4. Gwaelodlin allweddol gwybodaeth

4.1.

Cyflwyniad

Bydd adolygiad gwaelodlin gwybodaeth yn ystyried y prif faterion amgylcheddol yng Nghonwy.  Mae'r adolygiad wedi adnabod prif nodweddion cynaliadwyedd yn ardal y cynllun. Mae'n darparu manylion cryno o sut mae pethau ar hyn o bryd, a phan fo hynny'n bosib', yn rhagweld newidiadau i'r waelodlin yn y dyfodol pe byddid yn dal ymlaen heb newid dim neu na fyddid yn paratoi CDLl. Yn ychwanegol am bob mater y mae wedi ei ystyried, pa effaith a gai'r CDLl ar y waelodlin, yn arbennig felly lle bo'r CDLl  yn debygol o gael effaith lesol. Mae'n bwysig dangos y rheswm pam y casglwyd y waelodlin wybodaeth a'i pherthynas i'r cynllun. 

4.2.

Ansawdd Dwr

Mae monitro gan yr Asiantaeth Amgylchedd yn dangos yn gyffredinol fod ansawdd da i'r dŵr yn ardal y cynllun a'r ardaloedd o'i chwmpas. Wrth drafod ansawdd dŵr gwastraff, ceir fod llawer o lygru o ddŵr wyneb heibio rheolaeth y CDLl am mai o ffynonellau amaethyddol y daw. Yn yr un modd, mae problemau gyda halogi o AAS o Iwerddon hefyd yn effeithio ar ddŵr môr y glannau, a hynny ar raddfa helaethach na dim ond ardal y cynllun hwn.

4.3.

Parthed datblygiad, dylid gwneud pob ymdrech felly i sicrhau fod digon o ddarpariaeth drin carthion i bob datblygiad newydd drwy'r sir.  Dylid darparu Isadeiledd i wahanu dŵr- storm  a dŵr ffo oddi wrth ddŵr wast,  i sicrhau ar adegau o lawogydd mawrion nad yw dŵr afonydd a dŵr y glannau'n cael eu llygru o orlif storm.  Dylai dyluniad unrhyw ddatblygiad ymgyrraedd at ymgorffori cymaint o fesurau effeithlonrwydd dŵr â phosib'.

4.4.

Llifogydd

Mae ardaloedd ar arfordir Conwy yn agored i lifogydd yn bennaf Pensarn, Tywyn, Bae Cinmel a Llandudno, ac oddi wrth yr arfordir mae mannau eraill gyda risg o lifogydd, ond fod graddfa'r risg yn llai yno. Mae ardal y cynllun yn cael  ei chynnwys yn Asesiad Risg Llifogydd Llanw Conwy, sy'n trafod yr amddiffynfeydd pwysicaf o ran methu amddiffyn rhag llifogydd, a'r risg i'r môr ordaflu  dros yr amddiffynfeydd.

4.5.

O gyswllt â hyn, ni ddylid datblygu mewn mannau sy'n agored i lifogydd yn unol â nodyn 15 (TAN15).  Dylid cymryd gofal neilltuol hefyd i reoli datblygu yn yr ardaloedd sydd â risg llifogydd, yn arbennig y llain arfordirol ddwyreiniol.

4.6.

O ddefnyddio technegau dreinio cynaliadwy i ostwng graddfa dŵr ffo fel y gellir helpu osgoi cynyddu'r risg o lifogydd oherwydd datblygiadau newydd.

4.7.

Llygru'r Awyr

Mae ansawdd yr awyr yng Nghonwy yn gyffredinol yn dda, yn cyrraedd at safonau SAAC (Safonau Ansawdd Awyr Cenedlaethol) (NAQS) a dynodwyd ARAA (Ardal Reoli Ansawdd Awyr)(AQMA) newydd i ardal y CDLl . 

4.8.

Heblaw am ychydig o safleoedd lle ceir allyriadau diwydiannol, daw'r rhan fwyaf o lygredd awyr yn y sir o drafnidiaeth ffordd sy'n llosgi tanwydd ffosil. Mae hyn yn golygu fod dirywiad yn ansawdd yr aer mewn mannau cyfagos i gefnffyrdd prysur neu mewn mannau trefol.  

