4. Pennod 4. Yr Uwchgynllun – Elfennau Allweddol.

4.1.

Mae ffocws yr uwchgynllun yn cynnwys y dref gyfan o ben gorllewinol Conway Road i ben dwyreiniol Parc Eirias. I’r gogledd mae’r uwchgynllun yn cynnwys y cynigion ar gyfer y promenâd a'r prosiect i greu traeth newydd ac amddiffyn yr arfordir gan gynnwys y pier. I’r de mae’r uwchgynllun yn cynnwys prosiectau newydd i’r de o Ffordd Abergele.

4.2.

Mae pedair ardal allweddol lle cynigir ymyriadau; Canol y dref, Cymdogaeth breswyl Dwyrain Colwyn o gwmpas Greenfield Road, Parc Eirias, y traeth, a’r promenâd.

4.3.

O fewn pob ardal cynigir nifer o brosiectau penodol sy’n amrywio o ddatblygiadau adeiladu, tir y cyhoedd, y dirwedd a chludiant.

Ardal 1. Canol tref newydd.

Mae’r uwchgynllun yn cynnig creu calon newydd i’r dref yn seiliedig ar ailfodelu sgwâr y dref a’r ganolfan siopa. Y bwriad yw darparu gwell ymdeimlad o gyrraedd a ffocws ynghyd â chysylltiadau gwell â’r Promenâd. Mae’r prosiectau allweddol yn cynnwys:

  1. Cynigir sgwâr newydd ar gyfer y dref. Caiff maes parcio presennol yr orsaf ei adleoli yn ogystal ag alinio Rhodfa’r Tywysog i’r gogledd. Mae hyn yn agor man cyhoeddus mwy, sydd wedi’i gysylltu’n well gyda chysylltiadau uniongyrchol ar gyfer cerddwyr i mewn i Ffordd yr Orsaf a Sea View Road. Mae aliniad newydd y ffordd hefyd yn ei gwneud yn bosib creu man gollwng gwell ar gyfer yr orsaf. Mae’r sgwâr newydd wedi’i fwriadu i fod yn lle ar gyfer marchnadoedd, digwyddiadau tymhorol, arddangosfeydd a hefyd i ddod yn fan cyfarfod ac yn ganolbwynt i’r dref. Gellir darparu mannau parcio arhosiad byr hefyd os oes angen.
  2. Cynigir adeilad newydd ar gyfer yr orsaf. Mae’r prosiect hwn wedi’i fwriadu i wella ansawdd y profiad o gyrraedd ond hefyd i wella’r modd y mae’n gweithio o ddydd i ddydd ar gyfer y dref. O safbwynt creu lle, mae’r adeilad newydd yn lleihau maint y cyfleuster er mwyn agor golygfeydd tuag at y bae o sgwâr y dref.
  3. Cynigir mynediad newydd at y traeth trwy ymestyn ac ailfodelu’r bont droed bresennol dros y llinell rheilffordd i ddarparu mynediad newydd i lawr at y Promenâd. Cynigir man gollwng arall a chyfleuster parcio ychwanegol hefyd ar ochr y promenâd i’r orsaf.
  4. Cynigir maes parcio newydd gwell i’r gorllewin o sgwâr y dref i wasanaethu’r orsaf. Bydd y mynediad trwy Rodfa’r Tywysog.
  5. Cynigir datblygiad defnydd cymysg newydd ar gyfer safle neuadd y farchnad. Byddai hwn yn cynnwys prosiect i ddatblygu un adeilad â defnydd cymysg a hwnnw wedi’i gysylltu ag ardaloedd adwerthu Ffordd yr Orsaf a Ffordd Penrhyn a sgwâr newydd y dref. Byddai’r adeilad hwn yn cynnwys unedau adwerthu ar y llawr gwaelod a swyddfeydd neu unedau preswyl ar y lloriau uwch.
  6. Cynigir creu llwybr cyswllt newydd ar gyfer cerddwyr i mewn i Ffordd yr Orsaf. Y bwriad yw cael gwared ar un uned ar y llawr gwaelod (sy’n wag ar hyn o bryd) er mwyn hwyluso rhodfa newydd (Cilgant y Bae) yn syth i mewn i’r ganolfan siopa a fydd wedi’i hailfodelu a thu hwnt iddi, at y traeth.
  7. Cynigir darpariaeth adwerthu newydd a honno’n wynebu Seaview Road, a fydd wedi’i gwella. Caiff yr ardaloedd parcio a gwasanaethau tir cefn presennol yn Ivy Street eu hailfodelu i ddarparu lle adwerthu a gwasanaethu newydd ynghyd â llwybr newydd ar gyfer cerddwyr a fydd yn cysylltu Ffordd yr Orsaf â’r ganolfan siopa a’r promenâd y tu hwnt iddi. 
  8. Caiff Seaview Road ei hailfodelu a’u chulhau er mwyn darparu mwy o le adwerthu ynghyd ag ardal fwy clyd ar y stryd yn edrych i lawr tuag at y sgwâr newydd. Caiff rhai talwynebau presennol eu cadw (rhai o adeiladau hynaf Colwyn). 
  9. Cynigir stryd newydd yng nghanol y dref (Cilgant y Bae) i ddarparu cyrchfan adwerthu newydd yn y dref. Mae’r cilgant, sydd wedi’i ddylunio fel ardal i gerddwyr heb unrhyw geir ynddi, yn cysylltu rhannau allweddol o ganol y dref â’i gilydd. Gan ddechrau yn Ffordd yr Orsaf mae’r rhodfa newydd yn torri trwy faes parcio presennol Ivy Street gan greu dwy lain adwerthu newydd. Mae wedyn yn cysylltu ar draws Seaview Road, a fydd wedi’i gwella, i mewn i’r ganolfan siopa lle cynigir unedau adwerthu newydd. Mae sgwâr arall llai a phont werdd yn cysylltu ar draws yr A55 â’r promenâd newydd, y pier wedi’i ailfodelu a’r traeth teuluol. 
  10. Cynigir adeilad masnachol newydd a fydd yn dirnod yng nghornel dde ddwyreiniol sgwâr y dref. Mae’r prosiect hwn wedi’i fwriadu i weithredu fel dynodwr a phorth ar gyfer canol y dref a bydd yn sefyll uwchben y ganolfan siopa estynedig gyda defnydd adwerthu ar y llawr gwaelod. Rhagwelir y gallai hwn fod yn adeilad a fydd yn cynnwys swyddfeydd (tuag 8 llawr) gan ddod â phobl sy’n gweithio i mewn i ganol y dref, a’r canol hwnnw’n cael ei wasanaethu gan yr orsaf drenau a chyfnewidfa fysiau a fydd wedi’u gwella. Ynghyd â defnyddiau adwerthu ar y llawr gwaelod, mae’r defnydd posib hwn fel swyddfeydd ar gyfer y sector cyhoeddus yn gyfle i greu buddsoddiadau newydd yng nghanol y dref.  
  11. Cynigir llwybr cyswllt newydd at y traeth o’r dref dros yr A55. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys pont/stryd werdd newydd fel rhan o stryd grom newydd yn rhedeg trwy’r ganolfan siopa wedi’i hailfodelu at Ffordd yr Orsaf.
  12. Canolfan Siopa Bay View: Mae’r uwchgynllun yn cynnig canolfan siopa wedi’i hailfodelu. Caiff llinell y ganolfan bresennol ei chadw ond caiff ei ‘chrancio’ i gysylltu’n fwy uniongyrchol â Ffordd yr Orsaf a’r promenâd. Rhagwelir y bydd yr aliniad newydd hwn yn gweithredu fel stryd ‘agored’ draddodiadol gyda defnydd adwerthu ar y ddwy ochr. Cedwir holl unedau’r ganolfan siopa i’r dwyrain a chaiff ei hailfodelu, gan ei galluogi i gael ei chau i ffwrdd y tu allan i oriau arferol. Caiff y cyfleuster parcio ceir ei gadw gyda mannau parcio islaw uned bresennol Morrisson’s. 
  13. Caiff Bay View Road ei hailfodelu i greu mynediad dwyffordd i’r maes parcio aml-lawr newydd, a gwella’r profiad o gyrraedd i mewn i’r dref o Greenfield Road i’r dwyrain. Bydd gan y maes parcio hwn lwybr uniongyrchol wedi’i arwyddo ar gyfer cerddwyr drwodd i Ffordd Abergele i helpu i wasanaethu busnesau lleol. Mae’r holl leiniau i’r de o Bay View Road sy’n cefnu ar Back Bay View yn dod yn gyfleoedd datblygu newydd. Cynigir cyfleuster defnydd cymysg newydd gyda’r prif ddefnydd yn gysylltiedig â’r Celfyddydau a bydd wedi’i gysylltu â Theatr Colwyn ar Ffordd Abergele.
4.4.

