5. Pennod 5. Yr Uwchgynllun – Y Prosiectau Gweddnewidiol.
Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar y prosiectau gweddnewidiol allweddol a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar y dref ac yn cyfrannu fwyaf o ran y weledigaeth a’r amcanion strategol a nodwyd
Ym Mae Colwyn, mae nifer o gynlluniau ar gyfer buddsoddi sydd wedi cyrraedd cyfnodau amrywiol o ran eu gweithredu a gwahanol gamau o ran gwneud penderfyniadau. Mae llond gwlad o ffynonellau cyllid a buddsoddi a threfniadau rheoli’n weithredol a bydd angen datblygu dulliau newydd mewn perthynas ag ymyriadau gan y sector preifat, cymorth refeniw i fynd i’r afael â’r amcanion allweddol ym Mae Colwyn a buddsoddiadau gan y sector preifat.
O fewn yr uwchgynllun hwn, mae’r angen i integreiddio a chydgysylltu gweithgarwch ag amodau economaidd cenedlaethol a rhanbarthol a’r adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar fin digwydd oll yn diffinio’r cyd-destun ar gyfer pennu blaenoriaethau. Mae’r adran hon o’r adroddiad yn nodi’r prosiectau gweddnewidiol.
- Eu potensial i ddwyn effeithiau ar y dref gyfan.
- Y modd y maent yn cyd-daro â nodau ac amcanion y cynllun hwn.
- Lefel y gefnogaeth a gadarnhawyd eisoes gan gymunedau lleol.
- Eu gallu i gael eu cyflawni gyda buddsoddiad gan y sector preifat a phartneriaethau.
- Eu cyfraniad tuag at gynaliadwyedd hirdymor Bae Colwyn.
- Eu gallu i weithredu fel sbardun i fuddsoddi ac adfywio pellach ym Mae Colwyn.
- yn helpu’r bartneriaeth i gyflawni’r amcanion allweddol yn yr uwchgynllun.
- yn integreiddio ac yn lliflinio asesiadau economaidd-gymdeithasol a meini prawf cymdeithasol gyda buddsoddiadau safle-benodol.
- yn gallu cael eu cyflawni o fewn cyd-destunau cyllido newidiol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
- yn cynnwys pobl leol ac yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion cymunedau lleol
- yn gynaliadwy
- yn ei gwneud yn bosib rheoli risgiau
Isod ceir manylion y cyfleoedd a adnabuwyd gan yr Uwchgynllun a chrynodeb byr o’r risgiau posib. Yn y rhan fwyaf o achosion y risg mwyaf fydd argaeledd cyllid, boed yn gyllid preifat neu’n gyllid gan y sector cyhoeddus ac mae felly’n hanfodol bod rhaglen ar gyfer cyllido a chyflawni’n cael ei hystyried cyn gynted â phosib. Mae’r Uwchgynllun yn darparu ar gyfer cyflawni yn y tymor byr, canolig a hir.
Canol Tref Bae Colwyn
Cyfleoedd
Canolfan Siopa Bay View
Dylai Canolfan Siopa Bay View, sydd wedi’i lleoli i’r Dwyrain o ganol y dref, gael ei hailgyflunio er mwyn mynd i’r afael â’r problemau y mae’n eu hwynebu ar hyn o bryd o ran hygyrchedd, cylchrediad a chysylltedd â chanol y dref.
Mae Canolfan Siopa Bay View yn ganolfan siopa lwyddiannus, lle nad oes ond dwy uned wag. Mae’r Ganolfan fel y mae ar hyn o bryd yn wynebu tuag i mewn. Bydd y cynigion yn gwella mynediad trwy wneud y ganolfan yn fwy agored o ganlyniad i gyflwyno rhai unedau sy’n wynebu tuag at allan. Bydd y cysylltiadau â’r orsaf ac ardaloedd i gerddwyr/sgwâr cyhoeddus yn cael eu gwella gan ei gwneud yn bosib cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r ganolfan.
