3. Cynlluniau eraill a strategaethau yn rhoi gwybod am Arfarniad Cynaliadwyedd
Mae'n ofynnol i Asesiad Strategaeth Amgylcheddol edrych ar y cynlluniau eraill a rhaglenni sy'n ymwneud â'r un ardal â'r CDLl. Diben hynny yw adnabod y rhai y dylai'r AC a'r CDLl ddwyn i ystyriaeth er mwyn peri bod datblygiad cynaliadwy'n digwydd.
Mae llawer dogfen arall a baratowyd gan yr awdurdod lleol ac eraill yn darparu cyd-destun i'r CDLl - yn ffurfiant yr amcanion y dylai'r CDLl gynorthwyo i'w gwireddu yn ogystal â defnyddiau atodol - i'w cael ar ffurf polisïau a rhaglenni.
Yn ychwanegol at gynlluniau a strategaethau ar y lefel leol, mae cryn arweiniad yn cael ei roi ar lunio cynlluniau datblygu ar lefel Cymru, a hynny ar ffurf Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol (NCT), a Chynllun Gofodol Cymru.
Mae'n bwysig fod y CDLl a'r AC fel ei gilydd yn dwyn i ystyriaeth y genadwri a geir yn y dogfennau hyn, gan gymryd dull unedig i ddatblygu ardal y cynllun. Mae cynnwys y rhain yn y fframwaith amcanion cynaliadwyedd yn ffordd orau o'i dwyn i mewn i'r AC (Adran 5).
Mae gweddill yr Adran hon yn gosod y prif gynlluniau a chanllawiau fydd yn dylanwadu ar y CDLl a'r materion hynny y dylid eu trafod, i ryw raddau wrth gloriannu pa amcanion datblygu cynaliadwy sydd wedi eu gosod ar gyfer yr ardal a sut mae gwireddu'r rheiny drwy'r CDLl.
Mae'n bwysig nodi nad yw'r rhestrau hyn i fod i gynnwys pob dim, a'u bod yn syml yn adnabod y cynlluniau a'r rhaglenni sydd yn fwyaf perthnasol i'r CDLl a'r AC. Golyga hynny mai ond y materion sy'n uniongyrchol dan ddylanwad gweithrediad polisi'r CDLl sydd yn gynwysedig yn y crynodeb o'r dogfennau hyn.
Polisi Rhyngwladol
Mae Cyfarwyddeb Cyngor y GE ar Gadwraeth o Gynefinoedd Naturiol a Fflora Gwyllt a Ffawna 92/43/EEC - yn ystyried cadwraeth fflora a ffawna ac ar rwydwaith o fannau wedi eu gwarchod ar draws Ewrop, yn cynnwys ardaloedd o warchodaeth arbennig.
Mae Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2000/60/EC – yn ystyried y defnydd cynaliadwy o ddŵr a gwarchod ansawdd dŵr yn nalgylchoedd afonydd ( ni luniwyd unrhyw gynlluniau yn y DG o dan y gyfarwyddeb hon).
Mae amryw o gyfarwyddebau ynglŷn â rheoli gwastraff yn cynnwys tirlenwi 99/31/EC - yn ceisio dull rheoli gwastraff mwy cynaliadwy, yn cynnwys gosod targedau ar gyfer graddfa ailgylchu gwastraff gydag ymhlygiadau perthnasol i bolisïau rheolaeth gwastraff cyffredinol.
Polisi'r Deyrnas Gyfunol
‘Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth’ (1994) y Deyrnas Gyfunol yw'r cynllun gweithredu cyfannol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaeth dan warchodaeth yn y DG. Troswyd hwn i gyd-destun lleol yng Nghonwy yn y cynlluniau gweithredu ar gyfer rhywogaethau a bioamrywiaeth.
Mae ‘Strategaeth Wastraff’ (2000) y DG yn gosod y weledigaeth ar gyfer sut i fynd ati i drafod rheolaeth gwastraff yn y DG. Mae'n cynnwys targedau er mwyn gostwng gwastraff diwydiannol a masnachol sydd yn mynd i safleoedd tirlenwi i 85% o lefelau 1998 erbyn 2005, gan ailgylchu 30% o wastraff domestig erbyn 2010. Felly mae gofyn gwirio'r CDLl i sicrhau ei fod yn hyrwyddo'r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau.
