10. Arfarnu Cynaliadwyedd Penodau'r Testunau

10.1.

Mae'r rhan hon o'r adroddiad  arfarniad cynaliadwyedd (AC) yn crynhoi'r canfyddiadau'r arfarnu gerfydd penodau testun y  CDLl, sef:

  • yr egwyddorion a fo'n pennu lleoliad datblygiad
  • y strategaeth dai
  • y strategaeth economaidd
  • twristiaeth
  • adnoddau a gwasanaethau cymunedol
  • yr amgylchedd naturiol
  • y dreftadaeth ddiwylliannol
  • cludiant cynaliadwy
  • strategaeth mwynau a gwastraff.
10.2.

Mae'r arfarniadau ar bolisïau unigol i'w gweld yn Atodiad 1. Dylid darllen yr atodiad hwnnw ar y cyd â'r adran honno o'r  adroddiad AC, fel y gellir cael gwell syniad o ymhlygiadau tebygol y polisiau ar gyfer datblygu cynaliadwy, hefyd ar gyfer gweld yr argymhellion manwl ar sut y gellid diwygio'r polisi i wella perfformiad cynaliadwyedd a lliniaru effeithiau.

10.3.
Nid  darparu asesiad o'r ymdrafod o faterion cynaliadwyedd y CDLl yn unig a wna'r AC, ond hefyd gloriannu'r modd y mae'r materion hynny'n cael eu cyflwyno. Mae defnyddioldeb polisiau yn hollol ynghlwm wrth eu cynnwys cynaliadwyol. Pe na bai'n glir sut y mae polisiau i gael eu rhoi ar waith, oherwydd nad yw'n eglur na phendant sut y byddid yn penderfynu ar fater, yna ni fydd ni fydd y fath bolisïau’n effeithiol yn gwireddu datblygu cynaliadwy,  waeth beth oedd eu bwriad.  Felly fe geir rhai awgrymiadau yn yr AC sut y gellid gwneud polisiau'n haws i'w deall neu sut y gellid gwneud y CDLl yn fwy eglur. 
10.4.

Mae ymdrafod  â materion Strategol a godwyd yn y polisiau, fel dosbarthu twf, tai fforddiadwy yn Adran 9 yr adroddiad AC  ar y strategaeth ofodol. 

10.5.

Arfarnu Cynaliadwyedd yr ‘Egwyddorion sy'n penderfynu lleoliad datblygiad’

Mae polisiau'r Adran hon yn cynnwys egwyddorion strategol fyddai'n pennu lleoliad datblygiad. O dan yr adran ar  y strategaeth ofodol yn yr adroddiad ceir trafodaeth fanwl ar bolisi DP/2:  Dull Strategol Trosfwaol 

10.6.

Mae'r adran hon yn cynnwys sawl elfen sy'n dangos ymrwymiad y Cyngor i gyflawni  datblygu mwy cynaliadwy yng Nghonwy. Mae hyn yn cynnwys y gofyn i'r strategaeth ddatblygu ofodol ganolbwyntio y rhan fwyaf o ddatblygu yn y rhan drefol ar arfordir y sir, gan ddal i ganiatáu twf yn yr ardal wledig ar gyfer angen lleol. 

10.7.

Mae gan y polisiau yn ymwneud â materion fel dylunio da, egwyddorion adeiladu cynaliadwy, a meini prawf perthnasol i'w gwireddu gan bob datblygiad, y potensial i helpu cyflawniad datblygu mwy cynaliadwy yng Nghonwy.

10.8.

The strategy of a plan has a role in setting out the principles that will guide development of strategic sites.  The Colwyn Bay Masterplan is mentioned in the text and the SA does comment that there may be role for more detailed policy criteria for delivering an integrated and sustainable scheme at this site. 

10.9.

Mae'r AC yn cydnabod y gallai fod peth ailadrodd diangen o fewn yr adran hon o'r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd.  Mae Adran 8  yr  adroddiad AC  yn nodi, mae sicrhau bod polisiau'n eglur ac osgoi ailadrodd yn gallu bod yn fanteisiol i gyflawni datblygu heb oedi o fewn egwyddorion cynaliadwyedd.

10.10.

Mae'r  AC yn awgrymu y gellid adolygu rhai polisiau neu eu cymhathu i rai eraill, ac ambell dro eu dileu'n gyfan gwbl. 

10.11.

Y Strategaeth Dai

Mae'r ddau bolisi cyntaf sy'n ymwneud â  lleoliad  a dyraniad tai newydd a gwireddu codi  tai fforddiadwy  yn cael eu trafod fel rhan o strategaeth ofodol Conwy (Adran 9).

10.12.

Mae polisi arfarnu'r polisiau tai yn codi rhai materion a allai gael effaith ar gyflawni datblygu cynaliadwy yng Nghonwy.

10.13.

Section 9 contains concerns over the management of contingency sites in the LDP.  Policy HOU/3 could be expanded to address this issue for housing allocations, adding the policy detail necessary for successful implementation.

10.14.