Mae trafodaethau cychwynnol gyda chynrychiolwyr Perchenogion Bay View wedi bod yn gadarnhaol ac maent yn awyddus i weithio gyda’r sector cyhoeddus i gynyddu i’r eithaf y buddsoddiadau yn yr ardal.
Busnesau adwerthu eraill
Mae’r ddarpariaeth adwerthu o fewn canol y dref yn ymestyn y tu allan i Ganolfan Siopa Bay View ar hyd Ffordd Abergele.
Bydd prosiectau i wella’r ardaloedd adwerthu hyn yn cynnwys gwelliannau i’r isadeiledd a gwelliannau ffisegol i wella cylchrediad cerddwyr a thraffig yng nghanol y dref. Bydd angen i’r gwelliannau i Ffordd Abergele gynnwys ardaloedd o dir y cyhoedd a ffryntiadau siopau wedi’u gwella, a byddai gwelliannau arfaethedig i’r llwybrau ar gyfer traffig a cherddwyr hefyd yn gwella nifer yr ymwelwyr ac yn cyfrannu at yr amodau economaidd a fydd yn gostwng lefelau’r unedau gwag.
Bydd pont newydd dros ffordd ddeuol yr A55 yn hwyluso mynediad at/o’r Promenâd. Bydd unrhyw gamau i ehangu’r ardaloedd adwerthu’n darparu mwy o ddewis ac yn gwella’r arlwy adwerthu, gan alluogi Bae Colwyn i gystadlu â Llandudno a adnabuwyd fel yr unig gyrchfan siopa isranbarthol. Yr amcan yw cynyddu niferoedd y siopau ac ymwelwyr lleol, atal swyddogaethau adwerthu rhag cael eu colli o ganol y dref a sicrhau bod Bae Colwyn yn ganolfan siopa fywiog.
Risgiau
Canolfan Siopa Bay View
Mae ehangu Canolfan Siopa Bay View yn ddibynnol ar fuddsoddiad gan y perchennog i gyllido’r newidiadau arfaethedig i ddyluniad a chynllun y ganolfan. Gallai addasu, neu yn wir ehangu’r cymysgedd o nwyddau gwerth isel sy’n llwyddiannus ar hyn o bryd ddwyn canlyniadau ond yr amcan hirdymor yw newid lefel ac ansawdd yr arlwy adwerthu sydd ar gael i ganol y dref. Mae’r berthynas rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat felly’n allweddol bwysig i’r newidiadau arfaethedig i Ganolfan Siopa Bay View, er mwyn ysgogi argaeledd cyllid gan y sector preifat a rheolaeth ar y broses gyflawni.
Busnesau Adwerthu Eraill
Er mai un perchennog sydd gan Ganolfan Siopa Bay View, mae gan weddill yr ardaloedd siopa yn Ffordd yr Orsaf a Sea View Road sawl perchennog. Yn yr un modd, mae gan yr ardal siopa yn Ffordd Abergele, sy’n cynnwys mwy o swyddogaethau adwerthu eilaidd gyda naill ai cyfleusterau storio neu unedau preswyl uwchben, sawl perchennog. Bydd yn rhaid i unrhyw gynigion ailddatblygu fodloni nifer fwy o bartïon er mwyn eu gweithredu, a bydd angen ymgynghori strwythuredig a mwy o anogaeth ac o bosib cymhellion er mwyn cael y buddsoddiad sy’n angenrheidiol.
Swyddfeydd Masnachol
Cyfleoedd
Mae manteision creu adeilad newydd ar gyfer swyddfeydd yng nghanol Bae Colwyn yn ymwneud â’r cyfle i greu adeilad tirnod, a allai ddarparu arlwy cystal â’r farchnad fasnachol gan newid amodau’r farchnad ym Mae Colwyn a chymeriad yr ardal gyfagos. Gallai’r adeilad newydd ar gyfer swyddfeydd ddarparu uned adwerthu ar y llawr gwaelod, a fyddai’n cael ei ddefnyddio fel ‘siop un stop’ ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gyda’r holl wasanaethau rheng-flaen ar gyfer trigolion Bae Colwyn yn cael eu darparu mewn un uned sy’n hygyrch yng nghanol y dref.
