15. Atodiad 2 - Crynodeb o Argymhellion ac Ymateb Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

1.

Crynodeb o Argymhellion ac Ymateb Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Comisiynodd y Cyngor Baker Associates i ymgymryd ag Arfarniad Cynaliadwyedd (AC) y Cynllun Datblygu Lleol i’w Archwilio gan y Cyhoedd (CDLL). O ganlyniad i hynny mae Baker Associates wedi cynhyrchu adroddiad Rhan Tri o’r enw ‘Adroddiad Diwygiedig Cynaliadwyedd Cynllun Datblygu Lleol i’w Archwilio gan y Cyhoedd Diwygiedig Conwy'. Mae hwn yn dilyn adroddiad gwreiddiol dan y teitl ' Arfarniad Cynaliadwyedd o'r Adroddiad Opsiynau a'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer CDLL Conwy' ac adroddiad wedyn ar y cynllun cyntaf i’w archwilio gan y cyhoedd.  Mae argymhellion a roddwyd yn Adroddiad Cynaliadwyedd Rhan Un wedi eu gosod yn Atodiad 1 y ddogfen hon, ynghyd ag Ymateb Swyddogion Cynllunio a diweddariad y CDLL i’w Archwilio gan y Cyhoedd .  Mae ymateb i Ran 2 yr Adroddiad AC cyntaf ar gael ar wefan y Cyngor, er ei fod yn adlewyrchu’r mwyafrif o argymhellion i’r Rhan 3 hon.  Dengys Tabl 1 isod fanylion yr argymhellion a roddwyd yn yr Adroddiad Arfarnu ar y CDLL i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac Ymateb y Swyddogion.

Mae gwaith arfarnu cynaliadwyedd pellach ar opsiynau Strategaeth wedi ei wneud gan y  Cyngor fel y'i nodir ym Mhapur Cefndir 3 (BP/3) ‘Yr Opsiynau' ar y Strategaeth a Ffefrir a  BP/3 ‘Yr Opsiynau' ar y CDLL i’w Archwilio gan y Cyhoedd .  Dylid pwysleisio mai gan y Cyngor y gwnaed y gwaith cynaliadwyedd y rhoddir manylion ohono yn BP/3  er mwyn rhoi gwybodaeth bellach am y broses o fynd â'r strategaeth fwyaf cynaliadwy yn ei blaen. Nid yw 'Opsiynau'  BP/3 yn ffurfio rhan o'r AC hwn, fel y'i gwnaed gan Baker Associates, ond mae wedi rhoi arweiniad pellach ac asesiad ar gyfer dewis y strategaeth briodol i Gonwy.  Mae rhagor o waith asesu strategaeth wedi symud ymlaen i baratoi’r cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd diwygiedig fel sydd wedi’i nodi yn BP/2 ‘Rhagamcaniadau Poblogaeth a Theuluoedd’, BP/3 ‘Opsiynau Strategaeth Twf’ a BP/33 ‘Opsiynau ar gyfer Dosbarthu Twf’.

Diben yr AC ydyw rhoi gwybod am y broses benderfynu yn ystod gwaith paratoi'r CDLL er mwyn sicrhau fod ymhlygiadau cynaliadwy potensial strategaeth y CDLL yn cael eu gweld a'u cydnabod yn y dewisiadau a wneir gan y Cyngor. Bydd felly'n cael ei ddefnyddio i gloriannu a yw'r CDLL  yn ymgorffori arfer da a'i fod yn ddilys o ran cynaliadwyedd.

Mae AC y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd Diwygiedig wedi bod yn broses barhaus ochr yn ochr â pharatoi’r cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd diwygiedig.  Yn yr AC y CDLL i’w Archwilio gan y Cyhoedd ceir nifer o argymhellion y byddai gofyn eu trafod er mwyn i'r CDLL  adlewyrchu deilliannau mwy cynaliadwy yn fwy effeithiol.  Mae’r ymatebion swyddogion sydd wedi’u nodi yn y tabl isod yn crynhoi prif argymhellion yr AC fel maent wedi’u nodi yn adran 13 ac yn dynodi’r camau mae Swyddogion Cynllunio wedi’u cymryd/neu byddent yn eu cymryd i gywiro’r materion a godwyd.  Hefyd, darperir rhagor o sylwebaeth ar adrannau a pharagraffau perthnasol sydd wedi’u nodi yn yr AC lle ystyrir bod angen gwneud hynny.  Yn benodol, gwneir sylwebaeth ar y strategaeth twf a hybir yn y CDLl nad yw’n cael ei ddwyn ymlaen i adran 13 ‘Casgliad ac Argymhellion’ yr AC.

