16. Atodiad 3 - Arfarniad trosolwg yr amcanion a gynigir yn CDLL gyda'r Amcanion cynaliadwyedd a ddatblygwyd ar gyfer yr arfarniad cynaliadwyedd

1.

Mae'r Atodiad hwn yn ystyried ymhlygiadau cynaliadwyedd sylweddol yr amcanion a gynigir i'r CDLL, er mwyn sicrhau fod y materion a drafodir yn gyson â'r amcanion ar gyfer datblygu mwy cynaliadwy.  Mae'r dull matrics yn rhoi trosolwg weledol ddefnyddiol ar y modd y mae setiau gwahanol o amcanion yn cydweddu â'i gilydd. Mae hyn wedyn yn hwyluso er mwyn gweld mannau o wrthdaro potensial a gweld ystyriaethau sydd heb eu cynnwys yn iawn o fewn amcanion y CDLL.  Mae'r drefn hon o arfarnu yn un fwriadol syml, ac felly mae'r arfarnu'n yn bennaf yn anelu at gloriannu a yw'r amcanion yn cyd-asio wrth roi'r naill yn erbyn y llall.

« Back to contents page | Back to top