7. Pennod 7. Trefniadau Cyflawni.

7.1.

Mae’r trefniadau cyflawni ar gyfer canlyn arni â’r uwchgynllun strategol hwn ar gyfer y dref gyfan yn ganolog i’w lwyddiant cyffredinol. Mae trefniadau traddodiadol ar gyfer rheoli prosiectau, cyfrifoldebau corfforaethol a swyddogaethau statudol o fewn yr awdurdod lleol yn cyflwyno cyfres o faterion sydd y tu hwnt i gylch gorchwyl y comisiwn hwn. Mae cyflawni gweledigaeth ar gyfer tref ac nid yn unig cydgysylltu, ond perchenogi, pob agwedd ar y strategaeth yn galw am ffyrdd newydd o weithio, yn enwedig yn ystod y cyfnod presennol o newid gwleidyddol, llywodraethol ac economaidd mawr. Mae a wnelo’r cynllun hwn â chreu dyhead sy’n uno, gweledigaeth a hefyd partneriaeth.

7.2.

Mae’r ddogfen hon yn nodi ystod o amcanion strategol, uwchgynllun gofodol a nifer o brosiectau gweddnewidiol ar gyfer Bae Colwyn sy’n feiddgar ac yn rhai â ffocws. Maent yn ymateb uniongyrchol i’r anghenion a’r cyfleoedd presennol yn y dref a dealltwriaeth am bob rheidrwydd economaidd a gwleidyddol a fydd yn parhau i ysgogi polisïau cartref am nifer o flynyddoedd.

7.3.
Bydd y strategaeth ei hun yn parhau’n restr o ddymuniadau os na fydd y broses o’i chyflawni’n cael ei threfnu ar y lefel strategol gywir. Ceir awgrymiadau yma ynghylch sut i drefnu’r broses o gyflawni’r strategaeth ac mae a wnelo’r broses ag amcanion y strategaeth ei hun yn hytrach nag unrhyw asesiad o strwythurau presennol ym Mae Colwyn, neu eu gallu neu eu rolau presennol. Nid yw’n rhan o gylch gorchwyl y comisiwn hwn i wneud sylwadau manwl am, na chynnal gwerthusiad manwl o, gyfryngau cyflawni lleol ar eu ffurf bresennol. Mae a wnelo hyn â chydgysylltu a gallu a rheoli un strategaeth mewn un lle! Mae’n rhaid i’r bartneriaeth gryfaf un rhwng haenau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol o lywodraeth gael eu hintegreiddio ag ymwneud parhaus cymunedau lleol a’r sector preifat. Mae swyddogaethau craidd partneriaeth o’r fath yn cynnwys y canlynol:
  • Ceidwad ac arweinydd y weledigaeth a’r uwchgynllun ar gyfer y dref. Er y bydd y themâu, y prosiectau a’r pecynnau cyllido i weithredu elfennau o’r uwchgynllun i gyd yn wahanol, rôl y ceidwad yw sicrhau cyflawni effeithiol ar draws yr ardal gyda chynnydd yn cael ei wneud tuag at y strategaeth eang.
  • Cymell, arwain a chaffael pob agwedd ar fuddsoddiadau gyda ffocws arbennig ar fuddsoddi mewn tai, gwelliannau strategol i’r amgylchedd, parciau ac ardaloedd o dir y cyhoedd a buddsoddiadau allweddol sy’n gysylltiedig â chyflogaeth gan gynnwys hwyluso’r cyfle a gynigir gan y ganolfan siopa a chyllid mwy strategol ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â chludiant, isadeiledd ac amddiffyn rhag llifogydd.
  • Mynnu a thrafod y fargen orau i Fae Colwyn gyda buddsoddwyr yn y sector cyhoeddus. Bydd hyn yn digwydd yng nghyd-destun y toriadau o 25% mewn gwariant cyhoeddus o 2011-2015 (Penawdau’r Gyllideb Frys – Mehefin 2010). Mae hyn yn galw am gydweithio ar y lefelau uchaf rhwng y Cyngor, Llywodraeth Cynulliad Cymru, buddsoddwyr a phartneriaid cymunedol.
  • Marchnata Bae Colwyn, gan adeiladu sylfaen fuddsoddi’r sector preifat, proffil yr ardal, ac ategu ac arwain ffocws yr holl bartneriaid.
  • Darparu cysondeb o ran y dull o weithredu dros nifer o flynyddoedd, ar draws newidiadau mewn trefniadau cyllido a pholisïau.
  • Dull strategol o ymdrin â chyllid a buddsoddi.
7.4.

Yn ogystal â bod yn geidwad y weledigaeth, mae’n rhaid bod gan yr asiantaeth sy’n gyfrifol am gyflawni’r uwchgynllun hwn ar gyfer y dref gyfan ym Mae Colwyn gylch gorchwyl i gydblethu’r holl ffrydiau cyllid ar draws yr holl themâu a fframweithiau. O’r holl gyllidebau yn y sector cyhoeddus a chyllidebau cyflenwi gwasanaethau i’r holl raglenni cyfalaf a buddsoddiadau gan y sector preifat, un dull strategol ar gyfer Bae Colwyn fydd yr ysgogydd yma.  

