13. Casgliadau ac Argymhellion

13.1.

Mae arfarniad cynaliadwyedd, y fersiwn i’w archwilio gan y cyhoedd o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Conwy yn dangos bod sawl agwedd ar y strategaeth a pholisïau sy'n debygol o gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae yna hefyd fwriad amlwg gan y CDLl  i wireddu datblygu cynaliadwy, fel sy'n cael ei ddangos yng ngweledigaeth ac amcanion strategol y CDLl. 

13.2.

Strategaeth Ofodol Gynaliadwy

Mae llunio strategaeth gynaliadwy yn rhan hanfodol o greu CDLl cynaliadwy.   Byddai blaenlwytho'r cynllun a rhoi iddo strategaeth ofodol gynaliadwy o'r cychwyn yn golygu y gallai  gweddill y cynllun ddilyn hynny'n syml i gyflawni datblygu cynaliadwy yn yr ardal. Gan ddefnyddio polisïau rheoli datblygu i fireinio'r cyflawni ac i gael y gorau o'r datblygu.

13.3.

Un o brif swyddogaethau strategaeth ofodol ydyw cyflawni datblygiad mwy cynaliadwy drwy ostwng y ddibyniaeth ar deithio gyda cheir. Gellir gwneud hynny drwy gefnogi gwelliannau cludiant cyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio. Er hynny, yn bwysicach na hyn mae'r strategaeth ofodol sy'n gosod patrwm datblygu sydd yn y lle cyntaf yn gostwng yr angen am deithio neu'r pellter y byddid yn ei deithio.   

13.4.

Mae gan y strategaeth ofodol rôl hanfodol wrth ddosbarthu datblygu ac o'r herwydd  yn rhoi siâp ar ffurfiant y trefi a'r pentrefi yn y dyfodol. Dylai chwilio am ffyrdd i gael cymysgedd o ddefnydd tir gwahanol, fel tai, gwaith a gwasanaethau. Dylai pobl fedru mynd at y rheiny heb ddefnyddio ceir. Dylai'r strategaeth gysylltu lle mae pobl yn byw gyda'u gweithleoedd. Mae cymudo dyddiol yn peri bod nifer helaeth o siwrneiau car anghynaliadwy ac yn aml yn rhoi rhai na allant deithio gyda char dan anfantais.

13.5.

Gall gostwng teithio beri bod budd cynaliadwyedd o bwys  Mae hyn yn cynnwys:

  • Gostwng allyriadau i'r awyr,  gan fod yn lles i ansawdd yr awyr yn lleol a helpu lliniaru yn erbyn newid hinsawdd
  • Lleihau cyfraniad Conwy i newid hinsawdd
  • Gostwng tagfeydd traffig a allai fod yn lles i'r economi
  • Bod yn lles i iechyd, drwy ostwng llygru'r awyr a gostwng drwg effeithiau ar ffyrdd llawn tagfeydd
  • Bod o fudd cymdeithasol, drwy y byddai gan fwy o bobl fynediad haws a thecach at waith a gwasanaethau  lle nad oes manteision i'r bobl hynny sy'n medru neu'n dewis teithio gyda char.
13.6.
Mewn egwyddor,  mae strategaeth y CDLl yn cydweddu gyda'r  dull gweithredu o lunio strategaeth ofodol gynaliadwy. Mae'r strategaeth yn canoli y rhan fwyaf o ddatblygu ar yr 'Ardal Strategaeth Ddatblygu Drefol'  a dylai helpu hyrwyddo patrymau mwy cynaliadwy o ddatblygu, yn gostwng y gofyn am deithio.
13.7.

Yn ychwanegol, byddai caniatáu i gyfran o'r datblygu ddigwydd yn yr ardaloedd gwledig yn medru helpu cynnal cymunedau bywiog a hyfyw, drwy ddarparu tai fforddiadwy i bobl leol a mentrau gwledig newydd. Mae’n bosibl y gellid bod wedi canfod, mewn gwybodaeth ychwanegol am rolau presennol a phosibl pentrefi gwledig, fod gan rai ohonynt y gallu i gynnwys lefel uwch o dwf. Gallai hyn helpu i gefnogi economi leol gref a rhoi ffocws i’r gefnwlad wledig.

13.8.