4.9.
Ymhellach, gellir cael llygryddion eilaidd drwy adwaith cemegau yn yr awyr gyda golau haul neu ddŵr mewn mannau pell o darddiad y llygredd gwreiddiol. Felly gellid cael llygredd awyr mewn llefydd gwledig.  Mae'r pridd yn y sir yn sensitif i law asid am fod glawio uchel, pridd asid, daeareg a ffactorau defnydd  diwydiannol. Bydd allyriadau o losgi tanwydd ffosil yn cyfrannu hefyd at newid hinsawdd, ac felly dylid gwneud pob ymdrech i ostwng hyn.
4.10.

Mae Conwy wedi ei dynodi'n adran sy'n cael ei heffeithio arni gan radon, gan fod lleoliadau yn y sir lle'r amcenir fod dros 1% o dai yn mynd dros  lefel weithredu'r Llywodraeth ar radon. Dylid  dwyn hyn i ystyriaeth wrth ddylunio adeiladau newydd, a thai yn arbennig.

4.11.

Gallai fod yn addas i sicrhau fod datblygu sy'n digwydd drwy'r CDLl yn gostwng, neu o leiaf ddim yn peri cynnydd yn y defnydd o geir.

4.12.

Dylid sicrhau dylunio adeiladau newydd yn effeithiol yn ogystal â chynyddu cynhyrchu ynni o adnoddau adnewyddadwy er mwyn gostwng yr angen am ynni o danwydd ffosil. 

4.13.

Dylid lleoli datblygiad sensitif bellter o ardaloedd a adnabyddir fel mannau o risg uchel o lygredd awyr.

4.14.

Newid Hinsawdd

Rhagwelir  yn y  ddogfen ‘Newid Hinsawdd Cymru - Dysgu i Fyw'n Wahanol’ (2001) a gynhyrchwyd gan LLCC,  y bydd cynnydd yn debygol yn y tymheredd blynyddol cyfartalog  o thua  0.8-2.2  °c erbyn 2050.  Rhagwelir  hefyd y bydd lefel y môr yn codi rhwng 18-79 cm erbyn 2050, er y tybir y caiff fwy o effaith ar y De na'r Gogledd.

4.15.

O fewn y sir  dylid lleiafu  datblygu sy'n arwain at gynnydd yn y rhyddhau o nwyon tŷ gwydr  sy'n cyfrannu at newid hinsawdd. Dylai hyn gynnwys gostwng yr angen i deithio, yn enwedig gyda char.  Mae gofyn hefyd i gynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy  o fewn y sir.  Yn ychwanegol, dylid gwneud darpariaeth i geisio cyfyngu ar effeithiau newid hinsawdd, yn cynnwys amddiffyn rhag risg llifogydd a chynnal cynefinoedd sensitif i hinsawdd.

4.16.

Amgylchedd Adeiledig a Threftadaeth

Mae nifer o Ardaloedd Cadwraeth, Adeiladau Rhestredig a Henebion Cofrestredig yng Nghonwy. Hefyd yn y sir mae rhan o leoliad  Treftadaeth y Byd ' Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward'  sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol. 
4.17.

Dylai unrhyw gynigion datblygu gymryd i ystyriaeth bwysigrwydd sylweddol yr amgylchedd adeiledig hanesyddol o fewn ardal cynllun Conwy.

4.18.

Parciau, Gerddi a Thirwedd

Mae  ‘Cofrestr Tirwedd, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru Rhan 1: Parciau a Gerddi’ yn nodi  24 Parc a Gardd cofrestredig o fewn y sir.  Dylai'r rhain gael eu cadw'n fel bo'n briodol o fewn unrhyw ddatblygiad newydd.

4.19.

Mae yna hefyd bum Tirwedd Hanesyddol wedi eu dynodi, un ai yn gyflawn neu rannol o fewn ardal y cynllun/ y sir.  Rhennir dau rhwng ardal y cynllun a Sir Ddinbych.  Rhennir dau arall rhwng ardal y cynllun a'r Parc Cenedlaethol.  Rhennir un rhwng ardal y cynllun, y Parc Cenedlaethol a Gwynedd. 

