith Trefol yr Uwchgynllun – Cynigion ac Ymyriadau Allweddol.
O ran yr uwchgynllun mae’r dref wedi’i rhannu’n 7 ardal allweddol. Mae’r gwahanol ardaloedd hyn yn cydgrynhoi agweddau ac asedau allweddol megis defnyddiau, cysylltedd, lleoliad, topograffeg, treftadaeth ac ati a fydd yn tanategu amrywiaeth o wahanol ddatrysiadau ar gyfer newid ac adfywio. Caiff pob ardal ei hysgogi a’i llunio gan wahanol anghenion ond maent wedi’u bwriadu i gysylltu â’i gilydd mewn arlwy cydgysylltiedig, mwy cydlynol ar gyfer ymwelwyr, busnesau a thrigolion.
Ardaloedd Allweddol.
- Pentref Chwaraeon.
Mae’r prosiect hwn yn rhan hanfodol o Barc Eirias ac mae’n ymwneud â chynnig i adeiladu arlwy llawer mwy o ran maint a mwy effeithiol o gwmpas yr Academi Rygbi a’r stadiwm. Mae’r defnyddiau chwaraeon presennol megis pêl-droed, tenis a ffitrwydd wedi’u cydgrynhoi yn y pentref chwaraeon gan ddarparu cyfleuster iechyd, hamdden a ffitrwydd aml-fynediad ar gyfer y dref ac ymwelwyr. Byddai’r pentref chwaraeon yn cysylltu â’r cynigion hamdden newydd eraill yng nghorff y prif barc ac yn gwneud Colwyn yn atyniad canolog ar arfordir gogledd Cymru.
- Ardal Dai Ddwyreiniol.
Yr ardal breswyl hon sydd wedi’i lleoli rhwng y parc a chanol y dref yw’r allwedd i gysyllteddau gwell ar draws y dref yn ogystal ag arlwy preswyl gwell o lawer yng nghanol y dref. Y bwriad yw helpu’r ardal i wynebu’n fwy tuag at allan, sef tuag at y parc a chanol y dref a fydd yn cael eu gwella, gan elwa o gael yr asedau trefol allweddol hyn ar drothwy’r drws. Gyda gwell cyfleusterau yn yr ysgolion gallai Seaville fod yn lle y bydd teuluoedd yn dyheu am fyw ynddo. Mae’r uwchgynllun yn cynnig cyswllt wedi’i atgyfnerthu ar draws yr ardal a fydd yn cysylltu â’r parc a Nant Eirias ar hyd pont droed newydd.
- Canol y Dref.
Mae’r ardal hon, sydd â Chanolfan Siopa Bay View, Ffordd yr Orsaf a’r Orsaf Drenau’n ganolbwynt iddi, yn llawn prosiectau newydd ar gyfer tir y cyhoedd a datblygiadau adwerthu sy’n cyfnerthu ac yn cryfhau arlwy adwerthu a phrofiadol y dref. Elfen sylfaenol o hyn yw ailgysylltu’r pier a’r promenâd â’r canol a’r cyfle i gysylltu’r ganolfan siopa bresennol â chanol y dref unwaith eto.
- Parc Eirias.
Caiff y parc ei aildrefnu i wneud y gorau o’i asedau a’r cyfleoedd ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel cyfleuster hamdden ac addysgol. Bydd y parc yn cyflawni rôl hollbwysig ym maes twristiaeth yn enwedig o ran sicrhau bod pobl yn aros yn hwy yn y dref ac yn gwneud mwy trwy gydol y flwyddyn.
- Ardal Ddinesig.
- Y traeth a’r promenâd.
Y cynigion sy’n ganolog i’r ardal hon yw’r prosiect arfaethedig i amddiffyn yr arfordir, y promenâd a thraeth teuluol newydd. Mae’r uwchgynllun yn adeiladu ar y cynigion hyn ac yn cynllunio ar gyfer gwell cysylltiadau ar draws yr A55 a’r Rheilffordd i mewn i ganol y dref a’r pier adnewyddedig. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd y prosiect hwn o safbwynt rôl Colwyn yn y dyfodol fel atyniad pwysig i ymwelwyr yng Ngogledd Cymru. Bydd y prosiect yn darparu atyniad wedi’i wella’n arw ar gyfer teuluoedd, arlwy chwaraeon dŵr cryfach a gwell cysylltiadau â Pharc Eirias, a fydd ynddo’i hun yn dod yn atyniad gwell.
