9. Arfarnu Cynaliadwyedd y Strategaeth Ofodol - yn cynnwys Dosbarthiad y Polisïau Datblygu

9.1.

Cyflwyniad

Mae'r adran hon o'r adroddiad  arfarniad cynaliadwyedd yn ystyried effeithiau cynaliadwyedd  strategaeth ofodol y CDLl. 
9.2.

Mae cael y strategaeth gywir,  mewn perthynas a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy, yn hanfodol wrth helpu creu CDLl  cynaliadwy fydd yn llunio patrwm datblygu'r dyfodol a chyfrannu at ffordd o fyw mwy cynaliadwy. 

9.3.

Un o'r prif swyddogaethau'r strategaeth ofodol ydyw gwireddu datblygu mwy cynaliadwy sy'n gostwng dibyniaeth ar deithio gyda cheir.  Gellir gwneud hyn drwy bolisïau sy'n cefnogi gwelliannau cludiant cyhoeddus a llwybrau cerdded a beicio. Fodd bynnag, mae strategaeth ofodol sy'n gosod patrwm o ddatblygu sy'n gostwng yr angen am deithio yn y lle cyntaf yn bwysicach.  Mae hyn yn cynnwys amlder a nifer y teithiau a'r mynediad o'r cartref i waith, ysgol, siop, at wasanaeth iechyd ac adnoddau cymunedol eraill.

9.4.

Strategaeth a Ffefrir Conwy

Y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer CDLl Conwy ydyw canolbwyntio y rhan fwyaf o'r datblygu newydd yn yr Ardal Strategol Ddatblygu Drefol, sy'n cynnwys y trefi arfordirol i gyd o Fae Cinmel hyd at Lanfairfechan,  yn ogystal â thref wledig  Llanrwst.  Mae'r strategaeth yn rhoi 90% o dai ac 80% o ddatblygu cyflogaeth i ddigwydd yn yr ardaloedd trefol hyn. Y trefi hyn hefyd fydd canolbwynt datblygiadau manwerthu newydd.  
9.5.

Gweddill ardal y cynllun,  yw'r Ardal Strategol Ddatblygu Wledig. Yma bwriedir cael lefel llawer is o ddatblygu, a bydd llawer o'r codi tai newydd yn yr ardal hon ar gyfer anghenion lleol ac yn dai fforddiadwy. 

9.6.

Mae'r hollti yma ar ddull datblygu yn cyd-fynd ag amcanion datblygu cynaliadwy. Mae'n cynnwys:

  • Mynediad at Wasanaethau:  Yn canolbwyntio datblygu  ar y trefi presennol, ac yn debygol o helpu hyrwyddo gwell mynediad i wasanaethau pob dydd,  er bod y datblygu yn yr ardal wledig yn gallu arwain at i bobl fod angen teithio ymhellach i gyrraedd at ysgolion, at  waith, at siopau ac at wasanaethau iechyd.
  • Cymunedau:  Dylai bod datblygiadau newydd ar gyfer anghenion lleol yn yr ardaloedd gwledig helpu cefnogi cymysgedd demograffig yn y cymunedau gwledig hynny.  Gallu hyn helpu gwrthweithio fod y boblogaeth yn heneiddio yn yr ardaloedd hyn, drwy fod yma drigolion tymor hir sy'n mynd yn hŷn a phobl yn ymddeol a symud i'r ardaloedd hyn i fyw.  Mae hynny'n achosi bod llai o dai ar gael yn ogystal â'r galw am ailgartrefi sy'n peri bod pobl ifanc yn methu â fforddio tai.  
  • Tai: Mae'r strategaeth ofodol hon yn caniatáu tai newydd mewn ardaloedd gwledig i'w datblygu yn benodol ar gyfer anghenion lleol, yn helpu darparu tai fforddiadwy lle mae eu hangen.
  • Awyr ac Awyrgylch:  mae'r canolfannau trefol yn fwyaf tebygol o helpu cyfrannu at  ddatblygiad sydd a mynediad ato drwy ddull heblaw mewn car, gan fod cyfleoedd am gysylltiadau gwell rhwng cartrefi, gwaith, siopau a gwasanaethau.  Byddai gostwng y defnydd o geir yn medru bod yn lles i ansawdd yr awyr a lles rhag newid hinsawdd hefyd
  • Materion Economaidd :  y llain arfordirol yw'r lleoliad mwyaf i dwf economaidd yn y sir.  Dylai dosbarthiad y datblygiad helpu hyrwyddo canolbwyntiad y datblygu yn yr ardal hon.
9.7.

Gall unrhyw ddatblygiad newydd  hefyd fod o botensial niweidiol o ran effaith ar y dirwedd a chadwraeth  natur yn yr ardal. Mae'r risgiau o ddrwg effeithiau ar yr asedau hyn yn cael eu cynyddu drwy fod ansawdd uchel i'r cefn gwlad o gwmpas y trefi hyn. Mae rhai safleoedd wedi eu dynodi fel rhai o werth rhyngwladol ar gyfer cadwraeth natur. Mae rhannau o'r Ardal Strategol Ddatblygu Drefol gyda risg o lifogydd, oherwydd lleoliad arfordirol  y dirwedd isel. Felly, dylai'r Cyngor sicrhau fod tir a neilltuir yn osgoi peri drwg effeithiau ar yr Amgylchedd Naturiol, ac yn amddiffyn yr amgylchedd hwnnw.