Ardal 2. Dwyrain Colwyn a Nant Eirias

Amgylchynir y gymuned gryno hon gan yr A55, Nant Eirias, Ffordd Abergele a chanol y dref. Mae’r ardal hon yn gymdogaeth dai bwysig yn y dref ac wedi’i chynnwys yn yr uwchgynllun hwn am ei bod yn allweddol i reoli’r farchnad dai a bri’r gymdogaeth hon. Mae cynllun cymdogaeth mwy manwl ar y gweill gyda grwpiau a rhanddeiliaid lleol.

4.5.
Bydd y cynllun cymdogaeth a fydd yn datblygu’n mynd i’r afael â nifer o flaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ar gyfer yr ardal adnewyddu tai ac yn dechrau ystyried y blaenoriaethau gofodol ar gyfer newid. Mae’r gymuned ar hyn o bryd yn ystyried y blaenoriaethau canlynol a bydd cynlluniau yn y dyfodol yn adlewyrchu eu sefyllfa bresennol a’r blaenoriaethau ar gyfer pob ardal: 
  • Gwella cyflwr y stoc dai
  • Creu mwy o amrywiaeth o gategorïau deiliadaeth a chynyddu’r dewis o dai
  • Gwella ansawdd y rheolaeth ar y sector rhentu preifat
  • Gostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau
  • Gwella delwedd bri’r gymdogaeth
  • Gwella athreiddedd ar gyfer cerbydau a cherddwyr gan gynnwys y cyswllt rhwng Grove Road a Belgrave Road, sydd yn ei dro’n cael ei ymestyn ar draws Lawson Road
  • Llwybr cerdded a beicio newydd o ganol y dref, ar hyd Greenfield Road, Grove Road, Belgrave Road, at bont droed newydd ar draws Nant Eirias i mewn i Barc Eirias.
  • a chysylltedd rhwng yr ardal a’r asedau o’i hamgylch.
4.6.

Mae’r gymuned wedi dechrau meddwl sut y gallant ddefnyddio dull mwy rhagweithiol ar gyfer pennu’r deilliannau yn eu cymuned trwy weithio mewn partneriaeth gyda’r Cyngor a phennu’r gofynion a fydd yn gwella ansawdd eu bywydau. Mae’r trafodaethau’n amrywio’n eang a hyd yn hyn nid oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud. Fodd bynnag, mae’r gymuned yn dechrau ystyried a fyddai dymchwel dethol yn ffordd briodol ymlaen i newid y cymysgedd o fathau o ddeiliadaeth a’r arlwy tai ac a allai fod yn ddewis a fyddai o gymorth i ddarparu mannau parcio a mannau agored.

4.7.

Cafodd y cynigion strategol yn y cynllun ehangach hwn ar gyfer y dref eu goleuo gan flaenoriaethau a syniadau a adnabuwyd trwy’r broses ymgynghori hon.

4.8.

Ardal 3. Parc Eirias a’r Ardal Ddinesig

Mae’r uwchgynllun yn cynnig gwaith mawr i aildrefnu parc mwyaf y dref er mwyn cynyddu i’r eithaf ei botensial fel adnodd adloniant a hamdden allweddol. Gyda dyfodiad y Ganolfan Ddigwyddiadau newydd arfaethedig mae’r cynigion yn rhagweld ‘pentref chwaraeon’ newydd wedi’i glystyru i’r de o amgylch y stadiwm. I’r gogledd caiff y llyn ei ailfodelu i roi i’r dref ei hardal digwyddiadau a pherfformiadau ei hun. Y bwriad yw creu cyfres o wahanol ardaloedd a fydd yn canolbwyntio ar amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau, o fewn y parc – parc ar gyfer yr 21ain Ganrif a fydd yn cynnig gwir gyrchfan delfrydol o safon ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr. 

