2. Arfarnu Cynaliadwyedd a'r Cynllun Datblygu

2.1.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar hyn o bryd yn y broses o baratoi'r CDLl ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy (heb fod yn cynnwys y Parc Cenedlaethol). Mae'r AC yn digwydd ochr yn ochr â pharatoi'r CDLl, gyda'r  arfarniad yn rhan annatod o ddatblygu'r CDLl wrth iddo fod yn rhoi gwybodaeth i'r broses lunio a'r agenda bolisi.  Mae hyn i'w weld yn yr AC a gwblhawyd yn barod, ac yn cynnwys arfarniad o'r opsiynau cychwynnol a'r strategaeth.
2.2.

Mae'r AC yn cael ei ddefnyddio i helpu llunio'r CDLl ac yn ystyried ymhlygiadau cynaliadwyedd yr amcanion, strategaeth a pholisïau'r CDLl.  Fodd bynnag,  nid yw'r Cyngor yn gorfod dilyn cyngor nac argymhellion yr arfarniad, gyhyd â bod y dewisiadau a wneid yn cael eu cyfiawnhau.

2.3.

Cefndir CDLl Conwy

O dan yr hen drefn gynllun ddatblygu yng Nghymru roedd Cynllun Datblygu Unedol yn cael ei lunio ar gyfer pob awdurdod.  Ni fabwysiadwyd CDU erioed yng Nghonwy. Roedd y Cyngor wedi cychwyn gwaith ar y CDU a chyrhaeddodd ddrafft cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd, fodd bynnag penderfynwyd peidio â mynd ymlaen i gwblhau'r CDU, gan symud at y drefn gynllunio newydd a ymddangosodd dan y Ddeddf Gynllunio a Phryniant Gorfodol 2004 (Deddf GPHG 2004).  Conwy oedd un o'r awdurdodau cyntaf i benderfynu gwneud cynllun o dan y drefn newydd.
2.4.

Bydd CDLl yn disodli'r cynlluniau sydd ar hyn o bryd yn ymorol am ddatblygu yn yr ardal. Mae rhai ohonynt wedi eu dyddio'n arw:

  • Cynllun Strwythur Gwynedd 1993
  • Cynllun Strwythur Clwyd (ail newidiad) 1999
  • Cynllun Dosbarth Llandudno Conwy 1982
  • Cynllun Lleol Bwrdeistref Colwyn  1999
2.5.

Mae'r Cyngor wedi rhoi gosod rhaglen ar gyfer paratoi CDLl Conwy a dengys y tabl isod prif drefn amser proses lunio'r cynllun.

2.6.

Drwy'r broses lunio'r CDLl  bydd cyfnodau olynol yn ddarostyngedig i AC.  Mae hyn i sicrhau y bydd penderfyniadau pan y'i cymerir  ar  y dewisiadau gwahanol, gosod amcanion, creu polisïau a dyrannu cynigion yn cael eu gwneud gyda dealltwriaeth dda o ystyriaethau cynaliadwyedd.

2.7.

Y Broses Arfarnu Cynaliadwyedd

Diben yr arfarniad hwn ydyw rhoi gwybodaeth well i rai sy'n gwneud penderfyniadau ar weddau cynaliadwyedd y cynllun a sicrhau ymhlygiadau'r  cynllun wrth helpu i gyrraedd datblygu cynaliadwy  yn cael eu cydnabod.  Mae ymgynghorwyr cynllunio, Baker Associates, yn cynnal proses AC fel  ymarfer annibynnol, gyda pheth mewnbwn a darparu  gwybodaeth gan swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

2.8.

