8. Sylwadau Cyffredinol ar Arfarnu Cynaliadwyedd
Mae addaster unrhyw gais cynllunio yn cael ei bennu gan bolisïau'r CDLl. Mae'r ymdriniaeth o faterion cynaliadwyedd yn y CDLl yn bwysig, ond i gyflawni unrhyw un o'r buddiannau a geisir mewn polisi a strategaeth rhaid eu nodi'n eglur mewn modd hawdd i'w gweithredu. Mae'n angenrheidiol cael polisi a chyfiawnhad eglur, cryno a diamwys i helpu pawb fedru gweld beth sy'n cael ei ddisgwyl o ddatblygiad. Golyga hynny y byddai CDLl sy'n haws i'w ddefnyddio yn arwain at geisiadau cynllunio gwell a phenderfyniadau mwy cyson. Byddai hyn yn ei dro yn arwain at gael datblygiadau mwy cynaliadwy yn cael eu gwneud. Felly mae ystyried sut mae pethau'n cael eu rhoi ar waith yn rhan hanfodol o broses AC.
Mae CDLl Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn cynnwys llawer sy'n dangos bwriad eglur i gyflawni datblygiad cynaliadwy, o'r strategaeth hyd at bolisïau manwl ar ynni adnewyddadwy ac adeiladu cynaliadwy. Fodd bynnag, mae elfennau o'r CDLl a allai olygu nad yw mor hawdd i'w ddefnyddio ag y gallai fod.
Dylai'r CDLl ailystyried sut mae polisïau strategol yn cael eu cyflwyno ar wahân i bolisïau rheoli datblygiad. Dylai'r polisïau strategol osod y fframwaith cyfannol ar gyfer datblygu. Dylai hyn gynnwys lefelau twf tai a chyflogaeth, y strategaeth dosbarthiad gofodol h.y. . Ffocws Ardal Strategaeth Ddatblygu Drefol, a chyfyngu ar ddatblygu y tu allan i derfynau aneddiadau. Gallai hyn gynnwys materion polisi eraill sy'n hanfodol i gyflawni'r Strategaeth a Ffefrir, yn cynnwys rhai ar dai fforddiadwy a dwysedd, a'r rhai ar ddyluniad ac adeiladu cynaliadwy.
Byddai gan y polisïau rheoli datblygiad rôl o dywys gweithrediad y datblygu a osodwyd o fewn y strategaeth, i wneud y mwyaf o enillion cynaliadwyedd a lliniaru drwg effeithiau potensial.
Y mwyaf eglur fo'r dull cyflwyno, yna gallai hynny helpu osgoi'r dyblygu polisi presennol a welir yn y CDLl presennol. Enghreifftiau lle byddai'n lles symleiddio'r CDLl ydyw yn y strategaeth bolisi (DP/2) a’r polisi tai (HOU/1). Mae'r polisïau hyn a’r testunau ategol yn ailadrodd yr un mater mewn ffyrdd fymryn yn wahanol oddi wrth ei gilydd. Gall y dyblygu hwn fod yn rhwystr i ddeall y strategaeth ac yn llesteirio cyflawni datblygiad fel y'i bwriadwyd gan gyflwyno o bosib' gynghorion croes i'w gilydd. Byddai'n amgenach cael un polisi eglur ar y strategaeth ac wedyn un arall ar dai fforddiadwy.
Er mwyn helpu cyflawni datblygiad cynaliadwy yn llwyddiannus mae'n angenrheidiol sicrhau bod y dull gweithredu yn y cynllun datblygu yn glir a dealladwy i bawb.
Gostwng y nifer o bolisïau i helpu gostwng camddeall posibl a chael cynghorion croes i'w gilydd, a chreu cynllun mwy cryno a haws i'w ddefnyddio.
