11. Lliniaru

11.1.

Mae Cyfarwyddeb AAS yn gofyn am i ystyried cael ei wneud o faint o effeithiau o bwys a adnabyddwyd yn y broses AC y gellid lliniaru eu heffaith. 

11.2.

Gellid lliniaru drwg effeithiau potensial y strategaeth mewn nifer o ffyrdd fel a nodir yn y  paragraffau sy'n dilyn.

11.3.

Gall addasu geiriad polisiau er mwyn mireinio polisi helpu gweithredu datblygiad cynaliadwy mwy llwyddiannus. Gallai hynny gynnwys, gwneud y geiriad yn fwy eglur yn rhai o'r polisiau i helpu cyflawni'r deilliant polisi a geisid. Gallai hynny gynnwys gosod gofynion y dylai datblygiad eu cyflawni er mwyn cael caniatâd. 

11.4.

Noda'r AC y byddai ad-drefnu polisiau yn gallu gwneud y CDLl yn fwy eglur drwy leihau'r ailadrodd a geir ynddo. Gallai hynny olygu dileu rhai polisiau sydd heb fod yn cynnwys dim meini prawf ynglŷn â rheoli datblygu, gan gyfuno rhai eraill a chael gwared â rhai sy'n rhoi trosolwg o bolisïau eraill.

11.5.
Gosod gofynion i ddatblygwyr i ddangos sut y maent i fod i drafod ystyriaethau amgylcheddol a chynaliadwy o fewn eu datblygiadau.  Gallai hyn gynnwys yr angen am ddarparu cynlluniau teithio, asesiadau ecolegol, asesiadau risg llifogydd, asesiadau priodol o dan y rheoliadau cynefinoedd a'r 'Côd ar gyfer Tai Cynaliadwy' 
11.6.

Paratoi brasluniau dyluniad, neu uwchgynllun.  Gallai hyn fod ar gyfer safleoedd dyranedig mwy neu fannau o ddefnydd cymysg. Gallai'r dogfennau hyn gael eu mabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol i'r CDLl ac yn medru cynnwys:

  • y  gymysgfa o ddatblygiad y byddid yn ei disgwyl ar safle, yn cynnwys darpariaeth dai fforddiadwy, neu  ‘ganolbwyntiau cymunedol’
  • mesurau gwarchod a meithrin bioamrywiaeth
  • y safonau adeiladu cynaliadwy y dylid eu cyrraedd
  • y gyfran o ynni a ddefnyddid ar y safle y dylid ei gynhyrchu ar y safle neu gan y safle, neu fod ffynhonnell ynni adnewyddadwy gerllaw, neu ffynonellau carbon isel.
  • cludiant cyhoeddus, cysylltiadau cerdded neu feicio.
11.7.
Dylai manylion o sut y gellid defnyddio cyfraniadau neu oblygiadau datblygwr er mwyn cael budd cynaliadwy nghyswllt â datblygiad newydd, cyfraniadau penodol tuag at  welliannau cludiant cyhoeddus, gwelliannau i faterion yn y cylch cyhoeddus, a thai fforddiadwy. 
11.8.

Un o'r prif ffyrdd i gyflawni datblygiad ac o bosibl liniaru'r effeithiau ydyw  llunio'r CDLl  i gyd-fynd â chynlluniau a strategaethau eraill yn ardal y cynllun.  Mae hyn yn cynnwys gwireddu trefn gludiant cyhoeddus o'r safon uchaf er mwyn gwella mynediad drwy'r cynllun cludiant lleol a rhaglenni eraill, cyflawni adfywio cymunedol a strategaethau i helpu gwireddu datblygiad canol tref, isadeiledd gwyrdd a chynlluniau eraill a strategaethau ar warchod a meithrin yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.

« Back to contents page | Back to top