4.20.

Mae'n hanfodol fod y CDLl yn cadw'r tirweddau o ansawdd uchel, ac ni ddylai unrhyw ddatblygu niweidio'r nodweddion penodol sy'n sail i'r dynodi.  Dylai'r cynllun sicrhau dyluniad o ansawdd uchel a datblygiadau wedi eu lleoli'n ofalus yn unig yn yr ardaloedd hyn, yn gweddu gyda chymeriad yr ardal.

4.21.

Cadwraeth Natur

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi mabwysiadu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLL) (LBAP) i amddiffyn yr ardal leol. Sefydlwyd grŵp arbenigol, Grŵp Gwaith Bioamrywiaeth Conwy i helpu ei weithredu. Mae'r grŵp hwn yn adnabod rhywogaethau a chynefinoedd i gael blaenoriaeth ac yn cynnwys nod ac amcanion i'w wella eu hamgylchiadau a'u gwarchod. Yn ychwanegol  mae nifer o gynefinoedd lleol i'w blaenoriaethu er  nad oes cynllun gweithredu ar eu cyfer wedi cael ei gytuno arno eto.
4.22.

Ymhellach,  mae yna hefyd lawer safle dynodedig o fewn Conwy,  sydd wedi eu cydnabod i fod o  bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol neu leol,  am gadwraeth a bioamrywiaeth.  Mae'r rhain yn cynnwys  safleoedd Natura  Ewrop 2000, yn cynnwys Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yn Nhraeth Lafan,  Bae Conwy  (adran ddwyreiniol) a Mignient-Arenig-Dduallt, a chwech Ardaloedd Arbennig o Gadwraeth  yn gyflawn neu rannol wedi eu lleoli o fewn  ardal CDLl Conwy.  Mae  40 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) o ddynodiad cenedlaethol ac un Warchodfa Natur Genedlaethol. Mae safleoedd o bwysigrwydd lleol i fywyd gwyllt hefyd wedi ei hadnabod yn yr ardal.

4.23.

O ystyried hyn, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid caniatáu datblygiad yn y safleoedd dynodedig hyn, a dylai cynllun datblygu  sicrhau fod rhywogaethau a chynefinoedd yn cael eu gwarchod rhag niwed. Pan fo'n briodol dylai datblygiad helpu bod yn lles i adnoddau bywyd gwyllt  yn ardal y cynllun, yn benodol mewn perthynas â chynefinoedd  a rhywogaethau CGB (BAP).  Dylai'r  CDLl amcanu  at rwystro unrhyw ddarnio pellach ar gynefinoedd gan adfer cyswllt fel bo'n angenrheidiol. Dylid hefyd gymryd gofal wrth ail-wneud ac adfer adeiladau i sicrhau fod rhywogaethau sy'n cael eu gwarchod gan y gyfraith yn peidio â chael unrhyw ddrwg effaith arnynt.

4.24.

Defnydd Tir yng Nghonwy

Mae prif ddefnydd tir yn y sir heblaw am ar gyfer tai yn amaethyddol, gyda dim ond ychydig nifer o safleoedd diwydiannol.  Mae nifer o ardaloedd lle ceir pridd amaethyddol gardd 2 a gradd 3 sydd yn medru cael ei ddefnyddio fel tir âr. Mae gweddill ardal y cynllun yn cynnwys pridd gradd 4 a 5 dim ond yn addas i fod yn dir pori. Mae risg o bridd halog mewn rhai mannau yn y sir, yn benodol mewn safleoedd fu gynt yn rhai diwydiannol.

4.25.

Mae cyflenwad o dir amaethyddol da  yn y sir yn gyfyngedig; felly mae'n bwysig fod yr adnodd yn cael ei warchod. Dylai datblygiad ddwyn ystyriaeth y risg o halogi tir gan wneud gwaith  priodol i adfer y tir pe byddai angen.