Asesu Strategol Amgylcheddol ac Arfarnu Cynaliadwyedd

Rhaid gweithredu AC er mwyn cyflawni gofynion statudol Deddf GPHG 2004.  Mae'r AC hefyd yn cael ei gynnal yn y fath fodd ag i gyflawni gofynion yr Asesiad Amgylcheddol Strategol Ewropeaidd (AAS) (SEA) Cyfarwyddeb (2001/42/EC) ac Offeryn  Statudol 1656 (w.170) Rheoliadau ‘Asesiad Amgylcheddol  o Gynlluniau a Rheoliadau’  2004. Mae'r  AAS ac AC yn cael eu gwneud gyda'i gilydd fel proses gyfun gydag adroddiad yn gyffredin i'r ddau.
2.9.

Daw gofynion am  AAS yn uniongyrchol o ddeddfwriaeth Ewropeaidd, ac fe'i gosodwyd mewn Cyfarwyddeb sy'n gyffredin i'r holl wladwriaethau sy'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Yng Nghymru trawsnewidiwyd y gyfarwyddeb i reoliadau, sydd wedi trosi'n deddfwriaeth gyffelyb iawn ei geiriad  i'r gyfarwyddeb wreiddiol.

2.10.

Daeth y Rheoliadau i rym fis Gorffennaf 2004. Maent yn  gofyn bod mathau  arbennig o 'gynlluniau neu raglenni'  yn gorfod cael eu hasesu'n amgylcheddol  o fewn meini prawf amgylcheddol caeth. Ceir y rhain yn Atodlen 2 y Rheoliadau.  Mae Cynlluniau Datblygu  yn cael eu nodi fel un math o'r 'cynlluniau neu raglenni' hynny y mae'n rhaid eu hasesu. Fodd bynnag, gan fod cynlluniau datblygu yn rhan o CDLl , maent yn barod yn rhai â gofynion statudol iddynt  gael eu cloriannu gan AC. Ond ar ôl i'r Rheoliadau AAS ddod i rym, penderfynodd  Llywodraeth Cynulliad Cymru mai'r ffordd orau o fynd ymlaen, oedd drwy sicrhau fod y broses AC yn cyd-fynd â gofynion rheolaethol tra phenodol yr AAS. 

2.11.

Mae'r gofyn am gael  AC yn cael ei ail-ddatgan yn nogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru (LLCC)  2005 ‘Cynlluniau Datblygu Lleol Cymru'. Mae'n cyfeirio'n eglur at AC, a bod yr arfarniad hwnnw i fod i wireddu gofynion yr AAS.  Mae hefyd yn annog y dylid cael dull  weddi ei gymhathu i gyflawni'r ddwy broses o lunio'r rhain. Yn yr arfarnu hwn mae AC yn golygu dull cyfun ar gyfer AC ac AAS. 

2.12.

Y prif wahaniaeth rhwng y ddwy broses yw bod yn rhaid i'r AAS fod o fewn trefn o reoli caeth i gyflawni gofynion y rheoliadau.  Canllawiau yn unig a roddir i'r broses o lunio AC. Canllawiau ydynt sy'n deillio o nifer o ffynonellau a chan hynny maent fwy agored i wahanol ddehongliadau.  

2.13.
Gwahaniaeth arall ydyw fod yr AAS yn bennaf yn ymwneud a chynaliadwyedd amgylcheddol, tra bo AC yn ymwneud â'r agenda gynaliadwyedd ehangach, yn cynnwys materion cymdeithasol ac economaidd. Mae hyn yn ymestyn y broses AAS yn sylweddol. Er hynny dylid cofio mai drwy ganllawiau yn unig yw'r modd y mae materion cymdeithasol ac economaidd yn cael eu hystyried  gan nad ydynt yn  gynwysedig yn yr AAS.
2.14.