Mae’r prosiectau allweddol yn cynnwys:

  1. Mae pont droed newydd wedi’i lleoli ar draws Nant Eirias gan ddarparu mynedfa orllewinol newydd i’r parc o ganol y dref. Ynghyd â mynedfeydd gwell yn Ffordd Abergele a’r promenâd bydd gan y parc dair mynedfa o ganol y dref.
  2. Mae ardal chwarae gwyllt newydd i blant wedi’i lleoli ger y bont droed a honno wedi’i bwriadu i wasanaethu nid dim ond ymwelwyr ond hefyd ardal Seaville a’i hysgol gymdogaeth.
  3. Mae ysgubor chwarae ar gyfer tywydd gwael wedi’i lleoli yng nghornel ogledd orllewinol y parc gyda chyfleusterau parcio’n rhan ohoni. Mae’r adeilad yn edrych dros y bae a phen gogleddol Nant Eirias ac mae wedi’i fwriadu i weithredu fel dynodwr mynedfa sy’n cysylltu’r parc â’r traeth a’r ganolfan chwaraeon dŵr islaw. Rhagwelir mynedfa wedi’i hailfodelu ar gyfer y parc.
  4. Caiff y Coetir Gogleddol ei gadw a’i ddatblygu fel adnodd addysgu ecolegol ar y cyd â’r cynigion ar gyfer yr Ysgol Goedwig newydd
  5. Caiff Llyn Eirias ei ailfodelu i greu ardal theatr a digwyddiadau awyr agored Colwyn. Gan ddefnyddio topograffeg naturiol y tir, mae grisiau amffitheatr wedi’u gosod o amgylch y llyn ac yn wynebu llwyfan arnofiol. Cynigir llwybr bordiau ar lan y dŵr sy’n cysylltu ag ynys ac ardal gychod newydd.
  6. Mae ymyl ogleddol y llyn yn dod yn gynefin gwlypdir ac yn adnodd addysg ecolegol sy’n gysylltiedig â’r Ysgol Goedwig.
  7. Cynigir wal ddringo a sgrialu a fydd yn amgáu ymyl de orllewinol y llyn ac a fydd yn cynnwys clogfeini mawr, rhwystrau ymwthiol a tharenni.
  8. Mae’r llyn cychod model yn cael ei gadw a’i wella.
  9. Cynigir lawntiau bowlio newydd a fydd yn creu lleoliad parc a gardd mwy ffurfiol ar gyfer adeilad y ganolfan ddinesig. 
  10. Caiff y cyfleusterau parcio ceir wrth y brif rodfa fynediad i’r Ganolfan Ddinesig eu haildrefnu a’u cynyddu i greu cynllun mwy effeithlon wedi’i guddio y tu ôl i goed a nodweddion tirlunio.
  11. Cynigir campfa awyr agored i bobl dros 60 ar bwys y pentref chwaraeon ac ar y brif daith gylchol yn y parc. 
  12. Mae ardal picnic i deuluoedd wedi’i lleoli rhwng y llyn a’r pentref chwaraeon gydag ardaloedd wedi’u gorchuddio ag adeileddau canopi a dodrefn picnic.
  13. Y Ganolfan Ddigwyddiadau arfaethedig yw canolbwynt y pentref chwaraeon gyda lle’n cael ei ddarparu mewn adeiladau wedi’u haddasu i greu pentref athletwyr pwrpasol.
  14. Cynigir tri chae pêl-droed newydd (dau gae pob tywydd ac un â llifoleuadau) 
  15. Mae canolfan denis James Alexander Barr yn cael ei hadleoli yn y pentref chwaraeon lle bydd yn wynebu Ffordd Abergele. Mae’r ganolfan newydd yn cynnwys 4 cwrt dan do a dau gwrt awyr agored gyda chyfleusterau parcio a mynediad at y cyfleusterau eraill yn y pentref chwaraeon.
  16. Caiff Dan’s Den ei leoli’n agos at y brif fynedfa ar bwys y parc sglefrio a’r maes parcio a fydd yn cael eu hymestyn a’u gwella.
  17. Rhagwelir ffordd fynediad wedi’i hailfodelu a’i gwella o Ffordd Abergele. Caiff y maes parcio presennol ei ailfodelu a’i wella.
  18. Rhagwelir gwesty newydd ar safle’r hen olchdy. Rhagwelir y bydd y gwesty, a fydd wedi’i leoli gyferbyn â’r fynedfa i’r parc a’r pentref chwaraeon, yn derbyn ymwelwyr â’r Academi yn ogystal â nifer cynyddol o ymwelwyr â’r dref.
4.9.

Ardal 4. Traeth a Phromenâd Bae Colwyn.

Elfen sy’n allweddol i ddatblygu’r dref yw’r prosiect i amddiffyn yr arfordir a gwella’r traeth a’r promenâd a fydd unwaith eto’n rhoi i’r dref atyniad glan-môr ar gyfer ymwelwyr sydd wedi mynd yn llai dros y blynyddoedd. Mae’r uwchgynllun yn cofleidio’r gwaith hwn ac yn ceisio cysylltu’r prosiect allweddol hwn â chanol y dref. Ar yr un pryd mae angen i’r prosiect ddarparu cyfleoedd masnachol newydd ar gyfer bwytai, ciosgau ac atyniadau sy’n cwrdd ag anghenion defnyddwyr chwaraeon dŵr a theuluoedd a chreu amgylchedd cyfeillgar, croesawus ar gyfer ymwelwyr â glan y môr.

Mae’r prosiectau allweddol yn cynnwys.

  1. Mae Pier Bae Colwyn wedi bod yn ffocws i ymgyrch lleol dros ddatblygu a buddsoddi am rai blynyddoedd. Mae defnyddiau eraill, rôl a swyddogaeth newydd a strategaethau buddsoddi’n dal i gael eu harchwilio er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen. Yng nghyd-destun y cynllun hwn, mae’r tîm ymgynghori’n cydnabod y gwerth posib y gallai unrhyw gynlluniau i ailddefnyddio adeiledd y pier ei gynnig, yn enwedig os gellir creu cysylltiadau â chanol y dref hefyd fel rhan o ddull mwy strategol.
  2. Cynigir promenâd newydd gyda gwell mannau parcio, cyfleusterau ar gyfer bwyd a diod, adloniant, llwybrau beicio, a mynediad at y traeth.
  3. Mae grwyn sy’n wynebu tuag at y môr wedi’i gynnwys fel rhan o’r cynlluniau i amddiffyn yr arfordir a phrosiect y traeth. Gellir cyrraedd at y grwyn o’r promenâd gyda llwybrau bordiau sy’n arwain at lwyfannau arsyllu. Yr amcan yma yw gwneud defnydd llawn o’r cyllid ar gyfer amddiffyn yr arfordir a chydblethu hynny ag amcanion a chyfleoedd ehangach.
  4. Cynigir traeth teuluol newydd i’r gorllewin o’r grwyn newydd.
  5. Cynigir canolfan chwaraeon dŵr newydd wrth y fynedfa yn Nant Eirias.
  6. Cynigir llithrfeydd newydd gyda gwaith amddiffyn ar ffurf wal gynnal wedi’i gwneud o gerrig i hwyluso ardal wedi’i neilltuo ar gyfer chwaraeon dŵr i’r dwyrain o’r grwyn.
4.10.