4.26.

Gwastraff

Mae Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru  yn berthnasol i ardal y cynllun ac mae'n dal yn weithredol tan 2013. Dengys y cynllun fod y rhan fwyaf o wastraff o waith adeiladu a dymchwel, yn ail i hynny  o ffynonellau masnachol a diwydiannol, wedyn gwastraff  trefol a gwastraff solet. Ar hyn o bryd y mae dau safle tirlenwi  a nifer o gyfleusterau trosglwyddo o fewn y sir. 

4.27.
Mae 10 mlynedd o le yn weddill yn y safleoedd tirlenwi presennol, a gall y bydd gofyn canfod safle tirlenwi newydd o fewn Conwy. Felly gallai fod yn addas i'r cynllun datblygu adnabod lleoliadau addas a / neu osod polisïau caeth ar y fath safle.
4.28.

Mae adolygiad y cynllun gwastraff  rhanbarthol yn 2008 yn adnabod fod  isadeiledd  i drafod tua 190 tunnell o wastraff y flwyddyn yng Nghonwy.  Gyrrir gwastraff yn bennaf i safleoedd tirlenwi, sydd â chapasiti da. Mae hyn yn cael ei drosglwyddo allan o'r sir i'w waredu neu reoli ymhellach mewn mannau eraill.

4.29.

Yn y dyfodol  bydd rhaid canfod tir newydd ar gyfer safleoedd trosglwyddo  gwastraff,  cafn compostio agored ac ailgylchu.  Mae tiroedd cyfagos i safle tirlenwi  Llanddulas a Gofer wedi eu hadnabod fel mannau addas o bosib' ar gyfer adnoddau rheoli gwastraff newydd yn y Cynllun Gwastraff.

4.30.

Yn ychwanegol, er mwyn gostwng y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, y mae'n bwysig bod y cynllun yn adnabod mannau addas i roi adnoddau i sortio ac ailgylchu, a bod cadw at yr hierarchaeth gwastraff i raddau mwyaf posib' drwy sicrhau fod datblygiadau newydd yn cynnwys mannau i sortio gwastraff a'i gasglu. Lle bynnag fo hynny'n bosib dylid ail-ddefnyddio gwastraff mwynfeydd neu chwareli.

4.31.

Roedd poblogaeth y sir yn  2004 yn 111,800.  Dengys hyn gynnydd o 3.1% dros y degawd diwethaf, o gymharu â chyfartaledd o gynnydd o 1.0% i Gymru gyfan.  Mae'r boblogaeth hon wedi ei chrynhoi ar y llain ar yr arfordir, yn cynnwys trefi Llandudno a Bae Colwyn .  Mae poblogaeth yr ardal yn cynnwys hefyd ganran uwch o breswylwyr  o oed pensiwn, yn chwarter y boblogaeth, tra mai dim ond pumed ran o'r boblogaeth sydd yn yr oedran hwnnw ar draws Cymru.

4.32.

Mae cryn nifer o siaradwyr Cymraeg yn y sir, ac mewn rhai mannau o'r ardal wledig  siaredir Cymraeg gan hyd at 74% o'r boblogaeth.  Fodd bynnag, mae hyn yn cuddio gwahaniaeth amlwg rhwng yr ardal wledig, lle mae cyfran helaeth yn siarad yr iaith, a'r trefi arfordir lle bo'r ganran o siaradwyr yn llawer is. Yn gyffredinol mae cynnydd yn y siarad o'r Gymraeg o ddwyrain i orllewin ac o'r gogledd i'r de yn ardal y cynllun.

4.33.

Gyda phoblogaeth yn heneiddio, rhaid i'r cynllun sicrhau fod mynediad uchaf posib' at dai fforddiadwy, gwasanaethau lleol ac adnoddau cymunedol ar gyfer grwpiau dan anfantais yn ogystal â cheisio denu mwy o bobl ieuengach i aros yn yr ardal. Dylai'r cynllun hefyd ddwyn i ystyriaeth y  boblogaeth wasgaredig  o siaradwyr Cymraeg sydd  yn y sir.

4.34.