Prif ddiben yr AAS ydyw sicrhau fod y pwys digonol yn cael ei roi i faterion amgylcheddol, ac nad ydynt yn cael eu trafod fel rhai sy'n dod yn ail i faterion cymdeithasol ac economaidd.  Mae'n bwysig sicrhau nad yw'r pwyslais presennol yn y DG o gymhathu ystyriaethau amgylcheddol cymdeithasol ac economaidd i gael deilliant sydd o fudd i'r tair agwedd ddim yn bwyslais sy'n andwyol i brif ddiben AAS.  Y materion amgylcheddol  allweddol a amlinellir yn y Gyfarwyddeb, yw:

  • Tirwedd
  • Fflora, ffawna, bioamrywiaeth
  • Newid hinsawdd
  • Iechyd pobl
  • Dŵr
  • Pridd
  • Poblogaeth
  • Awyr
  • Treftadaeth ddiwylliannol.
2.15.
Pan gychwynnwyd ar y gwaith ar y CDLl hwn, nid oedd arweiniad yn bodoli yng Nghymru parthed AC ar gyfer CDLl, er bod canllawiau ar gyfer AC i  bob CDU, yn ‘Arfarnu Cynaliadwyedd Cynlluniau Datblygu Unedol’ (LLCC 2002), a bod  y canllawiau hynny'n cynnwys adroddiad atodol ar gyfer arweiniad interim sut i lunio AAS ar gyfer CDU.  Yn Lloegr cynhyrchodd ODPM (Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog) arweiniad ar ‘Arfarnu Cynaliadwyedd  Strategaethau Gofodol Rhanbarthol a Fframweithiau Datblygu Lleol’, (Sustainability Appraisal of Regional Spatial Strategies and Local Development Frameworks) (Tachwedd 2005). Hefyd mae yna ddogfen enerig i drafod  y modd i gymhwyso AAS i gynlluniau a rhaglenni (2005). Dogfen ydyw  wedi eu cyd-ddatblygu gyda'r ODPM, LLCC, Llywodraeth yr Alban ac Adran Amgylchedd Gogledd Iwerddon. Y ffynonellau hyn gyda'i gilydd oedd yr arweiniad i gyfnod cychwynnol AC CDLl Conwy. 
2.16.

Ers y cyfnod cynnar o lunio'r AC, mae ar gael bellach er 2006 lawlyfr gan LLCC yn cynnwys arweiniad ar sut y dylai AC ffitio i waith paratoi CDLl. Am AC dywed:

Dylai’r broses fod yn rhan hanfodol o bob cam o’r broses o lunio CDLl (nid gweithgaredd ‘ticio blwch’ a ychwanegir ar ddiwedd y broses).(ail baragraff 2.3.1). 

2.17.

Felly mae'r arweiniad a roddir yn y ddogfen hon yn gymorth i dywys yr AC o'r cyfnod yma ymlaen, er y dylai'r dull a gymerir  i wneud hynny i  fod hefyd yn ddull ymarferol i sicrhau fod deilliannau'r AC mor ddefnyddiol â phosibl. Dylid gwneud hynny drwy  sicrhau fod y testunau a  drafodir  a'r modd y gwneid hynny yn gymorth i lunio CDLl gwell.  

2.18.

AC y CDLl sydd ar y gweill

Mae AC y CDLl  sydd ar y gweill yn broses ailadroddus gydag adborth rhwng camau olynol yr arfarnu a chynhyrchu'r CDLl.  Bwriad hynny ydyw er mwyn i ymhlygiadau cynaliadwyedd potensial  drwy wneud penderfyniadau amgen a chymryd opsiynau gwahanol wrth lunio'r strategaeth fod yn cael eu gwneud yn eglur.  Mae hynny wedyn yn peri bod yr ystyriaethau hynny'n amlwg wrth benderfynu beth i'w ddewis.

2.19.
Cwmpasu: Aeth y CDLl drwy broses gwmpasu gychwynnol yr AC. Gwnaed y rhan gychwynnol hon yn y broses AC yn ystod Hydref/Tachwedd 2005.  Mae'r Cwmpasu hwn yn ofynnol yn y broses o lunio AAS, er bod hyn yn gyfuniad o AAS / AC yr oedd yn addas i gynnwys materion cynaliadwyedd yn ogystal â materion amgylcheddol y gofynnir amdanynt o dan y Rheoliadau. 
2.20.