Isadeiledd a symudiad.

Rhwydwaith cerbydol

Mae’r system unffordd sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Sea View Road, Bay View Road a Greenfield Road yn mynd i gael ei haddasu i’w gwneud yn bosib gwneud gwaith ailddatblygu ar hyd Bay View Road, er mwyn darparu symudiad mwy greddfol mewn car yn yr ardal hon, ac i wella’r profiad o gyrraedd y dref mewn car o’r A55. Bydd Greenfield Road a Bay View Road yn cael eu troi’n strydoedd dwyffordd gyda gwelliannau i’r strydlun ar y ddwy.

4.11.

Cynigir ‘sgwarfan’ ar y gyffordd rhwng Bay View Road, Greenfield Road a’r ffordd fynediad i mewn i faes parcio Canolfan Siopa Bay View sy’n prysuro’n arw yn ystod oriau brig. Bydd hyn yn cynnal cynhwysedd cyffordd y gylchfan fach bresennol, ond bydd hefyd yn darparu ar gyfer symudiadau ychwanegol a fydd yn gysylltiedig â’r maes parcio newydd arfaethedig ar Bay View Road. Nod y cysyniad o ‘sgwarfan’ yw gwella tir y cyhoedd (anaml iawn y mae cylchfannau bychain yn cyflawni hyn) trwy annog cerbydau i fynd yn arafach a gwella’r cyfleusterau croesi ar gyfer cerddwyr. Bydd angen colli rhai mannau parcio ar y stryd er mwyn gwneud lle i gerbydau symud yn y ddau gyfeiriad (ffordd gerbydau 6m yn nodweddiadol), gan gadw lled o 2m o leiaf ar y troedffyrdd.

4.12.

Mae cyfle i osod croesfan newydd â signalau ar gyfer cerddwyr ar y gyffordd rhwng Greenfield Road a Ffordd Abergele, a fyddai’n disodli’r groesfan pelican bresennol i’r dwyrain o’r gyffordd hon.

4.13.

Dylid rhoi arwyddion gwell ar gyfer meysydd parcio wrth byrth allweddol i ganol y dref – Victoria Avenue, Ffordd Abergele / Conway Road, a’r rheiny’n cyfarwyddo gyrwyr i’r meysydd parcio strategol ac yn helpu i gyfyngu i’r eithaf ar symudiadau diangen trwy’r dref i chwilio am fannau parcio. Yn y tymor hirach, dylid ystyried defnyddio arwyddion â negeseuon newidiol mewn amser real yn y lleoliadau hyn i ddynodi faint o leoedd sydd ar gael.

4.14.

Mae sgwâr cyhoeddus newydd y tu allan i’r orsaf drenau’n golygu ail-alinio’r briffordd gyhoeddus (Victoria Avenue/Rhodfa’r Tywysog). Bydd symudiad dwyffordd trwy’r sgwâr yn cael ei ganiatáu, gyda gyrwyr yn cael eu hannog i fynd yn arafach trwy’r dyluniad a mesurau gostegu traffig.

4.15.

Bydd y mannau gollwng a chodi ar gyfer ysgolion, sef yr ysgol gynradd yn Trevor Road a’r Ysgol Uwchradd ym Mharc Eirias, yn cael eu gwella. Mannau a reolir fydd y rhain, mannau a fydd yn gwella tir y cyhoedd ac yn darparu digon o le i rieni ollwng a chodi plant, gan leihau’r risg y ceir traffig yn bacio ar hyd ffyrdd lleol yn y gymuned breswyl hon.

4.16.

Parcio

Dylid cadw mannau parcio di-dâl, arhosiad byr ar Ffordd Abergele / Conway Road a’r strydoedd cefn i gefnogi’r busnesau lleol. Mae datblygiadau newydd yn yr uwchgynllun yn adeiladu ar rai meysydd parcio cyhoeddus presennol. 
4.17.

Bydd lle parcio ar gyfer y cyhoedd a gaiff eu ‘colli’ yn cael eu hail-ddarparu trwy gyfrwng maes parcio aml-lawr newydd ar hyd Bay View Road fel rhan o ddatblygiad newydd, ynghyd â mwy o le parcio yng Nghanolfan Siopa Bay View fel rhan o waith ehangach i ailfodelu’r ganolfan hon. Bydd mynediad uniongyrchol wedi’i arwyddo ar gyfer cerddwyr at y maes parcio hwn o Ffordd Abergele’n cael ei ddarparu fel bod y busnesau lleol ar Ffordd Abergele’n elwa o’r ddarpariaeth hon. Cynigir darparu tua 200 o fannau parcio yn y maes parcio aml-lawr newydd. Efallai y bydd angen cynyddu’r nifer hwn gan ddibynnu ar faint yr adeilad newydd ar gyfer swyddfeydd a fydd yn edrych dros sgwâr yr orsaf.

4.18.
Yn ogystal ag arwyddion newydd ar briffyrdd sy’n cael eu cynnig mewn lleoliadau strategol dylid gosod arwyddion o safon dda i ddangos y ffordd ledled y dref er mwyn i ymwelwyr allu symud yn rhwyddach.
4.19.

Bydd y lle parcio yn yr orsaf drenau (dan reolaeth Arriva) a Rhodfa’r Tywysog yn cael eu cadw.

4.20.

Ym Mharc Eirias, cynigir cyfleuster parcio newydd fel rhan o ddatblygu’r Ganolfan Ddigwyddiadau newydd. Cynigir cyfanswm pellach o 112 o fannau parcio newydd ac 8 o fannau parcio ar gyfer coetsis yn ychwanegol at yr 87 lle presennol i wasanaethu’r cyfleusterau hamdden presennol ac arfaethedig, gyda cherbydau’n cael mynediad atynt trwy borth newydd ar gyfer y parc.

4.21.

Mynediad a llwybrau i gerddwyr

Cafodd dwy brif linell ddymuniad ar gyfer llwybrau i gerddwyr eu hadnabod yn yr adroddiad cychwynnol: trwy Ganolfan Siopa Bay View gan gysylltu’r dref a’r promenâd ar draws hafn yr A55; ac o Bay View Road trwy’r gymuned breswyl, ar draws Nant Eirias i Barc Eirias.
4.22.

Cynigir cyswllt pont ar gyfer cerddwyr o’r ganolfan siopa a fydd wedi’i hailfodelu, dros hafn yr A55, at y llwybr presennol i gerddwyr dan y rheilffordd. Bydd yr amgylchedd cerdded yn cael ei wella trwy’r ganolfan siopa a’r strydoedd o’i hamgylch fel rhan o’r cynnig hwn, ac mae’r cyswllt â’r promenâd yn dod yn llawer mwy uniongyrchol. Bydd arwyddion gwell a mesurau gwell i ddangos y ffordd o gymorth mawr i eglurder ar hyd a lled pob ardal.