‘Ansawdd Bywyd Gwell; Strategaeth ar gyfer datblygiad cynaliadwyedd yn y Deyrnas Gyfunol’ (1999) a'r diweddariad yn y strategaeth ‘Diogelu'r Dyfodol’ (2005) yn gosod yr agenda ddatblygu cynaliadwy ar draws y DG.
Polisïau a Strategaethau Cymru
Y mae'r ddogfen allweddol ‘Polisi Cynllunio Cymru’ yn amlinellu'r egwyddorion a dyheadau ar gyfer polisi cynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru (LLCC). Cyheoddwyd y ddogfen hon yn wreiddiol yn 2002, ond cafodd ei hadolygu yn 2012. Ystyriaeth ganolog ynddi yw hyrwyddo datblygiad cynaliadwy gyda thri amcan strategol: yr economi, difreintedd cymdeithasol, a chyfleoedd cyfartal.
Mae'r modd y mae'r drefn ddefnydd tir yn gallu cael ei defnyddio i gyfrannu at yr amcanion hyn hefyd yn cael ei drafod, gydag adrannau thematig yn amlinellu rhannau o bolisi cynllunio yn mynd â'r syniadau hynny yn eu blaenau. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn disgwyl i ddatblygiad cynaliadwy fod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol.
'Cynllun Gofodol Cymru' wedi ei ddiweddaru ydyw'r cynllun datblygu cenedlaethol i Gymru. Mae Conwy dan ddylanwad tair is-ardal ofodol o fewn y cynllun y Gogledd-ddwyrain, y Gogledd-orllewin ac i raddau llai'r Canolbarth. O fewn pob un mae blaenoriaethau gwahanol ac wrth gloriannu datblygu yn Sir Conwy rhaid dwyn pob un i ystyriaeth.
Y weledigaeth ar gyfer Gogledd-orllewin - Eryri a Môn, yn y cynllun gofodol yn niweddariad 2008 ydyw:
“Amgylchedd ffisegol a naturiol o ansawdd uchel yn cynnal economi sy'n seiliedig ar wybodaeth a diwylliant, economi fydd yn gymorth i'r ardal ei chymeriad unigryw i gadw a denu pobl ifanc yn ôl, ac i gynnal yr iaith Gymraeg."(92)
Y weledigaeth ar gyfer Gogledd-ddwyrain – Y Gororau a'r Arfordir, yn niweddariad 2008 o'r cynllun gofodol ydyw:
“Ardal sy'n harneisio'r ffactorau sy'n sbarduno newid ar ddwy ochr y ffin, yn lleihau anghyfartaleddau ac yn gwella ansawdd ei h asedau naturiol a ffisegol. '(72)
Mae diweddariad 2008 o Gynllun Gofodol Cymru yn gosod elfennau allweddol i is-ardaloedd. Y rhai mwyaf perthnasol i Gonwy yw'r rhain:
- Yr angen i ddatblygu mynediad cynaliadwy rhwng canolfannau, trefi arfordirol ac ar y ffin, a'r ardaloedd gwledig yn y sir
- Rôl yr A55 fel rhan o rwydwaith ar draws Ewrop
- Y brif ganolfan o gwmpas Llandudno, yn cynnwys tref Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno, a Bae Colwyn, yw'r gyriant economaidd allweddol i'r ardal.
- Mae angen yng Nghonwy i ledaenu'r sylfaen economaidd i godi proffil asedau amgylcheddol y sir fel canolbwynt pwysig i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel yn adeiladu ar gryfderau a meithrin y teimlad unigryw o le arbennig iawn.
- Mae digon, os nad mwy na digon, o dir wedi ei ddynodi ar gyfer cyflogaeth yn y cynlluniau defnydd tir, ond gall yr hyn a ddynodwyd fod yn methu â bod o'r ansawdd y chwilir amdano gan gyflogwyr, fel yr angen am unedau llai ar gyfer gwasanaethu neu gynhyrchu nwyddau o werth uwch.
- Mae Conwy, Bae Colwyn a Llandudno yn ganolfannau twristaidd rhanbarthol, er bod peth buddsoddiad ei angen drwy'r newid yn y gofynion i drefi hamdden glan môr traddodiadol
- Mae Conwy a Llandudno yn darparu swyddogaeth gwasanaethau manwerthu a gweinyddol pwysig i diriogaeth fawr wrth gefn.