9.8.

Dosbarthiad Isranbarthol

Mae'r hollt wledig / drefol yn cael ei hollti ymhellach yn defnyddio hierarchaeth aneddiadau wedi ei sylfaenu ar gynaliadwyedd aneddiadau, a grwpio'r trefi mwyaf fel unedau gweithredol.

9.9.

Yn yr ardal ddatblygu drefol, mae yna bum uned neu ardaloedd gweithredol, sef:

  • Llandudno, Cyffordd Llandudno a Chonwy
  • Abergele, Tywyn a Bae Cinmel
  • Llanfairfechan a Phenmaenmawr
  • Bae Colwyn  a Mochdre
  • Llanrwst
9.10.

Mae Tabl HOU1a y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd yn hollti twf codi tai i'r pum ardal hyn o fewn y sir. Mae Tabl 9.1 yn defnyddio data yn HOU1a (nad yw’n cynnwys ffigurau cartrefi gwag na moderneiddio ysgolion gan na chaiff y rhain eu dosrannu’n ofodol) i roi'r syniad sut y byddai dyraniadau'r CDLl yn newid y gyfran o ddatblygu y byddid yn ei roi i unrhyw aneddiad. 

9.11.

Dengys colofn 2 ddosbarthiad y datblygiadau tai cyfan yng Nghonwy, sy’n debygol o ddigwydd heb ddylanwad y strategaeth dosbarthu gofodol, gan gynnwys datblygiadau o safleoedd wedi’u cwblhau, ceisiadau wedi’u caniatáu a hap-safleoedd. Mae hyn yn debyg i ymagwedd busnes fel arfer. Mae colofn 1 yn cynnwys y dyraniadau.  Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy golofn yn dangos dylanwad y dyraniadau sydd yn y CDLl  ar ddosbarthiad datblygu tai.     

9.12.
Column 3 shows the proportion of total development in an areas that is a result of new allocations. 
9.13.

Dengys y tabl fod y rhan fwyaf o'r datblygu yn yr ardal drefol fwyaf yng Nghonwy, sef ardal weithredol Llandudno ac ardal weithredol Bae Colwyn. Y trefi hyn yw canolbwynt llawer o'r swyddi a'r gwasanaethau sydd yn barod yn y sir.  Felly mae'r dosbarthiad yn gwella mynediad drwy sicrhau fod tai newydd yn agos at waith, ysgolion, gwasanaethau cymunedol a siopau.  Mae'r dosbarthiad hefyd yn dilyn swyddogaeth  Cynllun Gofodol Cymru ar gyfer yr ardaloedd hyn sef fel canolbwynt datblygu. 

9.14.
Fodd bynnag, mae'r gwahaniaeth rhwng colofnau'n dangos fymryn o wyro o batrymau datblygu blaenorol. Bellach mae datblygiad wedi’i ddosbarthu’n ehangach o amgylch y Fwrdeistref Sirol. Y lleoliadau a fydd yn ffocws ar gyfer mwy o dai na’r swm cyfrannol fydd Abergele a’r ardaloedd gwledig. Yr ardaloedd lle ceir llai o ddatblygu yw Llandudno a Bae Colwyn. Mae dyraniadau newydd yn Llanrwst hefyd yn golygu bod y CDLl yn anelu i gael mwy o ddatblygu yn y dref hon nag a gafwyd o’r blaen.   
9.15.

Nid yw cynaliadwyedd yr ymagwedd hon yn glir, gan fod eisoes nifer o safleoedd mewn amryw o ardaloedd ac arnynt ganiatâd cynllunio na weithredwyd yn ei sgil.  Dangosir hyn yng Ngholofn 3 lle mae cyfran y datblygu o ddyraniadau newydd mewn rhai ardaloedd yn isel iawn. Mewn rhai ardaloedd mae cyfran fawr o’r cartrefi eisoes wedi’u hymrwymo neu eu hadeiladu. Mae bron hanner y rhai hynny yn ardal ‘Conwy’ wedi’u cwblhau neu â chaniatâd (a dim ond tair blynedd o oes y cynllun sydd wedi treiglo). Bydd yn hanfodol sicrhau bod tai’n cael eu darparu, er mwyn gweithredu’r strategaeth a ddewisir, ac nad yw lefel uchel o ymrwymiadau heb eu cwblhau’n arwydd bod y farchnad mewn ardal arbennig wedi marweiddio gan nad yw datblygu’n ariannol ddichonadwy mwyach, gan roi gweithrediad y cynllun yn y fantol. Mae’n hanfodol sefydlu systemau monitro ac adolygu er mwyn helpu i sicrhau bod y CDLl yn gweithredu’r strategaeth ofodol a nodwyd yn yr amcanion. Mae monitro hefyd yn hanfodol er mwyn rheoli’r broses o ryddhau safleoedd wrth gefn.

9.16.
Nid yw'n eglur, a  chodwyd y mater yn yr arfarnu blaenorol ar y Strategaeth a Ffefrir,  beth yw'r rhesymeg y tu ôl i ddosbarthiad gofodol y dyraniadau,  a ddangosir yn nhabl 9.1 (a HOU1b y CDLl)?  Mae'n ymddangos fod y CDLl  yn trin yr Ardal Strategol Ddatblygu Drefol fel un uned, gyda dyraniadau yn cael eu dosbarthu i safleoedd a fo ar gael o'i mewn, waeth lle bônt.  
9.17.

