5. Amcanion Cynaliadwyedd
Mae'r amcanion a gynigiwyd i'w defnyddio yn yr AC wedi eu datblygu yn ystod y gwaith blaenorol ar arfarnu cynaliadwyedd y CDU (UDP). Dangosir y rhain yn nhabl 5.1.
Ar gychwyn y broses o AC y CDU cynhaliwyd 'gweithdy' i ystyried cynaliadwyedd yn yr ardal. Roedd y gweithdy'n cynnwys rhanddeiliaid gydag amrywiaeth o ddiddordebau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Felly yr oedd y casgliadau y deuwyd iddynt yn rhai oedd yn aros yn berthnasol i'w trosglwyddo i'w datblygu'n set o amcanion i'r AC ac yn cynnwys AAS. Roedd y drafodaeth a gaed yn cynnwys ystyried amcanion cynaliadwyedd i Gonwy.
Mae'r amcanion hyn hefyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad cwmpasu, ac ymatebodd ymgynghoriaid ar eu priodoldeb. Canlyniad hynny oedd gwneud newidiadau yn cynnwys ychwanegu amcan ar dreftadaeth ddiwylliannol.
Mae sylfaen creu amcanion datblygiad cynaliadwy i Gonwy yn rhan o ddealltwriaeth waelodol o beth yw cynaliadwyedd, sef:
- Y dylai mynediad at adnoddau yn y dyfodol fod o leiaf fel y mae ar hyn o bryd
- Na ddylai mynediad at adnoddau i rai fod yn cael ei nacau drwy weithredoedd eraill.
Fodd bynnag i ddefnyddio syniadau fel hyn ar gyfer trafod defnydd tir neu gynllun gofodol, mae'n rhaid cael rhywbeth mwy penodol, a defnyddiwn y syniad o amcanion cynaliadwyedd i sefydlu dealltwriaeth o beth mae'n ei olygu i wireddu cynaliadwyedd mwy ymhlith y rhai fo ynglŷn â thrafod y cynllun.
Mae'r amcanion cynaliadwyedd wedi eu datblygu drwy ddefnyddio pedwar nod datblygiad cynaliadwy gan Lywodraeth y DG ar strategaeth ddatblygu gynaliadwy, ‘A Better Quality of Life’ (Mai 1999) fel man cychwyn, sef:
- Cynnydd cymdeithasol sy'n cydnabod anghenion pawb
- Gwarchod yr amgylchedd yn effeithiol
- Defnydd darbodus o adnoddau naturiol
- Cynnal lefelau uchel a sefydlog o dwf economaidd a chyflogaeth.
Er bod yr amcanion hyn wedi cael eu disodli erbyn 2005 gan Strategaeth Ddatblygu Gynaliadwy'r DG, ar yr adeg pan oeddid yn datblygu'r fframwaith cynaliadwyedd yn 1999, yr oedd yr amcanion hyn yn dal yn gyfredol.
Mae maintioli'r amcanion hyn i gyd, a datblygu mynegeion perthnasol yn fater anodd gan fod union hanfod y rhan fwyaf o gynnwys y cynllun datblygu yn amhosib' priodoli na mesur newid yn uniongyrchol i ddylanwad y cynllun. Felly yn hytrach na cheisio cloriannu newidiadau'n fanwl, prif ystyriaeth yr AC ydyw gofyn a fyddai cyfeiriad y newid y byddai'r cynllun yn debygol o'i achosi yn newid a fyddai'n gadarnhaol i wireddu datblygu mwy cynaliadwy. Gall y bydd yn bosib diweddaru'r amcanion hyn gyda thargedau erbyn pan ddigwydd y AAS o'r CDLl. Byddai hynny fel rhan o'r broses fonitro.
Mae'r amcanion a nodir yn nhabl 1 ffurfio 'pennawd' yn cael ei gefnogi gan nod sy'n amlinellu beth ddylai'r cynllun fod yn ceisio ei gyflawni yng nghyd-destun gwarchod yr amgylchedd.
Mae newid hinsawdd yn her o gryn bwys y dylai cynllunio ymaflyd â hi. Wrth wireddu datblygu cynaliadwy dylai materion newid hinsawdd fod yn rhai o berthnasedd trawsbynciol. Er enghraifft, mae newid hinsawdd yng nghyswllt â materion lliniaru mewn perthynas â mynediad ac allyriadau ac addasiadau mewn perthynas â chynllunio adeiladau, llifogydd a chadwraeth natur. Felly yn nhabl tabl 5.1 isod, gwelir bod materion cysylltiedig â newid hinsawdd mewn italics.
Tabl 5.1: Amcanion cynaliadwyedd ar gyfer yr AC a CDLl Conwy (mae enghreifftiau mewn italics er mwyn dangos pa faterion sydd a pherthnasedd trawsbynciol parthed newid hinsawdd)