- Mae adleoli crynhoad o swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghyffordd Llandudno yn gyfle i ehangu datblygiad economaidd yn yr ardal.
- Bae Colwyn yw'r ail fwyaf o ardaloedd trefol yng Ngogledd Cymru, ond sydd heb gael buddsoddi digonol yno ac o'r herwydd mae yno ystod o broblemau cymdeithasol-economaidd yn deillio o sylfaen economaidd yn crebachu.
- Yng Nghonwy mae ystyriaethau yn deillio o bobl yn symud i'r ardal i ymddeol sy'n creu pwysau neilltuol ar gyfer cynllunio darpariaeth dai a gwasanaethau.
- Yng Nghonwy bu datblygu tai annedd yn y gorffennol yn gyffredinol uwch na'r gofynion blynyddol, er hynny prin fod hynny wedi peri dim cynnydd yn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy.
- Mae ffactorau'n effeithio ar ba mor fforddiadwy yw tai yn cynnwys ystyriaeth fod cyfran uchel o bobl sy'n byw a gweithio yn yr ardal gydag incwm cymharol isel, yn bennaf oherwydd cyfansoddiad strwythurol yr economi leol.
- Mae rôl Llanrwst yn cynnwys darparu ar gyfer twristiaeth, cyflogaeth, gweithgareddau awyr agored, manwerthu, gwasanaeth a chyflogaeth leol sy'n cynnal ardal wledig fwy
- Mae amgylchedd naturiol o ansawdd uchel, yn cynnwys mannau gwarchodaeth natur o ddynodiad rhyngwladol ar yr arfordir ac o fewn y Parc Cenedlaethol. Mae asedau adeiledig hefyd yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd yn nhref Conwy.
Yr unig ‘anheddiad allweddol o bwysigrwydd cenedlaethol’ a adnabyddir yn agos i Gonwy o fewn diweddariad 2008 o Gynllun Gofodol Cymru ydyw Bangor. Mae'r ardal union gyfagos yn cael ei hadnabod fel ardal ar gyfer datblygiad economaidd a bydd hyn yn siŵr o gael effaith ar Sir Conwy. Bydd materion cysylltiedig â chymudo i weithio yn rhai tra phwysig yma.
Mae Llandudno yn ganolbwynt sy'n ymestyn heibio Llandudno ei hun i gynnwys Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn a Chonwy, ac yn cael ei adnabod yn y Cynllun Gofodol Cymru (diweddariad 2008) fel ' anheddiad traws ffiniol'. Y rheswm am hyn yw am y rôl y mae'r ardaloedd yma yn ei chwarae i Ogledd-ddwyrain, Gogledd-orllewin a'r Canolbarth.
Defnyddiwyd yr holl gasgliad o Nodiadau Cynghori Technegol a Pholisi i hel gwybodaeth i'r AC. Talwyd sylw arbennig ' Polisi Cynllunio Cymru' sy'n rhoi trefn y broses o lunio CDLl a gofynion arfarnu cynaliadwyedd. Nodir isod y pwyntiau perthnasol i'r broses y dylid eu dwyn i ystyriaeth yn achos yr AC a CDLl Conwy.
Nodyn Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006) yn rhoi cyngor ar sut y gellir defnyddio'r drefn gynllunio ar gyfer darparu tai fforddiadwy. Mae'n cefnogi polisi diwygiedig sy'n cael ei osod yn y MIPPS Tai (01/2006). Mae hwn yn cynnwys gofyniad newydd i osod targed ar gyfer lefel y ddarpariaeth wedi ei sylfaenu ar anghenion lleol, datgan sut mae hyn i'w gyflawni ac wedyn fonitro'r gweithredu.
Nodyn Cyngor Technegol 4: Adwerthu a Chanol Trefi, (1996), yn rhoi cyngor ymarferol ar ffurfio polisi ar gyfer canol trefi a manwerthu yn cynnwys asesu angen, egwyddorion cyffredinol a safon meysydd parcio.