I osgoi hyn dylai Strategaeth y CDLl gynnwys mwy o fanylion ar sut y mae'r dosbarthiad tai hwn yn digwydd i gyfateb ag anghenion penodol pob ardal. Er enghraifft:

  • adfywio ac adnewyddu trefi
  • cyfyngiadau amgylcheddol
  • ffocws ar gyflogaeth.

Tabl 9.1: Hollt gyfrannol o ddatblygiadau tai o gwmpas  Ardal Strategol Ddatblygu Drefol  Conwy  (D.S. mae'r cyfansymiau'n cynnwys safleoedd gwledig)

9.18.

Materion a allai effeithio ar gyflawniad y strategaeth ofodol

Mae swm y datblygu sy'n aros i'w ddyrannu drwy'r CDLl  yn llai na hanner cyfanswm niferoedd y tai.  O gyfanswm o 6301 o dai (nid yw hyn yn cynnwys tai gweigion na moderneiddio ysgolion) yn nhabl HOU1a mae tua 35.3% yn barod wedi eu cwblhau neu gyda hawl cynllunio, mae 28.8% yn cael ei ragweld fel 'hap-safleoedd', a dim ond 40% o ddyraniadau.  O dderbyn ffigurau'r Cyngor yn sail, dengys hyn mai ychydig iawn o gyfle i ddyrannu safleoedd sydd yna drwy'r CDLl i ddylanwadu ar y strategaeth ofodol.
9.19.

Datblygu Ymrwymedig: Mae adolygiad o ymrwymiadau tai presennol ers fersiwn 2009 y CDLl wedi arwain at leihau’r nifer cyfanswm o dai a nodwyd o’r ffynonellau hyn. Yn fesiwn 2009, yn nhair o’r is-ardaloedd trefol disgwylid mwy o ddatblygu o ddatblygiadau ymrwymedig ac wedi’u cwblhau na’r hyn a oedd ar ôl i’w ddarparu drwy hap-safleoedd neu ddyraniadau. Fodd bynnag, yn y fersiwn ddiwygiedig ceir mwy o hap-safleoedd a dyranaidau nag ymrwymiadau neu ddatblygiadau wedi’u cwblhau yn yr holl ardaloedd. Yr eithirad i hyn yw ardal ‘Conwy’, lle mae’r lefelau’n debyg iawn o’r naill ffynhonnell a’r llall, er mai dim ond 3 blynedd o oes y cynllun sydd wedi treiglo. 

9.20.

Gallai’r gyfran uwch o hap-safleoedd a dyraniadau newydd olygu y gall strategaeth ofodol ddiwygiedig y CDLl gael mwy o effaith ar newid patrwm datblygu yng Nghonwy er mwyn cynulliadau mwy cynaliadwy nag a gafwyd o’r blaen o swyddi, cartrefi a gwasanaethau. Fodd bynnag, ni all y CDLl ond newid hyn a hyn ar batrwm datblygiad yn y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn oherwydd y nifer bresenol o dai yn yr ardal o’i gymharu â’r nifer a ddarperir drwy’r CDLl.

9.21.

Datblygu ‘Hap-safloedd’:  Cyfyngiad arall pe dymunid dilyn strategaeth dra gwahanol ydyw'r nifer o dai y disgwylir iddynt gael eu codi ar hap-safleoedd heb eu dyrannu. Mae'r rhain ychydig o dan chwarter y cyflenwad dai i gyd ( o'r 6301 tŷ).   The actual number of homes from this source has increased approximately threefold from the 2009 Deposit LDP.  Windfall sources have now been included for the villages and rural area, and six times as much in the Conwy UDSA.

9.22.
Gan fod cymaint/cyfran mor fawr o'r datblygu i'w ddisgwyl o hap-safleoedd, mae addaster safleoedd hynny i'w datblygu i'w benderfynu  fel rhan o'r broses reoli datblygu. Mae hyn yn amlygu'r pwysigrwydd y byddai gan y CDLl set o bolisïau clir yn egluro lle byddid  a na fyddid yn caniatáu datblygu yn unol â'r strategaeth ofodol.  Yn ychwanegol, byddai gofyn cael set o bolisïau wedi eu sylfaenu ar feini prawf generig y gellid eu defnyddio i sicrhau y bydd datblygu yn gwarchod a gwella'r amgylchedd adeiledig a naturiol yn ogystal â lles pobl.  Mae arfarnu polisïau yn dangos y byddai gwireddu hyn yn llwyddiannus yn golygu y byddai angen rhai newidiadau i'r polisïau strategol i'w gwneud yn fwy eglur.  Mae'r AC hefyd yn gwneud argymhellion i wella rhai o'r polisïau rheoli datblygu, i sicrhau amddiffyn yr Amgylchedd Naturiol ac i beri bod datblygu o ansawdd uchel.
9.23.

Bydd angen monitro ac adolygu sut y cyflawnir hap-safleoedd i sicrhau fod hyn yn cyflawni'r niferoedd a ragwelwyd a dim yn gwrthweithio strategaeth gynaliadwy. 

