8. Pennod 8. Cyflawni Gweledigaeth….. Diweddglo:

8.1.

Pa fath o le allai Bae colwyn fod?

Yn ganolog i’n cynigion mae darlun newydd, cryfach a mwy cyffrous o’r dref a’r hyn sydd ganddi i’w gynnig, nid dim ond i’w thrigolion a busnesau ond i ymwelwyr a buddsoddwyr hefyd.

8.2.

Mae’r uwchgynllun yn adeiladu ar yr hyn sy’n dda am y dref fel ffordd o ddenu pobl iddi, eu helpu i weld mwy ac aros yn hwy. Nid oes amheuaeth y gallai Bae Colwyn unwaith eto fod y cyrchfan glan-môr yr arferai fod ar un adeg gan hefyd gryfhau ei rôl fel ‘prifddinas’ arfordir Gogledd Cymru.

Dychmygwch sut y gallai Bae Colwyn fod yn y dyfodol o safbwynt eraill:

8.3.

I Ymwelwyr:

Mae ein teulu’n teithio ar hyd y rheilffordd gan edrych i lawr ar y traeth newydd, rhesi o gytiau glan-môr lliwgar a llwybrau bordiau rhyfeddol megis pier sy’n ymestyn allan i’r môr. Maent yn cyrraedd mewn gorsaf fodern newydd sbon sy’n edrych allan tua’r môr ar un ochr a sgwâr newydd sbon y dref ar yr ochr arall. Mae pont newydd sy’n cysylltu ar draws y sgwâr â’r prom islaw. Gallant weld y pier sydd newydd gael ei ailfodelu gyda’i fwytai, atyniadau a’r olwyn arsyllu.

8.4.
Maent yn croesi’r sgwâr sydd â choed ar hyd ei ymylon lle mae marchnad grefftau ynghyd â cherddorion a pherfformwyr. Ar y chwith mae adeilad talaf a mwyaf newydd Colwyn sy’n nodi canol y dref – Adeilad gwyrdd o’r radd flaenaf sy’n cynnwys swyddfeydd ac yn cynnig golygfeydd ysblennydd o’r caffi ar ben y to. Mae taith gerdded i fyny stryd hynaf Colwyn, ond sydd newydd ei hadnewyddu, Sea View Road, yn mynd â’r teulu i mewn i Cilgant Colwyn. Hon yw’r stryd fwyaf newydd yn y dref sydd â siopau ar ei hyd. O’r fan hon gall y teulu droi i’r chwith tuag at y traeth, i’r dde i mewn i Ffordd yr Orsaf neu fynd yn syth ymlaen tuag at Ffordd Abergele gyda’i siopau arbenigol, caffis a theatr.
8.5.

Siopa, cinio ac wedyn i’r traeth. Mae’r teulu’n cerdded dros y bont werdd newydd o Gilgant Colwyn at y pier newydd ac i lawr i’r traeth. Mae’r tywod yn lân ac yn feddal ac yn hawdd cyrraedd ato. Mae’r prom yn llawn pobl sy’n cerdded rhwng y grwynau ym mhen draw’r llwybrau bordiau newydd yn gwylio’r cychod hwylio a’r sgïau jet sydd wedi clystyru o amgylch y ganolfan chwaraeon dŵr newydd.

8.6.

Gyda’r nos mae’r teulu’n cerdded dros y bont droed i’r parc. Maent yn edrych i lawr ar eraill yn archwilio’r oriel gerfluniau newydd yn yr awyr agored sy’n ymestyn, gyda llifoleuadau’n ei goleuo, ar hyd Nant Eirias. (Heb ei grybwyll yn flaenorol) Maent yn cerdded trwy’r fynedfa newydd i’r parc tuag at y llyn lle maent yn mwynhau perfformiad cerddorol ac yn cerdded o amgylch y parc newydd. Mae’r plant yn dringo dros y clogfeini ac yn gwlychu eu traed yn y cynefin gwlypdir.

8.7.

I Drigolion:

Mae gwell tai fforddiadwy’n cael eu hadeiladu yn nwyrain Colwyn. Mae hwn yn lle gwych i deuluoedd fyw ynddo. Ychydig funudau i ffwrdd dros y bont droed mae’r pentref chwaraeon newydd a Pharc Eirias. Yn y cyfeiriad arall mae canol y dref a’r traeth newydd sy’n addas iawn i deuluoedd. Mae’r pentref chwaraeon yn darparu dosbarthiadau ffitrwydd a hyfforddiant chwaraeon i’r plant. Mae amrywiaeth o bethau i roi cynnig arnynt dan do ac yn yr awyr agored a’r rheiny’n cynnwys amrywiaeth ar ffurf dringo, pêl-droed, tenis, rygbi, rhedeg, nofio a phob math o chwaraeon dan do. Mae lle hefyd ar gyfer sgrialfyrddio, beicio BMX a chlwb ieuenctid.

