6. Pennod 6. Strategaeth Gaffaeliadau
Gellir ystyried bod y Strategaeth Caffaeliadau Strategol yn broses esblygol a bydd yn cael ei rhedeg ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hon yn rhan allweddol bwysig o’r strategaeth gyflawni a chan hynny mae angen ei rheoli mewn modd rhagweithiol. Mae’n bwysig bod y caffaeliadau’n cael eu cyflawni o fewn graddfa amser y prosiect cyfan er mwyn cynyddu i’r eithaf y cyllid sydd ar gael ar gyfer Ardal Adnewyddu Strategol Arfordir Gogledd Cymru. Ar y cyfan mae’n rhaid i’r Strategaeth Caffaeliadau Strategol gyflenwi’r adeiladau sy’n ofynnol, ar yr amser cyfredol ac o fewn y gyllideb. Mae’n rhaid bod cyn lleied â phosib o wastraff ac adnoddau gormodol. Mae adeiladau a gaiff eu meddiannu y tu allan i amodau a chylch gorchwyl Strategaeth Caffaeliadau Strategol a gydgysylltir neu a reolir yn debygol o fod yn rhai nad oes mo’u hangen a byddant nid yn unig yn wastraff adnoddau yn y dechrau ond hefyd yn gost trefnu ddiangen yn y dyfodol.
- Yr Hen Neuadd Farchnad, 2/4-16 Rhodfa’r Tywysog
- 3-8 Bay View Road ac 1-3 Lincoln Terrace (heb eu prynu)
- CFR, Douglas Road (heb eu prynu)
- 2 a 4 Groes Road (hefyd yn cael eu hadnabod fel hen Adeilad y Golchdy) (heb eu prynu)
- 10 Douglas Road
Am y tro, rydym wedi cynnwys y safleoedd canlynol o fewn y Strategaeth Caffaeliadau Strategol:-
- Ardal Adnewyddu’r Farchnad Dai
- Y pum safle a oedd wedi’u cynnwys yng nghynigion Conwy ar gyfer caffaeliadau cynnar
- Ardaloedd ychwanegol Ffordd Penrhyn, Wynnstay Road, Heol Mostyn, Rhodfa’r Tywysog, Marine Road a Conway Road
- Yr 28 o safleoedd a nodir yn Uwchgynllun Shape.
Mae’r “Strategaeth” yn nodi’r meini prawf a’r cyfiawnhad ar gyfer cynnwys y sector cyhoeddus yn yr ardal, ynghyd ag adnabod daliadau tir a chyfleoedd allweddol y gellid eu cyflwyno gerbron. Rydym yn cydweithio’n agos gyda’r tîm uwchgynllunio a’r timau cleient i lywio’r broses raglennu a chanfod enillion cynnar, adnabod adeiladau sydd ar y farchnad, canfod unedau gwag/adfeiliedig ac adeiladau nad ydynt dan berchenogaeth y sector cyhoeddus ac i fynd i’r afael â materion cyflawnadwyedd ac allbynnau.