9.24.

Gall hap-safleoedd gael eu gwireddu'n arafach, gan y gallai'r broses gloriannu safleoedd addas neilltuo safleoedd dyraniad a fyddai dan yr hen drefn wedi bod yn hap-safleoedd.  Gallai hyn felly fod yn amcangyfrif gormodol o'r nifer o dai sy'n ymddangos o'r ffynhonnell hon. I gael llun gwell o'r cyflenwad hwn gallai fod wedi bod yn addas cael adolygiad o gyfradd datblygu hap-safleoedd. 

9.25.

Strategaeth Gyflogi

Rhagwelir y bydd 80% o ddatblygu ar gyfer cyflogaeth newydd yn yr Ardal Strategol Ddatblygu Drefol. Mae hyn yn cyd-fynd â lleoli datblygu mewn mannau cynaliadwy, lle mae mynediad da atynt gydag amrywiaeth o fathau o gludiant. Mae 20% o ddatblygu cyflogaeth i'w gyfeirio i'r Ardal Strategaeth Ddatblygu Wledig. Bydd angen cefnogi cyflogaeth newydd drwy ehangu cludiant cyhoeddus a llwybrau cerdded a seiclo, er mwyn sicrhau bod swyddi newydd yn hygyrch i bawb.
9.26.

Mae’r strategaeth twf a datblygu ar gyfer cyflogaeth yn cynnwys nifer o elfennau, sef canfod:

  • tir cyflogaeth i ddarparu ar gyfer y newid a ragfynegir yn y boblogaeth
  • tir cyflogaeth i leihau’r lefelau allgymudo
  • dyraniadau cyflogaeth newydd er mwyn bodloni’r galw cyffredinol
  • dyraniadau tir cyflogaeth i’w defnyddio mewn amgylchiadau lle mae angen darpariaeth wrth gefn.
9.27.

Mae’r holl ddyraniadau, gan gynnwys safleoedd wrth gefn yn creu cyfanswm o 54ha o dir cyflogaeth neu fwy na 6,720 o swyddi. Dyma ddyraniad sylweddol - o seilio’r angen ar gyfraddau datblygu cyflogaeth yn y gorffennol, dim ond 24ha fyddai ei angen dros oes y cynllun. Hyd yn oed heb unrhyw safleoedd wrth gefn mae 47ha o dir cyflogaeth yn cael ei ddyrannu. Un o’r manteision, o safbwynt cynaliadwyedd, a ddaw yn sgil cael dyraniad uwch o dir cyflogaeth nag y gellid bod ei angen, yw bod hynny’n caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd yn y farchnad. Gallai caniatáu i fuddsoddwyr ddewis eu lleoliad, gan gynnwys dyraniadau gwledig, gynorthwyo i sicrhau buddsoddiad economaidd.

9.28.

Un o’r peryglon mwyaf yn sgil caniatáu i ystod o safleoedd gael eu datblygu i ddibenion cyflogaeth yw na ellir rhagweld ymlaen llaw pa safleoedd fydd yn cael eu cyflwyno. Mae’r AC yn nodi y gallai hyn arwain at anawsterau wrth sefydlu patrwm cynaliadwy o dwf lle gellir lleoli tai a chyflogaeth gyda’i gilydd i gefnogi cyflogaeth leol a lleihau’r angen i deithio. Felly ceir risg y bydd yr ymagwedd hon yn cynyddu’r angen i deithio mewn car, ac yn creu ‘trefi o gymudwyr’ a nodweddir yn aml gan ddiffyg cydlyniant cymdeithasol a diffyg cymeriad.

9.29.

Un o’r newidiadau mwyaf i’r polisïau ar ddyraniadau cyflogaeth yw maint y tir cyflogaeth a ddyrennir i’w ddatblygu, yn ogystal â’r modd y mae’r dyraniad wedi cael ei rannu. Mae’r arfarniad yn cefnogi’r gostyngiad yn nyraniad Cynllun 2010 i’w archwilio gan y cyhoedd o’i gymharu â Chynllun 2009 i’w archwilio gan y cyhoedd, fel gweithred sy’n cynorthwyo i greu lle sy’n fwy cynaliadwy. Yn ymagwedd 2009, dyrannwyd cymaint o dir, fel y byddai’n anodd rheoli’r dull o ddarparu’r tir hwnnw mewn modd sy’n gydnaws â chreu llefydd mwy hunangynhaliol sy’n gwneud y defnydd gorau o dir a ddatblygwyd o’r blaen. 

9.30.

Er mwyn cyflwyno dadl glir dros ddyrannu tir cyflogaeth, rhaid i’r strategaeth fod wedi’i diffinio’n glir ac yn syml i’w gweithredu. Ymddengys na cheir gwahaniaethu o ran dyraniadau safle a mathau o gyflogaeth wrth  rannu gofynion tir cyflogaeth i’r ‘newid a ragfynegir yn y boblogaeth’ ac ‘i leihau allgymudo’. Mae’n debygol iawn fod y naill ofyniad a’r llall, o’u gweithredu’n ymarferol, yn union yr un peth.  Ni cheir felly unrhyw fanteision o rannu’r dyraniadau i’r naill a’r llall. Mae’n bosibl mai unig ganlyniad hynny fydd cymhlethu’r cynllun i rai sydd am ddatblygu safleoedd cyflogaeth.