Mae polisi HOU/3  yn gosod  dull o reoli pa mor ddwys y bydd tai newydd yn cael eu codi ar safle. Gallai gosod isafrif o 30 tŷ yr hectar (tyh) helpu defnyddio tir yn fwy effeithlon drwy ostwng y tir angenrheidiol i fedru codi hyn a hyn o dai. Mae dwysedd uwch hefyd yn cefnogi mynediad gwell at wasanaethau ac adnoddau, drwy greu ffurfiant trefol cryno a chynnal mas critigol o boblogaeth y byddai eu hangen ar gyfer gwasanaethau lleol hyfyw, fel siopau a theithiau bws.

10.15.

Mae'r polisi yn gosod uchafrif o 50 tyh ar gyfer datblygiad. Nid yw gosod uchafrif dwysedd, yn enwedig mor isel â 50 tyh yn cydweddu a datblygu cynaliadwy. Byddai uchafrif dwysedd o ddim ond 50 tyh yn peri colli cyfleoedd i wneud y gorau o dir mewn mannau hygyrch a allai helpu gwireddu amcanion yr AC a'r CDLl o deithio mwy cynaliadwy.  Yn hytrach nag uchafrif dwysedd, dylai'r CDLl ddibynnu ar bolisïau dylunio a gwarchod yr amgylchedd adeiledig a hanesyddol, i sicrhau fod datblygiadau newydd, beth bynnag fo eu dwysedd yn cydweddu â'u hamgylchiadau.  Mae'r AC hefyd yn awgrymu isafrif dwysedd o 50 tyh ar gyfer lleoliadau mwy hygyrch, ger canolfannau teithio, neu orsafoedd trên neu yng nghanol trefi.

10.16.

Mae polisi HOU/5 yn pennu meini prawf ar gyfer darparu cymysgedd o fathau o dai ar safleoedd datblygu newydd. Mae i ddarparu cartrefi i ddiwallu ystod eang o anghenion fanteision o ran cynaliadwyedd. Fodd bynnag, dylai cyfran o’r datblygiad gael ei hadeiladu i fod yn addas i deuluoedd , a’i chynnwys yn rhan o ddatblygiad tai fforddiadwy. 

10.17.

Mae'r AC yn cefnogi'r safiad cryf sy'n cael ei ddangos gan y cynllun dros wireddu cael tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol (AHLN). Mae hyn yn cynnwys defnyddio safleoedd eithriedig y tu allan i ardaloedd gwledig. Fodd bynnag mae sicrhau fod y polisi'n un clir yn gymorth i gyflawni'r math yma o dai, fel y byddai egluro materion ganllawiau cynllunio atodol yn achos tai fforddiadwy at anghenion lleol. (SPG i AHLN).

10.18.

Mae darparu tŷ i bawb yn rhan bwysig o gyflawni datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys safleoedd parhaol i Sipsiwn, Teithwyr a Theithwyr Sioe. Mae polisi HOU/9 yn sefydlu’r ymagedd ar gyfer gwireddu safle i'r fodloni anghenion y grwpiau hyn. Mae polisïau’n seiliedig ar feini prawf yn werthfawr lle nad yw’r angen am y math hwn o safle’n hysbys hyd yma, gan eu bod yn caniatáu gwneud penderfyniadau fesul safle ynghylch addasrwydd ceisiadau cynllunio newydd ar gyfer y math hwn o ddatblygiad. Fodd bynnag, yn debyg i fathau eraill o dai, mae’n ffafriol nodi safleoedd drwy’r CDLl, gan ddangos bod y cynllun yn cydnabod ac yn ymrwymo i ganfod safleoedd i’r cymunedau hyn.  

10.19.

Safleoedd Tai a Chyflogaeth

O ganlyniad i’r adolygiad o’r dyraniadau mae’r safleoedd a ddyrannwyd wedi newid yn sylweddol rhwng Cynllun 2009 i’w archwilio gan y cyhoedd a Chynllun 2010 i’w archwilio gan y cyhoedd.  Mae nifer o’r safleoedd a ddyrannwyd yn fersiwn 2009 y Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd wedi cael eu hepgor a safleoedd newydd wedi cael eu dyrannu. 

10.20.

Mae nifer y dyraniadau tai hefyd wedi newid, ac wedi gostwng ers y fersiwn flaenorol. Mae hyn yn annisgwyl gan fod y nifer gwirioneddol o dai a ddarperir yn sgil drwy’r cynllun wedi cynyddu. Fodd bynnag, mae hyn yn cynrychioli gorddarpariaeth fawr o safleoedd tai yn fersiwn 2009, sefyllfa nad oedd yn perfformio’n dda o ran creu strategaeth gynaliadwy.  

10.21.
Mae’r newid sylweddol mewn dyraniadau tai rhwng y naill fersiwn a’r llall yn codi pryder nad oed fersiwn flaenorol y Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd yn gadarn iawn. Gallai’r dyraniadau fod wedi arwain at ganlyniadau llai cynaliadwy, er gwaethaf y sicrwydd yn y CDLl blaenorol bod y safleoedd hynny a gafodd eu dewis yn addas a chynaliadwy. 
10.22.