8.8.

Mae ysgolion da yn yr ardal gyfagos, ac maent i gyd wedi’u cysylltu â’r parc a Seaville. Mae hyd yn oed ardaloedd addysgu awyr agored yn yr Ysgol Goetir a’r cynefin gwlypdir newydd.

8.9.

Mae’r parc hefyd yn cynnal rhaglen reolaidd o wyliau a digwyddiadau. Mae llawer o ymhelwyr yn dod i Nant Eirias hefyd, i weld y cerflun.

8.10.

I Fusnesau:

Mae mwy a mwy o bobl yn ymweld â Bae Colwyn erbyn hyn. Mae prosiect traeth a dadeni’r dref wedi bod yn y newyddion cenedlaethol a chyda llai o bobl yn hedfan mae pobl yn dod ar hyd yr A55 i aros.

8.11.
Mae canol y dref wedi newid hefyd. Mae mwy o bobl yn gweithio yng nghanol y dref. Gyda’r Cyngor wedi’i adleoli i’w adeilad gwyrdd newydd ar y Sgwâr mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio siopau a chyfleusterau’r dref. Mae hyn wedi denu busnesau ac adwerthwyr eraill. Mae siopau newydd yn y dref ond mae mwy o bethau i’w gwneud hefyd megis caffis, bwytai a bariau gwell.
8.12.

Mae tai newydd yn cael eu hadeiladu (neu eu creu os mai addasiadau ydynt?) sy’n dod â theuluoedd ifanc i mewn, gan newid cymysgedd y boblogaeth a chreu mwy o ddyheadau ar draws y dref. Mae hyn wedi effeithio ar wasanaethau megis ysgolion, cyfleusterau iechyd a gwasanaethau’r Cyngor.

  • mae adeilad eiconig newydd wedi’i leoli ar ‘drwyn’ y ganolfan siopa gydag unedau adwerthu a gwasanaethau un stop ar y llawr gwaelod. Mae hyn ar unwaith yn ychwanegu ymdeimlad newydd o leoliad a hunaniaeth at ganol y dref gan hefyd ddenu gweithwyr swyddfa newydd i mewn (tua 600).
  • Mae dau gyswllt newydd o’r dref at y traeth a grëwyd trwy agor stryd newydd sydd wedi’i bwriadu i wella mynediad a chylchrediad. Mae wedi agor Ffordd yr Orsaf i fwy o fynediad ar gyfer cerddwyr ac mae’n ei chysylltu â ‘dolen’ gylchrediad ehangach o amgylch craidd y dref sydd â ffocws ar adwerthu.
  • Cynigir mwy o le adwerthu yn y ganolfan siopa ac ar Sea View Road trwy ddefnyddio Ivy Street.
  • Cynigir sgwâr a gorsaf newydd ar gyfer y dref, sy’n gwella hygyrchedd cludiant ac sydd hefyd yn dod ag ymdeimlad cryfach o gyrraedd ac o ganol i’r dref.
  • Mae traffig ar y ffyrdd wedi cael ei ad-drefnu gyda rhai ffyrdd yn dod yn rhai dwyffordd. Mae hyn wedi’i fwriadu i wella cylchrediad a hygyrchedd.
  • Mae cylchrediad cerddwyr wedi cael ei wella i gyfeiriad Dwyrain Colwyn ac ar draws Nant Eirias trwy bont droed newydd.
  • Mae’r cydbwysedd o ran tai wedi cael ei ailbennu gyda gwaith clirio â ffocws a phrosiectau newydd ychwanegol i ddarparu cartrefi ar gyfer teuluoedd.
  • Mae’r parc wedi cael ei ailfodelu’n bentref chwaraeon a pharc teuluol, gan gynyddu ei asedau a mentrau chwaraeon arfaethedig i’r eithaf
  • Mae prosiect y promenâd wedi’i gysylltu â’r uwchgynllun ehangach ynghyd â’r traeth newydd a’r gwaith i amddiffyn yr arfordir.
  • Mae cyfleoedd busnes yn gysylltiedig â chwaraeon dŵr

« Back to contents page | Back to top