Mae dosbarthiad gofodol datblygu yn cael ei gefnogi gan bolisi sy'n gofyn i bob safle gyflenwi cyfran uchel o dai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol. Gallai hyn fod yn lles i ddadwneud y dirywiad  yn y cymunedau gwledig a sicrhau fod pobl ifanc yn medru fforddio aros yng Nghonwy. Fodd bynnag, mae'r AC yn nodi'r angen i sicrhau bod tai’n cael eu cyflwyno i’w datblygu er mwyn diwallu’r angen a nodwyd am dai fforddiadwy. Gan mai dim ond 6,800 o gartrefi newydd sydd i gael eu hadeiladu, rhaid gweithredu’r targed o 30% o dai fforddiadwy yn llym er mwyn sicrhau hyn.

13.9.

Mae'r AC hefyd yn cwestiynu sail y dosbarthu ar dai a chyflogaeth o fewn yr Ardal  Strategaeth Ddatblygu Drefol.  Ychydig o sicrwydd sy'n cael ei roi yn y CDLl  fod hyn wedi ei seilio ar ddarparu anghenion penodol ardaloedd gwahanol. Er enghraifft , byddai'n help ar beri bo'r trefi neu un grŵp gweithredol o drefi'n  fwy hunan-gynhaliol  sy'n help i wireddu patrymau mwy cynaliadwy i ddatblygu, drwy ostwng teithio a rhoi mynediad deg.

13.10.

Mae'r AC hefyd yn nodi nad oes llawer iawn o wahaniaeth rhwng nifer y tai y rhagwelir y byddant yn cael eu codi ar hap-safleoedd a’r rhai hynny ar safleoedd tai wedi eu neilltuo.  Er mwyn sicrhau fod y safleoedd hyn yn cael eu datblygu yn unol â'r strategaeth ofodol, awgryma'r AC y dylid geirio polisïau strategol yn ofalus i ddangos lle byddid neu le na byddid yn rhoi caniatâd datblygu, a'r raddfa addas o ddatblygu o fewn trefi a phentrefi gwahanol.

13.11.

Cynllun Defnyddiadwy

Rhan o sicrhau gwireddu datblygu'n gynaliadwy,  fel ei ceir yn y strategaeth a'r polisiau, fydd sicrhau y bydd y  CDLl  yn medru cael ei ddeall yn hawdd a'i roi ar waith. I'r perwyl hwn mae'r AC yn cynnig rhai awgrymiadau cyffredinol parthed newidiadau i'r CDLl  a fyddai'n lles o ran eglurdeb a defnyddioldeb y ddogfen.  Am y rheswm hwn, ceir awgrymiadau cyffredinol gan yr AC ar newidiadau i'r CDLl er lles eglurdeb a defnyddioldeb y ddogfen. 
13.12.

Ar hyn o bryd mae'r CDLl yn eithaf hir a byddai ei gwtogi'n ei gwneud yn haws i'w ddeall a'i ddefnyddio. Gallai hynny gynnwys:

  • tynnu ymaith beth o'r ailadrodd yn y cyflwyniad, y strategaeth a'r 'cyfiawnhad wedi ei resymu' yn y polisïau strategol
  • cyfyngu polisïau i'r rhai sy'n gosod meini prawf datblygu yn uniongyrchol, yn unol ag arweiniad cyfredol Llywodraeth y Cynulliad  
13.13.

Byddai rhoi'r  testun a pholisïau'r 'strategaeth ofodol'  wedi eu gwahanu oddi wrth y polisïau rheoli datblygu hefyd yn gallu helpu gwella eglurdeb y CDLl.  Gallai'r strategaeth ofodol osod y fframwaith y byddid yn ei ddefnyddio i gloriannu pob cynnig datblygu. Byddai polisïau rheoli datblygu yn cael eu defnyddio i sicrhau fod y mwyaf posibl o les o ran cynaliadwyedd yn deillio o bob datblygiad newydd a chan osgoi drwg effeithiau ar yr un pryd.

13.14.

Maes Gweithredu'r Polisi

Asesodd yr AC gynnwys polisïau’r CDLl. Yr oedd hyn er mwyn gweld sut yr oedd y polisïau ynddo yn debygol o gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy yn ogystal ag argymhellion ar sut y gellid eu gwella.

13.15.

Egwyddorion a fo'n Pennu Lleoliad Datblygu: Mae'r polisïau hyn yn cynnwys y brif strategaeth ar gyfer datblygu. Mae cynaliadwyedd y rheiny yn rhan o strategaeth ofodol yr AC.  Mae polisïau eraill yn rhai sy'n gadarnhaol i gyflawni datblygu mwy cynaliadwy, ac yn cynnwys egwyddorion dylunio da a datblygu cynaliadwy. Mae'r AC yn argymell rhai newidiadau i bolisi a darlleniad i osgoi dyblygu adrannau eraill o'r CDLl.  