Cefnogir dyraniadau’r Cynllun diwygiedig i’w archwilio gan y cyhoedd gan adolygiad newydd o safleoedd posibl fel y nodir ym Mhapur Cefndir 21 – Y Gallu i Ddarparu Safleoedd. Dylai’r dyraniadau safle newydd, yn dilyn yr asesiad trylwyr ohonynt, fod yn fwy sicr o gael eu cyflwyno i’w datblygu na’r gyfres flaenorol.  Mae’r adolygiad safleoedd yn nodi sut mae’r safleoedd yn cyfateb â phrawf cymalog a’r cyfyngiadau posibl y mae angen eu goresgyn i’w darparu. Mae’r dull hwn yn integreiddio elfennau o ddatblygiad cynaliadwy i’r broses o ddewis safleoedd, ac yn amodol ar reolaethau darparu a allai helpu i ddarparu datblygiadau mwy cynaliadwy.

10.23.

Mae adolwg o'r arfarniadau o safleoedd preswyl yn dadlennu fod gan y dyraniadau'r potensial pe na fyddid yn eu gweithredu'n sensitif o gael nifer o effeithiau cynaliadwyedd. Dylai’r cynllun fesul cyfnod gynorthwyo i sicrhau na chaiff safleoedd eu datblygu ond lle ceir eisoes isadeiledd, er mwyn osgoi unrhyw effeithiau andwyol.

10.24.

Mae arfarniad y Cyngor o safleoedd yn gweld lle gall hyn fod yn angenrheidiol. Mae rhai o'r rhain wedi eu crynhoi yn y paragraffau sy'n dilyn.

10.25.

Llifogydd:  mae llawer o’r safleoedd yn yr arfarniad gyda risg rhannol o lifogydd.  Byddai datblygu ar y safleoedd hyn yn gofyn dwyn i ystyriaeth farn Asiantaeth Amgylchedd Cymru, a chyrraedd at y canllaw cenedlaethol ar ddatblygu mewn parthau llifogydd. Caiff y safleoedd hyn eu rhyddhau fesul cyfnod yn ddiweddarach fel bo modd sefydlu mesurau lliniaru addas. Bydd hyn yn cynnwys yr angen i baratoi Asesiad Canlyniad Llifogydd.

10.26.

Tirwedd, Cefn Gwlad a Golygfeydd: mae nifer o'r safleoedd hyn wedi cael eu gweld fel rhai yn cael effaith ar y dirwedd, cefn gwlad a golygfeydd. Dim safleoedd glasfaes yn unig yw'r rhain, maent hefyd yn cynnwys tir a ddatblygwyd o'r blaen, ac mae rhannau o rai safleoedd mewn Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Mae rhai safleoedd fel Dinerth Hall Farm, Llandrillo yn Rhos mewn ardaloedd tirwedd sensitif dynodedig.   Mae effeithiau hefyd wedi cael eu nodi ar safle gwledig, y tir i'r de o'r Felin, Llanddulas. Gallai’r effeithiau hyn fod yn effeithiau ar Ardal Cymeriad Tirwedd. Mae amryw o safleoedd gwledig, gan gynnwys rhai yn Llysfaen, wedi’u dynodi’n bwysig gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru oherwydd eu natur agored.  Ar gyfer bron bob un o'r safleoedd lle gwelwyd y ceid effaith o'r fath, ni roddwyd unrhyw eglurhad sut y dylid datblygu yno gan osgoi drwg effeithiau, ac felly pam o'r herwydd fod y safle yn dal i gael ei ystyried yn un addas ar gyfer dyraniad tai. Bydd angen cyfleu’n glir sut y defnyddir dylunio sensitif a sgrinio i leihau effeithiau andwyol ar safleoedd o’r fath.

10.27.

Bioamrywiaeth:  mae nifer o'r safleoedd yn rhai y tybir fel rhai a photensial o effaith niweidiol ar fioamrywiaeth.  Mae'r rhain yn cynnwys safleoedd ym Mae Cinmel, Hen Golwyn Bae Colwyn  a Thywyn a safleoedd gwledig yn Llanddulas.  Nodir yn y Rheoliadau Asesu Cynefinoedd ar gyfer y CDLl fod datblygiad oddi ar Lôn Derwen,  Bae Penrhyn gyda photensial o effeithio ar ardal  Goetir y Creuddyn - ond ni thynnir sylw at hyn wrth arfarnu'r safle. Gallai amryw o safleoedd, fel y rhai o amgylch Llanrwst, fod yn cynnal ystlumod, felly mae angen astudiaeth bellach o oblygiadau datblygu.  Mae angen i'r CDLl ddangos ei fod wedi cymryd ystyriaeth lawn yr effeithiau potensial ar y mannau cadwraeth natur hyn, neu fedru rhoi polisïau ar waith i wneud yn siŵr nad yw eu datblygu'n niweidio'r safleoedd hyn. Dylai Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd sicrhau na cheir unrhyw niwed sylweddol i safleoedd Cadwraeth Natur Ewropeaidd.

