1. Cyflwyniad

1.1.
Prif orchwyl y ddogfen hon yw adrodd am ganfyddiadau'r Arfarniad Cynaliadwyedd (AC) sy'n dal i ddigwydd ynghlwm wrth y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy'n cael ei baratoi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac sy'n agosáu at gael ei orffen. 
1.2.

Proses yw'r AC sy'n cynnwys asesu ystyriaethau cynaliadwyedd y CDLl.  Bydd gofyn i hwn edrych ar bob agwedd ar y cynllun, o greu twf a'r opsiynau datblygu gofodol i asesu polisïau’n fanwl a chynigion yw rhoi ar waith. 

1.3.

Diben yr AC oedd rhoi gwybodaeth i'r broses benderfynu yn ystod cyfnod paratoi'r CDLl.  Mae hyn er mwyn adnabod yr ystyriaethau datblygu â'r potensial cynaliadwy iddynt o fewn Strategaeth y CDLl  ac yn cael eu cydnabod yn y dewisiadau a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Mae hefyd yn rhan o rôl yr AC i brofi perfformiad y cynllun o dan sylw er mwyn cynorthwyo penderfynu a yw'n addas i'r gorchwyl y bwriadwyd ef ar ei gyfer. Mae method yr AC yn unol ag arfer da arfarnu cynaliadwyedd a Chyfarwyddeb y Gymuned Ewropeaidd ar Asesu Amgylcheddol Strategol (AAS)

1.4.

Mae camau cychwynnol yr AC wedi eu hymgymryd â hwy. Dechreuwyd drwy lunio Adroddiad Cwmpasu, i'r diben o adnabod y modd y dylai'r AC ei gymryd i arfarnu, a'r materion y dylid eu trafod yn yr AC.  Gyrrwyd yr Adroddiad Cwmpasu i ymgynghori arno at un grŵp dethol o ymgynghorwyr a chynhwyswyd eu mewnbwn o fewn yr AC. Mae'r  adroddiad AC ar gael ar safle we Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. 

1.5.

Yn dilyn y cwmpasu ymgymerwyd ag arfarnu'r adroddiad opsiynau a'r Strategaeth a Ffefrir, fersiwn CDLl (Mawrth 2006). Codasai'r adroddiad AC  a baratowyd y pryd hynny, rai ystyriaethau o  ddrwg effeithiau potensial o roi'r  Strategaeth a argymhellwyd ar waith.  Gwnaeth yr  adroddiad AC  argymhellion lle gallai gwelliannau neu egluriadau o fewn y Strategaeth hwyluso ei berfformiad o gyflawni ei nod o gael datblygu mwy cynaliadwy.

1.6.

Yn olynol, gwnaed AC o ymgynghoriad drafft Strategaeth a Ffefrir CDLl. Y cam a gyrhaeddwyd erbyn hyn yn yr AC yw arfarniad o fersiwn 2010 y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd.  Dyma’r ail waith i’r Cyngor lunio fersiwn i’w archwilio gan y cyhoedd.  Cafodd fersiwn flaenorol, a luniwyd yn 2009, ei diddymu o ganlyniad i’r angen am adolygiad o’r ffigurau tai. Mae’r AC hwn yn cadw’n agos at yr AC ar gyfer Cynllun 2009 i’w archwilio gan y cyhoedd, ac wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau. Cynhyrchwyd dogfennau cefndir gan y rhai a oedd yn paratoi'r CDLl  i ddynodi sut y bu ac y bydd canfyddiadau'r AC yn cael eu cynnwys wrth symud ymlaen gyda'r Strategaeth ac wrth baratoi'r CDLl1 i gyd.

1.7.

Cynnwys yr adroddiad

Mae Adran 2 yr adroddiad hwn  yn rhoi manylion ar gefndir i'r CDLl, a phroses yr AC. Mae hyn yn cynnwys ystyriaeth o sut y bydd gofynion yr AAS yn cael eu hymgorffori i mewn i'r broses arfarnu.  Yn yr adran hon amlinellir datblygiad yr AC hyd yn hyn, yn cynnwys cynhyrchu adroddiad cwmpasu, a'r ymgynghori a wnaed fel rhan o hyn, yn ogystal â'r camau nesaf yn yr AC. 

1.8.

Mae Adran 3 yn ystyried cynlluniau eraill, rhaglenni a strategaethau sy'n berthnasol i'r CDLl a'r AC. Mae  Adran 4 yn cynnwys amlinelliad bras o sefyllfa sylfaenol ardal CDLl  Conwy, yn adnabod rhai materion allweddol y gallai'r CDLl eu trafod.  

1.9.

Mae Adran 5 yn cynnwys y rhesymeg y tu ôl i ddewis yr amcanion cynaliadwyedd a ddefnyddiwyd yn y broses arfarnu. 

1.10.

O Adran 6 ymlaen mae'r arfarniad cynaliadwyedd y CDLl a'i weledigaeth, amcanion, strategaeth, polisïau a'i ddyraniadau.   Mae Adran 6 yn edrych ar y weledigaeth a'r amcanion, Adran 9 y strategaeth ac Adran 10 y polisïau.  Ymhellach, mae Adran 7 yn edrych eto ar ba opsiynau dewisiadau eraill a ystyriwyd ar gyfer twf a dosbarthu datblygu.

1.11.
Mae Adran 8 yn cynnwys sylwadau cyffredinol ar ba mor ddefnyddiol ydyw'r CDLl, ac os yw'r modd y mae'n cael ei gyflwyno yn sicrhau fod mwy o ddatblygu cynaliadwy'n digwydd.  
1.12.

Mae Adran 10 yn crynhoi sut effaith y mae'r cynllun yn ei gael ar yr amgylchedd, yr economi a chymdeithas a sut y gellir eu lliniaru.  Mae Adran 11 yn ystyried cynigion monitro ar gyfer yr AC wedi cyfuno gyda monitro ar gyfer y CDLl.

« Back to contents page | Back to top