6. Arfarnu Cynaliadwyedd y CDLl Gweledigaeth ac Amcanion
Mae'r Adran hon o Arfarnu Cynaliadwyedd (AC) yn edrych ar y weledigaeth a'r amcanion a ddatblygwyd yn y CDLl, a'r modd y mae'r rhain yn trafod materion yn ymwneud â datblygiad cynaliadwy.
Cafodd y weledigaeth a'r amcanion welliannau iddynt ers Strategaeth a Ffefrir y CDLl, ac felly maent wedi eu hail arfarnu.
Gweledigaeth CDLl
Dengys y weledigaeth yn fanwl beth yw'r nod ar gyfer dyfodol Conwy, mae'n ymwneud ag amrediad o faterion o gyflogaeth a thai i gludiant cyhoeddus a gwarchod yr amgylchedd. Mae hyn yn adlewyrchu'r awydd am ddyfodol mwy cynaliadwy, yn caniatáu i dwf ateb i anghenion cymdeithasol ac economaidd mewn amgylchedd naturiol ac adeiledig o ansawdd uchel.
Nid yw'r weledigaeth yn un benodol iawn ar y rôl y dylai trefi a phentrefi penodol eu cael. Mae'n rhannu'r ardal i wledig a threfol yn unig. Mae'r diffyg gwybodaeth ofodol yma yn cael ei adnabod yn arfarniad cynaliadwyedd y strategaeth.
Dywed un o baragraffau cyntaf y CDLl :
‘Mae angen i’r Cyngor ddiogelu amgylchedd naturiol ac adeiledig arbennig Conwy, ac ar yr un pryd sicrhau y darperir cymaint â phosibl o Dai Fforddiadwy i Ddiwallu Anghenion Lleol’
Fodd bynnag, ni fwriadwyd hyn fel gweledigaeth ar gyfer y CDLl, sy'n cael ei rhoi yn adrannau olynol y CDLl. Nid yw'n eglur beth yw diben y datganiad hwn, a pham ei fod yn cael ei bwysleisio'n benodol yn y cyflwyniad i'r CDLl. Mewn gwirionedd, gall y datganiad hwn fynd yn groes i ddiben cyfannol y CDLl, sydd yn fwy na dim ond gwarchod yr amgylchedd a darparu tai fforddiadwy. Mae gweledigaeth y CDLl yn fwy cymhleth, a hynny'n adlewyrchu'r cymhlethdod sydd o geisio ymorol am ddatblygu cynaliadwy. Mae hefyd yn cynnwys twf economaidd, ymorol am dai'r farchnad agored, rheoli adnoddau trin gwastraff a chyswllt cludiant gwell. Felly byddai adolygu adran gyflwyniad y CDLl yn lles i allu dangos yn well rôl amrywiol y CDLl.
Amcanion y CDLl
Mae'r amcanion diwygiedig yn dangos ystod helaeth o faterion cynaliadwyedd. Mae pob un o'r amcanion diwygiedig y CDLl ar gyfer y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd wedi cael eu harfarnu o fewn yr amcanion cynaliadwyedd i weld a oes unrhyw fylchau neu i argymell unrhyw newidiadau iddynt. Mae'r AC hwn o amcanion y CDLl i'w gweld yn Atodiad 3.
Dylai y rhan fwyf o'r amcanion helpu cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygu cynaliadwy, gyhyd â'u bod yn cael eu cyflawni'n iawn drwy'r strategaeth a'r polisi. Fodd bynnag, bu i'r AC ddynodi ychydig fannau lle mae gwrthdaro posibl gyda chynaliadwyedd:
- Gall datblygu tai a chynyddu cyflogaeth gael effaith niweidiol ar yr Amgylchedd Naturiol, a dylai polisïau a dyraniadau reoli hyn
- Gallai hyrwyddo'r economi wledig beri patrymau teithio anghynaliadwy, felly dylai mentrau gwledig aros ar raddfa berthnasol i wasanaethu pobl leol yn unig
- Pe byddid yn datblygu ar hyd rhwydweithiau isadeiledd dylid osgoi creu trefi a phentrefi llinynnol main. Byddai 'r rhain yn berygl o greu patrymau teithio anghynaliadwy ac effeithio ar y gymuned drwy gynnig dim 'canolfan' weladwy a bod yn orddibynnol ar ddefnyddio ceir. I wireddu datblygiad cynaliadwy gwell cael datblygiad cryno trefol.
- Mae atyniadau twristaidd o'i bwriad yn tynnu nifer helaeth o ymwelwyr, felly rhaid eu lleoli mewn mannau lle mae mynediad cludiant cyhoeddus da a dylid rheoli parcio i helpu gostwng teithio mewn ceir.
- Dylai amcanion dylunio ymgorffori'r angen am ddylunio i flaenoriaethu peidio ag annog defnydd o geir, gyda llwybrau hwylus i gerddwyr gan gynllunio adeiladau sydd â mynediad iddynt oddi ar balmentydd yn hytrach na meysydd parcio
- Wrth weithredu cynlluniau ynni adnewyddadwy dylid cloriannu'r budd cenedlaethol a byd-eang yn ogystal â'r effaith yn lleol
- Dylid lleoli safleoedd gwastraff newydd i osgoi effeithio ar yr amgylchedd drwy beri llygredd dŵr ac awyr, ac aflonyddu ar les pobl drwy beri sŵn, aroglau neu ddenu anifeiliaid plagus.