10.28.
Amgylchedd Hanesyddol :  Nodwyd bod safle yn Ffordd Top Llan, Glan Conwy yn un a photensial o gael drwg effaith ar adeilad rhestredig, ond ni thrafodir sut y byddai'r broblem hon yn cael ei goresgyn pe byddid yn datblygu'r safle. Yn Smithy Hill, Llanfairtalhaiarn ceir hefyd botensial am weddillion archaeolegol y mae angen eu hasesu cyn unrhyw waith datblygu.
10.29.

Mynediad:  dengys yr arfarniadau safle fod gan bob un o'r safleoedd a neilltuwyd mynediad at o leiaf lleiafswm o lefel o wasanaethau, ac mae hyn yn cynnwys siopau, meddygfeydd, gwaith yn ogystal â mynediad at ganolfannau o radd uwch drwy gludiant cyhoeddus neu ar feic. Mae mynediad at wasanaethau’n ystyriaeth allweddol wrth bennu addasrwydd safle.

10.30.

Tai Fforddiadwy:  mae'r arfarniadau yn nodi fod yr holl dir sy'n eiddo i'r Cyngor i gael ei ddatblygu 100%  ar gyfer tai fforddiadwy.

10.31.

Adnoddau Cymunedol - I osgoi drwg effaith ar y Gymuned, lle bo defnydd cymunedol yn cael ei golli i dai rhaid dangos nad oes mwyach yr angen am yr adnodd hwnnw, neu fod adnodd tebyg neu  un gwell newydd yn cael ei ddarparu yn rhywle arall fel rhan o ddatblygiad newydd. Lle bydd datblygiad defnydd cymysg yn cael ei hyrwyddo, dylid cynnwys cynnwys polisïau neu feini prawf polisi ychwanegol ynghylch sut i ddarparu hyn ar y safle.

10.32.

Effeithiau Isadeiledd: mae gan amryw o'r safleoedd anghenion isadeiledd arbennig, ac ni ellid dal ymlaen heb i'r rheiny gael eu datrys. Er enghraifft ceir safle yn Abergele sy'n ddibynnol ar ffordd gyswllt newydd A55/A548 a gwelliannau yng nghyflenwad dŵr ar gyfer safleoedd yn Nhywyn a Llanrwst.

10.33.

Byddai llawer o’r safleoedd mwy a’r ardaloedd adfywio’n elwa ar Friff Datblygu neu gynllun gweithredu arall ar gyfer yr ardal. Hyd yma, ni cheir ond un ar gyfer Bae Colwyn. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o gyfeirio a geir yn y cynllun at y ffaith bod unrhyw un o’r safleoedd ar gyfer defnydd cymysg, neu i fodloni galw penodol (fel twristiaeth).

10.34.

Er mwyn cynorthwyo i ddarparu datblygiadau cynaliadwy a sicrhau y caiff safleoedd eu defnyddio yn y modd gorau, dylai’r holl safleoedd datblygu mwy fod â chynllun cyfredol ar gyfer eu darparu. Dylai briffiau datblygu drafod amrywiaeth o faterion a fyddai’n cynorthwyo i sicrhau y caiff y safle ei ddarparu mewn modd sydd mor gynaliadwy ag sy’n bosibl. Gallai briffiau datblygu gynnwys:

  • Codau dylunio ar gyfer datblygu, sy’n trafod materion fel nifer, uchder adeiladau, dwyseddau ac arddulliau.
  • Y gymysgedd o ddatblygiadau a’r lleoliadau dangosol ar gyfer y gwahanol fathau o ddatblygiad
  • Cynllun safle trefol posibl neu ffactorau y byddai’n rhaid eu hystyried wrth ddiffinio cynlluniau safle, fel llwybrau symud neu warchod nodweddion ar y safle.
  • Y cyfraniadau, neu’r cyllid a ragwelir gan y datblygwr, fel nifer o dai fforddiadwy, mannau agored a darparu isadeiledd.
  • Safonau adeiladu cynaliadwy i’w bodloni, gan gynnwys cyfleusterau draenio trefol cynaliadwy
  • Ynni carbon isel ar gyfer y safle, gan gynnwys gwres a thrydan i’r ardal.
  • Cynllun gweithredu ar gyfer darparu’r datblygiad, yn enwedig cyfleusterau ac isadeiledd cymunedol, gan gynnwys ffynonellau ariannu a phartneriaid darparu.
10.35.

Y Strategaeth Economaidd

Dylai'r strategaeth helpu i gyfrannu tuag at wireddu twf economaidd cynaliadwy yn ardal y cynllun.  Y strategaeth yw canoli  cyflogaeth twf yn yr ardal strategaeth ddatblygu drefol gan ragweld fod 80% o ddatblygu cyflogaeth yno, a 20% yn yr ardal wledig.
10.36.