Ardal Adnewyddu’r Farchnad Dai
Mae’r ardal adnewyddu’n ymestyn dros oddeutu 41 erw, ychydig i’r dwyrain o ganol tref Bae Colwyn ac mae’n cynnwys cyfanswm o 451 o adeiladau. Mae’r mwyafrif llethol o’r adeiladau sydd wedi’u lleoli yn ardal Menter Adnewyddu’r Farchnad Dai’n rhai sy’n gysylltiedig â defnydd preswyl ar hyn o bryd, er bod nifer sylweddol o unedau adwerthu ar hyd Ffordd Abergele ac i’r gorllewin o Greenfield Road. Mae cyfanswm o 36 o adeiladau’n gweithredu fel unedau adwerthu yn unig, gyda 53 arall yn rhai defnydd cymysg ar hyn o bryd gan gynnwys elfen adwerthu. Mae cyfran uchel o’r adeiladau preswyl i’r gogledd o Ffordd Abergele’n dai Fictoraidd sylweddol â 2/3 llawr, gydag amrywiaeth o anheddau teras, pâr a sengl. Mae maint cyfartalog adeiladau preswyl o’r fath wedi gwaethygu lefel uchel o droi adeiladau’n fflatiau. Yn wir, mae cyfanswm o 93 o adeiladau (20.6%) wedi cael eu rhannu’n dai amlfeddiannaeth yn ôl Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae tri chlwstwr o adeiladau diwydiannol ledled ardal Menter Adnewyddu’r Farchnad Dai, sy’n gyfanswm o 12 uned (2.7% o’r cyfanswm). Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau masnachol wedi’u lleoli y tu ôl i Greenfield Road, sy’n cynnwys cyfanswm o 7 uned. Mae 4 uned arall wedi’u lleoli ar Back Belgrave Road, ac un arall ar Grove Road.
5 Safle Conwy ar gyfer Caffaeliadau Cynnar
- Yr Hen Neuadd Farchnad, 2/4-16 Rhodfa’r Tywysog
Mae’r Hen Neuadd Farchnad yn cynnwys nifer o unedau sy’n bennaf yn unedau adwerthu nas defnyddir ddigon, a’r rheiny wedi’u lleoli’n agos at Orsaf Drenau Bae Colwyn a Gwesty’r Imperial. Mae’r unedau’n rhan o borth ehangach yr orsaf, ac yn arbennig o amlwg. Mae’r unedau o fewn yr un bloc ag Adeiladau’r Llys Sirol a thafarn leol JD Weatherspoon sy’n meddiannu hen sinema canol y dref, sydd wedi’i enwi’n briodol yn ‘Y Pictiwrs’. Mae’r unedau o fewn yr Hen Neuadd Farchnad oll yn rhai tri llawr, gydag unedau atodol/swyddfeydd gwag uwchben. Dim ond un o’r 5 uned adwerthu sydd i’w gweld fel pe bai wedi’i meddiannu. Deallir fod CBSC wedi prynu uned KFC gynt, a arferai feddiannu Rhifau 2/4 yn Rhodfa’r Tywysog. Mae’r safle hwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer datblygiad defnydd cymysg posib, a allai gynnwys uned adwerthu ar y llawr gwaelod gydag uned breswyl neu swyddfa uwchben. Nid yw’r posibiliadau ar gyfer datblygu’r safle hwn wedi cael eu harchwilio’n llawn er bod y safle, fel y cydnabuwyd yn flaenorol, yn un o bwysigrwydd cynhenid o ystyried ei agosrwydd at yr orsaf, a bydd yn rhaid i unrhyw waith i adnewyddu’r unedau adlewyrchu hyn.
- 3-8 Bay View Road ac 1-3 Lincoln Terrace
Mae 3-8 Bay View Road yn cynnwys dau adeilad pâr Fictoraidd â 3 llawr, sy’n edrych dros Ganolfan Hamdden Bay View. Mae 1-3 Lincoln Terrace yn cynnwys tri adeilad â 2 lawr, y ceir mynediad atynt o ffordd gefn. Mae’r safle hwn yn rhan o gynllun ehangach i ailfodelu Bay View Road yn llwyr i ddarparu cynllun defnydd cymysg a chyfadeilad ar gyfer y celfyddydau a fydd yn gysylltiedig â’r theatr, a hwyluso mynediad rhwng Bay View Road a Ffordd Abergele.
- CFR, Douglas Road
Mae’r adeilad a ddefnyddir ar hyn o bryd gan ‘Conwy Furniture Reclaim’ wedi’i leoli ar hyd Douglas Road ac yn cynnwys uned ddiwydiannol arwisgedig ag un llawr. Mae gan yr eiddo ffryntiad tarmacadam a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer parcio. Mae’r safle, ynghyd â 10 Douglas Road, yn rhan o safle datblygu ehangach (Prosiect 11) a nodir yn yr Uwchgynllun, sy’n ymestyn ar hyd Douglas Road i gyd. Gall fod angen caffael adeiladau pellach yn ychwanegol at safle CRF a Rhif 10 er mwyn cydosod yr holl safle, sydd wedi’i glustnodi ar gyfer unedau preswyl yn nogfen yr Uwchgynllun.