4.23.

Bydd Greenfield Road yn cael ei gwella fel llwybr i gerddwyr o ganol y dref, ar hyd Grove Road a gaiff ei hymestyn drwodd at Belgrave Road, a fydd yn ei thro’n cael ei hymestyn y tu hwnt i Lawson Road at gyswllt pont newydd i gerddwyr ar draws Nant Eirias i mewn i Barc Eirias.

4.24.

Llwybrau beicio

Caiff mynediad o ganol y dref at Lwybr rhif 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r Promenâd ei ddarparu ar draws y cyswllt pont a stryd newydd trwy’r ganolfan siopa bresennol. Cynigir hefyd gyfleuster diogel ar gyfer parcio beiciau, ac o bosib cyfleuster llogi beiciau yn y gyfnewidfa newydd yn yr orsaf.

4.25.

Bydd mynediad ar gyfer beiciau o ganol y dref drwodd i Barc Eirias yn cael ei ddarparu ar hyd y llwybr gwell i gerddwyr ar hyd Greenfield Road / Lawson Road, ar draws y bont sy’n croesi Nant Eirias.

4.26.

Cludiant Cyhoeddus

Mae Ffigur x yn dangos y rhwydwaith bysiau yng nghanol y dref ac amlder y bysiau. Mae’r safle bysiau ar y gornel rhwng Ffordd yr Orsaf a Ffordd Abergele/Conway Road yn boblogaidd iawn ac mae angen mwy o le ynddo. Dylai Sgwâr yr Orsaf gael ei wneud yn brif gyfnewidfa ar gyfer dulliau teithio ar fws/trên/beic, er bod angen gofal i beidio â chrynhoi’r holl wasanaethau bysiau yn yr un lleoliad yma, gan y byddai hynny’n cael effeithiau amgylcheddol andwyol. Ni ddylid gwneud lle i fysiau dorri siwrne yn y sgwâr yma.

4.27.

Mae lluniad (SK) 100 yn dangos y cynnig ar gyfer Sgwâr yr Orsaf o flaen yr orsaf drefnau, yn dilyn ymgynghoriad cychwynnol gyda’r gweithredwr trenau, Network Rail, Cyngor Conwy a LlCC. Mae’r cynnig yn cadw’r lleoedd parcio yn yr orsaf, ond yn eu haildrefnu i ryddhau lle ar gyfer sgwâr cyhoeddus, profiad gwell wrth gyrraedd, a gwell llwybr cerdded i mewn i ganol y dref. Cynigir cyfnewidfa gludiant ar gyfer trenau/bysiau/tacsis/beiciau gyda darpariaeth gwerthu tocynnau ac adwerthu ar Victoria Avenue trwy ail-alinio’r briffordd. Cynigir y bydd mynediad o’r orsaf i lawr at y promenâd yn cael ei ddarparu o blatfform gwylio newydd â lifft.  

Prosiectau Eraill 

Yr Uwchgynllun

Mae cyfanswm o 28 prosiect o fewn ardal ganolog Bae Colwyn. Rydym wedi llunio disgrifiad o nodweddion pob un o’r safleoedd ar lefel ardal. Ymddengys fod y 28 o brosiectau gwahanol wedi’u clystyru mewn saith ardal ar wahân. Cwblhawyd disgrifiad byr o bob ardal agos, ynghyd ag amlinelliad o’r prosiect arfaethedig.           

  1. Ardal y Traeth/Promenâd (Prosiectau 1 a 27)

Mae ystod o ddefnyddiau hamdden newydd wedi cael eu darlunio er mwyn cyfleu’r amrywiaeth o gyfleoedd sy’n gysylltiedig ag ardal y traeth a’r promenâd. Mae datblygiadau o’r fath yn canolbwyntio ar ardal y traeth yn union i’r gorllewin o Bier Victoria. Mae traeth Bae Colwyn, yn wahanol i rai o’r traethau o’i amgylch, yn dywodlyd. Mae ardal y traeth wedi’i gwahanu oddi wrth ganol y dref, gyda’r A55 a’r llinell reilffordd yn gweithredu fel rhwystr. Mynediad cyfyngedig iawn sydd rhwng ardal y promenâd/traeth a chanol y dref. Mae’r promenâd yn rhedeg y tu ôl i’r morgloddiau concrit sylweddol. Ceir mynediad at y traeth ar hyd ychydig o rodfeydd dethol. Mae’r Pier ar hyn o bryd mewn cyflwr adfeiliedig, gan ei fod wedi bod ar gau ers 2008. Mae’r uwchgynllun yn cydnabod pwysigrwydd adeiledd y Pier o ran creu ffocws posib ar gyfer hunaniaeth newydd i’r traeth a’r promenâd. Mae angen cynnal profion hyfywedd pellach, manylach i asesu dichonolrwydd dulliau defnyddio, costau atgyweirio a maint adeiledd y Pier.

  1. Yr Orsaf a’r Ffryntiad Cyfagos (Prosiectau 2 a 7)

Mae’r cynnig ar gyfer sgwâr y dref yn canolbwyntio ar ffryntiad Gorsaf Drenau Bae Colwyn a’r mynediad i mewn i’r prif ardaloedd siopa. Y bwriad yw creu “datblygiad newydd ar gyfer yr orsaf, a fydd yn cynnwys sgwâr newydd ar gyfer y dref gyda Victoria Avenue/cyfleuster parcio a chyfnewidfa wedi’u hailgyfeirio” a rhodfa newydd i gysylltu’r orsaf â’r traeth. Mae’r ardal yn balmantog ar hyn o bryd, gyda chyfleuster parcio ceir a gollwng teithwyr yn union o flaen yr orsaf ei hun. Mae’r ardal hon yn rhan o’r porth ehangach yn yr orsaf, a dyma’r olwg gyntaf ar Fae Colwyn wrth adael yr orsaf drenau. Mae’r Uwchgynllun wedi addasu cynigion blaenorol, ac yn ailffocysu’r ymyriadau arfaethedig ar y gyfnewidfa gludiant a chreu sgwâr ar gyfer y dref.