Dylai twf cyflogaeth wedi ei ganoli ar yr ardal drefol helpu creu patrymau datblygu fyddai'n gostwng yr angen am deithio drwy helpu pobl fedru byw yn ymyl eu gwaith. Byddai lleoli cyflogaeth newydd mewn lleoliadau y gellir defnyddio cludiant cyhoeddus neu gerdded neu feicio i'w cyrraedd, hefyd yn fodd i gynorthwyo gostwng y dibynnu ar geir.

10.37.

Byddai caniatáu twf economaidd yn yr ardal wledig  hefyd yn help i fentrau gwledig allu ffynnu gan fod yn gymorth i gefnogi parhad elfen hyfyw'r cymunedau gwledig  i'r dyfodol. 

10.38.

Mae arfarniad  polisiau yn codi rhai materion mewn perthynas â'r strategaeth economaidd.  Mae'r polisi arfarnu yn argymell  peth egluro ar y polisiau neu newid rhai i helpu sicrhau fod y math hwn o ddatblygiad yn cael ei gyflawni'n gynaliadwy.

10.39.

Mae dau bolisi cyntaf yr adran hon a'r cyfiawnhad cefnogol iddynt, yn dangos y strategaeth gyfannol i wireddu twf economaidd  yng Nghonwy drwy'r dyrannu tir ar gyfer hyn. Nodir yn yr AC rai gwelliannau posibl i’r dull o gyfleu’r polisïau economaidd. Byddai hyn yn cynorthwyo i fynegi nod y polisi’n gliriach, ac felly sut y gellir ei roi ar waith.

10.40.

Codir rôl safleoedd wrth gefn ar gyfer cyflogaeth hefyd yn yr AC, a sut y dylid rheoli’r safleoedd hynny. Codir goblygiadau cynaliadwyedd safleoedd wrth gefn yn adran 9 yr AC. Mae’r AC yn cyfeirio’n benodol at reoli’r broses o ryddhau’r safleoedd hyn os caniateir datblygu safleoedd eraill nas dyrannwyd ar gyrion trefi.

10.41.

Ni cheir polisïau ar safleoedd defnydd cymysg. Mae safleoedd o ddefnydd cymysg yn cael eu dyrannu i'w datblygu yn yr adran hon. Mae'r AC yn nodi fod y safleoedd hynny mewn lleoliadau gwledig, neu mewn mannau llai hygyrch.  Byddai'n hanfodol fod graddfa ddatblygu yn adlewyrchu'r angen mewn ardal. Byddai hynny i rwystro peri i batrymau teithio anghynaliadwy deillio o ddatblygiad cyflogaeth newydd.

10.42.

Twristiaeth

diwydiant hwn mewn modd sy'n cydweddu â'r weledigaeth am ddyfodol yr ardal a datblygu cynaliadwy.  Gwna arfarniad cynaliadwyedd y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd argymhellion ar sut y gellid addasu'r polisiau hyn i gael twristiaeth gynaliadwy.  Mae hyn yn cynnwys bod yn fwy eglur ar le byddid yn caniatáu datblygiadau twristaidd  neu beidio,  yn unol â'r strategaeth ofodol.  Nid yw  Polisi DP/2 nac EMP/1 yn glir ynglŷn â sut byddid yn trin ceisiadau cynllunio twristaidd, er enghraifft lle y byddid yn ffafrio lleoli'r math hwn o dwf ac a fyddid yn rhoi hawl i hyn y  tu allan i'r ardaloedd wedi eu datblygu.
10.43.

Mae llawer o'r llety twristaidd yn y sir mewn safleoedd carafannau cabanau gwyliau neu wersylla. Mae polisi TOU4/5  yn ceisio cyfyngu ar ddatblygiadau o'r fath yn y dyfodol. Gallai rheoli twf y safleoedd hyn gael effaith gadarnhaol ar ansawdd y dirwedd a datblygiadau adeiledig. Mae'r polisi hwn hefyd yn trafod mater manwl iawn, ac yn hytrach, hwyrach y byddai'n gweddu i ddibynnu ar bolisïau strategaeth y CDLl megis  gwarchod tirwedd, dylunio, mynediad ac ansawdd amgylchedd adeiledig fel sail i wrthod ceisiadau anaddas. 

10.44.

Adnoddau a Gwasanaethau Cymunedol

Mae'r Adran hon o'r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd yn delio â materion perthynol i fanwerthu, a mannau agored. 

10.45.

Mae'r polisiau adwerthu yn amlinellu strategaeth gyffredinol ar gyfer caniatau datblygiadau adwerthu newydd a gwarchod adwerthu sy'n bod yn barod. Gall lleoliad datblygiadau adwerthu fod yn gyfraniad pwysig at ostwng yr angen am deithio. Dylid  blaenoriaethu datblygu mewn lleoliadau hygyrch nad ydynt yn dibynnu ar deithio mewn car, neu fannau lle bo datblygiad adwerthu yn rhan o ardal gymysg ei defnydd.  