13.16.
Strategaeth Dai:  Mae materion strategol parthed codi tai newydd yn cael eu trafod yn arfarniad y strategaeth ofodol. Dylai'r polisïau tai helpu gwireddu amcanion datblygu cynaliadwy perthnasol i gynaliadwyedd cymdeithasol. Esiampl o hyn fyddai'r polisi tai fforddiadwy a allai fod o help i gefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy.   
13.17.

Mae'r AC yn rhoi argymhellion am  newidiadau posibl i helpu gwireddu datblygu mwy cynaliadwy, yn cynnwys:

  • er mwyn gwneud y defnydd gorau o dir wedi ei neilltuo i dai y dylid adeiladu cymaint â phosibl ar safle
  • y gallai fod gofyn gwneud yn fwy eglur y polisi ar safleoedd Sipsiwn, Teithwyr neu Deithwyr Sioe Symudol i sicrhau fod neilltuo lle'n cael ei benderfynu ar anghenion gwahanol pob un o'r grwpiau hynny.
13.18.
Adolygodd yr AC hefyd y dyraniadau tai a wnaed yn y CDLl, gan ddefnyddio arfarniad y Cyngor o safleoedd fel sail.  Mae arfarniad y Cyngor yn ddefnyddiol  i adnabod cyfyngiadau potensial datblygu ar y dyraniadau. Dylid dilyn hynny yn y CDLl drwy gynnwys rhestr weithredu ar gyfer pob safle yn crybwyll y cyfyngiadau a'r mân ystyriaethau a berthyn i safle a'r modd y dylai datblygwr fynd ati i ddwyn y rhain i ystyriaeth wrth lunio cynigion datblygu.  
13.19.

Cwestiynai’r AC hefyd sut y penderfynwyd mai’r safleoedd a ddyranwyd oedd y rhai mwyaf addas – roedd bylchau yn nata arfarniad y Cyngor ar rai safleoedd. Mae’n hanfodol bod y Cyngor yn gallu cyfiawnhau bod y dyraniadau a ddewiswyd yn gydnaws ag amcanion datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys gallu dangos na cheid niwed i’r amgylchedd naturiol ac adeiledig o ganlyniad i ddatblygu’r dyraniadau hyn, lle bo safleoedd amgen tebyg ar gael. Mae’r wybodaeth hon yn arbennig o bwysig o ystyried yr adolygiad sylweddol o safleoedd a ddyrannwyd i’w datblygu rhwng fersiynau 2009 a 2010 y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd.

13.20.

Datblygiad defnydd cymysg: Math arall o wybodaeth a all gynorthwyo’r darllenydd i ddeall rôl y CDLl a dyfodol y Fwrdeistref Sirol yw gwybodaeth mwy safle-benodol am ddyraniadau. Mae amryw o’r safleoedd a ddyrannwyd i’w datblygu i gynnwys cymysgedd o ddefnyddiau. 

13.21.

Er mwyn sicrhau datblygiad mor gynaliadwy ag sy’n bosibl yn y lleoliadau hyn, gellid cynnwys Briffiau Datblygu ac / neu bolisïau penodol yn y CDLl. Byddai’r rhain yn trafod y nod cyffredinol wrth ddatblygu neu ailddatblygu safle, gan gynnwys y gymysgedd o ddefnyddiau, canllawiau dylunio, goliau ynni carbon isel a gwelliannau mynediad.

13.22.

Safleoedd wrth Gefn ar gyfer Tai: Mae’r AC yn nodi’r risgiau posibl yn y modd y caiff safleoedd wrth gefn ar gyfer tai eu rheoli yn y CDLl. Gellid bod angen i’r CDLl roi mwy o sicrwydd ynghylch yr union sbardunau a fyddai’n caniatáu cyflwyno’r safleoedd hyn i’w datblygu. Er budd datblygu cynaliadwy, awgrymir na ddylid ond rhyddhau’r rhain er mwyn cyrraedd targedau twf economaidd. Gallai caniatáu eu rhyddhau er mwyn bodloni awydd mwy cyffredinol i gyflawni amcanion y cynllun   danseilio’r strategaeth a ddewiswyd ar gyfer y CDLl. Gallai fod yn anodd dadlau achos yn erbyn datblygwyr sydd am gyflwyno’r safleoedd hyn yn unol â’u meini prawf eu hunain.