9.31.
Cwestiynir hefyd y defnydd o safleoedd wrth gefn, gyda saith hectar ychwanegol o dir ar gael i’w ddatblygu. Asesir y dull o ryddhau tir cyflogaeth wrth gefn ym mharagraff 9.46-9.58 yr adran hon.
9.32.

Mae’r gyfran fwyaf o ddatblygiad newydd wedi’i dyrannu neu wedi’i hadeiladu neu ei hymrwymo yn Ardal Strategaeth Datblygu Trefol Llandudno. Yn yr ardal hon ceir oddeutu 10ha o ddyraniadau newydd yn ychwanegol at 17.9ha sy’n bodoli eisoes. Ceir hefyd gyfran uchel o ffocws cyflogaeth yn yr ardal o amgylch Abergele a Bae Cinmel. Ceir 8.5 ha o ddyraniadau newydd yma ar 2 yn bodoli eisoes. Mae rhai safleoedd yn yr ardal hon wedi bod yn wag am beth amser, sydd o bosib yn dangos mai ychydig o alw sydd am safleoedd o’r math hwn. Bydd sicrhau bod modd darparu’r safleoedd hyn yn rhan bwysig o sicrhau’r strategaeth ofodol a ddymunir.

9.33.

Yng Nghonwy mae'r gwahanu hwn rhwng cyflogaeth a thai yn llai o ystyriaeth nag mewn mannau eraill. Mae'r cyswllt dwyrain- gorllewin ffordd yr A55 ar hyd yr arfordir a'r rheilffordd gyda'i gorsafoedd niferus yn golygu fod cludiant cyhoeddus yn opsiwn a allai weithio'n iawn i lawer o bobl fynd i'w gwaith. Yn ychwanegol, mae datblygu yn ardal Abergele a Bae Cinmel yn drwm dan ddylanwad trefi arfordir Sir Ddinbych a bydd cyswllt tai a chyflogaeth yma yn fwy gyda'r Rhyl na Llandudno neu Fae Colwyn . 

9.34.

Fodd bynnag, i gyflawni datblygu mwy cynaliadwy mae ffurfiant trefol cryno'n well, gyda threfi a phentrefi mor hunangynhaliol â phosibl. Nid yw bob amser yn glir sut y bydd y CDLl yn cyflawni hyn, yn enwedig gan fod amryw o ardaloedd y Strategaeth Datblygu Trefol a llawer o’r Prif Bentrefi yn Haen 1 nad oes ganddynt unrhyw ddyraniadau cyflogaeth presennol wedi’u hymrwymo.

9.35.

Hefyd er mwyn cynorthwyo i leihau’r teithio sy’n digwydd mewn ceir, mae’n hanfodol cael, nid yn unig gwelliannau i gludiant cyhoeddus ond hefyd reolaeth ar barcio ceir i gyd-fynd â’r datblygiad cyflogaeth a ddarperir yn y lleoliad hwn. 

9.36.

Yr Ardal Wledig

Mae'r strategaeth ar gyfer yr ardal wledig yn cyd-fynd â chyflawni datblygu mwy cynaliadwy. Fel y nodir yn yr AC ym mharagraffau 9.40, gallai caniatáu darparu tai mewn ardaloed gwledig er mwyn helpu i ddarparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol esgor ar fanteision sylweddol i gymunedau lleol, fel cynorthwyo i gyflawni amcanion cynaliadwyedd mewn perthynas â chydlyniant, cymeriad, tai a lles cymunedol. 

9.37.

Dywed y strategaeth fod tua 20% o'r holl gyflogaeth datblygu newydd mewn lleoliadau gwledig. Gallai hyn ochr yn ochr a polisi tai i bobl leol (AHLN)  helpu cefnogi mentrau gwledig a chreu swyddi at anghenion lleol oddi wrth rannau arfordirol y sir.

9.38.

Mae graddfa'r datblygu a fo'n digwydd mewn ardal wledig angen bod yn cydweddu â'r lleoliad. Mae gan bentrefi gwledig lai o wasanaethau lleol a chysylltiadau cludiant cyhoeddus gwannach na'r mannau trefol. Felly byddai datblygu yn y llefydd hyn yn fwy dibynnol ar geir at ofynion dydd i ddydd. Gallai datblygu tai neu gyflogaeth sy'n ddibynnol ar geir o ran cludiant, fod yn ddrwg effaith o ran cynaliadwyedd. Byddai hynny nid yn unig oherwydd llygredd a newid hinsawdd, ond hefyd yn medru peri ynysu cymdeithasol i rai nad oes arnynt eisiau teithio â char neu rai sy'n methu â theithio â char. Y mae felly'n hanfodol fod graddfa ddatblygu newydd yn cael ei monitro gan y Cyngor i osgoi ymddangosiad patrymau datblygu anghynaliadwy. Rhan o hyn yw sicrhau fod pob datblygu cyflogaeth newydd mewn ardaloedd gwledig yn cydweddu gyda lleoliad a graddfa a fo'n abl i gyflawni ei swyddogaeth yn lleol.

9.39.