10.46.
Gellid gwella'r strategaeth ddatblygu adwerthu i roi mwy o sicrwydd  o ble y byddid yn caniatau'r math hwn o ddatblygu ac i ba raddfa. Mae'r geiriad presennol yn annelwig. Mae'n hanfodol sicrhau fod datblygiad o'r math hwn yn gweddu i'w leoliad a'i gefndir i gefnogi patrwm mwy cynaliadwy o ddatblygu sy'n gostwng yr angen am deithio.  Gallai polisi ddefnyddio profion olynol i gloriannu datblygiad adwerthu lle bo hynny'n bosibl a chyfyngu ar ddatblygiadau alldrefol. 
10.47.

Y mae'r polisiau hefyd yn ceisio gwarchod cymeriad parthau siopa presennol, er eu bod mewn rhai amgylchiadau yn rhoi hawl i newid defnydd pe na bai hynny'n niweidio pa mor hyfyw fyddai canolfan. I hwyluso'r math yma o ymdrin â'r sefyllfa fe allai fod yn gweddu nodi'n benodol pa fath o ddatblygiad na fyddai'n cael ei ganiatáu yn y mannau siopa hyn. Mae polisi CFS/6 â'i amcan ar warchod siopau lleol rhag newid defnydd. Mae'r math hwn o bolisi'n bwysig er mwyn cadw'r gwasanaethau angenrheidiol i gefnogi cymunedau lleol hyfyw a gostwng y pellter mae pobl yn ei deithio i gael nwyddau hanfodol. Gall fod yn gweddu i ymestyn hyn i helpu gwarchod gwasanaethau lleol eraill gan gynnwys canolfannau cymunedol, tafarnau a swyddfeydd post.

10.48.

Mae gwarchod mannau agored a chael rhai  newydd  yn rhan hanfodol o greu cymdogaethau cynaliadwy. Gall mannau agored helpu gwireddu amrywiaeth o amcanion datblygu cynaliadwy, yn cynnwys iechyd a lles, bioamrywiaeth a mynediad teg.  Gallai peth eglurdeb geirio helpu gwneud yn siŵr fod y nodweddion llesol hyn yn cael eu sicrhau fel rhan o bob datblygiad newydd. 

10.49.
Mae'r polisiau hefyd yn trafod gwarchod rhandiroedd, sydd ag ymhlygiadau cadarnhaol ar ddatblygu cynaliadwy. Mae rhoi lle i bobl dyfu eu bwyd eu hunain yn medru bod yn lles o ran iechyd ac yn amgylcheddol wrth gynhyrchu bwyd yn lleol. Mae rhandiroedd mewn mannau trefol yn asedau bioamrywiaeth pwysig. Wrth benderfynu ar roi hawl i newid defnydd rhandiroedd presennol, dylid ystyried beth fyddai'r galw tymor hir am y safleoedd hyn, gan feddwl a allai fod mwy o ofyn amdanynt yn y dyfodol.
10.50.

Nid yw'r polisiau yn trafod mathau eraill o adnoddau cymunedol fel neuadd gymunedol ac adnoddau hamdden. Mae gofyn cael polisiau addas i osgoi colli safleoedd presennol a chael rhai newydd fel rhan o'r hyn fyddai'n cefnogi cymunedau lleol cynaliadwy.  Byddai hyn yn cynnwys defnyddio cyfraniad datblygwr  fel modd o gyflawni'r math hwn o ddatblygiad.

10.51.

Yr Amgylchedd Naturiol

Yn y polisiau hyn trafodir materion perthynol i warchod yr Amgylchedd Naturiol. Mae hyn yn elfen hanfodol i gyflawniad datblygu cynaliadwy yng Nghonwy. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod safleoedd sydd wedi eu dyrannu'n cael eu datblygu mewn modd sy'n gwarchod a meithrin ansawdd yr Amgylchedd Naturiol, a helpu yn y broses o benderfynu pa mor addas fyddai datblygiad ar safle sydd heb ei neilltuo.

10.52.

Mae polisiau cenedlaethol a deddfwriaeth yn gosod tipyn o'r fframwaith i warchod safleoedd sydd wedi eu dynodi'n statudol. Gall polisiau'r CDLl  ychwanegu at hyn i sicrhau y byddai ystyriaethau mwy lleol yn cael eu dwyn i'r fantol, yn cynnwys yr angen i wneud yn siŵr fod asedau amgylcheddol o bwysigrwydd lleol hefyd yn cael eu hamddiffyn.

10.53.
Mae AC y polisiau yn nodi y gallai fod yn gweddu i'r CDLl gynnwys mwy o fanylion penodol lleol.  Mae hyn yn cynnwys yr angen am gydnabod fod Conwy  mewn ardal o ansawdd  amgylcheddol uchel.  Er enghraifft gellid cloriannu effaith datblygu yng Nghonwy ar olygfeydd o Barc Cenedlaethol Eryri. Ymhellach, yn dilyn yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd  gall fod yn gweddu i bolisïau gyfeirio'n benodol at yr angen am warchod safleoedd natur yng Nghonwy ac o gwmpas y sir sydd wedi eu dynodi'n rhyngwladol. Er bod polisiau cenedlaethol yn delio â'r rhain,  gall fod angen cyfeirio at safleoedd penodol o'r fath a fo'n agos at leoliadau lle bo potensial datblygu neu lle bo datblygu'n cael ei gynnig.   Enghraifft o hyn fyddai Coetir y Creuddyn y byddai angen ei warchod rhag datblygiad ym Mae Penrhyn.
10.54.