13.23.
Bydd hefyd yn bwysig canfod ffordd o drefnu bod safleoedd wrth gefn yn cael eu rhyddhau yn ôl blaenoriaeth. Mae angen i’r CDLl bennu meini prawf a fydd yn sicrhau mai’r safleoedd mwyaf cynaliadwy a ddewisir yn gyntaf.
13.24.

Y Strategaeth Economaidd:  Mae materion strategol o gyflawniad y codi tai yn cael eu trafod yn yr arfarniad ar y strategaeth ofodol. Mae'r strategaeth yn cynnwys caniatáu tua 20% o ddatblygiadau cyflogaeth newydd yn yr ardaloedd gwledig. Mae'r AC yn nodi y dylid rhoi caniatâd i'r math hwn o ddatblygu pan fo ar raddfa addas i'w leoliad, i osgoi achosi patrymau teithio anghynaliadwy. Er hynny, gallai fod yn llesol i gymunedau cefn gwlad o gefnogi mentrau gwledig. 

13.25.

Er mwyn gwneud y cynllun yn fwy eglur, mae’r AC yn awgrymu y dylid cael gwared â’r drefn o rannu gofynion tir cyflogaeth i ‘newid a ragfynegir yn y boblogaeth’ ac ‘i leihau allgymudo’.  Ni ymddengys fod polisi, dyraniadau na thestun y CDLl yn gwahaniaethu rhwng y math o ddatblygiad na natur y lleoliad a gynrychiolir gan y categorïau hyn.

13.26.

Safleoedd wrth gefn ar gyfer Cyflogaeth:  Gallai rheoli’r broses o ryddhau’r 7 hectar ychwanegol o dir cyflogaeth gael ei danseilio gan y polisi sy’n caniatáu datblygu safleoedd nas dyrannwyd ar gyrion trefi. Os caniateir cyflwyno safleoedd ychwanegol i’w datblygu, mae’n bosibl na fydd modd cadw safleoedd wrth gefn yn ôl, a gallai hyn danseilio’r strategaeth a ddewiswyd.

13.27.

Rhan hanfodol o economi Conwy yw Twristiaeth. Er mwyn sicrhau eu bod yn helpu gwireddu datblygu newydd o ansawdd uchel a chefnogi gweithgaredd twristaidd sydd eisoes yn bod, mae'r AC yn awgrymu rhai newidiadau i'r polisïau ar dwristiaeth. 

13.28.

Gwasanaethau ac Adnoddau Cymunedol: Dylai polisïau'r adran hon helpu cefnogi cyflawniad a gwarchod adnoddau a gwasanaethau hygyrch sy'n hanfodol i gymunedau hyfyw. Mae'r polisïau yn cynnwys cefnogi adwerthu ac amddiffyn siopau rhag newid defnydd amhriodol, gwarchod a dyrannu safleoedd rhandiroedd, a sicrhau mannau agored newydd fel rhan o ddatblygiad.

13.29.

Fodd bynnag, mae'r AC yn rhoi rhai argymhellion lle gellid gwneud gwelliannau i bolisïau i helpu perfformiad cynaliadwy:

  • Gallai polisi adwerthu gynnwys dull strategol olynol o gyflawni'r math hwn o ddatblygiad, yn ffafrio canol trefi i helpu gostwng teithio gyda cheir a adwerthu alldrefol sy'n cael drwg effaith ar ba mor hyfyw yw siopau o fewn y trefi a'r pentrefi.
  • Byddai polisïau yn caniatáu peth newid defnydd mewn canolfannau siopa, yn gallu helpu sicrhau na byddai unedau gweigion yn andwyo cymeriad yr ardaloedd hynny. Er hynny, hwyrach y byddai'n gweddu i ddweud sut fath o ddefnydd a fyddai neu na fyddai'n cael ei ganiatáu yn yr unedau hynny, i helpu gwneud yn siŵr fod y mannau hyn yn aros yn bennaf ar gyfer siopau. 
  • Er mwyn gwarchod gwasanaethau cymunedol dylai fod polisi ychwanegol i warchod yr holl adnoddau cymunedol presennol, (e.e. neuaddau cymunedol a chanolfannau hamdden) rhag newid defnydd, oni bai bod safle amgen wedi ei ganfod neu eu bod yn cael eu hymgorffori mewn datblygiad newydd.
13.30.