Tai Fforddiadwy

Mae’r strategaeth yn ceisio darparu llawer o dai fforddiadwy i diwallu anghenion lleol (AHLN) dros oes y cynllun (85% yn Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol a 15% yn Ardal y Strategaeth Datblygu Gwledig). Mae’r strategaeth a nodir yn DP/2, HOU/1 a HOU/2 yn dangos sut y cyflawnir hyn drwy ofyn bod cyfran o’r datblygu ar bob safle yn AHLN.  Rhaid i 30% o’r holl dai a ddarperir fod yn AHLN neu drwy gyfraniad ariannol. Mewn pentrefi gwledig ym Mhrif Bentrefi Haen 2 ac yn llai, bwriedir i 100% o gartrefi newydd fod yn AHLN. 

9.40.

Hyd yn oed os llwyddir i sicrhau’r gofyniad o 30% ym mhob datblygiad tai, ni fydd hyn ond yn fodd i ddarparu 2,040 o dai fforddiadwy, neu’n 2,370 o dai fforddiadwy os caiff yr holl safleoedd wrth gefn eu darparu. Mae Papur Cefndir 37 ar y ffigurau twf diwygiedig yn awgrymu bod y ffigur uchaf o enillion yn angenrheidiol er mwyn cynorthwyo i ddiwallu’r angen am dai. 

9.41.

Yng Nghynllun 2009 i’w archwilio gan y cyhoedd, cafwyd targed o 50% ar gyfer AHLN. Ar ddu a gwyn, gallai hyn fod wedi esgor ar gyfran uwch o dai fforddiadwy. Fodd bynnag, gallai’r nod uchel hwn fod wedi cael effaith andwyol ar ddichonadwyedd yr holl safleoedd tai, gan oedi datblygiad, ac arwain at fwy o broblemau o ran argaeledd tai. Risg arall sy’n gysylltiedig â phennu targedau AHLN uchel yw bod y costau hyn yn golygu na all datblygwyr wneud y cyfraniadau ariannol eraill sydd eu hangen i gefnogi gwelliannau i’r isadeiledd, ysgolion, cyfleusterau cymunedol a thechnegau adeiladu mwy cynaliadwy. Gallai hyn arwain at gael effaith andwyol   ar gynaliadwyedd ac amharu ar hygyrchedd cymunedau a phentrefi. Mae’n bosibl y bydd y targed isel diwygiedig yn fwy tebygol o sicrhau tai i ddiwallu anghenion pobl. 

9.42.

Ceir ym Mhapurau Cefndir 7 a 9, y manylion am y broses o amcangyfrif yr angen a pha mor hawdd fyddai gwireddu hyn. Mae'r asesu ar ba mor hyfyw fo hyn wedi dangos y gellid gwireddu'r nod. A phe bai'r CDLL yn llwyddiannus yn cyflawni gwireddu'r nifer yma o dai ar gyfer pobl leol gallai fod o les mawr i gymunedau gwledig.  Gallai budd cynaliadwyedd cymdeithasol gynnwys ei gwneud yn bosibl i deuluoedd aros yn yr ardaloedd gwledig, gan helpu gwarchod gallu pentrefi i fod yn hyfyw a bywiog drwy y byddai yno drigolion cymdeithasol gymysg o ystod o oedran. Byddai hynny wedyn yn helpu gwrthweithio'r dirywiad yn rhai o'r ardaloedd gwledig sy'n deillio o boblogaeth hir dymor yn heneiddio, a phobl mewn oed yn dod yno i ymddeol a chyda thai haf a allai fod yn wag dros dipyn o'r flwyddyn a phobl ifanc yn methu â fforddio tai. Gallai hefyd ddarparu gweithlu lleol a fyddai'n gwarchod yr economi wledig.

9.43.

Mae Cynllun 2010 i’w archwilio gan y cyhoedd hefyd yn cynnwys mwy o fanylion am sicrhau AHLN ac am sicrhau cadw’r cartrefi hyn am y tymor hir i’w defnyddio’n unol â’r hyn a fwriadwyd wrth eu hadeiladu. Yn y manylion, trafodir:

  • sut y caiff ‘angen lleol’ ei ddiffinio
  • pa gyfran (os o gwbl) sydd ar gyfer tai fforddiadwy canolradd
  • sicrhau bod tai’n fforddiadwy yn y tymor hir
  • rheoli darpariaeth tai fforddiadwy drwy gyfraniadau ariannol, ac
  • ansawdd cartrefi newydd.
9.44.

Dylai’r testun ychwanegol hwn helpu i sicrhau datblygiadau o’r math cywir, ac mae’n darparu ffynhonnell o dai ar gyfer y tymor hir. Dylai Canllawiau Cynllunio Atodol manwl wella’r broses o sicrhau darpariaeth AHLN a’i chadw am y tymor hir.

9.45.

Er mwyn sicrhau darpariaeth AHLN, a bod y bobl gywir yn byw yn y tai hynny, gallai fod yn drefniant addas i fwyafrif y cartrefi hyn fod dan reolaeth Landlord Cymdeithasol Cofrestredig neu Gymdeithas Tai. Bydd sicrhau bod stoc fforddiadwy’n parhau i fod felly yn y tymor hir hefyd yn hanfodol, ac mae’r dull o sicrhau hyn wedi’i nodi yn y testun ategol. Mae angen gweithredu’r egwyddorion a nodir yn y testun yn llym ar yr holl dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref Sirol. Yn ogystal â hyn, mae angen i’r egwyddorion hynny fynegi’n glir y dull o’u gweithredu, er enghraifft sut y caiff y Rhaeadr Feddiannaeth ar sail Cysylltiad Lleol ei gweithredu. 