Casgliadau, Argymhellion ac Ymatebion Swyddogion Polisi Cynllunio

Tabl 1:  Casgliadau, Argymhellion ac Ymatebion Swyddogion Polisi Cynllunio

Sylwadau Ychwanegol Swyddogion            

Tra nad ydynt wedi’u cynnwys yng nghasgliadau’r AC, mae rhai paragraffau sylwadau/awgrymiadau wedi’u nodi mewn adrannau cynharach o’r AC sydd angen rhagor o eglurhad ar lefel Swyddogion.  Mae’r rhain wedi’u nodi isod, ynghyd ag ymateb Swyddog er eglurdeb.   

Para  4.5 a 7.9 - 7.18: Mae’r SA yn datgan bod y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd diwygiedig yn hyrwyddo’r ystod twf is dan y rhagamcaniadau poblogaeth a theuluoedd mwyaf diweddar.  Rhaid nodi bod yr elfen hon o’r AC yn canolbwyntio ar y lefel twf fel y cynigir yn yr ‘Adolygiad o’r Strategaeth Dwf’ sydd wedi’i nodi yng nghefndir 3 (BP/3) o’r sail dystiolaeth.  Roedd canlyniadau’r astudiaeth a gomisiynwyd yn dibynnu’n helaeth ar y Rhagamcaniadau Poblogaeth a theuluoedd sy’n seiliedig ar 2006 a ryddhawyd yn 2008 ac nid ar y rhagamcaniadau poblogaeth wedi’u seilio o’r newydd ar 2008 a ryddhawyd ar 27 Mai 2010 a rhagamcaniadau teuluoedd a ryddhawyd ar 29 Medi 2010, fel sydd wedi’i nodi yn BP/2 o’r sail dystiolaeth, lle mae lefel o dwf sy’n is na’r hyn a gynigir yn BP/3 yn cael ei chyfiawnhau.  Mae’n eglur bod y lefel o dwf a gynigir yn y CDLl diwygiedig yn cynrychioli twf ystod isel i ganolig dan y rhagamcaniadau newydd yn erbyn twf is sydd wedi’i fanylu yn yr AC.  Yn benodol, mae BP/2 yn nodi’r prif newidiadau pennawd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae’n dangos bod yr ystod twf yn delio â newidiadau lefelau mudo a theuluoedd.  Maent yn dangos, os fydd tueddiadau’r gorffennol yn parhau, rhwng 2008 a 2023:- 

  • Dengys y rhagamcaniadau wahaniaethau arwyddocaol rhyngddynt a’r rhagamcaniadau swyddogol a gynhyrchwyd dwy flynedd yn ôl.
  • Rhagwelir bydd poblogaeth breswyl Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynyddu o bron i 5,000 rhwng 2008 a 2023.  Mae hon yn gyfradd twf o 4.4% - sy’n gyfartal â chynnydd o tua 0.3% bob blwyddyn.
  • Bydd cynyddiadau net yn y boblogaeth yn dod o fewnfudo, oherwydd byddai newid naturiol ynddo’i hun (genedigaethau a marwolaethau) yn arwain at gwymp yn y cyfanswm.
  • Bydd twf yn y boblogaeth ymysg y grŵp oedran 65+.  Bydd y nifer o bobl oedran gwaith a’r boblogaeth dan 18 oed yn dirywio.
  • Bydd niferoedd teuluoedd yn cynyddu ar raddfa mwy na’r boblogaeth, oherwydd tueddiad wedi’i ragweld yn genedlaethol tuag at deuluoedd o faint llai.  Yn benodol, bydd twf ymysg teuluoedd un unigolyn yn y grwpiau oed hŷn.
  • Mae effeithiau’r rhagamcaniadau ar anheddau yn awgrymu bydd angen darparu 6,800 o anheddau ychwanegol rhwng 2008 a 2023.  Mae hyn tua 450 o anheddu ychwanegol bob blwyddyn.