- 10 Douglas Road
Mae’r adeilad yn un sengl â dau lawr, sy’n wynebu Douglas Road. Mae’r adeilad yn ffinio â maes parcio i’r gogledd, a safle CFR a ddisgrifir uchod i’r de. Mae’r safle’n rhan o’r safle datblygu a nodwyd uchod o fewn Safle 3 (CFR Douglas Road).
- 2 a 4 Ffordd y Groes (Y Golchdy gynt)
Mae Rhif 2 Ffordd y Groes yn dŷ sengl mawreddog â dau lawr, wedi’i leoli ar lain gornel ddyrchafedig sy’n edrych dros Ffordd Abergele a Pharc Eirias. Er ei bod yn ymddangos mai defnydd preswyl sydd yn Rhif 2 Ffordd y Groes, ymddengys mai defnydd masnachol sydd yn Rhif 4. Mae Rhif 4 Ffordd y Groes yn cynnwys 13 o unedau; y mae wyth ohonynt, sef Rhifau 1-8 yn cynnwys warws beiciau modur, a Rhifau 9, 10, 11-12 a 13 ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio fel gweithdy/warws. Mae’r safle cyfan yn ymestyn dros ryw 1.6 erw ac mae wedi’i glustnodi fel safle posib ar gyfer datblygu gwesty yn y dyfodol. Cyfeirir at y safle hwn fel Prosiect 28 yn yr Uwchgynllun.
Ardaloedd Ychwanegol yn Wynnstay Road, Heol Mostyn, Rhodfa’r Tywysog, Conway Road
Mae’r ardal ychwanegol a astudiwyd yn cynnwys yr ardal sy’n ffinio â Conway Road, Marine Road, Rhodfa’r Tywysog a Ffordd Penrhyn. Mae cyfanswm o 124 o adeiladau wedi’u lleoli yn yr ardal, gyda chymysgedd o ddefnyddiau preswyl, adwerthu a defnydd fel swyddfeydd. Ffordd Penrhyn yw ffin orllewinol prif ardal siopa Bae Colwyn. Yn yr un modd mae Conway Road, fel y nodir uchod, yn cynnwys nifer o unedau adwerthu sydd â nifer o ddefnyddiau eilaidd. Ar Conway Road ceir nifer o brif fanciau’r stryd fawr, megis Barclays a RBS mewn adeiladau cornel sylweddol. Mae Wynnstay Road a Rhodfa’r Tywysog yn cynnwys nifer o swyddfeydd, ac maent i’w gweld yn boblogaidd ymhlith practisau proffesiynol, gyda chyfrifwyr, syrfewyr a chyfreithwyr yn eu meddiannu. Mae Marine Road, Hawarden Road a Heol Mostyn yn cynnwys nifer o adeiladau sengl/pâr mwy â thri llawr sydd wedi cael eu hisrannu’n fflatiau. Mae nifer o fflatiau pwrpasol modern, mwy wedi cael eu hadeiladu’n agos at y gyffordd o amgylch Conway Road a Marine Road. Nid yw’r ardal ychwanegol a astudiwyd uchod wedi cael ei hystyried ar gyfer unrhyw gaffaeliadau. Mae dau reswm dros hyn. Yn gyntaf, mae nifer o ddatblygiadau dan arweiniad y sector preifat ar gyfer pobl oedrannus megis Sŵn-Y-Môr a Pharc Rhoslan sydd wedi’u lleoli ar gorneli Marine Road a Conway Road eisoes wedi gwella’r ardal yn esthetaidd. Yn ail, nid yw’r ardal hon yn creu’r posibilrwydd o agor safleoedd ar gyfer datblygiadau mewnlenwi mor rhwydd ag Ardal Adnewyddu’r Farchnad Dai, a gaiff ei hystyried uchod.