  1. Craidd Adwerthu (Prosiectau 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8 a 10)

Mae’r cynigion yn yr Uwchgynllun yn datgan y bydd Canolfan Siopa Bay View yn cael ei gweddnewid a’i hymestyn ar hyd stryd newydd a fydd yn cysylltu Ffordd yr Orsaf â phont newydd sy’n cysylltu’r safle â’r pier. Mae cynlluniau o’r fath yn canolbwyntio’n bennaf ar ailddatblygu’r rhan ddwyreiniol o Ffordd yr Orsaf a rhan orllewinol Sea View Road, a byddent yn creu cysylltiadau cynyddol rhwng y brif ardal siopa ‘awyr agored’ o amgylch Ffordd yr Orsaf, a Chanolfan Siopa Bay View, cyswllt y mae ‘Astudiaeth Adwerthu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’ gan Scott Wilson (2007) yn datgan y dylid rhoi anogaeth i’w greu. Byddai datblygiadau newydd ar hyd Ivy Street yn gwella’r modd y mae cerddwyr yn llifo drwodd a bywiogrwydd tuag at ben dwyreiniol y craidd adwerthu.  

Caiff Bae Colwyn ei diffinio yng ‘Nghynllun Datblygu Lleol Conwy – Cynllun Adneuo 2007-2022 Papur Cefndir 15 Astudiaeth Adwerthu’ (Ebrill 2009) fel ‘Canol Tref’, yn hytrach na chael ei labelu’n ‘Ganolfan Isranbarthol’ megis Llandudno. Er bod Bae Colwyn yn cynnig “canol tref gweddol fywiog a hyfyw”, gan ddarparu “dewis adwerthu ardderchog ar gyfer y dalgylch agos”, mae heb siopau adrannol mwy ac mae diffyg dewis yn enwedig mewn nwyddau cymharol, dau beth y mae Llandudno’n eu cynnig. Mae gan nifer o’r siopau cadwyn mwy ar y stryd fawr megis Marks and Spencer, Next, Debenhams, HMV a Waterstones safleoedd yn Llandudno, ond y prif adwerthwyr ym Mae Colwyn yw’r rheiny sy’n denu poblogaeth lai o lawer dros eu trothwy ac sydd mewn nifer o achosion yn targedu poblogaeth ar incwm is, megis Argos, WH Smith, Boots, Morrissons, Burton, Superdrug, Clarks a Bon Marche. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod poblogaeth Bae Colwyn (29,000 yng Nghyfrifiad 2001) gryn dipyn yn fwy nag un Llandudno (20,000 yng Nghyfrifiad 2001).

Ymddengys, dros y cyfnod a astudiwyd yn ‘Astudiaeth Adwerthu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’ (Chwefror 2007), bod arenillion ym Mae Colwyn wedi cynyddu o 8.0% i 8.5% rhwng 1994 a 2005, tra bod arenillion yn yr un cyfnod wedi gostwng o 7.5% i 7.0% yn Llandudno. Mae ffigyrau o’r fath yn enghreifftio’r gystadleuaeth rhwng y ddau leoliad, ac yn enghreifftio perfformiad gwael adwerthwyr ym Mae Colwyn o’i gymharu â Llandudno o fewn y cyfnod a fesurwyd. 

Mae Canolfan Siopa Bay View yn cynnwys tua 25 o unedau, ac mae ar hyn o bryd yn gartref i Archfarchnad Morrisson’s, Iceland ac Argos. Mae gan Archfarchnad Morrisson’s ar ei phen ei hun arwynebedd llawr o oddeutu 3481m². Mae’r cynllun, sydd wedi’i rannu dros ddau lawr, yn un dyrchafedig er mwyn ymgorffori maes parcio islaw. Gellir cael mynediad mewn car ar hyn o bryd o Greenfield Road/Victoria Avenue, gyda ffryntiad adwerthu pellach a mynediad i gerddwyr o Sea View Road.  

Mae ‘Astudiaeth Adwerthu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’ (Chwefror 2007) yn cydnabod bod Canolfan Siopa Bay View:  

“yn fywiog ac yn hyfyw, fodd bynnag, mae’n niweidiol i ganol hanesyddol y dref gan fod nifer o’r adwerthwyr cadwyn wedi’u lleoli yn y ganolfan hon. Beth bynnag, cyfyngir ar y gallu i ehangu canolfan siopa Bay View ymhellach gan ei safle” 

Ac ar ben hynny: 

“nid oes unrhyw unedau gwag yno” 

Mae llwyddiant Canolfan Siopa Bay View yn awgrymu bod problemau gyda chyflenwad. Mae nifer o’r ‘adwerthwyr cadwyn’ wedi dewis eu lleoli eu hunain o fewn Canolfan Siopa Bay View, yn hytrach nag ardal ‘awyr agored’ Ffordd yr Orsaf. Mae Ffordd yr Orsaf a Ffordd Penrhyn, a’r ardaloedd adwerthu eilaidd (ar hyd Ffordd Abergele’n bennaf), fel y nodir yn ‘Astudiaeth Adwerthu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’ gan Scott Wilson (Chwefror 2007), yn darparu “ystod amrywiol o adwerthwyr annibynnol sy’n helpu i sefydlu cymeriad canol y dref.” Mae’r cymysgedd amrywiol a thrydylliad gweithredwyr disgownt a siopau elusennol i mewn i union ganol y dref, a chyfraddau uchel yr unedau gwag yn deillio o orgyflenwad o unedau adwerthu o ansawdd gwael yng nghanol tref Bae Colwyn.

Mae poblogrwydd Canolfan Siopa Bay View, a’r ffaith nad oes unedau gwag ar hyn o bryd, yn dangos y gallai unedau adwerthu newydd o safon brofi’n boblogaidd. Byddai unedau adwerthu newydd o ansawdd uchel yn cynnwys cymysgedd o unedau mwy a llai (yn debyg iawn i gynllun presennol Canolfan Siopa Bay View), ac yn cynnwys mynediad ar gyfer gwasanaethau yn y cefn, mannau llwytho a ffryntiad amlwg. Mae’n rhaid cydnabod y bydd y gwaith i ehangu Canolfan Siopa Bay View yn gymedrol, yn berthynol i gyfanswm y lle adwerthu sydd ar gael ar hyn o bryd ym Mae Colwyn.

Mae ‘Astudiaeth Adwerthu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’ gan Scott Wilson (Chwefror 2007) yn nodi bod Bae Colwyn yn tanfasnachu o ran nwyddau cyfleustra, ac mae’n argymell y dylai’r Awdurdod Cynllunio ystyried rhinweddau pob cynnig unigol i agor siop gyfleustra. Bydd ehangu’r dyraniad ar gyfer siopau cyfleustra ym Mae Colwyn o fudd i’r cymysgedd adwerthu ac yn cynyddu nifer y siopwyr sy’n dod i mewn i Fae Colwyn. Trwy ganiatáu ehangiad unedau presennol megis Morrisons, ac yn benodol trwy geisio gosod darpariaeth bwyd newydd o fewn canol y dref, gobeithir y bydd cynnydd mewn bywiogrwydd ac yn nifer yr ymwelwyr yn creu gorlifiad ac yn gwella cystadleurwydd Bae Colwyn fel canolfan yn berthynol i’r gystadleuaeth mewn mannau eraill. O ystyried y gyfran uchel o adwerthwyr megis Morrisons ac Iceland sydd yng Nghanolfan Siopa bresennol Bay View ar hyn o bryd, byddai ehangu’n hwyluso twf adwerthu o fewn y sector hwn. 