Ni fyddai unrhyw ddatblygiad ar gyfer swyddfeydd a fyddai’n cael ei adeiladu ym Mae Colwyn yn cael ei wneud yn hapfasnachol trwy’r sector preifat. Rhagwelir felly, fel y cydnabyddir uchod, y byddai’n rhaid i unrhyw adeilad ar gyfer swyddfeydd gael ei ddatblygu mewn perthynas â deiliad penodol ac mae’n fwy tebygol y byddai’n rhaid i’r deiliad fod yn gorff yn y sector cyhoeddus.
Gyda’r fantais o fod ag asiantaeth yn y sector cyhoeddus fel tenant craidd, gallai unrhyw le sydd ar ôl ddenu cwmnïau lleol sydd ar hyn o bryd yn masnachu o Rodfa’r Tywysog a Wynnstay Road ac sy’n dymuno cynyddu maint eu lle gweithio a chyfnewid eu safleoedd presennol, sy’n bennaf yn hen adeiladau preswyl/hamdden mawr wedi’u hadnewyddu, am safleoedd gwell.
Risgiau
Mae datblygu swyddfa fasnachol yn ddibynnol i raddau helaeth ar adleoli posib gan gorff yn y sector preifat. Yn wir mae’n annhebygol y gellid cyflawni’r datblygiad heb y Cyngor fel deiliad. Yn yr un modd, bydd ansicrwydd, maint a gofynion unigol gwasanaethau’n cael effaith uniongyrchol ar faint y swyddfeydd y mae’u hangen. O ystyried lleoliad arfaethedig y datblygiad ar gyfer swyddfeydd, mae’r berthynas â pherchenogion Canolfan Siopa Bay View yn allweddol bwysig o ran gallu cyflawni’r datblygiad, ac yn arbennig felly eu safbwyntiau ynghylch maint unrhyw waith ailddatblygu.
Mae’n bwysig nodi bod amodau’r farchnad ar hyn o bryd yn golygu na fydd y cynllun i ddatblygu swyddfeydd yn cael ei gyflawni’n hapfasnachol, a’i fod yn llwyr ddibynnol ar y gofynion mewn perthynas ag unrhyw adleoli posib yn y sector preifat.
Traeth Bae Colwyn
Cyfleoedd
Mae traeth Bae Colwyn yn dal i fod yn un o’r prif atyniadau i ymwelwyr yn y dref. Mae cyfle unigryw i adnewyddu ardal y glannau, gyda chysylltiadau gwell â chanol y dref, ynghyd â darpariaeth adwerthu a chaffi newydd. Bydd gwella bywiogrwydd yr ardal trwy well mynediad gyda chanol y dref yn ategu’r arlwy adwerthu presennol, sy’n cynnwys unedau llai sy’n gwerthu hufen ia, byrbrydau a diodydd. Bydd nifer uwch o ymwelwyr yn cynnal sefydliad megis caffi/bistro, a fyddai’n gweithredu fel sbardun ac yn annog mwy o ymwelwyr i fynd i ardal y promenâd.
Gallai unedau adwerthu fodoli ochr yn ochr ag arena chwaraeon dŵr. Gallai defnyddiau ategol megis siopau atgyweirio a siopau’n gwerthu dillad arbenigol weithredu yn y lleoliad hwn. Gallai ciosgau gwell, a fyddai’n cynnig mwy o amrywiaeth o nwyddau mewn amgylchoedd adnewyddedig weithredu yn yr ardal hon.
Mae’r Pier mewn cyflwr gwael ac yn adfeiliedig ar hyn o bryd. Dylai unrhyw waith i ailddatblygu’r pier ategu’r cynigion presennol a ddisgrifir uchod, neu yn wir gael eu cynnwys o fewn cynllun i wella ardal y promenâd.