Nodyn Cyngor Technegol 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio, (1996), ceir yma gyngor manwl ar warchod a dynodi Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)(SPA) ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) (SAC). Mae'r nodyn hwn hefyd yn edrych ar Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (AODDGA) (SSSI) a Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLL)(LNR). Mae hefyd yn trafod gwarchod natur y tu allan i safleoedd statudol sef Safleoedd o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur (SBGN)(SINC) a Safleoedd o Bwysigrwydd Daearegol Rhanbarthol (SBDRH) (RIGS). Mae amddiffyn a chadw natur yn gyffredinol hefyd yn cael ei drafod yn y nodyn hwn.
Nodyn Cyngor Technegol 6, Amaeth a Datblygu Gwledig (2000), yn amlinellu polisi ac arweiniad mewn mannau gwledig yn arbennig parthed materion economaidd amaethyddol a gwledig. Mae'r nodyn yn cynnwys arweiniad ar ddatblygu fferm ac arallgyfeirio, ailddefnyddio a rhoi defnydd newydd i adeiladau gwledig, coedwigaeth a datblygiadau yn ymwneud â cheffylau.
Nodyn Cyngor Technegol 12, Dylunio, (2002), yn cynnwys cyngor o bwys ar sawl agwedd ar ddylunio adeiladau trefol. Mae'r nodyn yn trafod ystod helaeth o faterion o werth i gynaliadwyedd cyffredinol gan gynnwys; dylunio cynhwysol, cludiant a symud, tirwedd, bioamrywiaeth, adfywio trefol, ystyriaethau cyhoeddus, adeiladau cyhoeddus, celfyddyd gyhoeddus, yr amgylchedd hanesyddol, dylunio tai a'u ffurfiant, mannau cyflogaeth a masnachol, ardaloedd gwledig, adeiladau darbodus ar adnoddau, dylunio a diogeled cyhoeddus.
Nodyn Cyngor Technegol 14, Datblygiad Arfordirol, (1998). Yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy wedi ei ddylunio'n dda ar gyfer mannau ar yr arfordir.
Nodyn Cyngor Technegol 15, Datblygiad a Risg Llifogydd, (2004). Mae hwn yn darparu arweiniad i awdurdodau mewn perthynas â datblygiad a llifogydd, yn cynnwys yr angen i ystyried effeithiau newid hinsawdd a'r defnydd o fapiau Risg Llifogydd.
Nodyn Cyngor Technegol 16 Chwaraeon a Hamdden, (1998), yn amlinellu diogelu'r ddarpariaeth a datblygu chwaraeon a chyfleusterau hamdden drwy'r drefn gynllunio
Nodyn Cyngor Technegol 18, Cludiant, (1998), yn rhoi cyngor manwl ar bolisïau a gweithdrefnau ynglŷn â chynllunio a thrafnidiaeth ac ynglŷn ag isadeiledd newydd. Mae ynddo arweiniad ar gerdded, beicio, yn ogystal â chamlesi a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Nodyn Cyngor Technegol 20, Y Gymraeg - Cynlluniau Datblygu Unedol a Rheolaeth Gynllunio, (2000), yn annog awdurdodau cynllunio i ddwyn ystyriaeth lawn o effeithiau cynlluniau ar y Gymraeg, yn arbennig hysbysebu a rheolau eraill a allai gael effaith ar y ddarpariaeth i hyrwyddo'r Gymraeg.
Nodyn Cyngor Technegol 21, Gwastraff (2001), yn rhoi ar wybod y darpariaethau y dylid eu gwneud ar gyfer cynllunio gwastraff a rheolaeth gynaliadwy o wastraff, yn cefnogi Strategaeth Wastraff Cymru. Mae hwn yn defnyddio egwyddorion agosrwydd a hunan-ddigoni, a blaenoriaethu rheolaeth gwastraff o dan drefn hierarchaeth trafod gwastraff gyda gostwng gwastraff yn flaenoriaeth a'i waredu'n ddewis salaf a lleiaf delfrydol.
Nodyn Cyngor Technegol ar Fwynau, Agregau (2004), yn amlinellu'r modd y dylid trafod cynllunio ar gyfer agregau crai, gwastraff mwynau ac agregau eilaidd/ wedi eu hailgylchu. Yr amcan cyfannol ydyw 'sicrhau fod cyflenwad yn cael ei reoli mewn modd cynaliadwy fel bo'r cydbwysedd rhwng ystyriaethau amgylcheddol, economaidd a cymdeithasol yn cael ei gadw, tra byddid yn sicrhau fod effeithiau ar fwynderau amgylcheddol drwy unrhyw echdynnu angenrheidiol yn cael ei gadw at lefel sy'n osgoi peri niwed dangosadwy i fuddiant o bwysigrwydd cydnabyddedig.’