Mae'r canllaw yn y Llawlyfr CDLl (Y Cynulliad Cenedlaethol, Mehefin 2006) yn cyfeirio'n benodol at gynlluniau'n bod yn fwy ‘strategol, cryno a nodedig’. Mae hyn yn cynnwys symud oddi wrth bolisïau sy'n fanwl materion penodol i'r ardal, gan ddatgan:
‘llunio cynlluniau mwy cryno, gan ddileu polisïau sy'n rhy benodol a manwl...’ (llawlyfr CDLl Adran 2.3.5)
Mae'r Llawlyfr CDLl yn dweud nad yw CDLl i fod yn llawlyfr rheoli datblygiadau manwl (7.3.3). Mae'r pwyntiau bwled yn ailadrodd cyngor y llawlyfr CDLl ar bolisi a drafftio CDLl sydd yn berthnasol i leihau cymhlethdod CDLl Conwy:
- dylai polisïau fod yn gadarnhaol a chryno
- gellir ymgorffori testun cefnogol a dylid ei gyfyngu i faterion sy'n sylfaenol i gyfiawnhau polisi
- ni ddylid cynnwys polisïau diangen
- ni ddylid ceisio llunio polisi ar gyfer pob posibilrwydd
- dylid cynnwys polisïau sy’n seiliedig ar feini prawf y gellir asesu safleoedd ar hap a safleoedd bach iawn yn eu herbyn. Efallai y bydd angen diffinio trothwyon er mwyn diffinio safle bach iawn a gwneud hynny ar wahân fwy na thebyg ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig (7.3.3)
Ar gyfer rhai polisïau mae'n ymddangos fod y CDLl yn anelu at fod yn rhy benodol, yn ceisio adnabod pob math ar ddatblygiad ac wedyn yn gosod polisi i ymateb iddo. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl' cynllunio ar gyfer pob achlysur ac felly gallai fod yn fwy defnyddiol canolbwyntio ar lai o bolisïau wedi eu sylfaenu ar feini prawf. Byddai'r rheiny yn darparu'r offer ar gyfer penderfynu ar ba mor addas y byddai unrhyw fath ar ddatblygiad. Mae hynny yn fwy cydnaws â dull gweithredu llai cwmpasog y mae LLCC yn ei argymell.
Dylai geirio polisïau geisio helpu osgoi amwysedd. Mae defnyddio ymadroddion fel ‘dwyn ystyriaeth o' yn medru arwain i gymhwyso anaddas a allai achosi drwg effaith ar gynaliadwyedd.
Y mae'n llawn mor bwysig i feddu ar gyfiawnhad wedi ei resymu i gefnogi polisïau cryno, yn syml er mwyn ei gwneud yn haws i ddefnyddio'r cynllun. Er enghraifft mae adrannau yn y cyflwyniad, strategaeth a thai a chyflogaeth yn cynnwys rhai adrannau sy'n ailadrodd. Mae peth ailadrodd o gyfiawnhad wedi ei resymu yn enwedig yn adrannau cynharaf y cynllun, yn cynnwys y Cyflwyniad, Disgrifiad y Strategaeth, a Datblygiad Egwyddorion ac Adrannau Tai a Chyflogaeth.
Mae hyn yn arwain at fater sy'n uniongyrchol amlwg wrth ddarllen y cynllun a hynny ydyw'r hyd a gall hyn olygu na chaiff ei ddefnyddio'n effeithiol, yn enwedig gan nad ydynt yn gynllunwyr proffesiynol. Gall hyn arwain at gyflwyno ceisiadau cynllunio amhriodol, lle'r oedd cymhlethdod y ddogfen yn golygu fod pobl yn methu â chanfod pa wybodaeth y dylid ei chynnwys mewn cais, hefyd eu bod yn methu â chael hyd i'r meini prawf fyddai'n berthnasol i gais.
Nid yw hyn yn dweud nad yw'r polisïau’n hyrwyddo datblygu cynaliadwy, ond mewn rhai mannau nid yw'r CDLl mor ddefnyddiol ag y gallai fod. Gallai hynny arwain at gamddeall polisi ac arafu cyflawni datblygiad, neu olygu nad yw'r offer yn eu lle i sicrhau fod datblygiad yn cael ei roi ar waith yn unol ag amcanion datblygiad cynaliadwy'r CDLl.