Risgiau
Mae llwyddiant economaidd a gwaith i ailddatblygu promenâd Bae Colwyn yn ddibynnol i raddau helaeth ar batrymau teithio a niferoedd yr ymwelwyr, ac mae llwyddiant y dref lan-môr Brydeinig draddodiadol yn allweddol i ffawd y cyrchfan. Er bod dyfodiad gwyliau pecyn a thocynnau awyrennau rhad wedi erydu sylfaen dwristiaid nifer o drefi glan-môr Prydain, mae arwyddion y gallai’r patrwm hwn gael ei wyrdroi, gan fod pryderon ynghylch effaith amgylcheddol teithiau mewn awyrennau a’r costau sy’n gysylltiedig â gwyliau tramor wedi peri i nifer o bobl ailasesu eu gofynion.
Mae datblygu ardal y promenâd/traeth yn llwyr ddibynnol ar wella mynediad, y dull brandio ac arwyddion ar gyfer yr ardal a sicrhau’r cyllid angenrheidiol er mwyn cyflawni cyfleuster a gydnabyddir fel un sydd o’r radd flaenaf. Bydd angen i waith datblygu fod o ansawdd digonol i wella’r ardal yn y modd a awgrymir uchod a bydd yn rhaid wrth reolaeth integredig rhwng yr asiantaethau perthnasol megis y Cyngor, y bwrdd croeso lleol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith.
Mae’n rhaid pwysleisio y bydd unrhyw waith i ailddatblygu ardal y promenâd yn cael ei wneud dros gyfnod sylweddol.
Tai
Mae’r dyraniad tai newydd arfaethedig wedi’i leoli’n bennaf i’r Dwyrain o ganol tref Bae Colwyn. Rydym yn ymwybodol bod y Cyngor/Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi cwblhau caffaeliadau ad hoc/manteisgar ledled yr ardal.
Bydd datblygiadau newydd yn gwella’r amrywiaeth a’r dewis o unedau preswyl yn yr ‘Ardal Adnewyddu Tai’ (HRA) gyfagos, ac yn creu cyfleoedd pellach i ddatblygu tai ar gyfer teuluoedd. Mae cynlluniau o’r fath yn cynnwys darparu datblygiad mewnlenwi ar dir ‘cefn’ a thir gwag presennol, creu clystyrau preswyl newydd gyda mannau a llwybrau cyhoeddus newydd. Mae cyfle hefyd i adleoli unrhyw ddefnyddiau nad ydynt yn cydymffurfio i ardaloedd eraill gan felly ryddhau tir datblygu posib.
Mae angen cynllun rheoli cymdogaeth ar gyfer yr ardal, a fydd yn rhoi sylw i broblemau megis diogelwch, sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn gwella’r canfyddiad cyffredinol am yr ardal a’i hamgylchedd a darparu lle gwell i’r trigolion fyw ynddo.
Mae cynlluniau i wella mynediad rhwng Lawson Road ar ochr ddwyreiniol yr Ardal Adnewyddu Tai a Pharc Eirias, trwy godi pont dirnod newydd dros Nant Eirias. Bydd cysylltiadau o’r fath yn ychwanegu gwerth at yr arlwy tai a fydd yn cael ei wella oherwydd y gwell cysylltiadau mynediad a fydd yn cael eu creu rhwng yr ardal breswyl a’r parc. Mae gan y mwyafrif o unedau preswyl yn yr Ardal Adnewyddu Tai erddi llai, ac felly fe allai mynediad at barc gael effaith fwy pendant.
Risgiau
Mae llwyddiant y cynllun yn ddibynnol ar amrywiaeth o wahanol ffactorau megis argaeledd cyllid cyhoeddus a phreifat a’r defnydd ohono. Mae angen cydgysylltu a sicrhau ffocws i gaffaeliadau, gan eu gwneud yn rhan o gynllun ehangach yn hytrach nag yn gaffaeliadau tameidiog/ad hoc. Bydd effeithlonrwydd y gwariant a chefnogaeth y sector cyhoeddus yn ffactor allweddol bwysig wrth ddatblygu’r ardal.
Gallai gwrthwynebiadau i gliriadau ac ansicrwydd posib gan y gymuned ynghylch y cynllun gyfyngu ar y perfformiad neu’r effaith a ddymunir mewn perthynas â’r cynllun.