Agweddau ar yr uwchgynllun sy’n ymwneud â threftadaeth.
Mae’r cynigion yn yr uwchgynllun a nodir yma’n creu cyfres benodol o leoedd sydd wedi’u canoli ar agweddau allweddol ar ganol y dref fel y mae ar hyn o bryd. Canol y dref yw’r ffocws o ystyried ei rôl economaidd o ran diffinio rôl a swyddogaeth gyffredinol Bae Colwyn. Mae’n rhaid i gymeriad canol y dref ddeillio o hyn. Mae prosiectau a ddisgrifir yn yr uwchgynllun wedi’u bwriadu mewn nifer o achosion i ‘atgyweirio’ ac ‘ailadeiladu’r’ dref, gan fynd i’r afael â phroblemau ac anawsterau sydd wedi codi o ganlyniad i ddatblygiadau anghydnaws yn y gorffennol. Mae’r dull strategol ar y cyfan yn ymwneud â chreu’r amodau i ddenu buddsoddiadau newydd gan y sector preifat yn yr hirdymor ac ysgogi bywiogrwydd newydd yn y dref. Mae dulliau o ymdrin â phob rhan o’r dref yn parchu’r ffabrig hanesyddol presennol a hefyd yn amcanu at greu’r amodau ar gyfer defnyddiau a buddsoddiadau yn y dyfodol.
Er enghraifft:
Ffordd yr Orsaf.
Ffordd yr Orsaf oedd y stryd ffurfiol gyntaf i gael ei chreu yn y dref gan gysylltu Ffordd Abergele (y brif ffordd gyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin ar hyd arfordir gogledd Cymru) â’r rheilffordd sy’n rhedeg ar hyd y bae. Mae Ffordd yr Orsaf yn cynnwys rhai o adeiladau teras cryfaf a mwyaf mawreddog Colwyn a’r rheiny wedi’u dylunio fel prif stryd adwerthu’r dref. Ffordd yr Orsaf yw’r pwysicaf o blith cyfres o gysylltiadau o’r gogledd i’r de rhwng y bae a Ffordd Abergele.
Mae effaith y ganolfan siopa i’r dwyrain, ynghyd â gwneud Ffordd yr Orsaf yn ardal i gerddwyr yn unig, yn arwyddocaol o ran llai ddefnyddiau, gweithgarwch a hyfywedd economaidd parhaus y stryd allweddol hon. Mae creu ardal i gerddwyr yn unig wedi gostwng nifer yr ymwelwyr a’r bobl sy’n teithio drwodd ac mae hyn wedi effeithio ar iechyd y busnesau adwerthu a dyfodol y grŵp mwyaf arwyddocaol o adeiladau yng Ngholwyn. Mae hyn, ynghyd â chyfleusterau parcio cyfyngedig a diffyg trawsgysylltiadau â’r ganolfan siopa, yn golygu bod y stryd allweddol hon o fewn yr ardal gadwraeth yn teimlo fel pe bai wedi’i hynysu ac yn peidio â chael ei defnyddio ddigon.
Mae’r cynigion yn yr uwchgynllun yn amcanu at wneud nifer o bethau:- Agor stryd gyswllt adwerthu newydd ar gyfer cerddwyr (Cilgant y Bae) yn uniongyrchol i mewn i ganolfan siopa wedi’i hailfodelu gan sicrhau bod Ffordd yr Orsaf yn dod yn rhan o gylch adwerthu canolog y dref.
- Gwella sgwâr y dref fel porth allweddol i mewn i Ffordd yr Orsaf.
- Gwell cyfleusterau parcio a mynediad.
Ategu a chynnal yr heol ddynesu at adeiladau unigol a amlinellir yn y dadansoddiad THI cam 1 o ganol y dref.