Polisi Lleol a Rhanbarthol
Mae Dogfen Conwy ‘Papurau Cefndirol Cynlluniau Cysylltiedig a Strategaethau' ’ yn rhoi trosolwg ardderchog o'r polisïau lleol a chynlluniau yng Nghonwy. Defnyddiwyd y papurau hynny i gael llawer o'r wybodaeth sydd isod.
Gweledigaeth y Strategaeth Gymunedol i Gonwy yw,
“Lle o harddwch naturiol, cymuned ddiogel sy’n gofalu am ei phobl, sydd ag uchelgais ar gyfer y dyfodol
Mae'r weledigaeth yn cael ei chefnogi gan bedair egwyddor arweiniol sef:
- Conwy Deg a Chynhwysol - dylai pawb deimlo'n rhan o gymuned Conwy waeth beth yw eu sefyllfa bersonol na dewisiadau personol
- Hunaniaeth Gymdeithasol a Diwylliannol – Mae pobl Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o'i diwylliant ac yn dymuno'n arbennig i barhau i warchod a datblygu'r Gymraeg
- Amddiffyn y Dyfodol - wrth gyflenwi anghenion y genhedlaeth bresennol dylem wneud hynny heb beryglu gallu'r cenedlaethau a ddaw i wneud yr un modd
- Gwybodaeth, Ymwneud a Grymhau - mae pobl yng Nghonwy eisiau cael y wybodaeth i fedru cymryd rhan weithredol yn hyrwyddo lles y sir i'r dyfodol
Mae dull gweithredu strategaeth gymunedol wedyn yn cael ei osod mewn pum prif thema: Iechyd, Ffyniant, Cymunedau Diogel, Amgylchedd o Ansawdd a Chreadigrwydd. Bydd peth perthynas rhwng nod y rhan fwyaf o is-amcanion y Strategaeth Gymunedol gydag amcanion cynaliadwyedd, gyda chyfeirio penodol at y defnydd o dir a materion cynaliadwyedd, dyma'r pum brif thema;
- Lle Iach; gall cynllun defnydd o dir annog chwaraeon a gweithgareddau drwy hybu a gwarchod mannau agored. Mae gan gynllunio defnydd tir hefyd rôl hanfodol i chwarae i ddarparu tai fforddiadwy
- Conwy Ffyniannus; mae'r cynllun lleol yn medru helpu creu cymysgedd o safleoedd cyflogaeth mewn mannau da hygyrch yn ogystal â gwarchod safleoedd cyflogaeth presennol rhag defnydd tir o werth uwch. Gall y cynllun hefyd helpu creu cyfran uwch o ynni o ffynonellau cynaliadwy. Drwy'r polisi gall y cynllun hefyd sicrhau cyfleoedd buddsoddi mewn isadeiledd newydd.
- Cymunedau Cadarn a Diogel; drwy ddylunio datblygiadau newydd yn dda a gwella datblygiad eisoes yn bod, gellir gostwng troseddau, lleddfu'r ofn fod troseddu am ddigwydd a lleihau damweiniau.
- Amgylchedd o Safon; gall y cynllun lleol gynorthwyo gwarchod a meithrin yr amgylchedd naturiol ac adeiledig. Mae gan y cynllun lleol hefyd rôl i chwarae i gynyddu'r swm o wastraff sy'n cael ei ailgylchu a datblygu celf.
- Annog Dysg a Chreadigrwydd; gall cynllun defnydd tir gael peth effaith ar yr amcan yma drwy sicrhau mynediad i gyfleoedd dysgu a sicrhau cyfraniadau at addysg lle bo'n berthnasol.
Mae ‘Strategaeth Adfywio Conwy’ yn dangos y cyfeiriad a'r weledigaeth i ardal y cynllun hyd at 2015. Mae'r Strategaeth yn dilyn yn ei blaen o'r Strategaeth Gymunedol. Mae gan y Strategaeth Adfywio gyswllt uniongyrchol i gynaliadwyedd a'r Cynllun Lleol.