Mae ‘Cynllun Datblygu Lleol Conwy – Cynllun Adneuo 2007-2022 Papur Cefndir 15 Astudiaeth o Adwerthu’ (Ebrill 2009) yn argymell y “dylid cyfyngu ar arwynebedd llawr ar gyfer nwyddau cymharol tan o leiaf 2015”. Rydym yn cydnabod bod hyn mwy na thebyg yn wir, yn anad dim gan y bydd cyfradd yr unedau gwag wedi cynyddu a rhenti wedi gostwng ers i Adroddiad Scott Wilson gyflwyno’i ganfyddiadau yn 2007. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi na fyddai unrhyw gynllun a gymeradwyid yn awr yn agor tan ar ôl 2015, ac erbyn hynny bydd y farchnad mwy na thebyg yn ddigon cryf i ganiatáu cynnydd cymedrol yn nifer yr adwerthwyr sy’n arbenigo mewn gwerthu nwyddau cymharol. 

Ni fyddai ailfodelu Canolfan Siopa Bay View yn peryglu’r cyfleusterau presennol ar gyfer parcio ceir. Mae ‘Astudiaeth Adwerthu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’ gan Scott Wilson (Chwefror 2007) yn adrodd “bod angen cyfleusterau parcio oddi ar y stryd”, sy’n deillio o’r lefelau cymharol uchel o barcio ar y stryd a’r tagfeydd cysylltiedig. Bydd cynnydd yn nifer y mannau parcio ar safleoedd yn gwrthbwyso’r colledion a geid trwy ddatblygu’r safle parcio ceir presennol ar Ivy Street. 

  1. Ardal Adnewyddu (Prosiectau 13, 14, 15, 16, 17 & 18)

Ffocws gofodol y syniad a gynigir yn yr Uwchgynllun i greu gwell cysylltiadau  a mannau yw’r ‘Pen Dwyreiniol’, sy’n gyfan gwbl o fewn terfynau Menter Adnewyddu’r Farchnad Dai. Mae’r cynigion hynny’n datgan y bydd datblygiadau tir presennol yn cael eu hailfodelu i greu clystyrau preswyl newydd gyda mannau a llwybrau cyhoeddus newydd. Gweler y disgrifiad o ardal Menter Adnewyddu’r Farchnad Dai uchod. 

Yn ôl cynlluniau Shape, “mae clirio â ffocws ynghyd â datblygiad preswyl newydd yn cynnig cyfle a hunaniaeth newydd i’r ochr ddwyreiniol.” Mae’r map cyfatebol sydd wedi’i anodi’n enwi’r ardaloedd o amgylch Lawson Road, Belgrave Road ac Erskine Road, y maent i gyd o fewn ardal Menter Adnewyddu’r Farchnad Dai a ddisgrifiwyd yn flaenorol.   

  1. Ffordd Abergele (Prosiect 12)

Mae Ffordd Abergele’n mynd o’r dwyrain i’r gorllewin, ac mae’n un o’r prif fynedfeydd i mewn i ganol tref Bae Colwyn o’r maestrefi dwyreiniol, megis Hen Golwyn. Mae un o’r prosiectau a nodir yn yr uwchgynllun yn ymwneud ag uwchraddio Ffordd Abergele. Mae’r rhan ogleddol yn cynnwys adeiladau teras â thri llawr yn bennaf, a’r rheiny’n gymysgedd o safleoedd adwerthu ac adeiladau â defnydd cymysg, sy’n nodweddiadol yn cynnwys swyddogaethau adwerthu ar y llawr gwaelod a fflatiau uwchben. Mae’r rhan ddeheuol yn fwy preswyl, er bod cyfran gynyddol o unedau adwerthu wrth i Ffordd Abergele ddynesu at ganol Bae Colwyn. Mae pen gorllewinol Ffordd Abergele’n rhan o’r ardal a ddiffiniwyd yn flaenorol fel y ‘craidd adwerthu’.Gallai Ffordd Abergele fod yn rhan weithredol a bywiog o ganol y dref. A hithau’n rhan o’r prif lwybr ar draws gogledd Cymru’n wreiddiol roedd yn perfformio fel Stryd Fawr benodol cyn datblygiad Ffordd yr Orsaf, ac yn fwy diweddar o lawer, Canolfan Siopa Sea View. Yn yr uwchgynllun arfaethedig mae Ffordd Abergele’n dod i’r amlwg fel cyrchfan adwerthu penodol a lleol Bae Colwyn gan adeiladu ar yr ystod gref o adwerthwyr annibynnol sydd eisoes yn bodoli ar hyd y stryd gyfan. Mae’r canopïau bwaog gwahanredol a’r bensaernïaeth gref o fudd enfawr i sefydlu lle arbennig o fewn y dref. Caiff y canopïau eu hymestyn lle y bo’n bosib, ac ynghyd â strategaeth newydd ar gyfer dangos y ffordd sy’n bathodynnu’r stryd fel ardal leol arbennig, ceir cysylltiadau gwell â chanol y dref. 

Mae’r stryd yn brysur iawn felly mae’r cyfleoedd i gynyddu neu ledu’r pafin yn gyfyngedig. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu na ellid datblygu strategaeth well ar gyfer goleuadau, dangos y ffordd ac arwyddion fel rhan o brosiect ar gyfer y dref gyfan.  

  1. Nant Eirias (Prosiectau 18 a 19)

Mae’r cynigion yn cynnwys “datblygiad newydd ym mhen uchaf Nant Eirias, gyda phont droed newydd ar draws y parc”. Mae Nant Eirias yn rhan o lwybr coediog, sy’n cysylltu Ffordd Abergele â’r môr. Mae’r llwybr yn dilyn dyffryn Nant-y-Groes. Mae pocedi sylweddol o dir y gellid ei ddatblygu, yn enwedig tuag at ben deheuol y llwybr yn agos at Lawson Road, lle mae’r dyffryn yn llai serth. Trwy Nant Eirias y ceir mynediad o’r Promenâd yn y Gogledd, at Ffordd Abergele yn y De. Caniateir mynediad i geir o’r Promenâd, sydd yn y pen draw’n culhau ac yn dod yn llwybr i gerddwyr. Mae’r llwybr hefyd yn hwyluso mynediad rhwng canol y dref i’r Dwyrain a Pharc Eirias i’r Dwyrain (o Greenwood Road), a thuag at Warchodfa Natur Nant Eirias i’r De.   