Gallai diffyg cynllun rheoli cymdogaeth da a chymorth i’r farchnad dai trwy adnabod ardaloedd i ymyrryd ynddynt effeithio’n negyddol ar yr effaith gadarnhaol a fyddai’n cael ei chreu trwy wella’r amgylchedd adeiledig lleol. Yn yr un modd, gallai diffyg ymgysylltu â landlordiaid gael effeithiau canlyniadol ar unrhyw gynllun. Mae sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gorfodi’r pwerau sydd ar gael iddynt mewn modd rhagweithiol er mwyn rhoi cymorth i unrhyw gynllun ailddatblygu’n allweddol bwysig, ac fe allai methiant cyrff o’r fath i fynd i’r afael yn llwyddiannus â phroblemau megis gorlenwi, tai amlfeddiannaeth anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith niweidiol ar y gobeithion o wella ffawd yr Ardal Adnewyddu Tai.
Gweddnewid Symudiad.
Pont droed newydd dros yr A55
Un her allweddol a adnabuwyd trwy’r astudiaeth gychwynnol oedd sut i oresgyn y rhwystr i symud rhwng canol y dref a glan y môr a achosir gan yr A55 a’r rheilffordd.
Trwy’r broses uwchgynllunio fe adnabuwyd cyfle i greu man croesi newydd ar ffurf pont dirnod a fyddai’n darparu cyswllt cryf rhwng y dref a’r môr yn ogystal â chyhoeddi’r Dref i bobl sy’n mynd heibio ar yr A55.
Cydnabuwyd y byddai angen goresgyn nifer o gyfyngiadau gydag unrhyw bont megis sicrhau rhychwant clir o 5.03m o uchder o leiaf dros yr A55, gan groesi’r slipffordd, Victoria Avenue ac wedyn goresgyn y rhwystr ychwanegol a achosir gan y rheilffordd.
Nid oes digon o bellter rhwng Victoria Avenue a’r danffordd i allu pontio dros Victoria Avenue ac wedyn darparu ramp sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd i lawr at y danffordd. Felly mae angen darparu croesfan un-lefel i gerddwyr dros Victoria Avenue. Roedd hyn yn her ychwanegol gan ei fod yn golygu y byddai’n rhaid datblygu strategaeth i sicrhau cliriad diogel dros slipffordd yr A55 sy’n rhedeg yn gyfochrog â, ac wrth ymyl Victoria Avenue.
Mae dau ddewis posib wedi cael eu datblygu fel y disgrifir isod:
Dewis 1 (Lluniad (GA) 001)
Mae’r dewis hwn yn cynnig dec pont crwm sy’n codi ar ffurf bwa tua’r gorllewin ac felly’n croesi’r slipffordd cyn ei fod wedi dechrau dringo i’w lefel uchaf. Mae’i geometreg grom yn golygu bod digon o uchdwr dros ffordd ymadael yr A55 i allu ei gyflawni. Wedyn darperir triniaeth arwyneb i barhau â’r bwa fel croesfan un-lefel dros Victoria Avenue. Wedyn caiff y dirwedd ei hailraddio i uchafswm graddiant o 1 mewn 20 i alluogi’r llwybr i fynd o dan y danffordd. Efallai y bydd y gwaith ailraddio’n golygu bod angen i’r cliriad o dan y danffordd gael ei ostwng i isafswm o 2.4m.
Yn ogystal â chynnal y dec pont byddai’r bwa’n nodwedd arwyddocaol a fyddai’n cyhoeddi Bae Colwyn wrth y fynedfa i’r dref ar yr A55.
Dewis 2 (Lluniad (GA) 002)
Mae’r dewis hwn yn darparu ar gyfer croesfan yn syth ar draws yr A55 yn unol â’r danffordd bresennol. Byddai’r dec yn croesi Victoria Avenue ar yr un lefel a byddai grisiau a ramp mynediad wedyn yn cael eu darparu o Victoria Avenue i lawr at y danffordd bresennol.