9.46.

Rhyddhau Fesul Cyfnod a Rhyddhau Safleoedd Wrth Gefn

Mae’r angen i ryddhau safleoedd fesul cyfnod yn agwedd sy’n hollbwysig i’r Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd er mwyn cynnig y cyfleoedd gorau i sicrhau datblygiad sy’n diwallu anghenion yn y Fwrdeistref Sirol.  Mae rhyddhau tir fesul cyfnod hefyd yn caniatáu gwireddu amcanion datblygu cynaliadwy. Er enghraifft gall rhyddhau tir ar gyfer tai a chyflogaeth fesul cyfnod: 

  • gynorthwyo i flaenoriaethu safleoedd a all sicrhau’r budd mwyaf o ran datblygu cynaliadwy, fel tir a ddatblygwyd o’r blaen, mewn lleoliadau hygyrch neu mewn ardaloedd sydd angen adfywiad
  • cynorthwyo i sicrhau cyfatebiaeth rhwng twf economaidd a thwf tai, er mwyn helpu i greu patrymau datblygu mwy cynaliadwy sy’n lleihau cymudo i’r gwaith
  • cynorthwyo i sicrhau bod isadeiledd hanfodol yn ei le cyn darparu datblygiad. Bydd hyn o gymorth i greu cymunedau mwy cynaliadwy, a hefyd yn diogelu’r amgylchedd ac adnoddau naturiol.
9.47.

Ceir dau fath o ryddhau fesul cyfnod yn y CDLl.  Mae’r naill, yn syml, yn rhyddhau dyraniadau fesul cyfnod er mwyn sicrhau bod isadeiledd wedi’i sefydlu ac i adlewyrchu argaeledd y dyraniadau hynny. Mae’r dull o ryddhau’r safleoedd hyn fesul cyfnod wedi’i nodi’n glir yn un o atodiadau’r CDLl. Yma, rhyddheir fesul cyfnod er mwyn ymdrin â materion fel:

  • rheoli’r risg o lifogydd
  • gwelliannau i isadeiledd cyfleustodau
  • gwelliannau mynediad
  • argaeledd i ddatblygu
9.48.

Fodd bynnag, ceir hefyd safleoedd a ryddheir fesul cyfnod fel ‘safleoedd wrth gefn’ a gaiff eu cyflwyno os bydd angen tir ychwanegol i’w ddatblygu. Mae’r safleoedd wrth gefn ar gyfer:

  • 1,100 o gartrefi ychwanegol ar 17 o safleoedd a nodwyd yn ychwanegol (gan greu cyfanswm o 7,900)
  • 7ha o dir cyflogaeth ychwanegol ar ddau safle.
9.49.

Ceir arweiniad cyflogaeth cryf iawn i’r CDLl, gyda’r Cyngor yn dymuno gwella economi’r ardal drwy annog twf newydd mewn swyddi.  Mae creu economi gref yn rhan o’r gwaith o ddarparu datblygiad cynaliadwy, drwy ddiogelu sicrwydd ariannol hirdymor preswylwyr a’r buddion cymdeithasol a ddaw yn sgil cyflogaeth.  Er mwyn cyflawni’r nod hwn mewn unrhyw ardal, mae’n hanfodol sicrhau cyfatebiaeth rhwng twf cyflogaeth a thwf tai. Gan hynny, os nad yw targedau’n cael eu cyrraedd, gallai rhydau fesul cyfnod fod yn addas i sicrhau twf cynaliadwy.

9.50.

Os ceir anghyfatebiaeth rhwng lefelau tai a chyflogaeth, gall hyn gael effaith andwyol ar y gallu I sicrhau datblygu cynaliadwy, gan amrywio rhwng codiad ym mhris tai a chynnydd yn yr angen I deithio. Gall prinder tai hefyd gael effaith andwyol ar dwf economaidd gan na fydd yn darparu gweithlu ac ynddo’r gymysgedd addas I gyfateb â gofynion yr holl fathau o swyddi newydd a gaiff eu creu.

9.51.

Safleoedd tai

Mae papur cefndir 37 ar opsiynau twf pellach yn nodi na ddylid ond rhyddhau safleoedd tai yn sgil y sbardunau a nodwyd, ac y gellir dangos nad yw amcanion cyflogaeth yn cael eu cyflawni. Gallai sefyllfaoedd o’r fath gynnwys:

  • nad yw’r dyraniadau cyfredol yn y Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd yn cael eu cyflwyno i’w datblygu a bod oedi ar dwf economaidd
  • gallai safleoedd gael eu rhyddhau os cafwyd twf cyflym mewn cyflogaeth a bod safleoedd yn prinhau. 
9.52.

Nid yw polisi’r CDLl na’r fframwaith monitro’n pennu’r profion ar gyfer rhyddhau tir ar gyfer tai. Yn lle profion felly, mae’r testun ategol (adran 3.10) ar ryddhau safleoedd wrth gefn yn caniatáu ymagwedd mwy hyblyg tuag at ganiatáu datblygu ar y mathau hyn o safleoedd. 