Dadansoddiad o’r Ardal i Ategu’r Caffaeliadau
Mae swm amrywiol o waith wedi cael ei wneud mewn perthynas â phob safle gwahanol. Rydym wedi llunio disgrifiad o nodweddion holl ardal canol tref Bae Colwyn. Mae hyn wedi ein galluogi i ddeall yr amgylchedd adeiledig, yr isadeiledd ac ardaloedd o dir y cyhoedd yn lleol. I gyd-fynd â hyn, ac i ategu hyn, lluniwyd disgrifiad mwy penodol ar lefel adeiladau, sy’n ymgais i ddeall pob adeilad ar lefel fwy unigol. Mae pob adeilad unigol wedi cael ei archwilio’n allanol, ac mae hyn wedi cynhyrchu data megis natur, math, deiliadaeth a chyflwr y stoc y cynigir ei phrynu. Mae dadansoddiad pellach o ddata o’r fath, ynghyd â data gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio a data’r farchnad wedi ein galluogi i gadarnhau’r defnydd, yn ogystal ag argaeledd. Cafodd y disgrifiad ar lefel ardal ac adeilad ei oleuo a’i ategu ymhellach gan gatalog ffotograffig o bob stryd ac, yn fwy penodol, o bob adeilad unigol.
Ardal Adnewyddu Tai
Roedd y dadansoddiad yn cynnwys dau ymweliad â safleoedd, a ddarparodd gatalog ffotograffig llawn o’r adeiladau o fewn yr ardal adnewyddu. Mae atodlen baru wedi cael ei llunio, sy’n rhestru’r holl adeiladau, y ogystal â rhestru’r defnydd cyfredol o’r adeiladau fel y nodir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Rydym wedi adnabod y clystyrau o dai amlfeddiannaeth a chlystyrau penodol o safleoedd o ansawdd gwael, wrth i ni geisio cynnal ein proses o lunio disgrifiad o’r nodweddion ar lefel yr adeiladau.
5 Safle Conwy ar gyfer Caffaeliadau Cynnar
Mae pob un o’r 5 safle a adnabuwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael ei adnabod a’i astudio’n helaeth. Fe wnaed hyn er mwyn gosod pob adeilad unigol yng nghyd-destun yr amgylchedd adeiledig o’i gwmpas. Ar ben hynny, cafwyd gwybodaeth gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio i ganfod y defnydd cyfredol yn yr adeiladau. Os yw’r adeilad wedi cael ei roi ar y farchnad, rydym wedi cael y manylion. Mae pob adeilad unigol wedi cael ei ffotograffio a’i gatalogio i ategu ein safbwyntiau ar sail yr astudiaeth helaeth o’r safle.
Ardaloedd Ychwanegol o Wynnstay Road, Heol Mostyn, Rhodfa’r Tywysog, Conway Road
Ar ben hynny mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi darparu ardal arall i ni ganolbwyntio arni, sy’n ffinio â Marine Road, Rhodfa’r Tywysog, Ffordd Penrhyn a Ffordd Abergele/Conway Road. Yn dilyn derbyn cynllun manwl, fe gwblhaom ni ddadansoddiad o’r ardal leol a oedd yn cynnwys disgrifio nodweddion yr holl adeiladau ar lefel adeilad.
Cyfleoedd i Gaffael Tir.