Mae'r Adran hon o'r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd hefyd yn ymwneud â'r angen am ddefnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon mewn datblygiad newydd.  Mae hyn yn elfen hanfodol i gyflawni datblygu cynaliadwy, gan fod ansawdd y datblygiad a ragwelir drwy'r CDLl  gyda'r potensial o fod ag angen defnydd o adnoddau sylweddol wrth weithredu ac adeiladu. Er enghraifft , mae'r polisi yn cynnwys dull cam-wrth-gam i wireddu tai mwy cynaliadwy o dan y 'Côd ar gyfer Tai Cynaliadwy'.  Byddai rhai gofynion pellach yn helpu sicrhau adeiladu cynaliadwy, yn cynnwys yr angen i ddangos sut y mae datblygwyr i fod i ddangos eu bod yn cydymffurfio ar faterion perthynol i'r defnydd ynni a dŵr  ac adeiladu cynaliadwy.

10.55.

Gallai’r polisi ar gynhyrchu ynni’r gwynt ar y tir gynorthwyo i annog y math hwn o ddatblygiad yn yr ardal chwilio a ddynodwyd. Wrth weithredu’r polisi hwn, dylid cydnabod pwysigrwydd sicrhau mwy o ynni o ffynonellau nad ydynt yn dibynnu ar danwydd ffosil. Mae ynni adnewyddadwy’n rhan annatod o ddyfodol cynaliadwy, o ran lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac er mwyn ymateb i effeithiau penllanw olew. Gan hynny, dylid cymhwyso meini prawf mewn modd trugarog o fewn yr ardal chwilio, yn enwedig mewn perthynas â’r effeithiau ar dirwedd yn lleol neu drwy’r Fwrdeistref Sirol.

10.56.

Mae’r arfarniad cynaliadwyedd hefyd yn argymell y dylid cynnwys polisïau ychwanegol i hyrwyddo dulliau datganoledig o gynhyrchu ynni carbon isel. Dylid nodi safleoedd datblygu mwy, neu grwpiau o safleoedd, lle ceir potensial i gynhyrchu ynni ar-safle, neu lle gellid sefydlu rhwydweithiau gwres ac/neu drydan i’r ardal. Gellid cynnwys y math hwn o gynllun mewn briffiau datblygu ar gyfer safleoedd, fel yr amlygir ym mharagraff 10.34 yr adroddiad AC hwn.

10.57.

Mae sawl man yn y sir gyda risg o ddioddef llifogydd,  sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd a gafodd eu dyrannu. Felly, dylai'r CDLl  gynnwys polisi llifogydd penodol ar y modd y dylai'r safleoedd hyn gael eu trafod o fewn ardal y cynllun.  Mae gwneud yn siŵr nad yw datblygiad newydd mewn man sydd â risg gormodol o lifogydd  yn bwysig i ddatblygiad cynaliadwy, yn cynnwys gwarchod iechyd a lles meddyliol.

10.58.

Y Dreftadaeth Ddiwylliannol

Mae gan Gonwy llawer iawn o  dreftadaeth ddiwylliannol a hanesyddol. Mae treftadaeth adeiledig hanesyddol yn adnodd cyfyngedig pe'i collid nad ellid fyth ei gael yn ôl. Felly mae'r polisiau hyn yn hanfodol i'w warchod.

10.59.
Mae'r arfarniad polisi yn nodi y byddai gofyn cael gwybodaeth gan y Cyngor ar nodweddion mannau wedi i'w gwarchod sydd a gofyn i'w parchu a'u hamddiffyn. Bydd hynny'n help i ddatblygwyr fedru dangos sut y mae eu datblygiadau yn dwyn y rhain i ystyriaeth, ac i swyddogion rheoli datblygiad sylwi ar le mae angen am welliannau. Gall gwybodaeth o'r math hwn arwain at geisiadau a phenderfyniadau gwell ac felly well gwarchodaeth ar y dreftadaeth ddiwylliannol. 
10.60.

Mae'r AC yn cwestiynu diben polisi CTH/4 ac a yw meini prawf y polisi hwn yn debygol o helpu ynteu amharu ar warchodaeth asedau treftadaeth yn ardal y cynllun.

10.61.

Mae'r Gymraeg  yn hanfodol i gymeriad llawer o gymunedau'r sir. Mae felly'n bwysig nad yw datblygu'n cael effaith niweidiol ar y dreftadaeth hon. Mae'r AC y polisiau yn nodi y gallai fod yn anodd gweld sut y gall datblygiad effeithio ar yr iaith, ac efallai bod rhai o'r amcanion ar gyfer twf economaidd yn groes i les y Gymraeg.   

10.62.