Gyrrwyd yr adroddiad cwmpasu at y grwpiau dethol o ymgynghoriaid yn cynnwys y tri o'r ymgynghoriaid statudol mewn perthynas ag AAS sef Yr Asiantaeth Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chadw.  Cylchredwyd y ddogfen hefyd am sylwadau o fewn y Cyngor, ac ymgynghorwyd â Phanel Cynghorol y CDLl . Cafwyd ymateb o du amrywiaeth o sefydliadau a phan oedd y sylwadau hynny'n briodol ymgorfforwyd hwy i mewn i'r broses AC.

2.21.
AC yr Adroddiad Opsiynau:  Yn y rhan hon o'r broses AC ystyriwyd yr opsiynau a roddwyd gerbron yn y  Papur Cefndir i'r Strategaeth a Ffefrir, ‘ Adroddiad Opsiynau’.  Mae'r deilliant a fwriedid yn fynegiad o beth yw ymhlygiadau cynaliadwyedd cymharol  yr opsiynau twf gwahanol  ym maes cyflogaeth a thai. Ymhellach mae'r rhan hon yn edrych ar ddewisiadau gofodol strwythurol amgen ar gyfer dosbarthiad y twf hwnnw.  Diben hyn yw rhoi gwybod i'r rhai sy'n penderfynu, pa mor addas ydyw mynd ymlaen gyda dewis y maent yn ei ffafrio yng ngoleuni'r ymhlygiadau cynaliadwyedd potensial. Mae canfyddiadau'r arfarnu hwn yn ymddangos yn Adran 6. 
2.22.

Mae'r  arfarnu hwn o opsiynau yn gorfod cael ei ailadrodd i ddwyn ystyriaeth o newidiadau gan fod fersiynau gwahanol o'r CDLl.  Tra pery'r opsiynau gofodol yn sylweddol gyson, gyda mân newidiadau o'r modd y mae ardaloedd yn cael eu diffinio, mae'r opsiynau twf wedi newid yn helaeth.  Felly yn  Ebrill 2009  mae'r AC wedi ailasesu effeithiau potensial yr opsiynau twf.

2.23.

Mae ystyried dewisiadau eraill yn y modd hwn yn ofynnol o fewn AC. Mae hyn yn arbennig o wir  yn y broses AAS sy'n gofyn **‘dewisiadau rhesymol eraill o ddwyn i ystyriaeth yr amcanion ac ystod ddaearyddol y cynllun neu'r rhaglen’ (paragraff 12(2)),  Mae'r rhain yn cael eu harfarnu a'u cofnodi yn yr adroddiad AC .

2.24.

Mae hyn yn cael ei ailfynegi drwy ‘Cynlluniau Datblygu Lleol Cymru’ (LLCC 2005) sy'n dweud y dylai arfarnu cynaliadwyedd fod wedi ei gymhathu'n llawn i mewn i'r broses lunio'r cynllun ac y dylai ddarparu mewnbwn yn ystod bob cam lle bo penderfynu'n digwydd.  Mae paragraff 3.6 y ddogfen hon yn ei gwneud yn eglur y ‘dylid gwerthuso cynigion, polisïau a lleoliadau amgen ar gyfer datblygu lle bynnag fo hynny'n briodol’. 

2.25.

AC yr Opsiynau'r Strategaeth a Ffefrir:  Ym mis Mawrth 2006 y gwnaed arfarniad cynaliadwyedd o'r opsiynau'r Strategaeth a Ffefrir.  Bwriad  yr arfarnu yn y cyfnod cynnar hwn o ddrafft o'r Strategaeth a Ffefrir, ydoedd er mwyn rhoi gwybodaeth i'r broses lunio CDLl gyda'r amcan o gynhyrchu cynllun mwy cynaliadwy.

2.26.

