12. Monitro'r Arfarniad Cynaliadwyedd

12.1.

Mae gofyn fod  monitro'r arfarnu cynaliadwyedd.  Mae hyn yn darparu cloriannu gweithrediad y CDLl  ar ddatblygiad cynaliadwy. Dylai hyn ystyried effeithiau cadarnhaol a negyddol, a phe bai raid gallai beri bod adolygu yn digwydd. 

12.2.
Gofynion penodol y  Rheoliadau AAS ar fonitro ydyw: 

“Monitro'r effeithiau amgylcheddol sylweddol o 'i weithredu…gyda'r diben o adnabod effeithiau niweidiol heb eu rhagweld yn fuan” (Rheoliad 17(1))

12.3.
Mae'r fframwaith cynaliadwyedd yn fan cychwyn da ar gyfer datblygu targedau a dangosyddion monitro. Fodd bynnag gall monitro ar gyfer yr AC fod yn rhan o broses fonitro ar gyfer y CDLl,  gan ddefnyddio is-set o'r amcanion monitro cyfannol.  Mae rheoliadau AAS  yn datgan yn benodol fod monitro ar gyfer AAS yn medru cael ei ymgorffori i drefn fonitro arall (Rheoliad17(2)), ac felly gall fod yn bosibl cyfuno gyda'r cynigion monitro blynyddol y CDLl. 
12.4.

Ni raid monitro ond unwaith mae'r CDLl  wedi ei fabwysiadu a'i fod wedi cychwyn cael ei roi ar waith. Felly ni raid  cytuno ar  fframwaith monitro i'r AC tan fo fframwaith monitro'r CDLl yn ei le.  

12.5.
Mae llawer o'r dangosyddion a gynigir i'r CDLl  wedi eu hamlinellu yn fersiwn sydd i'w chyhoeddi o'r CDLl, a gellid eu defnyddio i fonitro materion cynaliadwyedd. Yn Atodiad 4, dangosir y cysylltiad rhwng dangosyddion monitro’r CDLl fel y maent yn ymddangos yn adran 5 y CDLl ac amcanion cynaliadwyedd. Pwrpas hyn yw dangos sut mae gwaith monitro a phroses yr AC yn rhyngysylltiedig.
12.6.

I lunio fframwaith monitro llwyddiannus i'r CDLl  rhaid i'r Cyngor sicrhau fod y mynegeion sy'n cael eu dewis ar gyfer monitro yn rhai hydrin, yn gwir fesur effeithiau gweithrediad  y CDLl a sydd yn delio â materion y mae gan y CDLl ddylanwad uniongyrchol arnynt. Dylai'r mynegeion hefyd drafod materion sydd â gofyn amdanynt drwy bolisi a pheidio â llunio mynegeion sy'n trafod materion heibio disgwyliadau polisi iddynt.

12.7.

Wrth osod  fframwaith monitro i'r CDLl  rhaid i'r mynegeion a thargedau a ddewisir fod yn rhai:

  • penodol - yn gymaint â'i bod yn berthnasol i bolisi amcanion. Mae mynegeion a ddefnyddiwyd gan y CDLl yn adlewyrchu'r hyn a sefydlwyd yn y polisi a'r strategaeth, ac nid ydynt yn ymddangos eu bod yn ofynion diffiniol sydd yn mynd tu hwnt i bolisi nac yn amrywio oddi wrtho
  • atebol - rhaid wrth fonitro dangosyddion gael canlyniadau sy'n uniongyrchol berthnasol i bolisïau’r CDLl., heb fod yn faterion sydd dan ddylanwad neu'n fwy tebygol o fod dan ddylanwadu materion y tu allan i reolaeth y CDLl. 
  • mesuradwy -dylid medru casglu data neu wybodaeth yn realistig gyda'r dangosyddion. Dylid ystyried a ellid gwneud hynny pe ceid yr amser a'r adnoddau i'w gyflawni. Gallai'r dangosyddion fod yn rhai â chyswllt i ddata wedi ei gasglu'n barod gan gyrff eraill heblaw am yr awdurdodau cynllunio.
  • graddfa  amser –  dylai'r dangosyddion fod yn medru cael eu monitro ar raddfa reolaidd, fel arfer yn flynyddol, i fod yn rhan effeithiol o raglen fonitro. 

« Back to contents page | Back to top