Y Strategaeth Gludiant Gynaliadwy

Mae cael rhwydwaith cludiant mwy cynaliadwy yn hanfodol ar gyfer gostwng effeithiau datblygu ar yr amgylchedd, cymdeithas a'r economi, yn cynnwys:

  • lliniaru newid hinsawdd
  • gostwng llygru'r awyr
  • gostwng effeithiau ar iechyd
  • darparu mynediad tecach, ar hyn o bryd ac yn y tymor hir
  • lleihau tagfeydd i ostwng amser teithio i fusnesion a symud nwyddau.
10.63.

Llwyddo i gael shifft foddol o'r defnydd o geir drwy:

  • wneud ffyrdd eraill o deithio yn  fwy deniadol a hyfyw fel dewisiadau amgen i yrru
  • helpu cyflawni strategaeth fo'n hyrwyddo patrwm datblygiad a allai ostwng yr angen cyfannol i deithio, yn cynnwys y gymysgfa o ddefnydd a chanoli trefol.
10.64.

Mae polisiau yn yr Adran hon,  ynghyd â strategaeth y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd, yn anelu at gyflawni hyn.  Dylai polisi ar feysydd parcio helpu sicrhau nad yw'r nifer o fannau parcio yn dadwneud ymdrechion i annog pobl i ddefnyddio dulliau eraill o deithio. Dylai hyn sicrhau hefyd fod datblygiad mewn lleoliadau hygyrch, fel canol trefi gyda llai o lefelau o barcio er mwyn hyrwyddo dewisiadau amgen. 

10.65.

Mae defnyddio cynlluniau cludiant a datganiadau cludiant yn fodd o wneud yn siŵr fod datblygwyr  wedi dangos sut y maent yn bwriadu i'w datblygiad helpu gostwng defnyddio ceir. Gall gwybodaeth ychwanegol ar beth yn union ddylai fod yn y datganiadau hyn, a sut y dylasent gael eu defnyddio i gloriannu ceisiadau, helpu sicrhau fod y dogfennau hyn yn rhai effeithiol a defnyddiol.

10.66.
Mae'r strategaeth ofodol ar gyfer datblygu yn rhan hanfodol o ostwng maint y galw am deithio, creu trefi neu un grŵp gweithredol o drefi hunan-gynhaliol. Fodd bynnag  dylai materion strategol aros yn rhan o'r strategaeth, gyda'r adran hon yn canolbwyntio ar fesurau rheoli datblygu'n unig.
10.67.

Mae polisi STR/5 yn rhestru prosiectau penodol y bydd y CDLl yn helpu eu rhoi ar waith drwy neilltuo tir iddynt. Mae sawl un o'r rhain ar gyfer gwella cludiant cyhoeddus a llwybrau beicio ac y mae cynnwys y rhain yn help i beri bod y cynlluniau hyn yn cael eu gwireddu. Maent yn hanfodol fel rhan o amcan mwy o ostwng y defnydd o geir. Mae cynlluniau ffyrdd newydd yn rhai llai cadarnhaol o safbwynt cynaliadwyedd, gan y gallant arwain at gynnydd yn y defnydd o geir a pheri drwg effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol.

10.68.

Mwynau a Gwastraff

Mae polisiau mwynau'r adran hon yn ymwneud a gwarchod yr adnoddau presennol drwy rwystro diffrwythloni drwy i  ddatblygiad gael ei gamleoli. 

10.69.

Mae'r polisiau mwynau'n datgan na bydd chwareli craig newydd yn cael eu caniatáu yng Nghonwy, er y dylid gwarchod y gweithredu yn y chwareli sy'n bod yn barod. Bydd hyn yn helpu gostwng yr effaith botensial y câi chwarelu ar bobl a'r amgylchedd yn ardal y cynllun.  Fodd bynnag, mae'r AC yn nodi pe na bai'r galw yn y tymor hir am gerrig  yn gostwng, byddai gwarchod yr amgylchedd yn lleol yn gwneud dim ond symud y broblem, nes bod effaith y chwarelu'n symud i rywle arall yn y wlad neu'r byd.  Byddai hynny'n  wedyn yn peri y byddai angen cludiant o bell i'r cerrig, sef yn groes i egwyddorion cynaliadwyedd.

10.70.

Mae'r polisiau gwastraff  yn dangos nod o symud at reolaeth fwy cynaliadwy o wastraff, yn lleihau'r swm y ceir gwared arno mewn mannau tirlenwi. Mae'r CDLl  yn cynnwys rhai safleoedd lle gellid lleoli cyfleusterau gwaredu newydd, ond nid yw'n dynodi defnydd penodol i safleoedd penodol. Mae'r AC y polisi yn nodi y gallai fod yn well dynodi safleoedd drwy'r CDLl i helpu gwireddu , ac felly yn y tymor byr beri bod mwy o reoli gwastraff yn gynaliadwy.  Byddai cynnwys y safleoedd  gwastraff yn y CDLl yn golygu y byddant yn ffurfio rhan o'r strategaeth gyfannol o reoli gwastraff yng Nghonwy. Mae peidio â dynodi safleoedd yn golygu y byddai'n rhaid penderfynu drwy broses reoli datblygu a gallai hynny amharu ar y gwireddu

« Back to contents page | Back to top