Anghenion Tai

Dangoswyd fod cryn ddiffyg darpariaeth o dai ar draws y sir. Yn 2002 amlygodd astudiaeth anghenion tai a strategaeth dai 2004  fod y gyfran uchaf o ddiffyg darpariaeth oedd ar gyfer tai perchen-feddiannol, ac mai ail ddiffyg oedd o dai fforddiadwy o ryw fath.

4.35.

Aeth y proffil oed yn hŷn ac yn her i ddarparu  y gofyn penodol o dai ar gyfer y sector yma o'r boblogaeth. 

4.36.

Dylai'r cynllun roi diffiniad eglur o beth mae'r awdurdod yn ei ystyried i fod yn fforddiadwy yn ardal y cynllun, a  chefnogi blaengynlluniau fel eithrio safleoedd ar gyfer tai fforddiadwy gweledig.  Dylai cefnogaeth hefyd gael ei roi i sicrhau fod tai fforddiadwy yn aros yn barhaol  o dan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a rhwymedigaethau cynllunio. Mewn ardaloedd gwledig gall fod gweddau polisi penodol yn angenrheidiol megis  ‘safleoedd eithrio gwledig' er mwyn gallu cael tai fforddiadwy yn yr ardaloedd hyn.

4.37.

Safle Cyflogaeth a Photensial Economaidd

Mae Strategaeth Adfywio i Gonwy 2004-2014 yn datgan fod 61,500 o bobl o oed gwaith yn y sir, yn cynrychioli 55% o'r boblogaeth gyfan,  mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru o 59% a chyfartaledd Prydain o 61%.  Y  sector  gyflogaeth fwyaf, yn ôl cyfrifiad 2001, a Dadansoddiad Ymchwil Gweithlu Busnes Blynyddol (2003), ydyw'r sector wasanaeth yn cynnwys gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd.  Sectorau mawr eraill yw dosbarthu, gwestai a bwytai. 
4.38.

Dengys astudiaeth a wnaed gan Awdurdod Datblygu Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd fod gan y sir un o'r lefelau isaf o CDG (GDP) yng Nghymru, ac o'r herwydd un o'r rhai isaf ym Mhrydain.

4.39.

Adnabyddwyd y rhan fwyaf o'r gyflogaeth fel un a oedd yn perthyn i'r diwydiannau gwasanaeth  a thwristiaeth.  Mae'r ddibyniaeth ar dwristiaeth yn golygu fod cyflogaeth yng Nghonwy  yn medru bod yn dra thymhorol wedi ei sylfaenu ar fisoedd yr haf. Mae economi o gyflog isel yn nodweddu Conwy,  gyda helaethrwydd o fân-fusnesion a chyfran gymharol fawr o gyflogaeth ran-amser hyd yn oed o gymharu â chyfartaledd Gogledd Cymru.

4.40.
Mae gweithgynhyrchu  wedi mynd i waered dros y degawd diwethaf. Dim ond 6% o weithwyr a oedd yn y sector yma yn 2003. Mae cyflogwyr yn nodi fod ganddynt swyddi gwag na allant eu llenwi oherwydd diffyg y sgiliau priodol, y cymwysterau a'r profiad.
4.41.

Yng nghyfrifiad 2001 cofnodwyd nifer fawr o gymudwyr a âi allan o'r sir gyda dim ond hanner y nifer o gymudwyr yn teithio i mewn.

4.42.

Dylai'r cynllun felly gefnogi sectorau busnes sy'n tyfu a mynd ati i geisio hybu amrywio'r economi , i sicrhau nad yw'n ddibynnol ar gyflogaeth dymhorol. Dylid rhoi cefnogaeth i hyfforddi sgiliau yn yr ardal. I warchod yr amgylchedd, dylid gwneud pob ymdrech i gyfyngu cymudo mewn ac allan o'r sir, yn arbennig felly pe bai'r symud hwnnw yn ddibynnol ar geir. Mae gostwng yr angen i deithio yn thema allweddol i hyrwyddo datblygu gofodol mwy cynaliadwy.

« Back to contents page | Back to top