  1. Parc Eirias - (Prosiectau 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26)

Mae Parc Eirias wedi’i leoli tuag at ben dwyreiniol Ffordd Abergele, wrth fynd allan o ganol y dref tuag at Hen Golwyn. Mae’r parc yn fan gwyrdd eang, ac mae’n cynnwys trac athletau/stadiwm pêl-droed, cyrtiau tenis, lawntiau bowlio a phwll nofio. Mae’r Ganolfan Ddinesig a Phencadlys yr Heddlu lleol wedi’u lleoli i’r dwyrain o Barc Eirias. Mae’r cynigion yn cynnwys creu cyfleuster hyfforddi dan do ochr yn ochr â’r stadiwm/trac athletau presennol sydd wedi cael ei glustnodi fel Canolfan Ddigwyddiadau, y bwriedir iddi fod yn gartref (ymhlith pethau eraill) i Academi gan Undeb Rygbi Cymru. Ar y cyd â’r ganolfan ddigwyddiadau, mae’r Uwchgynllun hefyd yn cynnwys caeau chwaraeon newydd, cyfadeilad hamdden wedi’i ailfodelu a chlwb bowlio newydd yn agos iawn at y Ganolfan Ddinesig.  

Mae cynllun Shape yn nodi y bydd cyrchfan ymwelwyr/man cynnal digwyddiadau yn cael ei greu o fewn y parc trwy waith tirlunio a fydd yn defnyddio’r llyn fel y prif ganolbwynt. Bydd y parc, yn dilyn ei ailfodelu a chyda llwybrau wedi’u hatgyfnerthu, yn gwella’r ‘ardal berfformio’. Bydd gerddi ffurfiol yn cyfrannu at ddefnydd mwy amrywiol o’r parc ac yn cael eu datblygu ar gae pêl-droed presennol nas defnyddir ddigon. Rhagwelir y bydd y cysylltiadau â’r ganolfan ddinesig yn gwella ysbryd cymdogol a pherchenogaeth gymunedol. 

Cynigir estyniad newydd i’r Ganolfan Ddinesig a fydd yn ceisio cynyddu i’r eithaf y gyfradd lenwi yn y ganolfan bresennol a’r defnydd ohoni. Mae’r estyniad yn gyfle delfrydol i wella’r modd y mae’r ganolfan wedi’i hintegreiddio o fewn y parc. Caiff athrofa Heddlu wedi’i hailfodelu ei chrybwyll yn yr Uwchgynllun hefyd.   

  1. Safleoedd Unigol i’r De o Ffordd Abergele (Prosiectau 9, 11, 28)

Fe nodir tri safle sydd wedi’u lleoli i’r De o Ffordd Abergele. Mae Prosiectau 11 a 28 ill dau’n cael eu disgrifio yn y ddogfen ‘5 Safle Conwy ar gyfer Caffaeliadau Cynnar’. Mae Prosiect 9 yn cynnwys safle datblygu preswyl sy’n ymestyn dros oddeutu 1.94 erw o dir, sydd ar hyn o bryd yn gartref i adeilad dau/tri llawr a ddefnyddir ar gyfer adwerthu a swyddfeydd, ac sy’n wynebu Conway Road a Ffordd Coed Pella, gyda chyfleusterau parcio ceir cysylltiedig y tu ôl iddo. Mae’r ffryntiad adwerthu, sydd wedi’i leoli ar hyd ffordd brysurach Conway Road, yn cynnwys y fynedfa i gangen y Ganolfan Waith ym Mae Colwyn, Canolfan Dysgu Cymunedol Coleg Llandrillo, yn ogystal â siop gyfleustra leol ac uned wag. Mae dau lawr i’r ffryntiad sy’n wynebu Conway Road, a thybir fod y llawr cyntaf yn cynnwys swyddfeydd. Mae’r ffryntiad ar Ffordd Coed Pella’n cynnwys tri llawr o swyddfeydd. Tybir fod y swyddfeydd ar hyn o bryd wedi’u meddiannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ymhlith cyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Fe adeiladwyd yr adeilad yn gynnar yn y 1970au, gan ddefnyddio briciau a choncrit yn bennaf. Mae’r maes parcio a’r arwyneb tarmacadam cysylltiedig y tu ôl i’r adeilad yn ymestyn dros arwyneb o 1.36 erw ar y cyfan. Byddai angen rhoi ystyriaeth i gaffael y buddiannau hyn er mwyn hwyluso’r broses cynnull tir ar gyfer safleoedd y datblygiadau arfaethedig sy’n ymwneud â defnydd preswyl, defnydd fel gwesty a defnydd cymysg. 

Sail Resymegol i Gynnwys Partneriaid yn y Sector Cyhoeddus

Y sail resymegol i’r Strategaeth Caffaeliadau Strategol yw sicrhau bod y partneriaid yn y sector cyhoeddus yn cyflawni prosiectau adfywio a datblygu cynhwysfawr lle y bo angen ym Mae Colwyn. Er enghraifft rydym yn ymwybodol bod caffaeliadau o fewn ardal Adnewyddu’r Farchnad Dai, hyd yma, wedi bod yn dameidiog ac er nad oes cyfran fawr o unedau gwag yn yr ardal, mae yno dai amlfeddiannaeth y gall fod angen eu hystyried fel rhan o raglen ehangach ar y cyd â’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lleol.   

Nid ydym wedi ystyried yr elfen o’r strategaeth sy’n ymwneud â Thai mewn gormod o fanylder ar y cam hwn gan ein bod yn disgwyl am ganfyddiadau Arc4.  

Yr egwyddorion sy’n sail i’r ymwneud gan CBS Conwy a LlCC a sefydlu’r Strategaeth Caffaeliadau Strategol yw’r rhai yng Nghynllun Datblygu Menter Bywyd y Bae 2007-2014, a fydd yn ceisio cyflawni:-   

  • Gwelliant arfordirol a datblygiadau yn ardal y glannau.
  • Swyddfeydd newydd sylweddol yn cael eu sefydlu yng nghanol y dref
  • Parc Eirias yn lletya Canolfan Ragoriaeth ar gyfer chwaraeon, hamdden a diwylliant
  • Creu canolbwynt cymunedol
  • Tai gwell yn y dref
  • Economi gyda’r nos
  • Integreiddio canol y dref, y glannau, y parc a’r ardaloedd preswyl.

« Back to contents page | Back to top