Er bod y dewis hwn yn darparu llwybr yn syth ar draws ar gyfer y dec pont, byddai’n golygu gwaith peirianneg sifil er mwyn ailraddio slipffordd bresennol yr A55, gan sicrhau digon o uchdwr. Yn dilyn ei hailraddio, byddai graddiant y slipffordd yn 1 mewn 20.
Er mwyn cynnal rhychwant clir heb ategion canolraddol cynigir adeiledd ar ffurf bwa dur fertigol i gynnal y dec pont a throsglwyddo llwythi’r dec pont i mewn i’r ddaear.
Mae’r tîm uwchgynllunio wedi adnabod Dewis 1 fel y dewis a ffafrir oherwydd ceinder y dyluniad a’r effaith lai ar adeiledd presennol cefnffordd yr A55.
Risgiau
Y risgiau mwyaf sylweddol i gyflawni’r bont droed newydd hon yw argaeledd cyllid, a chefnogaeth rhanddeiliaid gan gynnwys Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru. Mae ffactorau a fydd yn bwysig i lwyddiant y cynllun yn cynnwys cyflawni gwelliannau cysylltiedig i ardaloedd o dir y cyhoedd a datblygiadau preifat a fydd yn creu’r nifer o ymwelwyr a’r awydd ymysg cerddwyr sy’n angenrheidiol i wneud unrhyw bont droed newydd yn llwyddiant ac yn gaffaeliad gwerthfawr i’r dref.
Bay View Road a Greenfield Road
Mae Bay View Road, Seaview Road a Greenfield Road ar hyn o bryd yn gweithredu fel heolydd unffordd. Gyda’r ailddatblygu ar hyd Bay View Road i gyd, rydym yn awyddus i osgoi system unffordd gylchdroadol.
Mae Bay View Road yn mynd i gael ei gweddnewid gan y gwaith ailddatblygu, ac mae’n rhan o gyswllt cerdded a beicio hanfodol o ganol y dref i’r ardal breswyl i’r dwyrain ac ymlaen trwy Barc Eirias. Cynigir triniaeth ar hyd Bay View Road gyda lle’n cael ei ailddyrannu i ganiatáu troedffyrdd ehangach, plannu coed a mannau parcio ar y stryd ac/neu ardal lwytho o flaen yr adeiladau newydd. Bydd Bay View Road yn caniatáu symudiad gan gerbydau yn y ddau gyfeiriad o Greenfield Road i fyny at y maes parcio newydd arfaethedig ym mhen gorllewinol y stryd. Wedyn gellir cael mynediad at y maes parcio newydd hwn yn uniongyrchol oddi ar Greenfield Road heb yr angen i fynd o amgylch system unffordd, a gellir gosod arwyddion i gyfeirio pobl ato’n uniongyrchol oddi ar slipffyrdd yr A55. Bydd rhai mannau parcio ar y stryd ar ymyl ogleddol y ffordd yn cael eu colli, ond gellir eu hailddyrannu ar yr ymyl ddeheuol i wasanaethu’r datblygiadau newydd.
Cynigir troi Greenfield Road yn ôl yn stryd ddwyffordd, gan ganiatáu mynediad mwy uniongyrchol a greddfol at ac oddi ar yr A55. Bydd rhai mannau parcio ar y stryd yn cael eu colli o ganlyniad i hyn, ond disgwylir gallu cadw’r ddarpariaeth llwytho ar gyfer y busnesau lleol ar Greenfield Road.
- Mae’r gyffordd yn Borth allweddol i’r dref ar gyfer ymwelwyr sy’n cyrraedd mewn car. Dylai Porth gyhoeddi’r dref i’r ymwelydd a chyflwyno argraff gyntaf gref, a meddu ar ansawdd dinesig.
- Bydd y gyffordd yn fan allweddol ar gyfer penderfyniadau gan yrwyr cerbydau a cherddwyr, y mae’n rhaid iddynt ddewis a ydynt am barhau ar hyd Greenfield Road tuag at yr ardaloedd preswyl i’r de, ynteu troi i’r gorllewin tuag at y maes parcio newydd arfaethedig yng nghanol y dref. Mae’n bwysig bod cerbydau’n arafu wrth ddynesu at y gyffordd a bod y gyffordd yn cael triniaeth sydd o gymorth i’r broses benderfynu, gan leihau annibendod diangen a darparu gwybodaeth ddigonol i alluogi’r gyrrwr i ddewis ei gyfeiriad teithio.