9.53.

Mae’r testun yn cynnwys mwy na’r rhesymau economaidd dros ryddhau tir ychwanegol, ac yn cynnwys rhyddhau safleoedd newydd ar gyfer tai os nad yw amcanion eraill yn cael eu cyflawni. Oni chaiff yr amcanion eraill hyn, fel tai fforddiadwy neu fwy o dai i bobl ifanc eu diffinio’n glir, ni fydd modd eu gweithredu fel dangosyddion i sbarduno rhyddhau tir.  Er enghraifft, ni all y CDLl ddiwallu’r holl AHLN, hyd yn oed drwy’r holl ddatblygiadau tai newydd, felly mae’n anochel y caiff safleoedd wrth gefn eu rhyddhau.

9.54.
Heb sail glir i’r drefn ar gyfer safleoedd wrth gefn, gallai’r cynllun fod yn agored i’r ddadl y dylid caniatáu mwy o ddatblygu gan fod y ddarpariaeth eisoes wedi’i ‘defnyddio’, gan fod y gyfradd o ddatblygiadau tai wedi’u cwblhau’n fwy na’r cyflenwad yn y cynllun, neu fod rhai safleoedd sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun wedi’u dangos fel safleoedd na ellir eu darparu. Bydd hyn yn gwrthweithio’r strategaeth ofodol a ddewiswyd.
9.55.

Mae’r cynllun yn nodi y bydd safleoedd yn cael eu rhyddhau’n unol â’r strategaeth fonitro ac adolygiad trylwyr yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR). Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn cynnwys y manylion sydd eu hangen i gyfiawnhau a rheoli’n llawn y broses o ryddhau safleoedd unigol. 

9.56.

Safleoedd cyflogaeth

Ar gyfer cyflogaeth, agwedd arall sy’n peri anhawster wrth gyflawni’r dosbarthiad gofodol cynaliadwy yr anelir ato yn y cynllun, yw bod y cynllun yn caniatáu safleoedd cyflogaeth newydd ar ymylon Ardaloedd y Strategaeth Datblygu Trefol.  Nid yw’n glir sut y bydd modd cyfiawnhau’r safleoedd hyn os na chaiff y safleoedd wrth gefn eu datblygu. Mae’n bosibl y bydd perchnogion safleoedd wrth gefn yn gallu defnyddio’r rhesymeg hon i gyflwyno’u safleoedd yn gyfreithlon, gyda’r potensial o danseilio’r strategaeth ofodol a darpariaeth datblygiad cynaliadwy. 

9.57.

Blaenoriaethu safleoedd wrth gefn

Ar ôl nhoi bod angen rhyddhau safleoedd i’w defnyddio fel safleoedd wrth gefn, mae angen dull i roi’r safleoedd hynny yn nhrefn blaenoriaeth. Er enghraifft a wneir penderfyniadau ar sail lleoliad y datblygu yn unig, neu a fydd ffactorau eraill yn cyfrif, fel:

  • maint y safle
  • cynaliadwyedd y safle o ran mynediad
  • pa mor agos yw’r safle at leoliad cyflogaeth sbardunol
  • pa mor ddichonadwy yw’r safle er mwyn cynnwys cyfran uchel o dai fforddiadwy.
9.58.

Mae’n hanfodol bod y CDLl yn cyfleu’n glir y dull o gyflwyno’r safleoedd wrth gefn hyn i’w datblygu. Mae angen gwneud hyn er mwyn gallu eu rheoli mewn modd nad yw’n tanseilio’r strategaeth ofodol a ddewiswyd nac yn peryglu’r gallu i gyflawni amcanion datblygu cynaliadwy. Bydd hyn hefyd yn cyfrannu tuag at sicrhau cynllun cadarn.

9.59.

Cymhwyso'r Strategaeth i'r CDLl

Fel rhan o wneud CDLl mwy cryno a dealladwy gallai fod yn gweddu i newid y modd y mae'r Strategaeth yn cael ei chyflwyno yn y ddogfen.  Yn y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd mae trafodaeth am y Strategaeth yn rhan ar wahân o'r CDLl. Er mwyn bod yn eglur awgryma'r AC fod y polisïau strategol yn cael eu cynnwys yn yr Adran hon.  Felly byddai fersiynau wedi cael gwelliannau o'r polisi fel, DP/2, DP/3, HOU/1, HOU2, EMP/1 a EMP/2, a sawl un arall sy'n delio â materion strategol  un rhan o'r strategaeth. 

9.60.

Byddai hyn yn osgoi'r angen i ailadrodd adrannau o gyfiawnhad rhesymol a pholisïau a pham y dewiswyd y strategaeth,  rôl y trefi ac is-ardaloedd gwahanol, yr hollt rhwng gwledig a threfol, strategaeth economaidd a maint y datblygu a chyflawniad tai fforddiadwy angen lleol. 

9.61.

Y diben fyddai gosod y fframwaith y byddid wedyn yn cloriannu pob datblygu gydag ef ar gychwyn y CDLl. Gyda'r polisiau rheoli datblygu yn darparu'r manylion angenrheidiol i osgoi drwg effeithiau a gwneud y mwyaf o'r lles cynaliadwyol.

« Back to contents page | Back to top