Yr Amgylchedd Naturiol: Mae gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol, lle bo hynny'n bosibl, yn hanfodol i sicrhau cyflawniad cynaliadwy datblygu. Fodd bynnag, mae gwelliannau i'r polisi'n cael eu hargymell gan yr AC:

  • Byddai'n gweddu efallai i gyfeirio yn y polisi at safleoedd wedi eu gwarchod ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Ni ddylai hyn ailadrodd polisïau cenedlaethol ond gallai adlewyrchu ar ymhlygiadau'r dynodiadau hyn ar yr ardal leol, e.e. golygfeydd o Barc Cenedlaethol Eryri, a chyfeirio at safleoedd cadwraeth natur o ddynodiad rhyngwladol yng Nghonwy, yn enwedig pe bai datblygu dyranedig yn agos iawn at rai o'r safleoedd hyn.
  • Drwy sicrhau y byddai cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn rhan o ddatblygiad, gallai weddu i'r CDLl osod gofynion ar gyfer safleoedd mwy i ystyried pa mor hyfyw fyddai cynllun cyfun o wres a phŵer.
  • Gellid cynnwys polisi ar risg llifogydd yn y CDLl i helpu osgoi bod datblygiadau bregus yn cael eu rhoi mewn mannau anaddas oherwydd y perygl o lifogydd.
13.31.
Treftadaeth Ddiwylliannol: Mae Conwy yn cynnwys ardaloedd sydd wedi eu nodweddu  gan dreftadaeth adeiledig hanesyddol a diwylliannol o ansawdd uchel. Dylai'r polisïau yn yr adran hon helpu gwarchod hyn, er y gellid gwneud rhai newidiadau iddynt i'w gwneud yn fwy eglur.
13.32.

Strategaeth Gludiant Gynaliadwy:  Mae'r CDLl  yn cynnwys polisïau i helpu gwireddu rhwydwaith cludiant wedi ei wella yng Nghonwy. Mae hyn yn cynnwys gwarchod tir ar gyfer cludiant cyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio. Mae'r rhain yn hanfodol i helpu sicrhau shifft foddol oddi wrth ddefnyddio ceir, a chan hynny ostwng yr effeithiau ar yr amgylchedd a iechyd a chefnogi mynediad  tecach. Mae polisïau hefyd yn cynnwys gwarchod  tir ar gyfer ffyrdd newydd. Mae'r CDLl yn cydnabod nad yw ffyrdd newydd yn perfformio'n dda fel modd o gyflawni datblygu mwy cynaliadwy. Er eu bod yn lles economaidd ac yn  gostwng tagfeydd ar y dechrau, bydd ffyrdd yn anorfod yn cael drwg effaith ar bobl a'r amgylchedd yn y tymor hir.

13.33.

Mwynau a Gwastraff: mae'r polisi mwynau yn datgan na bydd chwareli craig newydd yn cael eu caniatáu yng Nghonwy, er y dylid gwarchod y gweithredu yn y chwareli sy'n bod yn barod. Bydd hyn yn helpu gostwng yr effaith botensial y câi chwarelu ar bobl a'r amgylchedd yn ardal y cynllun.  Fodd bynnag, mae'r AC yn nodi pe bai'r galw yn y tymor hir am gerrig  yn gostwng, byddai gwarchod yr amgylchedd yn lleol yn gwneud dim ond symud y broblem nes bod effaith y chwarelu'n symud i rywle arall yn y wlad neu'r byd.  Byddai hynny'n  wedyn yn peri y byddai angen cludiant o bell i'r cerrig, sef yn groes i egwyddorion cynaliadwyedd. Dylai polisïau ar ddiogelu safleoedd gro a thywod helpu cadw'r adnodd yma i'r dyfodol.

13.34.

Mae'r CDLl  yn rhestru math ar adnodd gwastraff y gellid ei ddatblygu yn ardal y cynllun a lleoliadau posibl. Er hynny, i helpu cyflawniad y safleoedd hyn yn y tymor byr, a helpu gwireddu rheoli gwastraff mwy cynaliadwy, byddai'n well neilltuo safleoedd a defnydd penodol drwy'r CDLl. Mae dibynnu ar y broses geisiadau cynllunio i benderfynu ar safleoedd yn debygol o fod yn broses arafach, yn enwedig pe byddid yn tybio fod rheoli gwastraff yn berygl i iechyd, fel cafn compostio ac adennill ynni.

« Back to contents page | Back to top