AC y Strategaeth a Ffefrir:  Ym mis Mehefin 2006 gwnaed arfarniad cynaliadwyedd  o ddrafft pellach o'r opsiynau ac arfarnwyd y ddogfen Strategaeth a Ffefrir.  Ymgynghorwyd ar yr adroddiad hwn ochr yn ochr â'r  fersiwn ar y pryd o'r CDLl.  Eto diben yr adroddiad oedd cynorthwyo'r Cyngor i wneud penderfyniad ar yr opsiwn a ffafriwyd, wedi ei sylfaenu ar wybodaeth am ymhlygiadau cynaliadwyedd pob dull gweithredu. Mae prif argymhellion yr adroddiad hwn wedi eu cynnwys fel Atodiad 1.  Mae  AC llawn y  Strategaeth a Ffefrir ar gael ar safle we'r Cyngor. 

2.27.
Mae'r AC wedi dylanwadu ar Strategaeth sydd  ar gael ei llunio i ryw raddau a'r adroddiad a gynhyrchwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ar gyfer Grŵp Tasg a Gorffen  CDLl ar 28 Mehefin 2006. Crynhowyd canfyddiadau'r AC a dangoswyd sut y dylai'r tîm llunio cynllun, ystyried y materion hyn wrth fynd ymlaen gyda'r CDLl. 
2.28.

Yn gynwysedig yn Atodiad 2 mae crynodeb o'r newidiadau a wnaed i'r cynllun yn dilyn yr arfarniad cynaliadwyedd yma . 

2.29.

Yn dilyn y cam Strategaeth a Ffefrir datblygwyd opsiynau newydd ar gyfer twf i'r  CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd.  Arfarnwyd y rhain yn gryno yn Adran 7 yr adroddiad hwn.  Fodd bynnag, nid oeddynt ar gael i'r AC cyn llunio'r Strategaeth i’w archwilio gan y cyhoedd, felly ni bu cyfle i'r canfyddiadau ddylanwadu ar y polisi.

2.30.
AC y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd (2009):  Mae’r adroddiad yn cofnodi proses gynhwysfawr AC yr holl CDLl, yn cynnwys amcanion, strategaeth a pholisïau. Mae'r polisi arfarnu yn defnyddio dull matrics,  ymhellach i'r sylwebaeth ar gynaliadwyedd y cynllun a'r ymhlygiadau o'i roi ar waith. 
2.31.

Mae'r modd yr aed ati i gofnodi'r AC yn cynnwys gofynion adrodd penodol i'r AAS. Ond hefyd y mae adrodd o sgôp ehangach o edrych heibio materion amgylcheddol gan edrych ar les cymdeithasol a pherfformiad economaidd.

2.32.

Amcan y cam hwn o AC ydyw i edrych ar drafodaeth gyffredinol materion yn y CDLl i sicrhau fod materion o bwysigrwydd i gynaliadwyedd yn cael eu trin yn iawn. I sicrhau fod datblygu cynaliadwy yn digwydd, mae'r AC yn edrych ar strategaeth a polisïau'r CDLl ac yn asesu pa mor hawdd yw'r rhain i'w rhoi ar waith. Gall polisïau sydd yn amlwg a bwriad da i wireddu datblygiad cynaliadwy pe baent yn anodd eu gweithredu fod yn rhwystr i gyflawni'r nod.

2.33.
AC y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd (2010): Dyma fersiwn gyfredol yr adroddiad AC. Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys fel ag yr oedd yn fersiwn 2009, ac mae nod yr adroddiad yn dal i fod yr un peth. Fodd bynnag, mae’r adroddiad wedi cael ei ddiweddaru er mwyn ystyried y diwygiadau i gynnwys y CDLl. Lle bo angen, mae’r newid y mae hyn wedi’i olygu o’i gymharu â’r fersiwn flaenorol wedi’i nodi yn y testun.

« Back to contents page | Back to top