- Mae’n gyffordd brysur ar rwydwaith ffyrdd canol y dref, gan ei bod yn gwasanaethu maes parcio a man gwasanaethu presennol Canolfan Siopa Bay View (y mae’r lle ynddynt yn debygol o gynyddu dros amser), y datblygiad newydd ar Bay View Road a’i faes parcio aml-lawr, a mynediad at Ffordd Abergele. Bydd angen i gyffordd wedi’i hailddylunio fod â digon o gynhwysedd i dderbyn y llifoedd traffig cerbydol presennol ac unrhyw draffig ychwanegol a allai gael ei greu o ganlyniad i adfywio’r dref.
Oherwydd y rôl allweddol y mae’n rhaid i’r gyffordd ei chyflawni caiff ei dylunio fel “Sgwarfan”, sef darn o isadeiledd dinesig a fydd yn cyflawni’r rolau a ddisgrifir uchod gan gynnal y symudiadau a’r llifoedd angenrheidiol gan gerbydau yn yr un ffordd â chylchfan. Dangosir un trefniant posib ar gyfer y Sgwarfan ar ddyluniad (HI) 100, gyda thrywydd y cerbydau’n cael ei dangos ar ddarlun (HI) 101 a 102.
Bydd y sgwâr hwn yn cael ei drin â deunyddiau cadarn ond gwahanredol, gyda’r trefniant yn seiliedig ar alluogi ac annog cerddwyr i symud a gwella eglurder. Bydd lefel y ffordd gerbydau’n cael ei chodi i greu arwyneb sydd bron â bod yn wastad ar draws y sgwâr (cyrbau ag ymylon isel yn cael eu darparu).
Risgiau
Sicrhau cyllid yw’r prif risg i gyflawni’r cynllun ar ryw ffurf. Bydd mynd ati’n ofalus i ddylunio a chyfleu’r egwyddorion symud arfaethedig yn allweddol i gyflawni’r holl ddyheadau ar gyfer yr ymyriad arfaethedig hwn.
Sgwâr yr Orsaf
Mae Sgwâr yr Orsaf yn borth allweddol i mewn i’r dref ar gyfer ymwelwyr sy’n cyrraedd mewn car ac ar drên ac mae hefyd yn darparu un o’r ychydig gysylltiadau presennol ar gyfer cerddwyr rhwng canol y dref a glan y môr gan ei fod wedi’i adeiladu ar ddec ar draws yr A55. Ar hyn o bryd mannau parcio ceir, priffyrdd a’r annibendod cysylltiedig sydd fwyaf amlwg yn y lle ac nid yw’n cyhoeddi’r dref wrth ymwelwyr mewn goleuni da.
- Gwella’r profiad o gyrraedd o’r orsaf
- Darparu lle i ymwelwyr ganfod ble maen nhw wrth adael yr orsaf.
- Darparu cyfnewidfa well ar gyfer cludiant cyhoeddus
- Gwella’r cysylltiadau gweledol a ffisegol rhwng canol y dref a’r Promenâd
- Creu Man Cyhoeddus newydd
Datblygwyd dyluniad amlinellol sy’n cynnig bod y ffordd gerbydau’n cael ei dargyfeirio i ogledd y llecyn gan ryddhau ardal fawr yn rhan ddeheuol y Sgwâr y gellir ei datblygu fel Sgwâr Dinesig lle gellid cynnal digwyddiadau cyhoeddus a gweithgareddau megis marchnadoedd. Dangosir y dyluniad amlinellol ar Ddyluniad (SK) 100.
Mae maes parcio presennol Network Rail wedi cael ei ailgyflunio a’i symud i ymyl y Sgwâr er mwyn sicrhau bod yr un nifer o fannau parcio i’w cael a lleihau effaith y maes parcio ar y lle.