7.5.

Mae hanes polisïau trefol mewn trefi a dinasoedd yn y DU yn frith o arbrofion, cynlluniau peilot a mentrau trefniadol sydd wedi cael effaith o faint amrywiol ac wedi rheoli gwahanol gyfundrefnau cyllido mewn ystod o wahanol gyd-destunau. Mae’n rhaid bod a wnelo’r uwchgynllun hwn â dysgu o’r profiadau hyn a gweithredu partneriaeth cyflawni newydd sy’n gwneud i’r weledigaeth ddigwydd.

7.6.
Beth bynnag, mae cyd-destun cenedlaethol sydd wedi newid yn sylfaenol yn golygu bod yn rhaid craffu ar ofynion cyllido blaenorol a’r strwythurau sy’n gysylltiedig â hwy. Cyflawni canlyniadau gwell am lai o arian yw’r mantra newydd yn y sector cyhoeddus ac un rhan o’r ffordd o gyflawni hyn yw tynnu hyd yn oed yn fwy ar botensial creadigol pobl, cymunedau, mentrau a chreu “lleoliaeth” newydd i Fae Colwyn.
7.7.

Mae’n rhaid i’r bartneriaeth cyflawni ar gyfer yr uwchgynllun strategol hwn hefyd fod â strwythur ac adnoddau i arwain y broses o ddatblygu dulliau newydd o gael cyllid gan y sector preifat, ymgysylltu â thirfeddianwyr allweddol a’r diwydiant buddsoddi.

7.8.

Bydd angen dulliau creadigol ac arloesol o sicrhau cyllid gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat er mwyn gweithredu’r llu o themâu a phrosiectau o fewn yr uwchgynllun hwn. Bydd defnydd traddodiadol o gyllid y sector cyhoeddus i ysgogi buddsoddiadau preifat a chynyddu gwerthoedd a helpu i greu mwy o farchnadoedd lleol gweithredol yn anodd. Bydd yn rhaid wrth fodelau ariannol a chyd-fentrau newydd i weithio gyda rhanddeiliaid cyhoeddus a buddsoddwyr preifat ac mae’n rhaid i’r cyfrwng cyflawni ar gyfer yr uwchgynllun gael gorchwyl i ymgymryd â’r rôl arweiniol fel buddsoddwr strategol drwy ei hawl ei hun. Bydd y corff sy’n cyflawni hefyd yn cael gorchwyl i ddiogelu buddsoddiadau a wnaed eisoes yn y dref a sicrhau bod amcanion cymdeithasol ac economaidd eang yn cael eu cyflawni.

7.9.

Cynllunio Statudol.

Bydd y broses o gyflawni’r uwchgynllun hefyd yn cael ei hintegreiddio â phrosesau cynllunio statudol. Caiff egwyddorion craidd datblygu cynaliadwy eu hadlewyrchu drwy’r ddogfen hon ac maent yn tanategu’r strategaeth gyfan. Er nad yw elfennau mawr o’r uwchgynllun yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ffisegol na gofodol newydd, mae’n hanfodol y rhoddir pwys i’r uwchgynllun ei hun o fewn cynlluniau datblygu lleol. Bydd proses y CDLl yn ddiweddarach yn 2010 yn cynnwys yr agweddau allweddol ar y cynllun hwn.

7.10.

Er mwyn sicrhau mwy o bwys, mae’r cynlluniau a’r cynigion a nodir yn y ddogfen hon yn cydymffurfio â’r amcanion, y weledigaeth, y strategaeth a’r polisïau allweddol a nodir yn y CDLl sydd wrthi’n datblygu. Nid glasbrint mo’r uwchgynllun strategol ac mae’n ddigon hyblyg i newid dros y blynyddoedd sydd i ddod wrth i fuddsoddiadau ac amodau’r farchnad amrywio.

7.11.

Mae’r syniadau hyn a’r cynigion yn yr uwchgynllun wedi dod i’r amlwg yn dilyn proses o gyfranogiad cymunedol a gynhaliwyd ar ddechrau’r comisiwn. Yn awr mae angen datblygu’r broses hon ac adeiladu arni wrth i’r corff sy’n cyflawni’r strategaeth drefnu a pherchenogi ymwneud pellach gan y gymuned a mecanweithiau monitro digonol ar gyfer oes y strategaeth.

7.12.

Cafodd y dull o weithredu a’r cynigion a nodir yn y ddogfen hon eu cymeradwyo gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Conwy ar 19eg o Awst 2010. Bydd angen mwy o waith ymgysylltu gyda’r sector preifat, trigolion a busnesau fel rhan o weithredu’r cynllun.

« Back to contents page | Back to top