Mae'r ffocws ar dwf economaidd, adfywio, a chreu cymunedau cydlynol. Gall y cynllun lleol gefnogi'r Strategaeth drwy sicrhau cyflenwad da o dir addas i gyflogaeth a datblygiad eraill. Mae gwelliannau isadeiledd hefyd yn rhan allweddol o Strategaeth Adfywio.
Mae ‘Strategaeth Ddatblygu Gogledd Cymru ’ (2004), a gynhyrchwyd gan Fforwm Economaidd Gogledd Cymru, yn edrych ar Ogledd Cymru i gyd ar lefel economaidd. Mae nifer o'r egwyddorion yno yn gyffelyb o ran natur i'r rhai a geir yn y Strategaeth Adfywio. Mae'r pwyslais yn cael ei roi ar dwf busnes newydd ac entrepreneuriaeth.
“gryfhau'r teimlad unigryw o le arbennig, gwella ansawdd adnoddau twristiaid yng Ngogledd Cymru a gostwng tymoroldeb ar draws yr ardal”
Mae'r strategaeth hon yn cynnwys cryfhau rôl a chymhathu Trefi Arfordir Gogledd Cymru sef Llandudno, Bae Colwyn a'r trefi hamdden cyfagos fel y dref hamdden glan môr flaenaf a chanolfan gynadleddau yng Nghymru.
Oddi wrth yr arfordir mae Betws-y-coed a'r ardal yn un o'r pedair ardal dwf dwristaidd (ADD) (TGA) yng Ngogledd Cymru. Prosiectau allweddol yma yw nifer o welliannau mynediad i feiciau a cherddwyr, sefydlu Llanrwst fel porthfan i feicio mynydd, gwella arwyddion a datblygu atyniad / crefft / manwerthu.
Mae cynllun defnydd tir gyda rhan i chwarae yng ngweithrediad y strategaethau drwy ddarparu digon o faint o dir a gwell ansawdd ardaloedd drwy bolisi.
Mae ‘Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd 2003-2013’ wedi ei gytuno arno gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdodau cynllunio yng Ngogledd Cymru. Mae'r cynllun gwastraff yn amcanu at ddarparu fframwaith cynllunio defnydd tir i alluogi i awdurdodau gwastraff unigol yn y rhanbarth ddynodi safleoedd ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff. Mae'r strategaeth hefyd yn anelu at drafod gwastraff fel ‘adnodd’ drwy gydnabod cyfleoedd ailgylchu a chompostio. Mae'r cynllun gwastraff wedi cael ei adolygiad cyntaf gyda drafft wedi ei gymeradwyo fis Mawrth 2008.
“Darparu Fframwaith Cynllunio defnydd tir ar gyfer rheolaeth gynaliadwy o wastraff ac adfer adnoddau yng Ngogledd Cymru gyda'r amcanion a ganlyn:
lleihau effaith niweidiol ar yr amgylchedd a iechyd pobl
lleihau effaith niweidiol cymdeithasol ac economaidd a gwneud y mwyaf o gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd
gwireddu anghenion cymunedau a busnesion
bod yn unol â gofynion deddfwriaethol, targedau, egwyddorion a polisïau a osodwyd gan fframweithiau polisi cenedlaethol Ewropeaidd,”
Mae ‘Strategaeth Dai Lleol’ bresennol Conwy wedi ei chynllunio i drafod materion tai gyda phwyslais arbennig ar dai fforddiadwy yn y sir. Y prif amcanion defnydd tir yw; cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, gwneud y mwyaf o bwerau cynllunio i gyflawni hyn; y ddarpariaeth o dai gwledig; datblygu polisi sipsiwn neu deithwyr; hybu datblygiad tai cynaliadwy; darparu mwy o lety mewn hosteli.
Fel yn achos awdurdodau eraill yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr, cynhyrchodd Conwy Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB) (BAP). Y prif ymhlygiadau tir perthnasol i hwn yw; trafod y galw am ddatblygu a dal i amddiffyn bioamrywiaeth; annog dulliau cludiant mwy cynaliadwy; gwarchod a gwella cynefinoedd ac ecosystemau gwyllt a lled-wyllt; creu cynefinoedd newydd; sicrhau nad yw polisïau’n difrodi bioamrywiaeth leol.