Seaview Road.Y stryd hon gyda bythynnod yn ffryntiad iddi ar hyd ei hymyl orllewinol oedd un o strydoedd cyntaf Bae Colwyn. Mae ei llinellau bondo, ffenestri cromen a simneiau o faint domestig ynghyd â deunyddiau lleol yn cyfleu agwedd ar orffennol Colwyn a oedd yn troi o gwmpas economi gweithwyr yn enwedig o gwmpas y cloddfeydd graean yr oedd y bythynnod yn edrych drostynt yn wreiddiol. Er bod gwaith sy’n ymwneud â thir y cyhoedd wedi cael ei wneud yma i newid y strydoedd yn gyfres o fannau ar gyfer cerddwyr mae effaith Canolfan Siopa Bay View ar y stryd fechan hon wedi bod yn arwyddocaol i’w chymeriad a’i hunaniaeth. Mae’r olygfa o’r môr wedi mynd ac nid yw’r ganolfan siopa’n gydnaws iawn â chymeriad gofodol y stryd na naws y bythynnod a’r defnyddiau adwerthu ar eu llawr gwaelod.
Mae’r cynigion yn yr uwchgynllun yn amcanu at gyflawni nifer o welliannau yn y lleoliad hwn.
- Caiff ymyl orllewinol y ganolfan siopa’i hailfodelu i ddarparu ffryntiad gweithredol ar hyd Seaview Road i gyd.
- Caiff lled Seaview Road ei leihau er mwyn creu profiad gofodol cryfach (cymhareb amgáu’r rhan o’r stryd) a fydd o fantais i raddfa ac eglurder ffryntiadau’r bythynnod fel rhan o rwydwaith newydd o strydoedd i gerddwyr.
- Caiff ffryntiadau gwreiddiol y bythynnod eu cadw a’u hadnewyddu fel ffryntiad ar gyfer man adwerthu mwy effeithlon wedi’i wella a fydd yn rhan o ardal maes parcio Ivy Street.
- Gorsaf a sgwâr y dref wedi’u gwella a’u hailfodelu er mwyn agor golygfeydd tuag at y môr a’r bae o ben gogleddol Seaview Road.
Ffordd Abergele / Conway Road.
Hwn yn wreiddiol oedd y prif lwybr arfordirol trwy Ogledd Cymru. Mae’n ymddangos fel Stryd Fawr draddodiadol gydag ystod o fathau o adeiladau, defnyddiau a mannau. Mae yno ystod o wahanol o ddefnyddiau adwerthu ac mae nifer o’r rheiny’n annibynnol a lleol. Mae’r siopau cadwyn cenedlaethol wedi’u lleoli’n bennaf yng Nghanolfan Siopa Bay View. Mae’r cymeriad adeiledig presennol ar Ffordd Abergele’n swynol o amrywiol a chymysg gydag ystod eang o ddeunyddiau’n cael eu defnyddio. Un agwedd arwyddocaol a chofiadwy ar Ffordd Abergele yw’r canopïau ac arcedau stryd sy’n rhedeg o flaen rhai siopau gan bwysleisio rôl bwysig Ffordd Abergele yn y gorffennol fel ardal siopa stryd. Mae’r cynigion yn yr uwchgynllun yn amcanu at wneud nifer o bethau- Mae prosiect dangos y ffordd a hunaniaeth yn yr arfaeth ar hyd a lled y dref. Mae hwn wedi’i fwriadu i gysylltu gwahanol ardaloedd â’i gilydd a phwysleisio pob ardal fel ardal benodol o fewn y dref. Bydd map newydd o’r dref ac arwyddion stryd newydd yn cael eu datblygu ac yn tywys ymwelwyr i ardaloedd megis Ffordd Abergele o’r orsaf a’r meysydd parcio.
- Mae cyfle i hyrwyddo Ffordd Abergele fel ardal annibynnol newydd y dref.
Crynodeb
Mae’r uwchgynllun yn cynnwys nifer o gynigion safle-benodol sy’n canolbwyntio ar ardaloedd allweddol yng nghanol tref Bae Colwyn. Bydd y rhain nid yn unig yn gwella rhagolygon y dref ar gyfer denu buddsoddiadau economaidd a phrofi twf, ond byddant hefyd yn cryfhau arwyddocâd a chymeriad calon Fictoraidd yr ardal gadwraeth mewn ffordd amlwg. Bydd hyn hefyd o gymorth i greu’r cyd-destun strategol ar gyfer trafodaethau gyda pherchenogion eiddo unigol wrth fwrw ymlaen â’r cynlluniau a’r rhaglenni buddsoddi ehangach.