Mae amcanion y cynllun yn bwriadu ateb y galwadau hyn trwy gyflenwad holistig o dir cyflogaeth a thai yn unig ac nid yw’n hyrwyddo twf uwch er mwyn lleihau’r effaith niweidiol mae’n debygol o’i gael ar anheddau a’r amgylchedd naturiol ac adeiledig.  Mae’n eglur o fewn BP/2 bod yr amcan i ateb y galwadau sydd wedi’u cynhyrchu o’r rhagamcaniadau mwyaf diweddar wedi’u nodi a’u rheoli o fewn y cynllun.

Para 6.9:   Mae’r AC yn nodi gallai’r cynllun diwygiedig ddarparu rhagor o bolisi penodol i safleoedd i ddarparu rhagor o ganllawiau ar gyfer safleoedd defnydd cymysg.  Mae’r testun atodol i Bolisi DP/6 y cynllun diwygiedig yn nodi bydd Briffiau Datblygu yn cael eu paratoi i ddarparu rhagor o ganllawiau ar gyfer y safleoedd strategol sydd wedi’u nodi yn y Cynllun.  Bydd cynnydd ar y briffiau yn digwydd yn 2011 gyda’r bwriad i gwblhau yn 2012 cyn mabwysiadu’r CDLl.

Para 6.8: Mae’r AC yn nodi gallai’r cynllun ddarparu rhagor o ganllawiau ar gyfer rhyddhau safleoedd wrthgefn trwy bwyntiau trothwy.  Mae Cynllun Gweithredu a Monitro’r cynllun diwygiedig yn nodi’n glir lefelau pwyntiau trothwy ar gyfer pryd ddylid rhyddhau safleoedd.

Hefyd mae’r AC yn awgrymu na ddylid rhyddhau’r safleoedd ac eithrio i gefnogi targedau twf economaidd.  Ond, dadleuir bod angen y CDLl i sicrhau ffynhonnell gellir ei darparu o gyflenwad tai a chyflogaeth dros gyfnod y Cynllun.  Gallai colli safleoedd am y naill reswm neu’r llall, effeithio’n ddifrifol ar y lefel o dwf a chyflenwad bwriedig, os na fydd safleoedd yn cael eu rhyddhau.

Para 6.12 Mae’r AC yn nodi bod y CDLl yn nodi’r math o gyfleuster gwastraff gellir ei ddatblygu yn ardal y cynllun a lleoliadau posibl.  Ond, mae’n codi pryder mai lleoliadau yn unig sydd wedi’u nodi i’r pwrpas hwn yn hytrach na safleoedd.  Nid yw hyn yn gwbl gywir oherwydd mae dau safle newydd (yn Llanddulas a Gofer) wedi’u dyrannu ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff ac mae’r ddau wedi’u cynnwys ar y map cynigion.

Mae paragraff 10.61 o’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd yn nodi y gallai fod yn anodd adnabod sut gall datblygiad cael effaith ar yr iaith Gymraeg, a gall rhai o’r amcanion twf economaidd fod yn wrthdrawiad â hyn. Mae’r Cyngor wedi paratoi Canllaw Cynllunio Atodol ar gymunedau a’r iaith Gymraeg sy’n manylu ar drothwyau ac anghenion ar gyfer menter asesiadau o’r effeithiau potensial a mesurau lliniaru / gwella. Fel yr eglurir yn PC/33 ‘Iaith Gymraeg’, ystyrir fod y trothwyau yn addas ac wedi’u seilio ar strategaeth gofodol y CDLL a’r hierarchaeth aneddiadau. Mae’r Canllaw Atodol a’r Papur Cefndir wedi’u cyfeirio yn nhestun cefnogaeth i bolisi CTH/5 ‘Iaith Gymraeg.’

Atodiad 1 –  Crynodeb o Argymhellion ac Ymateb Swyddogion i'r Strategaeth a Ffefrir

« Back to contents page | Back to top