Hyd yma rydym wedi dadansoddi’r data a gasglwyd fel rhan o’n cronfa ddata o wybodaeth gychwynnol, ac wedi llunio casgliadau sylfaenol mewn perthynas â’r farchnad eiddo ym mhob un o’r ardaloedd unigol. Rydym wedi paratoi matrics y gallwn ei ddefnyddio i symud yn sydyn tuag at asesu costau, problemau a chyfleoedd cydosod tir mewn perthynas â’r ardaloedd a’r isardaloedd a adnabuwyd dros dro fel ardaloedd a dargedir. Rydym yn ymwybodol bod nifer o adeiladau eisoes wedi cael eu caffael gan y sector neu fod trafodaethau wrthi’n digwydd mewn perthynas â hwy.
Cwblhawyd archwiliadau allanol o’r holl adeiladau yn gynnar yn 2010 ac fe gwblhawyd cronfa ddata ffotograffig. Ar gyfer ardal o’r maint yma ymddengys mai ychydig o adeiladau preswyl gwag sydd a dim ond ychydig o unedau adwerthu gwag. O’n profiad ni mewn ardaloedd adfywio eraill byddem wedi disgwyl mwy o adeiladau gwag o fewn Ardal Adnewyddu Tai Bae Colwyn, ac o fewn yr ardaloedd ychwanegol a astudiwyd.
Ni chwblhawyd unrhyw archwiliadau mewnol ac nid ydym wedi cychwyn trafodaethau gydag unrhyw un o berchenogion na deiliaid yr adeiladau a nodwyd.
Mae’r argymhellion yn cynnwys:
Cydgysylltu cynyddol rhwng asiantaethau sydd ar hyn o bryd yn gysylltiedig ag adfywio Bae Colwyn. Yn arbennig, mae angen i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig megis Pennaf fod yn cydweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Cytuno ar yr ardaloedd i’w targedu’n benodol. Fel y mae’r adroddiad hwn wedi’i amlygu, mae nifer o gynlluniau a darnau o waith arfaethedig wedi cael eu cynnig ar gyfer Bae Colwyn. Er bod disgwyl y bydd nifer o gynlluniau o’r fath yn mynd rhagddynt, mae angen pennu safleoedd blaenoriaethol a ffrâm amser ar gyfer datblygu yn y dyfodol, fel bod rhai safleoedd yn gallu cael eu blaenoriaethu a chaffaeliadau cynnar yn gallu cael eu gwneud.
Dylid rhoi’r brif flaenoriaeth i ardal y ganolfan adwerthu, uwchlaw’r ‘Ardal Adnewyddu Tai’ a’r ‘Ardaloedd Ychwanegol a Ystyriwyd’, ond ar y cyd â gwaith i uwchraddio’r Promenâd a Pharc Eirias. Y gred yw y gellid uwchraddio’r ‘Ardal Adnewyddu Tai’ a’r ‘Ardaloedd Ychwanegol a Ystyriwyd’ yn y tymor canolig, gyda datrysiad llawer mwy interim yn ofynnol.
Bydd yn rhaid i’r strategaeth gaffaeliadau ymateb i’r targedau cyflawni a nodir uchod, ac argymhellir felly fod y strategaeth yn ymateb i’r elfennau adwerthu a ddisgrifir uchod, a gofynion canol y dref. Bydd angen caffael adeiladau dethol ar hyd Ffordd yr Orsaf a Sea View Road, ynghyd ag unrhyw dir neu adeiladau ar hyd Ivy Street y bydd eu hangen er mwyn hwyluso’r datblygiad arfaethedig.
Yr angen am dargedu gofodol cydgyfeiriedig. Er y cydnabyddir fod caffaeliadau blaenorol yn rhai a gydgysylltwyd ac a grynhowyd yn ofodol mewn ardal fechan, yn enwedig ar gyfer adeiladau a gaiff eu caffael ar hyn o bryd i ran dde ddwyreiniol Lawson Road, mae’n rhaid i ni bwysleisio’r angen i ddyrannu adnoddau i adeiladau crynodedig mewn lleoliad a bennwyd ymlaen llaw. Gallai prynu adeiladau hwnt ac yma gyfyngu ar y dewisiadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol a chyfyngu ar gyllidebau yn y dyfodol.